Discover
Y Coridor Ansicrwydd
Y Coridor Ansicrwydd
Author: BBC Radio Cymru
Subscribed: 45Played: 3,265Subscribe
Share
© (C) BBC 2026
Description
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn "Y Coridor Ansicrwydd" ac yn barod i drafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed yn ogystal â phob math o bethau eraill yng nghwmni Dylan Griffiths.
171 Episodes
Reverse
Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n ystyried os ydi rheolwr Cymru Craig Bellamy wedi tawelu'r amheuon wrth ymateb i gwestiynau am ei drafodaethau efo Burnley. Roedd yna "ddiffyg parch" gan Bellamy yn ôl Malcolm, tra bod Owain yn credu bod yr holl broses yn rhywbeth cyffredin iawn yn y byd pêl-droed.Un peth anghyffredin iawn, serch hynny, ydi'r pwysau mae rheolwr Wrecsam Phil Parkinson yn ei deimlo ar ôl cychwyn hynod siomedig i'r tymor, gafodd ei amlygu gan y grasfa o 6-0 yn West Ham. Fydd y perchnogion hyd yn oed ystyried diswyddo'r rheolwr o gofio ei holl lwyddiant?Ac mae dannedd Malcolm yn creu trafferth iddo unwaith eto, ac yn peryglu diogelwch Dylan!
Penodiad Ashley Williams ac Alan Sheehan i dîm hyfforddi Craig Bellamy gyda Chymru sy'n hawlio prif sylw Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones ar y bennod yma. Mae 'na gryn edrych ymlaen hefyd i gynhadledd y wasg wythnos nesaf pan fydd Bellamy yn cael ei gwestiynu am y tro cyntaf am ei gysylltiadau gyda Burnley dros yr haf.Mae'r bennod yn cael ei amharu gan argyfwng Mal gyda'i giw iâr, a tydi ei hwyliau'n gwella dim wrth i Owain wrthod datgelu sut gafodd o docyn i eistedd nesaf i Mick Jagger yn Stadiwm Emirates dydd Sul.
Tair buddugoliaeth, un gêm gyfartal ac mae Owain Tudur Jones yn barod yn breuddwydio am flasu'r bwyd ysblennydd sydd ar gael i'r wasg gan glybiau Uwch Gynghrair Lloegr. Do, mae Abertawe wedi cael cychwyn calonogol iawn i'r tymor ac yn eistedd ar frig y Bencampwriaeth. Ac i ychwanegu at y gobaith am dymor llwyddiannus, mae'r clwb wedi bod yn brysur yn ystod y ffenestr trosglwyddo, ac wedi llwyddo i ddal eu gafael ar Zan Vipotnik. Ond siawns bod hi bach yn gynnar i ddechrau meddwl am ddyrchafiad.Does fawr i'w ddathlu ymysg cefnogwyr Wrecsam wrth iddyn nhw barhau aros i weld y Cochion yn ennill. Mae'r clwb wedi bod yn gwario eto ar chwaraewyr newydd, ond tydi Dylan Griffiths na Malcolm Allen yn siŵr os ydi'r wynebau newydd wedi gwella safon y garfan. Tydi Caerdydd heb wario, a rhai yn cwestiynu ymroddiad y perchennog Vincent Tan.Ac ydi Caernarfon wedi darganfod seren newydd..?
Beth oeddech chi'n neud yn 15 mlwydd oed? Ddim yn chwarae i Gaerdydd, mae hynny'n sicr. Ond dyna mae Noah Anyadike wedi ei gyflawni ar ôl cael ei ddewis i gychwyn mewn gêm yng Nghwpan y Gynghrair i'r Adar Gleision. Yn sicr, mae gan y rheolwr Brian Barry-Murphy meddwl mawr o'r Cymro ifanc. Ai dyma'r seren nesaf i gamu allan o'r academi?Ychydig wythnosau'n ôl, roedd Bobby Kamwa yn arwr i gefnogwyr Casnewydd. Tydi o ddim bellach. Aeth Kamwa rhy bell wrth ddathlu yn wynebau'r cefnogwyr Casnewydd ar ôl sgorio i'w glwb newydd Bristol Rovers?Owain Llŷr sy'n ymuno gyda Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones.
Pwynt yr un i Gaerdydd a Wrecsam; buddugoliaeth yr un i Abertawe a Chasnewydd - roedd yna rywbeth i bawb ar benwythnos agoriadol y tymor i'r clybiau EFL. Ai dyma'r tymor fydd Rubin Colwill yn torri mewn i gynlluniau Craig Bellamy? Lle mae Wrecsam angen cryfhau? Fydd Zan Viponik dal yn Abertawe wythnos nesaf? Ydi Hayden Mullins wedi darganfod y gyfrinach yng Nghasnewydd?Ac mae Owain a Malcolm yn talu teyrnged i Darren Thomas, wrth i'r Cofi Messi benderfynu dod â gyrfa 15 mlynedd gyda Chaernarfon i ben. Owain Llyr sy'n cyflwyno.



