Discover
Yr Haclediad
164 Episodes
Reverse
Croeso nôl i’r Haclediad ar ôl mis off ar gyfer yr haf, mor bougie! Ond mae Bryn, Iestyn a Sions nôl i drafod Canolfannau Data ar y Fenai, realiti byw yn y backrooms, a pŵer socks J.K. Rowling (bŵŵŵ)…
Ein #Ffilmdiddim ydy campwaith crackers M. Night Shyamalan - TRAP, ewch fewn yn oer bois, mae hon yn glasur 👨🏻🍳👌😘
Diolch o galon i ffans y sioe sy’n cyfrannu a chefnogi, da chi werth y byd (Shout out enfawr i’r top dogs Leia, Matt M a Jamie!)
Diolch i Iestyn.de am gynhyrchu a golygu’r sioe - ar gael am brosiectau motion graphics / graffeg / dylunio a mwy!
Os ydych chi am helpu allan efo’r sioe, prynwch Kofi i’r criw! 🫶
Mae’r criw ar ei wyliau. Welwn i chi ar ddiwedd mis Medi x
Mae’r gwyliau yma... a chriw’r Haclediad ar y traeth am y bennod chill-good-vibes-only yma o bodlediad hyna'r Gymraeg 🏖️
Bydd Iest, Bryn a Sions yn trafod Metallica yn dod i Gaerdydd, Ffilm Am Ddim (ish) gan Blender, Ffan (llythrennol) newydd yr Haclediad, trip Iest i Ffrainc a llawer llawer mwy
Ffilmdiddim tro yma ydy’r hyfryd Big Trouble in Little China - campwaith cracyrs werth ei gweld!
Diolch i Iestyn Lloyd am gynhyrchu a golygu’r sioe - os chi’n joio’r Haclediad, taflwch Ko-fi draw 😊
❄️ Mae Haclediad Mehefin yma i hitio chi fel chwa iâ ynghanol heatwave 2026 🥵
Tarwch y podlediad yma arno i glywed y diweddaraf o WWDC26, rant unhinged Sioned am y ban social media i rai dan 16 (newyddion da, ond tynnu’r cwmnïau off y bachyn) ac ymgais aflwyddiannus Bryn i ynganu enw diod Iest (all time bit!).
Ffilmdiddim y mis ydy’r hir ddisgwyliedig Alita: Battle Angel - neu Llygaid Anime in Real Life: Ddy Mŵfi.
Diolch o galon Iestyn am gynhyrchu’r sioe, ac i bawb sy’n gwrando ar ein takes poeth yn y gwres yma- diolch am eich cefnogaeth, chi werth y byd!
Prynwch Kofi 🫶
🥵 Wrth i’r gwres fynd chydig yn nyts, gadewch i Haclediad mis Mai chillio chi allan efo cwpl o oriau o’r drafodaeth tech orau allan yna*
*Yn y Gymraeg obvs
Mis yma bydd Iest, Sioned a Bryn yn trafod cysyniad podslop, gwenwyno eich data i ddrysu AI a’r syniad bo ni wedi colli’r gallu i neud pethe mewn distawrwydd. Hyn oll a llawer llawer mwy!
Ffilmdiddim y mis ydy Van Helsing - ydy hi’n adeg wirion o’r flwyddyn i neud ffilm fampirs? Ydy, ond ydy’r ffilm yma yn glasur o Ffilmdiddim? Ydy hefyd, so joiwch 🧛
Diolch o galon i Iestyn Lloyd am olygu a chynhyrchu’r sioe - taflwch geiniogau i’r tun Kofi iddo isod (a diolch eto fyth i’r gwrandawyr sy’n cefnogi bob mis, chi werth y byd!).









