DiscoverPodlediad Hefyd - straeon am ddysgu Cymraeg
Podlediad Hefyd - straeon am ddysgu Cymraeg
Claim Ownership

Podlediad Hefyd - straeon am ddysgu Cymraeg

Author: Richard Nosworthy

Subscribed: 25Played: 355
Share

Description

Podlediad am fywydau'r bobl anhygoel sy'n dysgu, neu wedi dysgu, yr iaith Gymraeg.

A podcast about the amazing people who are learning, or have learnt, the Welsh language.

Cyflwynydd/presenter: Richard Nosworthy
38 Episodes
Reverse
Mae dysgu ar-lein yn normal heddiw, ond roedd pethau'n wahanol iawn yn y 90au!   Roedd Suw Charman-Anderson ymhlith y bobl gyntaf i greu gwefan dysgu Cymraeg – Clwb Malu Cachu.   Aeth hi ymlaen i weithio i’r cylchgrawn Melody Maker, ac ar ôl cyfnod yn America dechreuodd hi ddysgu Cymraeg eto.   Heddiw mae hi dal yn creu adnoddau Cymraeg ar y we o’i chartref yn Reading yn Lloegr.   Recordiwyd ein sgwrs yn Chwefror 2026. *** Gwefan dysgu Cymraeg Suw - Ymestyn Dilynwch Suw ar Bluesky a LinkedIn *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd, rhannwch gyda ffrindiau, a gadewch sgôr (rating) ac adolygiad... > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts Dilynwch fi ar Mastodon - cyfryngau cymdeithasol rhydd ac agored.  *** Eisiau cymorth cyfathrebu? Rwy'n cefnogi sefydliadau nid-er-elw, gyda hyfforddiant, cynnwys a chyngor strategol. 
Ein gwesteion y tro yma ydy Rhys a Connor Davis - dau frawd anhygoel o Ohio yn yr Unol Daleithiau. Maen nhw wedi dysgu Cymraeg er mwyn siarad gyda’u Mam-gu, sy’n dod o Gymru! Cyfrif Tiktok Rhys Cyfrif Instagram Rhys Recordiwyd ein sgwrs yn Ebrill 2026. *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd, rhannwch gyda ffrindiau, a gadewch sgôr (rating) ac adolygiad... > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts Dilynwch fi ar Mastodon - cyfryngau cymdeithasol rhydd ac agored.  *** Eisiau cymorth cyfathrebu? Rwy'n cefnogi sefydliadau nid-er-elw, gyda hyfforddiant, cynnwys a chyngor strategol.   
G'day...a chroeso i gyfres newydd o'r pod! Y gwestai cyntaf yn y gyfres ydy Andy Bell, adnabyddus fel 'llais Awstralia' ar BBC Cymru a chyflwynydd podlediad 'Rhaglen Cymru.  Yn ein sgwrs, mae Andy yn esbonio sut wnaeth rhaglenni teledu a radio ei ysbrydoli i ddysgu Cymraeg fel bachgen yn Lloegr. Mae e'n rhannu ei brofiadau fel dysgwr ym Mhrifysgol Abertawe a defnyddio'r Gymraeg yn Canberra, a beth sydd wedi ei helpu i ddod yn rhugl. *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd, rhannwch gyda ffrindiau, a gadewch sgôr (rating) ac adolygiad... > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts Dilynwch fi ar Mastodon - cyfryngau cymdeithasol rhydd ac agored.  *** Eisiau cymorth cyfathrebu? Rwy'n cefnogi sefydliadau nid-er-elw, gyda hyfforddiant, cynnwys a chyngor strategol.   
Cyfle arall i glywed sgwrs gyda Geordan Burress, o Ohio yn yr Unol Daleithiau. Dechreuodd hi ddysgu Cymraeg ar ôl darganfod yr iaith trwy gerddoriaeth Gruff Rhys. Yn y sgwrs mae Geordan yn esbonio sut mae hi wedi dysgu Cymraeg ar lein, a rhannu ei phrofiadau ar daith i Gymru. Cyhoeddwyd y pennod yma yn wreiddiol yn 2021. *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd, rhannwch gyda ffrindiau, a gadewch sgôr (rating) ac adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts Dilynwch fi ar Mastodon - cyfryngau cymdeithasol rhydd ac agored.  *** Eisiau cymorth cyfathrebu? Rwy'n cefnogi sefydliadau nid-er-elw, gyda hyfforddiant, cynnwys a chyngor strategol.   
Cyfle arall i glywed fy sgwrs gyda'r 'Doctor Cymraeg' - Stephen Rule. Athro Cymraeg ydy Stephen, mae e’n dod o ardal Wrecsam, ac erbyn hyn, mae dros cant mil o ddilynwyr gyda fe ar y cyfryngau cymdeithasol! Ond sut wnaeth y Doctor Cymraeg ei hun ddysgu'r iaith? Ar un adeg, doedd e ddim yn ddigon hyderus i siarad Cymraeg tu fas i’r ysgol. Felly dyma'r stori am sut wnaeth e fagu cymaint o hyder... Cyhoeddwyd y pennod yma yn wreiddiol yn 2021. *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Hysbyseb: Darganfyddwch y cymorth cyfathrebu dwi'n ei gynnig i elusennau a'r sector cyhoeddus. Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd, rhannwch gyda ffrindiau, a gadewch sgôr (rating) ac adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts Dilynwch fi ar Mastodon - cyfryngau cymdeithasol rhydd ac agored.   
loading
Comments