DiscoverSyniadau Iach
Syniadau Iach

Syniadau Iach

Author: Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Subscribed: 1Played: 5
Share

Description

Gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae Syniadau Iach yn bodlediad a fydd yn adlewyrchu syniadau newydd arweinwyr ym maes arloesol iechyd a gofal. Byddwn yn clywed gan arloeswyr , arweinwyr a dylanwadwyr sy’ wedi dangos eu hymrwymiad i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddyfeisio atebion arloesol.
16 Episodes
Reverse
Dyfodol digidol y GIG

Dyfodol digidol y GIG

2022-07-1126:26

Mae Syniadau Iach yn croesawu Ifan Evans o Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Huw Thomas o Fwrdd Iechyd Hywel Dda i drafod technoleg a’r chwildro digidol fydd yn rhan annatod o’r GIG y dyfodol.
Mae Syniadau Iach yn edrych ar dechnoleg gynorthwyol ac yn gofyn ydy Cymru yn colli cyfle i fod ar flaen y gad wrth ddatblygu a darparu systemau dwyieithog? Mae Huw Marshall o Annwen Cymru a Gareth Rees o Lesiant Delta yn trafod.
Gall yr holl wybodaeth sy’n cael ei gasglu amdanon ni drawsnewid diagnosis a darpariaeth gofal iechyd i gleifion Cymru? Mae Ifan Evans o Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn trafod.
Mae Syniadau Iach yn gofyn faint o wybodaeth sydd gan y gwasanaeth iechyd a gofal amdanom ni? Sut mae’r wybodaeth yma yn cael ei defnyddio? Mae Richard Walker, cyn Pennaeth Gwasanaethau Gwybodaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yn trafod.
Faint o fygythiad i’n hiechyd yw llygredd o gemegau fferyllol a meddyginiaethau sy’n dianc i’r amgylchedd? Mae Siân Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru ac Elen Jones o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yn trafod.
Ym mhennod gyntaf cyfres newydd o bodlediadau Syniadau Iach, mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhannu rhywfaint o’i syniadau am y blaenoriaethau ar gyfer y GIG ar ôl y pandemig.
Mae’r pandemig Coronafeirws wedi taflu sialensau di-ri i gyfeiriad y gwasanaeth iechyd a gofal ond mae nifer o arloeswyr Cymru wedi ymateb i’r galw hwnnw gan ddod ag offer, theclynau a dyfeisiadau yn saff ag effeithiol i’r GIG, mewn amser byr iawn. Yn y podlediad yma fe fydd Rhodri Griffiths yn sgwrsio a Pryderi ap Rhisiart, rheolwr- gyfarwyddwr M-Sparc, parc gwyddoniaeth yng Ngaerwen, Ynys Mon i drafod y gwaith arloesol sydd wedi bod yn digwydd yno i fynd i’r afael a’r pandemig. Mae’n son am amryw o brosiectau gafodd eu cyflawni’n gyflym iawn, gan gynnwys cynhyrchu cyfarpar PPE, dyfeisio teclyn i agor drysau gyda braich yn lle dwylo i atal lledaenu’r feirws a drons i’r heddlu. Dywed Pryderi: “ Dwi mor lwcus i gael eistedd ynghanol hyn i gyd, gweld y bwrlwm a phobl yn cyd-weithio i gwffio’r pandemig.”Ychwanegodd bod labordi yn yr Eidal wedi profi bod mwgwd gafodd ei ddatblygu gyda chefnogaeth M-Sparc wedi profi’n effeithiol iawn yn erbyn y straen yma o Covid 19. Mae Pryderi’n credu bod y pandemig, wedi arwain at ffordd newydd o gydweithio a chyflymu arloesedd. “Mae’n dangos pwer yr ecosystem pan fo’r bobl yma i gyd yn tynnu efo’i gilydd, i’r un cyfeiriad. Gallwn ni ddysgu lot oddi wrth hynny wrth symud ymlaen,” meddai. Gallwch ddarllen mwy am waith Pryderi ag M-Sparc yn ystod yr argyfwng Covid 19 yn ei flog yma (gellid lincio i blog Pryderi )Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.
Lledaenu a Graddfa

