DiscoverSgwrsio am Brifysgol
Sgwrsio am Brifysgol
Claim Ownership

Sgwrsio am Brifysgol

Author: University Ready

Subscribed: 1Played: 0
Share

Description

Wyt ti’n meddwl tybed a yw'r brifysgol yn iawn i ti? Gwranda ar fyfyrwyr prifysgol sy'n astudio ledled Cymru ar hyn o bryd wrth iddyn nhw rannu eu profiadau.

Byddwn yn trafod beth yw bywyd prifysgol, gan gynnwys y broses ymgeisio, rheoli arian, astudiaeth academaidd, ac addasu i fywyd myfyriwr.

Mae'r gyfres hon yn rhan o Barod ar gyfer Prifysgol, sef casgliad o adnoddau rhad ac am ddim sy'n cefnogi dysgwyr i ddechrau ar eu taith i addysg uwch.

Gelli di ddarganfod mwy wrth fynd i openlearn.com/barod-ar-gyfer-prifysgol. Mae gennym ni hefyd gyfres Saesneg ‘Let’s talk about Uni’ ar gael ble bynnag wyt ti’n cael dy bodlediadau.
6 Episodes
Reverse
Ydych chi’n poeni am yr heriau o astudio yn y brifysgol? Sut beth yw astudiaeth addysg uwch mewn gwirionedd?Yn y bennod hon rydym yn mynd i’r afael â bywyd academaidd yn y brifysgol. Cawn glywed am brofiadau gwirioneddol myfyrwyr, ffyrdd newydd o astudio, rheoli amser, astudio trwy gyfrwng y Gymaeg, yr her o ddelio ag aseiniadau ac arholiadau - ac yn bwysicach na dim, y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael pan fo’i hangen.openlearn.com/barod-ar-gyfer-prifysgol
Ydych chi’n poeni am y gost o fynd i’r brifysgol? A yw’n swnio fel breuddwyd anghyraeddadwy? A fydd wirioneddol yn werth chweil yn y tymor hir - yn enwedig gan mai’r unig beth mae pawb i weld yn sôn amdano’r dyddiau hyn yw dyled myfyrwyr?Yn y bennod hon rydym yn mynd i’r afael ag arian yn uniongyrchol. Rydym yn trafod cyllidebu, rheoli eich arian a byw’n annibynnol, yn ogystal â Chyllid Myfyrwyr a ffyrdd ymarferol o gydbwyso swydd wrth astudio. openlearn.com/barod-ar-gyfer-prifysgol
Mae bywyd prifysgol yn fwrlwm o brofiadau newydd - sy’n gyffrous ond hefyd yn frawychus. Ydych chi’n poeni ynghylch cwrdd â phobl newydd neu lle fyddwch yn byw? Yn y bennod hon rydym yn sgwrsio’n onest ynglŷn â’r agweddau cymdeithasol ar fywyd prifysgol - profiad y glas, gwneud ffrindiau, byw oddi cartref - neu’n wir, aros gartref.Nid ymwneud ag astudio yn unig mae bywyd prifysgol – rydym yn rhannu ychydig o awgrymiadau ac yn chwalu rhai o’r mythau sydd ynghlwm â phrofiad cymdeithasol y myfyriwr. openlearn.com/barod-ar-gyfer-prifysgol
Felly rydych wedi penderfynu mynd amdani - a nawr mae’n amser gwneud cais! Sut ydych chi’n penderfynu lle a beth i astudio, a dewis y cwrs perffaith i chi? A lle dylech chi ddechrau gyda’ch Datganiad Personol?Yn y bennod hon rydym yn eich arwain drwy’r broses ymgeisio, cam wrth gam, ac yn rhannu profiadau bywyd go iawn o’r broses ymgeisio, o Ffeiriau UCAS a Diwrnodau Agored, i benderfynu astudio try gyfrwng y Gymraeg, i lunio dewisiadau pendant a mynd drwy’r system Glirio. openlearn.com/barod-ar-gyfer-prifysgol
Mae pawb yn dweud mai’r brifysgol yw’r prif nod academaidd, un a fydd yn eich arwain yn y pen draw at yrfa a chyfleoedd bywyd llawer gwell - ond ai dyma’r opsiwn gorau i chi? A yw’n teimlo’n rhy frawychus, dychrynllyd, llethol, anodd, drud - ac a fyddai’n werth yr holl straen a gwaith beth bynnag? Mae cymaint o bethau i’w hystyried y dyddiau hyn cyn penderfynu a yw bywyd prifysgol yn addas i chi. Yn y bennod gyntaf hon rydym yn trafod ystod o faterion a fydd efallai’n eich helpu chi i wneud y penderfyniad cychwynnol hwnnw, gan ymdrin â llu o brofiadau amrywiol. Ac os ydych yn meddwl y gallai’r brifysgol fod yn addas i chi, rydym yn edrych ar sut mae mynd ati i ddewis y brifysgol a’r cwrs delfrydol, yn ogystal â llu o bethau eraill! openlearn.com/barod-ar-gyfer-prifysgol
Wyt ti’n meddwl tybed a yw'r brifysgol yn iawn i ti? Gwranda ar fyfyrwyr prifysgol sy'n astudio ledled Cymru ar hyn o bryd wrth iddyn nhw rannu eu profiadau.Byddwn yn trafod beth yw bywyd prifysgol, gan gynnwys y broses ymgeisio, rheoli arian, astudiaeth academaidd, ac addasu i fywyd myfyriwr.Mae'r gyfres hon yn rhan o Barod ar gyfer Prifysgol, sef casgliad o adnoddau rhad ac am ddim sy'n cefnogi dysgwyr i ddechrau ar eu taith i addysg uwch.Gelli di ddarganfod mwy wrth fynd i openlearn.com/barod-ar-gyfer-prifysgol. Mae gennym ni hefyd gyfres Saesneg ‘Let’s talk about Uni’ ar gael ble bynnag wyt ti’n cael dy bodlediadau.
We and our partners use cookies to personalize your experience, to show you ads based on your interests, and for measurement and analytics purposes. By using our website and our services, you agree to our use of cookies as described in our Cookie Policy.