Discover
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Author: BBC Radio Cymru
Subscribed: 272Played: 13,077Subscribe
Share
© (C) BBC 2026
Description
Casgliad o bodlediadau ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd. Sgyrsiau diddorol o bob math fydd yn gymorth ac yn gwmni i chi ar eich taith fel siaradwr Cymraeg newydd. A collection of podcasts for Welsh learners.
395 Episodes
Reverse
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd.Gwestai Angharad yn y bennod yma ydy Kevin Davies. Cafodd Kevin ei fagu yn Ninbych y Pysgod yn Sir Benfro. Ar ôl treulio cyfnod yn y fyddin ac yn gweithio dramor, dychwelodd i Gymru. Wedi iddo ymddeol yn 2022 penderfynodd fynd ati i ddysgu’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae’n byw ym mhentref Trefgarnowen, Sir Benfro ac yn defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol yn ei ardal. Ers llynedd, mae wedi bod yn gwirfoddoli ar bwyllgor lleol Eisteddfod y Garreg Las ac wedi bod yn rhan ganolog o’r ymgyrch i godi arian tuag at yr Eisteddfod ym mis Awst.Geirfa ar gyfer y bennod:-anogaeth - encouragement
crwt - bachgen bach
ysu - to crave/yearn
cywilydd - shame
hiraeth - longing/ homesickness
dyhead - aspiration/desire
ysfa - desire/craving
diwyd - diligent
amhrisiadwy - priceless
ymroi - to commit/devote oneself
Mae Pigion yn bodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Chwefror 2026 yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennodClip 1
Euog: Guilty
Gor-lenwi: To overfill
Yn ei hanfod: Essentially
Cwt - ‘cynffon’ yn air Cymraeg arall neu yn Saesneg - Tail
Awgrymu: To suggest
Wedi ymlâdd - ffordd arall o ddweud - Wedi blino
Datblygu: To develop
Cyn lleied; So little
Mwy na thebyg: More than likely
Yn hytrach na: Rather thanClip 2
Dynwaredwr: Impresonator
Cronfa: Fund
Dwlu ar – ffordd arall o ddweud - Yn hoff iawn o
Cynulleidfa: AudienceClip 3
Rhegi: To swear
Doniol: Funny
Rhyngo chdi a fi: Between you and me
Genedigaeth: Birth
Wedi gwirioni - wedi dwlu neu -Really pleased
Gwyn eich byd chi: You’re very blessed
I’n plith ni: To our midst
Croesawu i’r byd: Welcoming to the worldClip 4
Y pumed tro ar hugain: The 25th time
Traddodiad cudd: Hidden tradition
Ail ystyried; To reconsider
Eilydd: Reserve
Gwibwraig: Sprinter
Ochr yn ochr: Side by side
Anochel: Inevitable
Yn ddyfnach: Deeper
Adlais: Echo
Gemau’r Gymanwlad: Commonwealth Games
Sy wedi bodoli: Which has existedClip 5
Losin un o’r geiriau dan ni eu defnyddio am Sweets
Cymaint: So many
Sefydlu: To establish
Defnydd: Material
Dylunio: To designClip 6
Cyn-bencampwr: Former champion
Beirniad: Adjudicator
Mo’yn: Isio
Anhygoel: Incredible
Taflu: To throwClip 7
Ymddangos: To appear
Am wn i: I suppose
Yn dywyllach: Darker
Llond bol: A guts full
Llachar: Bright
Wedi cael ei gohirio: Have been postponedClip 8
Cyfoes: Contemporary
Gwleidyddol: Political
Anwybyddu: To ignore
Cynnil: Subtle
Sychu dagrau: Wiping tears
Diffodd: To switch off
Ail-greu: To recreate
Cynhyrchiad; Production
Denu cynulleidfa: To attract an audience