Lledaenu a Graddfa

2020-06-0325:21

Mae gweithlu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn datblygu mwy o brosiectau arloesi a gwella nag erioed o’r blaen. Ond unwaith y byddan nhw wedi profi bod eu prosiect yn llwyddiannus yn eu hardal leol, beth yw’r cam nesaf? Yn y podlediad hwn bydd Siôn Charles, dirprwy gyfarwyddwr y Comisiwn Bevan yn trafod sut mae goroesi’r rhwystrau y mae arloeswyr yn eu gwynebu wrth geisio ledaenu’u syniadau ar raddfa fawr. “Y rhwystrau i’r arloeswyr yw amser, neu creu amser, arian a sgiliau,” meddai. Fe fydd yn sôn am raglen ddwys newydd- yr Academi Lledaeniad a Graddfa- lansiwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar y cyd gyda’r Comisiwn Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, lle daeth tua hanner cant o arloeswyr Cymru a thu hwnt ynghyd yng Nghaerdydd yn ddiweddar.Yn ôl Joe McCannon, un o sefydlwyr y Billions Institute, cwmni o’r Unol Daleithiau America oedd yn arwain y sesiynau, dim gweithio 10 gwaith yn fwy caled i gyrraedd 10 gwaith fwy o bobl sydd angen. Mae‘r cwmni wedi helpu sefydliadau mawr i feddwl yn wahanol wrth gyflwyno newidiadau ar raddfa eang.“You have to really think very deliberately about how you tap into others and their creativity and their ideas and effectively deputize others to carry the work forward,” medd Joe McCannon. Clywn ni hefyd gan rai oedd wedi mynychu’r Academi fel Dr Arfon Williams sydd wedi dechrau gweithio mewn ffordd gwahanol yn ei feddygfa yn Nefyn ac sydd am gyflwyno’r model hwn ar draws Cymru. “Be mae nhw’n gwneud yw mynd a chi allan o’ch comfort zone a gwneud ichi feddwl yn wahanol,” meddai.Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.
Arloesi Digidol

