DiscoverCYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU
Claim Ownership

CYMERIADAU CYMRU

Author: Chris Jones

Subscribed: 11Played: 434
Share

Description

Cyfres o gyfweliadau onest, sgyrsiol a naturiol gyda rai o gymeriadau mwyaf doniol, diddorol, ysbrydoledig a..... boncyrs Cymru. (gydag ambell 'i air anweddus!). Rhif 1......STIFYN PARRI. Mae pawb yn nabod Stifyn Parri ond sut mae'r actor, cyflwynydd, gwr bisnes a siaradwr wedi ymdopi â'r cyfnod diweddar? Sut brofiad oedd hi i ddod allan o'r ''spenj'' (gair Rhôs mae'n debyg)? Sut un yw Shirley Bassey go iawn? Ac oes gan iâr bwrs? 🤔
120 Episodes
Reverse
Rhywun sydd ar frig ei fyd, yw'r telynor Dylan Cernyw a braf oedd cael siarad â fe yn ddiweddar, o'i gartref, am ei yrfa, ei fagwraeth, telynorion a cherddoriaeth, ei ddylanwadau ac wrth gwrs, am y delyn. Pennod newydd o Cymeriadau Cymru gyda thalent byd enwog. 
Merch o Grymych yn wreiddiol yw Mirain Iwerydd ond bellach yn gwneud enw iddi hun ar Radio Cymru (1 a 2) yn cyflwyno sioeau cerddoriaeth ac roedd hi'n braf i gael siarad gyda hi yn ddiweddar am ei magwraeth, clwb ffermwyr ifanc, ei gyrfa, dylanwadau a chyflwyno, yn ogystal â lot o hwyl yn ateb y 10 cwestiwn chwim a'r cwis. Cadwch lygad mas am Mirain. Ma hon yn mynd i fod yn enw i'r dyfodol!
Un o'r bobl fwyaf ffeind a gweithgar ac un o'r cyflwynwyr mwyaf naturiol ar S4C sy'n wraig gwadd ar y podlediad wythnos hon. Meinir Howells neu i nifer, Meinir Ffermio. Yn ffarmwraig frysur, yn fam ac yn wraig yn ogystal ag un o gyflwynwyr y gyfres Ffermio, mi roedd hi'n bleser cael sgwrsio â hi, a ninnau'n nabod ein gilydd ers blynyddoedd bellach. Sgwrs gwbl naturiol am ei gyrfa, magwraeth, cyflwyno, Brexit, Mudiad y ffermwyr ifanc ac wrth gwrs, ffermio!  Hefyd, cwis a 10 cwestiwn a lot o hwyl gydag yffach o gymeriad!
Artist sydd yn sgwrsio â fi ar y podlediad wythnos hon, sydd wrthi'n creu, yn dylanwadu ac yn gwerthu ers peth amser. Iwan Bala yw un o'r artistiaid mwyaf adnabyddus a llwyddiannus Cymru ac roedd hi mor ddiddorol i siarad efo fo am ei waith, ei broses o greu, ei yrfa gynnar, dylanwadau a llawer mwy. 
Talent a pherson hyfryd arall ar ail bennod 2023 o'r podlediad wythnos hon. Elin Parisa Fouladi o Gaerdydd ac o dras Gymreig a Iranaidd. Mae Elin yn canu ac yn cyfansoddi ei hun ac yn gwneud enw i'w hun ar y sin gerddoriaeth yng Nghymru. Sgwrs gwbl naturiol ganddi am ei magwraeth, ei henw, perfformio a chyfansoddu a lot o hwyl gyda'r 10 cwestiwn a'r cwis! Diolch i Elin neu Parisa, am ei hamser.
Blwyddyn newydd dda i chi gyd a gobeithio bod pawb yn iach ac yn edrych ymlaen at 2023!? A pha well i ddechrau tymor newydd o Cymeriadau Cymru na gyda fy ngŵr gwadd arbennig iawn. Y cerddor, canwr a chyfansoddwr ac un o'r bobl fwyaf clên dwi erioed di siarad efo, Yws Gwynedd! ...ie, go iawn, y lej Yws Gwynedd!!!! Sgwrs wych am ei fagwraeth, ei yrfa, cerddoriaeth, canu a gigio a phêl droed...lot o bêl droed!😁. Ac wrth gwrs, am y gân orau erioed, Sebona fi! Mwynhewch!
Y gantores dalentog a hyfryd Gwawr Edwards-Phillips sy'n sgwrsio â fi wythnos hon am ei bywyd, gyrfa, cerddoriaeth, opera a llawer mwy. Gwawr yw un o sopranos mwyaf dawnus Cymru, sydd wedi symud nôl i Geredigion yn ddiweddar i fagu'r plant ac i arall gyfeirio ar fferm ei theulu. Mae Cymeriadau Cymru yn cymeryd hoe fach am rhai wythnosau. Dwi di sgwrsio â dros 130 o bobl amrywiol, dalentog a diddorol erbyn hyn ar y podlediad a dwi angen hoe fach i ail ystyried, i ail feddwl ac i chwilio am fwy o Gymeriadau!
