DiscoverSiarad Siop efo Mari a Meilir
Siarad Siop efo Mari a Meilir
Claim Ownership

Siarad Siop efo Mari a Meilir

Author: Mari Beard and Meilir Rhys Williams

Subscribed: 17Played: 2,138
Share

Description

Podlediad sgyrsiol arobryn || Award-winning, light entertainment podcast. British Podcast Award winner 2023

143 Episodes
Reverse
Gofynnwch a chwi a gewch - ma hi'n bennod swmpus arall yr wythnos hon wrth i ni drafod holl ddigwyddiadau'r wythnos, gan gynnwys gwobrau'r VMAs, cerddoriaeth newydd Taylor Swift ac achos y Cornell 7. Dewch i mewn i'r siop am sgwrs!Rhybudd Cynnwys: Mae'r bennod hon yn cynnwys trafodaeth am drais.
Mae'r Hydref wedi cyrraedd ac mae Mari'n swp sâl - ond dydi hynny ddim yn ei rhwystro rhag agor y Siop efo Meilir yr wythnos hon. Mae dyletswydd ganddynt i drafod a gwyntyllu gossip yr wythnos. O burner account honedig Channing Tatum, canslo taith Misteeq i gynhyrchiad newydd yr RSC o As You Like It. Gwnewch baned a swatiwch, mae'r Siop ar agor!
Rhag-rybudd: roedd Mari a Meilir yn teimlo'n siaradus IAWN yr wythnos hon felly mae hon yn bennod hirach fyth na'r arfer. Ond yr ôll ddigwyddodd dros yr wythnos ddiwethaf, gallwch chi ddeall pam. O daith ddadleuol Ed Sheeran, drama ym mhlaid R€form Cymru i lwyddiant hanesyddol Matthew Rhys yn ngwobrau yr Emmy's - mae yna gymaint i'w drafod. Felly strap in, folks - dewch i mewn i'r siop!
Mae yna lwyth o bethau wedi digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos yma. O ymddiswyddiad Tom Jones o The Voice, P!nk yn beirniadu Macklemore a thrafferthion sioe gerdd Burlesque - mae'r silffoedd yn llawn! Felly dewch i mewn i'r siop i wrando ar y clebran. Mae Mari a Meilir yn barod wrth y cownter!
Wedi'r holl newyddion trist am golli arwyr yr wythnos yma, mae Mari a Meilir yn falch o ddod nol i'r siop i gael het atgofion am Dolly Parton, Tim Curry ac i glywed am holl ddigwyddiadau'r wythnos gan gynnwys Gŵyl Llanuwchllyn ac enwebiadau BAFTA Cymru. Mae'r tywydd wedi troi felly swatiwch ar y soffa efo paned a pwyswch play.
loading
Comments