Arloesi Digidol

2020-03-2624:12

Gall Cymru fod ar flaen y gad mewn datblygu suystemau digidol ym maes iechyd a gofal medd dau o arbenigwyr technoleg. Yn y podlediad hwn bydd Dr Elin Haf Davies, arloeswraig sy’n rhedeg ei chwmni Aparito yn Wrecsam a’r dylunydd Dyfan Searrell yn parhau gyda’u trafodaeth gyda’r cyflwynydd Dr Rhodri Griffiths ynglŷn â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu datblygu technolegau a meddalwedd newydd er budd cleifion yng Nghymru.Gyda rhai o sustemau cyfrifiadurol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn fwy na 20 mlwydd oed, yr her yn ôl Dr Elin Davies yw moderneiddio heb i’r sustemau presennol fethu. “Y broblem yw na allwch chi adeiladu palas os taw seiliau byngalo sydd yma.” Mae Dr Davies yn credu bod angen mwy o addysg ymhlith y cyhoedd i gael gwared ar y camddealltwriaeth ynglŷn â diogelwch data. “Er lles eich iechyd, er lles y gymuned, rhaid i bobl sylweddoli bod ni angen y data yma i wella ein gwasanaethau i roi'r gofal gorau.” Mae’r Cynulliad mewn sefyllfa arbennig o dda ychwanega hi, i fuddsoddi i wella’r sylfaen sydd ei angen i brosesi ddata o safon dda. “O roi rheolau ar gyfer ‘gatekeeping’ yn ei lle, y gallwn ni i gyd ennill o fuddsoddiad felly.”Yn ôl Dyfan Searrell, sy’n ddylunydd ac arloeswr yn y diwydiant technoleg gwybodaeth a gwasanaethau, mae gan Gymru gyfle gwych oherwydd ei maint i ddangos bod modd cyflwyno technoleg newydd a’i brofi cyn ei allforio i wledydd eraill. “Os na fyddwn ni’n ei wneud o, mi fydd cwmni mawr arall yn prynu’i ffordd i mewn i adeiladu’r sylfaen yna… ac mi fydd y cyfle wedi mynd,” meddai. Rhodri Griffiths o Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.
Mae Cymru o’r maint perffaith i fedru arloesi ym myd iechyd a gofal yn ôl un entrepreneur o Gymro. Yn y podlediad hwn bydd Dafydd Loughran, clinigwr ac entrepreneur sefydlwr cwmni Concentric yng Nghaerdydd yn trafod sut mae ecosystem iechyd digidol Cymru mewn sefyllfa arbennig o dda i greu pethau arloesol ym myd iechyd. “Mae gan y GIG enw da ac mae cyfle gyda ni i fod ar y blaen, ond mae angen llai o gymhlethdodau yn y broses,” meddai. “Mae maint Cymru yn berffaith i ddangos bod sustemau yn gweithio felly mae angen i ni wneud Cymru yn le hawdd i fusnesau arloesol weithio….. mae’n dda bod ni’n gallu gwneud pethau ar raddfa genedlaethol.”Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, astudiodd Dafydd feddygaeth yng Nghaerdydd, ac yna hyfforddiant llawfeddygol yng Nghymru. Cyn sefydlu Concentric, ymgymerodd â chymrodoriaethau deallusrwydd artiffisial yn Babylon Health yn Llundain, ac mae'n dod â'r arbenigedd hwnnw i'r ecosystem technoleg iechyd sy'n ehangu yng Nghymru. Mae cwmni Concentric wedi datblygu llwyfan sy'n cynorthwyo cleifion sy'n wynebu llawdriniaeth i wneud penderfyniadau ar y cyd â'u clinigwyr. Mae Dafydd o’r farn taw prynwriaeth o’r fath yma fydd un o themâu pwysicaf y byd iechyd yn y dyfodol ynghyd â defnyddio data i gefnogi penderfyniadau. Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.
Hac Iechyd Cymraeg