Elwa: To benefit
Uniaethu gyda: To Identify with
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd.Yn y bennod yma mae Angharad yn sgwrsio gyda Mark Adey.Cafodd Mark ei fagu ym mhentref Pontlliw ger Pontarddulais. Penderfynodd fynd ati i ddysgu’r Gymraeg yn ei bedwardegau. Mae’n byw gyda’i deulu ym Mhentre’r Eglwys yn Sir Rhondda Cynon Taf. Mae’n gwirfoddoli ar bwyllgor Menter Iaith Rhondda Cynon Taf ac yn defnyddio’r Gymraeg yn gyson yn ei gymuned leol. Mae hefyd yn ddynwaredwr Elvis!Geirfa ar gyfer y bennodAr y gweill - On the cards
Tynfa – Attraction
Cymhwyso - To qualify
Ysgogiad - Incentive
Gwaddol - Legacy
Dynwaredwr - Impersonator
Dilyniant – Sequence
Mae Pigion yn bodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Ionawr 2026 yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennodClip 1
Mwya cyffredin: Most common
Mwya tebygol: Most likely
Lawrlwytho: To download
Ildio: To give up
Yn anos ffordd arall o ddweud Yn anoddach
Ail-greu: To re-create
Llond twll o ofn: A heck of a fright
Datblygiadau: Developments
Deallusrwydd: Intellegence
Yn gyson: Regularly
Pryderus: WorryingClip 2
Poblogaidd: Popular
Cneifio: Shearing
Cyn lleied: As little
Un ai: Either
Yn fentrus: Adventurous
Antur: Adventure
Yr Aifft: Egypt
Toddi: To meltClip 3
Agwedd: Attitude
Arwrol: Heroic
Dychryn: To frighten
Rhuthro: To rush
Marwolaeth: Death
Dylsa fo ffordd arall o ddweud Dylai o
Arch: Coffin
Derwen: Oak tree
Egni: Energy
Ffynnu: To thrive
Nefoedd: Heaven
Codi gwrychyn: To offend Clip 4
arth gwyn’ neu ‘arth wen’
Cynefin naturiol: Natural habitat
Braster: FatClip 5
Croesawu: To welcome
Canran: PercentageClip 6
Rhyfedd; Strange
Dylanwad: Influence
Gradd; Degree
Yn dost dyma fasai rhai yn ddweud am Yn sâl
Aur: Gold
Ansawdd: QualityClip 7
Cyfeilio: To accompany (ar y piano)
Byd enwog; World famous
Yn ddiweddarach: Later onClip 8
Perchennog: Owner
Dilyniant: Following
Gwireddu breuddwyd: Fulfilling a dream
Camu ar y llwyfan: Stepping on to the stage
Coelio gair arall amdano ydy Credu
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd. Rachel Bedwin sydd yn sgwrsio gydag Angharad yn y bennod yma.Cafodd Rachel Bedwin ei mhagu yn Llundain. Tra’n fyfyrwraig yng Nghaergrawnt, dechreudodd ddysgu’r Gymraeg yn ei hamser sbâr. Yn dilyn cyfnod o brofiad gwaith yn ardal Eryri, penderfynodd symud i Ogledd Cymru er mwyn ymdrochi yn y Gymraeg. Mae hi bellach yn byw ym Mangor ac yn gweithio ac yn cymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Cyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y llynedd.Geirfa ar gyfer y bennodCadeirlan - Cathedral
Caergrawnt - Cambridge
Ôl-radd - Postgraduate
Tyllu - To make a hole
Embryoleg - Embryology
Trochiad - Immersion
Mae Pigion yn bodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod 2025 yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Clip 1
Coelio ffordd arall o ddweud Credu
Dychmygu; To imagine
Hedyn: Seed
Diarth, neu dieithr: Foreign
Dychrynllyd: Frightening
Ben i waered: Upside down
Defnyddiol: Useful
Gwirioni: To doteClip 2
