Clera
Claim Ownership

Clera

Author: Clera

Subscribed: 23Played: 901
Share

Description

Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)
121 Episodes
Reverse
Clera Medi 2026

Clera Medi 2026

2026-09-2901:50:36

croeso i bennod mis Medi lle mae llwch llantwd yn dal i fod yn ein gwalltiau! Cawn sgwrs ddifyr a swmpus gyda Phrifardd y Gadair, Emyr Lewis ac fe gawn glywed eitem a recordiwyd yn nhrafodaeth flynyddol Cymdeithas Ceredigion am y cyfansoddiadau a'r beirniadaethau, gydag Emyr Davies a phrifardd y Goron, Martin Huws. cawn hefyd orffwysgerdd gan fardd y Mis, Radio Cymru, Hammad Rind. Hyn oll, ynghyd â llinell gynganeddol ddamweiniol y mis a mwy!
Clera Awst 2026

Clera Awst 2026

2026-08-0901:02:46

Croeso i bennod fyw o Clera yn y Babell Lên gyda'n gwesteion arbennig, sef Enfys Hatcher ac Endaf Griffiths. Gyda digon o drafod, barddoni, cerddi, gemau a giamocs.
Clera Gorffennaf 2026

Clera Gorffennaf 2026

2026-07-2201:36:40

Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad Clera. Dyma hi'n gynnar ar eich cyfer gan y daw pennod mis Awst yn fyw o'r Babell Lên yn ddigon buan wedi'r Brifwyl. Yn y bennod hon cawn gwmni'r Prifardd a'r cyn-fardd cenedlaethol Ifor ap Glyn, yr Archdderwydd Mererid a'r Prifardd Tudur Dylan, yn ogystal â gorffwysgerdd gan un o feirdd ardal Y Garreg Las, Steffan Phillips. Hyn oll a mwy!
Clera Mehefin 2026

Clera Mehefin 2026

2026-06-3001:25:26

Croeso i bennod mis Mehefin o bodlediad barddol hynaf Cymru! Mae'r bennod hon yn un sydd â blas o'r Garreg Las iddi! Cawn brofi rhywfaint ar ddathliadau 850 mlwyddiant Eisteddfod Yr Arglwydd Rhys a gynhaliwyd yn 1176 yng Nghastell Aberteifi, ac fe gawn hefyd gyfle i gofio yng nghwmni'r Prifardd idris Reynolds am y diweddar brifardd, Eirwyn George, a roddod le blaenllaw i fro Eisteddfod y Garreg Las yn ei ganu ac yng ngeithgarwch ei fywyd.
Clera Mai 2026

Clera Mai 2026

2026-05-2601:38:50

Hawddamor, glwysgor glasgoed! Croeso i bennod mis Mai o bodlediad barddol hynaf y Gymraeg. Y mis hwn cawn sgwrs am ddylanwad beirdd fel Dic Jones ar boblogrwydd y gynghanedd heddiw. Cawn hefyd orffwysgerdd hyfryd gan Nanw Maelor. A hefyd fe glywn ni wrth y tri sydd wedi eu dewis yng nghategori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn, sef Carwyn Eckley, Jo Heyde a Mererid Hopwood. Hyn oll, y Delicysi gan Dylan, Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a llawer mwy!
loading
Comments