Hac Iechyd Cymraeg

2019-07-1626:54

Sut mae defnyddio rhith realaeth (Virtual Reality) i ddysgu nyrsus? Oes modd i roi ymarferion ffisiotherapi ar Ap? Ydy hi’n bosib creu rhaglen rheoli poen i gleifion yn Gymraeg?Mae clinigwyr a gweithwyr yn y gwasanaeth iechyd yn wynebu problemau fel hyn dydd ar ôl dydd ac yn aml ddim yn gwybod at bwy i droi. Yn y podlediad hwn fe fyddwn ni’n codi’r llen ar yr Hac Iechyd Cymraeg 2019 , sef ‘marathon dyfeisio’ dau ddiwrnod a gynhaliwyd yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yng Nghaerdydd, lle daeth dros gant o bobl ynghyd i greu atebion digidol neu dechnolegol i’r sialensiau hyn- yn apiau, prototeip neu syniad o gynnyrch newydd. Meddai Ifan Evans, cyfarwyddwr Technoleg, Digidol a Thrawsnewid Llywodraeth Cymru: “ Mae systemau iechyd yn llawn pobl sydd yn alluog iawn, wedi’u hyfforddi’n broffesiynol tu hwnt, ac yn aml yn edrych yn fewnol er mwyn ceisio atebion i’r heriau hynny. Ond dwi’n meddwl bod na gyfleoedd mawr i rannu hynny’n allanol gyda diwydiant, gyda phrifysgolion, a chleifion, achos yn aml iawn ma’r syniadau creadigol yn medru dod o’r sectorau eraill.”“Mae’r sesiwn hyn yn cysylltu’r pobl sydd â arian i ddatblygu projects newydd gyda phobl sydd â phroblemau a’r gallu, er mwyn creu’r dechnoleg sydd yn mynd i helpu, “ medd Siôn Charles, is-gyfarwyddwr Comisiwn Bevan oedd yn arwain y diwrnod.Y gobaith yw y bydd yr arloesi cydweithredol yma yn arwain at ganlyniadau gwell i gleifion Cymru.Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.
Mae Syniadau Iach yn trafod sut y mae ffactorau cymdeithasol yn dylanwadu ar iechyd cymunedau Cymru. “Mae anghyfiawnder cymdeithasol yn lladd ar raddfa fawr” Dyna oedd farn Comisiwn Penderfynyddion Cymdeithasol ar Gyfer Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd nol yn 2008. Cadeirydd y Comisiwn oedd yr Athro Syr Michael Marmot,(LINK) sy’n Athro Epidemioleg ac Iechyd Cyhoeddus yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i oes yn ceisio mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol a deall sut mae'n effeithio ar ein hiechyd.Fel aelod o Gomisiwn Bevan, mae Syr Michael, yn cynghori Llywodraeth Cymru ac eraill ar bolisi iechyd a gofal cymdeithasol.Yn y podlediad hwn fe fydd Dr Zoe Morris Williams, meddyg teulu ym Mhontypridd a Siôn Charles, dirprwy gyfarwyddwr y Comisiwn Bevan yn ymateb i sylwadau Syr Michael.Byddan nhw’n trafod sut mae ffactorau cymdeithasol, fel cyflwr tai, gwaith a bwyd yn dylanwadu ar iechyd.“Mae na ardaloedd o Gymru yn rhai o ardaloedd fwya’ tlawd yn Ewrop, ac mae hwnna yn mynd i effeithio ar iechyd pobl,” dywed Zoe gan ychwanegu bod hi’n bwysig i edrych nid dim ond ar ba mor hir mae pobl yn byw ond eu hansawdd bywyd.“Ma pawb yn deall bod y ffactorau yma yn dylanwadu ar eu hiechyd nhw, ond be ma nhw’n ffindio fe’n galed i neud dwi’n credu, yw i neud y penderfyniad fel ma nhw’n newid eu hymddygiad a fel ma nhw’n neud pethau drostyn nhw’u hunain,” meddai Sion. Sut mae mynd i’r afael ar newid meddylfryd pobl er mwyn creu cymunedau iach yng Nghymru?
Fe allech ddiystyru API fel jargon technoleg ond fe fyddem ni ar goll hebddynt. Os ydych chi erioed wedi archebu gwesty ar-lein, wedi archebu bwyd neu wedi gwneud eich siop archfarchnad wythnosol ar eich gliniadur, byddwch wedi defnyddio API (Rhyngwyneb Rhaglenni Cymhwysiad). Mae'n god sy'n caniatáu i wybodaeth gael ei throsglwyddo o un defnyddiwr i'r llall - a hebddo, byddai'r rhyngrwyd fel y gwyddom, yn ei chael hi'n anodd bodoli.Mae APIs eisoes yn cael eu defnyddio yn y GIG ond a ellid eu defnyddio'n fwy helaeth i helpu i drawsnewid y ffordd y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu? Yn y podlediad hwn bydd Dyfan Searell, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol cwmni Elidir Health, sy’n creu rhaglenni cyfrifiadurol ar gyfer y maes iechyd a’r Dr. Elin Haf Davies, arloeswraig sy’n rhedeg ei chwmni Aparito, yn trafod sut y gall Cymru fod ar flaen y gad yn y maes hwn. Meddai Elin, “ Mae gennym ni gyfle anhygoel i fod yn flaengar…. mae angen i ni beidio bod yn ofnus ond yn fwy uchelgeisiol.” Mae Dyfan, sydd wedi bod yn gweithio gydag arloeswyr blaengar Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr er mwyn datblygu sustem cofnodion cleifion ddi bapur, yn credu bod angen addysgu pawb am botensial y dechnoleg hon er mwyn datrys problemau gofal iechyd. “Mae’r gwasanaeth iechyd wedi dechrau yng Nghymru a nawr mae modd i’r gwasanaeth iechyd digidol hefyd gychwyn yng Nghymru- da ni o’r maint iawn a’r gennym ni’r modd i hynny ddigwydd.” Mae Elin yr un mor bositif. “Rwy’n teimlo’n gyffrous a hyderus bod gobaith mawr yma.” Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.
Mae Syniadau Iach yn trafod gweledigaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ynglŷn â’r ffordd y gall arloesedd wella’r byd iechyd a gofal yng Nghymru. Mae anghydraddoldebau iechyd yn broblem fawr yng Nghymru, medd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford AC ond mae ganddo weledigaeth am sut y gellid ddefnyddio arloesedd i wella’r sefyllfa. “Bydd arloesi’n cynnig nid yn unig ffordd i wella gofal iechyd ond bydd yn ein helpu ni ar y daith i sicrhau Cymru fwy cyfartal,” meddai.Yn y podlediad hwn bydd Siôn Charles, dirprwy gyfarwyddwr y Comisiwn Bevan a’r Dr. Elin Haf Davies, arloeswraig sy’n rhedeg ei chwmni Aparito, yn ymateb i’r weledigaeth hon. Mae Sion o’r farn bod yr un feddylfryd sydd ganddo ni wrth ddefnyddio ffôn i archebu tacsi yn “gallu helpu ni i baratoi gwasanaethau iechyd gwell yng Nghymru.” Treuliodd Elin lawer o'i hamser fel nyrs bediatrig yn gofalu am blant â chlefydau prin. Ar ôl teimlo bod y dulliau o fonitro’r cleifion yn aneffeithiol, fe wnaeth Elin feddwl am y syniad o fonitro cleifion o bell mewn amser real ac fe sefydlodd gwmni ei hun i wireddu’r syniad hwn.Ond nid technoleg yn unig all fod o help i gleifion Cymru. Meddai Elin, “ Y peth mwyaf innovative allwn ni wneud yw tynnu allan o’r sustem y practises sydd ddim yn gweithio bellach.” Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.
Rhagnodi Cymdeithasol