Efeilliaid: Twins
Parhau llwyddiant: Continuing the success
Cyfryngau cymdeithasol: Social media
Ysbrydoliaeth: Inspiration
Cipio gwobr: To win the prize
Cyfoethogi: To enrich
Elwa: To gain
Llysgennad: Ambassador
Hyrwyddo: To promote
Cyfrwng: MediumClip 3
Hyderus: Confident
Ychwanegol: Additional
Pwyleg: Polish
Iaith Arwyddion Prydain: British Sign Language
Diolchgar: Grateful
Darganfod: To discover
Cyfathrebu: To communicateClip 4
Ymweliad: A visit
Antur: Adventure
Morladron: Pirates
Prydferth: Beautiful
Gwyddeleg: Irish language
Cernyweg: Cornish language
Blodeuog: Flowery
Gad: BattleClip 5
Gwefreiddiol: Thrilling
Achlysur: Occasion
Sbio ffordd arall o ddweud Edrych
Dymchwel:To demolish
Llwybrau: Paths
Y mwyafrif: The majorityClip 6
Atyniad: Attraction
Y profiad cyfan: The whole experience
Adnabyddus ffordd arall o ddweud Enwog
Ymrwymiad: Commitment
Tywysogesau: PrincessesClip 7
Brwd: Enthusiastic
Ymdrech: Attempt
Cynifer: So many
Cyfathrebu: Communicating
Llwyfan: Stage
Ymateb: Response
Sa i’n siŵr ffordd arall o ddweud Dw i ddim yn siŵrClip 8
Llwyfan: Stage
Her: A challenge
Cyhyrau: Muscles
Offeryn: Instrument
Brawychus: Frightening
Elwa: To benefit
Cynulleidfa: Audience
Ar gledr dy law: In the palm of your hand
Hudolus: Magical
Egni: Energy
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd.Yn y bennod yma o'r podlediad Pont mae Angharad yn sgwrsio gyda Josh Morgan.Josh Morgan yw awdur a dylunydd y cyfrif Instgram poblogaidd 'Sketchy Welsh'. Cafodd ei fagu yng Nghaerwrangon, ond erbyn hyn mae wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Dysgodd y Gymraeg fel oedolyn. Mae’n defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol gyda’i deulu ac yn ei waith fel athro a dylunydd.Geirfa ar gyfer y bennod:- Caerwrangon - Worcester
Croten - merch ifanc (tafodiaith Sir Gaerfyrddin)
Gweledigaeth - a calling
Tro trwstan - faux pas
Ar drothwy’r Nadolig - on the brink of Christmas
Cywair lleddf - minor key
Mae Pigion yn bodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Tachwedd yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennodCLIP 1
Ysfa: Urge
Cae’r drws yn glep: Slam the door shut
Gweld eisiau: To miss
Atgof: Memory
Mo’yn gair arall amIsio
Hyfforddi: Coaching
Ynghlwm â: Involved withClip 2
Trosedd: Crime
Cyfarwyddwr: Director
Penodol: Specific
Dirgelwch: Mystery
Cymhlethdod: Complication
Cymeriadau unigryw: Complex characters
Dyfnder seicolegol: Psychological depth
Diweddglo boddhaol: A satisfactory conclusion
Dylanwadu: To influence
Cyrff yn pentyrru: Bodies piling up
Dianc: To escape
Awyrgylch: Atmosphere
Ymwneud: InteractionCLIP 3
Llongddrylliadau: Shipwrecks
Datblygu: Developing
Dyfnach: Deeper
Wyneb: Surface
Gweddillion: Remains
Y Lluoedd Arfog; The Armed Forces
Beddrod: Grave
Deddf: Law
Dyfroedd: Seas
Anghyfreithiol: Illegal
Lloerennau: SatellitesCLIP 4
Gwersyll: Camp
Profiad: Experience
Anadlu: Breathing
Golygfa: View
Tymheredd: Temperature
Gradd: Degree
Achub: Rescue
Alla i ond dychmygu: I can only imagine
Dal i wenu: Still smilingCLIP 5
