DiscoverHanes Mawr Cymru
Hanes Mawr Cymru
Claim Ownership

Hanes Mawr Cymru

Author: BBC Radio Cymru

Subscribed: 8Played: 34
Share

Description

Mae hanes Cymru yn llawn pobl ryfeddol a chymeriadau mawr. Dewch ar daith hwyliog i'w cyfarfod!

Pwy oedd Owain Glyndŵr a Merched Beca? Pryd cafodd glo ei ddarganfod? Pam ein bod yn siarad Cymraeg o gwbl? Llinos Mai sy’n ein tywys drwy’r cyfan.

Dewch i gyfarfod y dihirod, arwyr a’r bobl gyffredin wnaeth ffurfio cenedl.

The history of Wales is full of amazing stories and big characters! Join Llinos Mai on a fun filled journey to discover the history that formed a nation.

Awdur: Llinos Mai
Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams
Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions)
Dylunio: Hefin Dumbrill

13 Episodes
Reverse

Porth Teigr

2024-05-3110:19

Hanes Mawr Cymru - y podlediad hanes i blant 9-12 oed sy'n cymryd cipolwg ar hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw drwy gyflwyniad a chân.   Yn y bennod hon, Lloyd Lewis sy'n adrodd hanes Porth Teigr.

Yr Anthem Genedlaethol

2024-04-2612:18

Llinos Mai sy'n cyflwyno cyfres arall o Hanes Mawr Cymru - y gyfres ar gyfer plant 9-12 oed sy’n cymryd elfen o hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw trwy gomedi a chân.Yn y bennod hon cawn glywed am hanes ein hanthem genedlaethol ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ ac am y ddau a’i hysgrifennodd hi, Evan a James James. Mae’n stori difyr sy’n cynnwys yr afon Rhondda, sgandal yn y papurau newyddion, yr Hakka, a Thywysog Cymru. Felly ar eich traed, mae’n amser i ni ganu.

Cranogwen

2024-04-1211:14

Llinos Mai sy'n cyflwyno cyfres arall o Hanes Mawr Cymru - y gyfres ar gyfer plant 9-12 oed sy’n cymryd elfen o hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw trwy gomedi a chân.Yn y bennod hon gawn ni hanes Sarah Jane Rees - 'Cranogwen'.

Y Tywysogion

2024-04-1211:46

Llinos Mai sy'n cyflwyno cyfres arall o Hanes Mawr Cymru - y podlediad hanes i blant 9-12 oed sy'n cymryd cipolwg ar hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw trwy gomedi a chân.   Yn y bennod hon, teithiwch yn ôl 900 mlynedd i ddarganfod hanes dau o dywysogion enwocaf Cymru: yr Arglwydd Rhys a Llywelyn Fawr. Er roedd y Normaniaid wedi goresgyn tiroedd Lloegr ers tro fe gymerodd sawl canrif iddyn nhw goncro Cymru, diolch i’r Tywysogion Cymreig. Byddwch yn barod am ddadleuon, rhyfela gwaedlyd a llawer o gacen.

Y Celtiaid

2024-03-2909:59

Llinos Mai sy'n cyflwyno cyfres arall o Hanes Mawr Cymru - y gyfres ar gyfer plant 9-12 oed sy’n cymryd elfen o hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw trwy gomedi a chân.Yn y bennod hon, mae Llinos yn archwilio popeth roeddech chi eisiau ei wybod am y Celtiaid. Pwy oedden nhw? Ble redden nhw’n byw? Sut oedden nhw'n byw? A pham roedd trwsus mor bwysig iddyn nhw? Awdur: Llinos Mai Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence Golygydd sgript: Rhys ap Trefor Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions)Dylunio: Hefin Dumbrill