Fi'n nabod Mari Grug ers rhai blynyddoedd bellach, y ddau ohonom ni ar un tro yn rhan o'r tîm tywydd ar S4C, y tîm gorau yn fy marn i (gydag Erin Roberts). Erbyn hyn wrth gwrs mae Mari yn un o wynebau cyfarwydd y sianel ac yn gyflwynwraig naturiol a thalentog ac roedd hi'n bleser cael sgwrsio â hi am bopeth dan haul.....a choeliwch chi fi, ma hi yn gallu sgwrsio!!!😂
Yn ddiweddar, bu farw cymeriad mawr go iawn. Roedd Phil Wyman yn wreiddiol o Galifornia. Yn athrylith, gweinidog, awdur a bardd, bu Phil yn byw yng Nghaernarfon, yn dysgu Cymraeg, yn codi ymwybyddiaeth o'i ffydd, Cymru a'r iaith, ac yn bwriadu teithio dros Gymru gyfan o fis Awst eleni, yn siarad Cymraeg yn unig ac yn hyrwyddo'r iaith. Yn anffodus, bu farw Phil yng ngŵyl Y Gelli ac mae pawb yn cydymdeimlo’n fawr gyda'i deulu a'i ffrindiau yng Nghymru ag America. Fe ges i'r cyfle i sgwrsio â Phil rhai misoedd yn ôl am ei fywyd lliwgar a'r holl bethau amrywiol, gan gynnwys dysgu Cymraeg, yn ei fywyd. Fe wnes i ddileu'r cyfweliad ar gyfer y podlediad am gyfnod allan o barch ond mae mab Phil, Elijah, wedi gofyn i fi ei ddefnyddio erbyn hyn. Felly roedd hi'n bleser ac yn anrhydedd i gael siarad ag un o'r bobl fwyaf diddorol, deallus, cefnogol a hwyl dwi erioed di cael ar y podlediad. Gorffwyswch mewn hedd, Phil Wyman a diolch am bopeth.
Elin Prydderch yw fy ngwraig gwadd wythnos hon. Mae Elin yn gweithio fel maethydd a hyfforddwraig ac yn arbenigo mewn rhoi cymorth a chyngor i fenywod sy'n dioddef o'r peri-menopause a'r menopause. Mae ganddi ei busnes ei hun erbyn hyn ac mae hi'n amlwg yn byw bywyd iach ei hun! Iach yw siarad am y menopause dwi'n meddwl, er gobeithio y gwneith hi faddau i mi am ofyn ambell i gwestiwn ''gwrwaidd'' digon gwirion! Ei safle we yw www.elinprydderch.com
Yn ddiweddar iawn fe ddaeth Millie-Mae Adams o Gaerdydd yn Miss Cymru/Wales 2023! Ond mae 'na tipyn fwy i Millie na hyn. Yn fyfyrwraig yn astudio meddyginiaeth ym Mhrifysgol Exeter, mae Millie yn lysgengadwraig i elusen Calan DVS ac yn gwirfoddoli ac yn cefnogi elusennau amrywiol, yn ogystal â hybu'r iaith Gymraeg! Llongyfarchiadau mawr i'r wraig ddiymhongar, garedig a deallus hon a phob lwc iddi yn ystod ei hamser fel brenhines Cymru!
I fyd gwleidyddiaeth wythnos hon ar yn podlediad a sgwrs ddifyr dros ben gydag aelod seneddol Plaid Cymru ar gyfer Canol De Cymru, Heledd Fychan. Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae Heledd yn byw ym Mhontypridd bellach ac yn cynrychioli’r ardal yn y senedd. Sgwrs am ei gyrfa, ei haddysg, dylanwadau, gwleidyddiaeth, y senedd, ei hangerddau a llawer mwy, yn ogystal â chwis am Bonty a 10 cwestiwn chwim . Diolch o galon iddi am ei hamser! Unwaith eto, sgwrs gyda pherson deallus, difyr, a diddorol!
Polymath go iawn yw Cefin Roberts. Teledu, radio, cerddoriaeth, theatr, sioeau cerdd, ysgol gerdd, awdur.....mae Cefin 'di bod yn wyneb ac yn ffigwr cyfarwydd, talentog a dylanwadol ers rhai blynyddoedd bellach a fy mhleser i oedd cael sgwrsio â fo ar y podlediad. O ddyddiau cynnar S4C gyda Hapnod, i Ysgol berfformio Glanaethwy, mae Cefin di neud y cyfan ac wrthi'n sgrifennu ei hunangofiant ar hyn o bryd. Mwynhewch !