Llwyfan: Stage
Her: A challenge
Cyhyrau: Muscles
Offeryn: Instrument
Brawychus: Frightening
Elwa: To benefit
Cynulleidfa: Audience
Ar gledr dy law: In the palm of your hand
Hudolus: Magical
Egni: EnergyCLIP 6
Trawiadol: Striking
Silff pen tân: Mantlepiece
Y diweddar: The late
Anogaeth: Encouragement
Canllath: 100 yards
Cyfoes: Modern
Tafodiaith: Dialect
Cyfeillgarwch: Friendship
Hael: Generous
Gwthio: Push
Tylw(y)th: Extended familyCLIP 7
Darlledu: Broadcasting
Yn fyw: Live
Trafferthion: Problems
Cael pas: Getting a lift
Gweinidog: Minister
Dros ben clawdd: Over the wallCLIP 8
Syllu: Staring
Wedi cael ei blannu: Had been planted
Efelychydd: Simulator
Y rhyddid: The freedom
Hediadau: Flights
Trywydd: Path
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd a'r siaradwr Cymareg newydd yn y bennod hon yw Hammad Rind.Cafodd Hammad ei eni a’i fagu yn Punjab, Pakistan. Fe ddechreuodd ddysgu’r Gymraeg ddwy flynedd yn ôl. Mae’n byw yn ardal Grangetown gyda’i deulu ac yn defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol ar yr aelwyd, yn y gwaith ac yn y gymuned.Geirfa ar gyfer y bennod
gwirioni - to dote
cysondeb - consistency
rhyddiaith - prose
cystrawen - syntax/construction
enwebu - to nominate
marwnadol - elegiac
Mae Pigion yn bodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Hydref yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennodClip 1
Canolfan Treftadaeth Gymreig: Welsh Heritage Centre
Ymddiddori: To be interested in
Rhyngrwyd: Internet
Anhygoel: Incredible
Mor drylwyr: So thorough
Hybu: To promote
Tanysgrifio: To subscribe
Ymdrochi: To bathe
Dyfroedd: WaterClip 2
Brwd: Enthusiastic
Ymdrech: Attempt
Cynifer: So many
Cyfathrebu: Communicating
Llwyfan: Stage
Ymateb: Response
Sa i’n siŵr ffordd arall o ddweud Dw i ddim yn siŵrClip 3
Ymchwilio: Researching
Amlwg: Obvious
Cyfrannu: To contribute
Pleidleisio: To vote
Pen dwfn: Deep end
Drysu’n lân: Totally confused
Dweud fy nweud: Have my say
Ymgolli dy hun: To immerse yourselfClip 4
Cyfarwyddwr: Director
Datblygu: To develop
Yn sylweddol: Substantially
Trafodaeth: Discussion
Cyfraniad: Contribution
Sefydliad: Establishment
Cynhyrchu: To produce
Ehangach: Wider
Deisyfu: To desire
Canghennau: Branches
Cyfranwyr: ContributorsClip 5
Cyfres: Series
Ychwanegu: To add
Amser penodol: Specific time
Her: A challenge
Gohirio: To postpone
Cwblhau: To complete
Twyma gair arall am Poetha
Adeiladwaith Architecture
Dwlu ar ffordd arall o ddweud Yn hoff iawn o
Yn glou iawn neu Yn gyflym iawnClip 6
Mam-gu: Nain yn y gogledd
Ac Allwedd: Goriad yn y gogledd
Cyfarwydd: Familiar
Diogel: Safe
Caniatâd: Permission
Y Tywyllwch: The dark
Adlewyrchu: ReflectingClip 7
Pobl gyffredin: Ordinary people
Datblygu: To develop
Dileu: To delete
Yn ddiweddar iawn: Very recent
Talu crocbris: To pay a fortune
Trosglwyddo: TransferringClip 8
Ynys Enlli:Bardsey Island
Wedi dychmygu: Had imagined
Cyfrifoldebau: Responsibilities
Cynnal a chadw: Maintenance
Egni: Energy
Y berllan: The orchard
Cyfnod: Period of time
Isadeiledd: Infrastructure