Betsi Cadwaladr

2024-03-2910:59

Llinos Mai sy'n cyflwyno cyfres arall o Hanes Mawr Cymru - y gyfres ar gyfer plant 9-12 oed sy’n cymryd elfen o hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw trwy gomedi a chân.Yn y bennod gyntaf, mae Llinos yn adrodd hanes Betsi Cadwaladr- a elwir rhai ‘The Welsh Florence Nightingale’. Roedd hi’n gymeriad lliwgar, hynod annibynnol, ac aeth yn groes i ddisgwyliadau cymdeithas y cyfnod. Yn ystod y 19eg ganrif aeth Betsi ar anturiaethau o gwmpas y byd, cyn mynd i weithio fel nyrs yn Rhyfel y Crimea. Cyflwynydd/ Awdur: Llinos Mai Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence Golygydd sgript: Rhys ap Trefor Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions)

Y Gymraeg

2022-05-2009:57

Mae’r iaith Gymraeg wedi wynebu sawl her a chyfnod anodd. Felly sut y gwnaeth hi oroesi? Dewch ar daith drwy'r canrifoedd i ddysgu mwy...Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill

Jemima Nicholas

2022-05-2010:16

Ym 1797 fe wnaeth Ffrainc ymosod ar Brydain, ond roedd menyw ddewr o Abergwaun yn barod amdanyn nhw. Pe bai ymosodiad Ffrainc wedi bod yn llwyddiannus, fe allai hanes Cymru a Phrydain wedi bod yn wahanol iawn. Cobler oedd Jemima Nicholas, a phan glywodd bod deuddeg milwr o Ffrainc gerllaw fe aeth i’w herio gyda dim byd ond fforch wair...Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill

Owain Glyndŵr

2022-05-2010:10

Mae hanes Cymru yn llawn arwyr cofiadwy, ac mae’n bosib mai dyma’r mwyaf enwog ohonyn nhw i gyd... Dewch yn ôl 800 mlynedd i gyfarfod Owain Glyndŵr, y Cymro olaf i gael ei alw yn Dywysog Cymru. Ai ef ddylai ennill Arwr-ffactor Hanes Mawr Cymru?!Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill

Yr Eisteddfod

2022-05-2010:34

Croeso i barti mwyaf y flwyddyn! Mae traddodiad barddol Cymru yn chwedlonol, a phob mis Awst daw miloedd at ei gilydd i gystadlu a chymdeithasu. Ond wyddoch chi fod yr arfer yma’n mynd yn ôl canrifoedd? O Eisteddfodau bach lleol i’r digwyddiadau mawr sy’n gyfarwydd i ni heddiw, dyma hanes sy’n llawn gwisgoedd a chymeriadau lliwgar. Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill

Merched Beca

2022-05-2009:21

Pwy oedd Merched Beca a beth oedd yr helynt mawr? Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd bywyd yn galed iawn yng nghefn gwlad Cymru. Roedd ffermwyr yn rhentu eu ffermydd, ac roedd gan y bobl oedd yn berchen y tir ddylanwad mawr ac arian a threthi. Ond pan gafodd tollbyrth eu gosod ar ffyrdd, fe benderfynodd y werin bobl wrthryfela...Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill
Roedd pyllau glo yn llefydd tywyll a pheryglus a’r gwaith yn galed iawn. Ond fe gafodd y diwydiant effaith enfawr ar Gymru a gweddill y byd. Fe wnaeth cymunedau ffurfio yng nghymoedd y De-ddwyrain a daeth pobl o wahanol rannau o’r byd i fyw a gweithio ym mhorthladdoedd y dinasoedd mawr, ble roedd y glo yn cael ei allforio. Ond er mai pobl gyffredin wnaeth adeiladu’r diwydiant, roedd llawer o’r elw wedi diflannu o’u cymunedau erbyn i oes y pyllau glo ddod i ben.Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill
Llinos Mai sy’n cyflwyno cynulleidfa ifanc i Hanes Mawr Cymru! Tanysgrifiwch nawr i glywed y gyfres gyfan yn syth.
We and our partners use cookies to personalize your experience, to show you ads based on your interests, and for measurement and analytics purposes. By using our website and our services, you agree to our use of cookies as described in our Cookie Policy.