Croeso nol i Gymeriadau Cymru ar ôl brêc bach dros gyfnod y Pasg! A dechrau gyda gwraig gwadd ifanc sy'n fam ac yn wraig ac yn gweithio i Fudiad Meithrin, sydd wedi dysgu Cymraeg ac yn wreiddiol.......o wlad Brunei! Ie, Brunei, ar ynys Borneo yn y Môr Tawel. Ac os nad ydy hynny'n ddigon, ma' hi hefyd wedi cyhoeddu cyfrol o farddoniaeth am gariad, yn y Gymraeg, o'r enw Hen Fanila. Mwynhewch fy sgwrs gyda fy nghymeriad wythnos hon, Ezzati Araffin.
Maint o actorion, yn enwedig rhai sy'n siarad Cymraeg, sy di bod ar nid yn unig Eastenders, ond Coronation Street hefyd!? Yn ogystal â bod yn wyneb cyfarwydd iawn ar S4C wrth gwrs, ma'r actor Richard Elis, wedi bod yn actio yn y ddwy iaith ers rhai blynyddoedd bellach. Ond maint oedd yn gwybod mai Richard oedd y llais Cymraeg yn Big Brother? Sgwrs wych gyda'r gwr o Sir Gâr am ei fagwraeth, addysg, actio, ei yrfa amrywiol a lliwgar a llawer mwy.
Dim rhyw lawer o bobl sy di gweithio mewn cymaint o feysydd â fy ngwraig arbennig iawn wythnos hon. Teledu, radio, papurau newydd, cylchgronau, dysgu a gwleidyddiaeth. Beca Brown yw un o'r bobl fwyaf amryddawn a deallus dwi di gyfarfod ac mi wnes i fwynhau clywed am ei bywyd, ei magwraeth, ei gyrfaoedd amrywiol a'i newid cyfeiriad i fyd gwleidyddiaeth fel cynghorydd Plaid Cymru yng nghyngor Sir Gwynedd. Lot o sgwrsio diddorol am lot o bynciau.
Un o ddylanwadau cerddorol mwyaf Cymru sy'n sgwrsio â fi wythnos hon ar y podlediad. Mae Neil Rosser yn ganwr ac yn gyfansoddwr ac yn un o hoelion wyth y sîn gerddorol Gymraeg a phleser odd cael clywed am ei yrfa, ei gerddoriaeth, dylanwadau, chwarae'n fyw a llawer mwy. A chofiwch chwilio am gigs a cherddoriaeth Pwdin Reis!
Dwi wrth fy modd yn siarad â phobl talentog a chreadigol a phobl sy'n dilyn cyfeiriad ei hunan. Mae Llio Millward wedi bod yn actores (cofio 3 chwaer?) ac yn gantores ers cryn dipyn erbyn hyn ac wrthi'n recordio ac yn perfformio yn Llundain. Nes i wir fwynhau ein sgwrs ar y podlediad yn ddiweddar, yn trafod ei gyrfa, cerddoriaeth, byw yn Aberystwyth, Caerdydd a Llundain, ei thad Teddy, ei henw, The Crown, a llawer mwy. Diolch o galon iddi am fod mor onest a chofiwch ar y penodau i gyd ar Spotify. (ac ewch i wrando ar gerddoriaeth Llio ar Spotify hefyd)
Felly pwy sy'n neud yoga? Pwy sydd wedi meddwl neud yoga ond heb fentro? Athrawes yoga Laura Wyn sy'n siarad â fi ar y bennod nesaf o Cymeriadau Cymru ac i ni'n siarad am ei bywyd diddorol hi, ei dylanwadau, iechyd meddwl a chorfforol, ac wrth gwrs, am yoga! Braf yw cael sgwrsio â phobl neis a braf iawn oedd dod i nabod Laura.
Merch ifanc o Lanelli sydd yn sgwrsio â fi ar y podlediad wythnos hon. Mae Bethany Davies wedi dod yn seren ar y cyfryngau cymdeithasol, ac ar TIK TOK yn arbennig. Mae ei fideos hi yn hybu'r iaith a Chymru yn gyffredinol ac wedi ennill dilyniant anferth a thipyn o sylw yn y wasg. Merch hynod o ffeind ac roedd hi'n bleser i siarad â hi am ei magwraeth, yr iaith Gymraeg, a'i thaith ar Tik Tok! Fel dwi'n dweud pob wythnos, dwi mor lwcus i fedru siarad â phobl neis!
loading
Comments 
loading
Download from Google Play
Download from App Store