Noddfa: Sanctuary
Artistiaid preswyl: Resident artists
Adnodd: Resource
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd.Pennaeth Pwrpas Cymdeithasol ac Arweinydd Strategaeth y Gymraeg yn S4C yw Sara Peacock. Cafodd ei geni a’i magu yn Rhydychen.Fe ddysgodd y Gymraeg fel oedolyn.Mae hi’n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn ac yn defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol ar yr aelwyd, yn y gweithle ac yn y gymuned leol.Geirfa:
cyfarwydd - familiar
bodolaeth -existence
diffinio - to define
graenus- polished
gweledigaeth - vision
uniaethu - to identify
anweledig -invisible
dyfalbarhau - to persevere
ymdrochi- to immerse oneself
Mae Pigion yn bodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Medi yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.GeirfaClip 1
Edmygu: To admire
Gwerthfawrogi: To appreciate
Enwogion: Famous people
Amharchus: Disrespectful
Cyngor: Advice
Goro ffordd fyr ar Gorfod
Anobeithiol: Hopeless
Dychmygu: To imagineClip 2
Ymwybodol: Aware
Ymateb: Response
Rwyt ti’n wallgo!: You’re mad!Clip 3
Atyniad: Attraction
Y profiad cyfan: The whole experience
Adnabyddus ffordd arall o ddweud Enwog
Ymrwymiad: Commitment
Tywysogesau: PrincessesClip 4
Canu gwlad: Country music
Canu gwerinol: Folk music
Poblogaidd: Popular
Da ofnadwy: Awfully good
Cer o’na!: No way!
Braint: Privilege
Clip 5
Gwinllan: Vineyard
Y seren: The star
Cynhyrchydd: Producer
Gwatsiad ffordd arall o ddweud Edrych
Hiraethus: NostalgicClip 6
Tuedd: Tendency
Cymeriadau dychwelyd: Return characters
Cyfarwydd: Familiar
Perchnogaeth: Ownership
Go iawn: Really
Wedi hen fynd: Long gone
Yn y cyfamser: In the meantimeClip 7
Graddio: Graduating
Hyfforddi: To train
Triniaethau: Treatments
Dyletswydd: Duty
Dyfalbarhau: To persevere
Uchelgais: Ambition
Datblygiadau meddygol: Medical developmentsClip 8
Cymhwyso: To qualify
Dyheuad: Desire
Gweinidog: Minister
Her: Challenge
Adnewyddu: To renew
Cofrestrydd: Registrar
Modd i fyw: A great deal of pleasure
‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Stephen Rule, sydd yn cael ei adnabod hefyd fel 'Y Doctor Cymraeg'. Mae'r podlediad wedi ei recordio ym Maes D yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ym mis Awst eleni.
Mae Pigion yn bodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Awst yng nghwmni Aled Hughes a Robin Owain Jones.Geirfa ar gyfer y bennodClip 1
Gwefreiddiol: Thrilling
Achlysur: Occasion
Sbio ffordd arall o ddweud Edrych
Dymchwel: To demolish
Llwybrau: Paths
Y mwyafrif: The majorityClip 2
Pennod:Episode
Amserol: Timely
Ymateb:To respond
Enghraifft:Example
Osgoi:To avoid
Trwy gyfrwng:Through the medium of
Cofrestr:RegisterClip 3
Addoldy: Place of worship
Wedi deillio:Has emanated
Cefnogwyr: Fans
Cwrs Blasu:Taster course
Atyniad:Attraction
Amlwg:Obvious
Gwerthfawrogi:To appreciate
Ymroddiad:Commitment
Diwylliant:CultureClip 4
Anrhydedd:Honour
Cael fy nghydnabod:Being acknowledged
Wedi wynebu:Has faced
Tlodi:Poverty
Led-led:Throughout
Llwyth:Loads
Heriau: Challenges