Rhagnodi Cymdeithasol

2019-05-0721:43

Sut mae rhagnodi cymdeithasol yn trawsnewid y byd iechyd a gofal? Ydy cleifion Cymru yn elwa o’r arloesedd yma? Pan fydd y rhan fwyaf o gleifion yn mynd at y meddyg, byddan nhw’n disgwyl mynd o’r syrjeri gyda phresgripsiwn am foddion neu gyffuriau. Ond mae rhagnodi cymdeithasol yn golygu bod y meddyg a’r claf yn edrych tu hwnt i’r symptomau meddygol ac yn yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion pobl mewn ffordd holistaidd. Yn ôl Sara Thomas, ymgynghorydd mewn Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’n synnwyr cyffredin bod ni’n mynd at wraidd y broblem”. Ar ôl trafod gyda’r claf, gall y doctor alw ar wasanaethau eraill, proffesiynol neu wirfoddol, er mwyn dod o hyd i ddatrysiad. “ Mae’n rhoi hyder i unigolion i wneud rhywbeth drostyn nhw’u hunain,” meddai Sara. Gall hwn gynnwys amrywiaeth o weithgareddau fel gwirfoddoli, gweithgareddau celfyddydol, garddio, ac ystod o chwaraeon.Yn y podlediad hwn mae Sara’n trafod y sefyllfa yng Nghymru a’i phrofiad yn arwain datblygiadau yn y maes i hwb gofal sylfaenol yng Nghwm Taf. Fe glywn ni hefyd gan Syr Sam Everington arbenigwr ar ragnodi cymdeithasol. Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.
Syniadau Iach

Syniadau Iach

2019-04-2201:23

Mae Syniadau Iach yn bodlediad a fydd yn adlewyrchu syniadau newydd arweinwyr ym maes arloesol iechyd a gofal. Byddwn yn clywed gan arloeswyr , arweinwyr a dylanwadwyr sy’ wedi dangos eu hymrwymiad i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddyfeisio atebion arloesol.
Comments 
Download from Google Play
Download from App Store