Braint;Privilege
Amgylchedd:EnvironmentClip 5
Genod:Girls
Lled broffesiynol:Semi professional
Ysbrydoledig;Inspiring
Ymarfer corff:Physical exercise
Newyddiaduraeth: Journalism
Angerddol:Passionate
Cyfuno:To combine
Cydbwysedd:Balance
Strach:A nuisance Clip 6
Ychwanegol:Extra
Anhygoel o rugl:Incredibly fluent
Sylwi:To notice
Cyfnewid:Exchange
Anffurfiol:Informal
Cyfathrebu:Communicating
Profiad:Experience
Gwirfoddoli: To volunteer
Bythgofiadwy:UnforgettableClip 7
Cyfnod clo: Lockdown
Cyfres:Series
Prif gymeriad:Main character
Datblygu:To developClip 8
Grŵp trafod: Discussion group
Poblogaidd:Popular
Heb bwysau: Without pressure
Dathliadol:Celebratory
Uniaethu â:To identify with
Egni: Energy
Cyfleoedd: Opportunities
Darganfod:To discover
‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Hans Obma sydd yn actor ac yn ysgrifennwr.Mae Hans yn enedigol o Wisconsin yng ngogledd yr Unol Daleithiau a bellach yn byw yn Los Angeles.Fe benderfynodd ddysgu Cymraeg ar ôl darganfod bod ei fam-gu yn byw ym Mrynmawr, Blaenau Gwent cyn symud i America ar ôl yr Ail Ryfel Byd.Treuliodd haf 2023 yn dysgu'r iaith ar gwrs ym Mhrifysgol Caerdydd, ac wedi iddo ddychwelyd i America mae'n parhau i ddysgu trwy ddilyn cwrs ar-lein.
Mae Pigion yn bodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru a BBC Sounds yn ystod mis Gorffennaf yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennodClip 1Dyfarnwr: Referee
Dwys: Intense
Anghytuno: Disagreeing
Ddim yn ei anterth: Not at his peak
Doniol tu hwnt: Extremely amusing
Dychwelyd: To return
Yn selog; Regularly
Arddegau hwyr: Late teens
Galw llinellau: Calling the lines
Lled-broffesiynol: Semi professional
Yr hadyn wedi ei blannu: The seed was plantedClip 2Cyfres: Series
Y gwirionedd: The truth
Darlledu:To broadcast
Cyfnod;A period of time
Tonnau: Waves
Llenwi’r bwlch: Filling the gap
Trosleisiau: Voiceovers
Cynnal gyrfa: To maintain a careerClip 3Mas ffordd arall o ddweud Allan
Y cyfnod clo: Lockdown
Breintiedig: Privileged
Iechyd meddwl: Mental health
Pridd: Soil
Sad: Stable
Corfforol: Physical
Ysbrydoli: To inspire
Grym natur: The force of nature
Creadigol: CreativeClip 4Ymweliad: A visit
Antur: Adventure
Morladron: Pirates
Prydferth: Beautiful
Gwyddeleg: Irish language
Cernyweg: Cornish language
Blodeuog: Flowery
Gad: BattleClip 5Cyfrolau: Volumes
Canrif: Century
Trysorau: Treasures
Penaethiaid: Chiefs
Cywydd y Drindod teitl cerdd enwog Gymraeg
Barddoni: To compose poetry
Sbio ffordd arall o ddweud Edrych Clip 6Cydbwyso: To balance
Cefnogaeth: Support
Safle; Position
Yn sobor o bwysig dyna sut mae rhai yn dweud Yn bwysig iawn
Uchelgais: Ambition
Gwireddu breuddwyd: Fulfiling a dream
Petai ffordd arall o ddweud Tasai Clip 7Telynores: Harpist
Offeryn: InstrumentClip 8Cyfansoddi: To compose
Ymateb: To respond
Bodoli: To exist
Cyfrannu: Contributing
‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.Mae'r bennod yma yn bennod arbennig ac wedi ei recordio yng Ngŵyl Tafwyl yn ystod mis Mehefin eleni gydag aelodau'r band Fleur de Lys.
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru a BBC Sounds yn ystod mis Mehefin yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennodCLIP 1
Gemau’r Gymanwlad: Commonwealth Games
O ‘mynadd…: Oh, can’t be bothered
Fatha ffordd arall o ddweud FelCLIP 2
Gwlad Groeg: Greece
Y Llyfrgell Genedlaethol: The National Library
Chwilfrydig iawn: Very curious
Wedi ei argraffu: Printed
Diwylliant: CultureCLIP 3
Llwyth: Loads
Bronnau: Breasts
Breuddwyd: A dream
Cael eu gwthio: Being pushed
Beth yn y byd?: What on earth?
Dwys: Intensive
Ymdrochi: Immersion
Adrodd a llefaru y ddau yn golygu: To recite CLIP 4
Creu: To create
Tirlun: Landscape
Deunyddiau: Materials
Diwydiannol: Industrial
Haearn: Iron
Cefndir: Background
Celfyddydol :Artistic
Mewn unrhyw fodd: In any way
Cymysgedd: A mixture
Llithro: To slipCLIP 5
Hyderus: Confident
Ychwanegol: Additional
Pwyleg: Polish
Iaith Arwyddion Prydain: British Sign Language
Diolchgar: Grateful
Darganfod: To discover
Cyfathrebu: To communicateCLIP 6
Tu fas ffordd arall o ddweud Tu allan
Mam-gu a Tad-cu ffordd arall o ddweud Nain a TaidCLIP 7
Ar yr awyr: On air
Cyfeilio: To accompany (on piano)
Crefyddol: Religious
Dychmygwch!: Imagine!CLIP 8
Campfa : Gym
Parhau: To continue
Cymuned: Community
Men(y)wod ffordd arall o ddweud : Merched
Rwtsh: Nonsense
Trawsnewid: To transform
Annog: To encourage
‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gydag Israel Lai, sydd wedi ei eni a'i fagu yn Hong Kong ac wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dwy flynedd. Cerddor a chyfansoddwr ydy Israel sydd yn byw erbyn hyn ym Manceinion. Cantoneg ydy ei famiaith ac mae yn gallu siarad 20 o ieithoedd eraill sydd yn cynnwys y Gymraeg!
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Mai yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.CLIP 1
Arbenigol: SpecialistSerennu: To starSefydlodd: EstablishedCynrychioli: To representCamp: A sportCLIP 2Llywydd: Presiding OfficerGweinidog Cefn Gwlad: Minister for Rural Affairs Cythryblus: Troublesome Difa moch daear: Culling badgersOriel Gyhoeddus: Public GalleryGwrthododd: RefusedYr hawl: The right Pleidlais: VoteYn drech na: Mightier thanCLIP 3Diflino: UntiringCyfrifoldeb: ResponsibilitySant Ioan: St John’sClod: Praise Elusennau: CharitiesCLIP 4Styfnig: StubbornAndros o ffeind ffordd arall o ddweud Caredig iawnFfyddlon: Faithful Am gyfnodau hir: For long periodsBlew: FurCysgod: ShadowYmennydd: BrainCLIP 5Cyflwyniad: IntroductionPennaeth: HeadDi-Gymraeg: Non Welsh speakingCrefyddol: ReligiousLlithrig: SlipperyCLIP 6Llonyddwch neu foddhad: Tranquillity or contentmentDinbych y Pysgod: TenbyLlwyfan: StageTirlun: LandscapeHafan: HavenAtgofion: MemoriesMam-gu a Tad-cu ffordd arall o ddweud Nain a TaidBalch: ProudCLIP 7
Cyfarwydd â: Familiar with
Dilyniant: Following
Y gweddill: The rest
Gŵr bonheddig: Gentleman
Ennill: To earn
Addo: To promiseCLIP 8
Efeilliaid: TwinsParhau llwyddiant: Continuing the successCyfryngau cymdeithasol: Social mediaYsbrydoliaeth: InspirationCipio gwobr: To win the prizeCyfoethogi: To enrichElwa: To gainLlysgennad: AmbassadorHyrwyddo: To promoteCyfrwng: Medium




