DiscoverHanes Mawr Cymru
Hanes Mawr Cymru
Claim Ownership

Hanes Mawr Cymru

Author: BBC Radio Cymru

Subscribed: 13Played: 89
Share

Description

Mae hanes Cymru yn llawn pobl ryfeddol a chymeriadau mawr. Dewch ar daith hwyliog i'w cyfarfod!

Pwy oedd Owain Glyndŵr a Merched Beca? Pryd cafodd glo ei ddarganfod? Pam ein bod yn siarad Cymraeg o gwbl? Llinos Mai sy’n ein tywys drwy’r cyfan.

Dewch i gyfarfod y dihirod, arwyr a’r bobl gyffredin wnaeth ffurfio cenedl.

The history of Wales is full of amazing stories and big characters! Join Llinos Mai on a fun filled journey to discover the history that formed a nation.

Awdur: Llinos Mai
Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams
Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions)
Dylunio: Hefin Dumbrill

19 Episodes
Reverse
Dewi Sant

Dewi Sant

2026-02-2312:08

Llinos Mai sy'n cyflwyno Hanes Mawr Cymru, podlediad hanes i blant 9-12 oed. Yn y bennod yma, mae'n dweud hanes ein nawddsant, Dewi Sant.Awdur: Llinos Mai Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence Golygydd sgript: Rhys ap Trefor Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions)
Llinos Mai sy'n dod â hanes Cymru yn fyw trwy gomedi a chân. Yn y bennod hon, rydyn ni'n dysgu popeth am y dyn a ddyfeisiodd Yr Urdd - Syr Ifan ab Owen Edwards.
Alfred Russel Wallace

Alfred Russel Wallace

2026-02-0913:45

Llinos Mai sy'n dod â hanes Cymru yn fyw trwy gomedi a chân. Gadewch i ni fynd ar antur gyda'r arloeswr, naturiaethwr, gwyddonydd ac anthropolegwr o Frynbuga, Alfred Russell Wallace. Rydyn yn clywed am ei daith i’r Amazon i chwilio am rywogaethau newydd, darganfod broga sydd yn gallu hedfan yn Ynysfor Maleia, a sut y cafodd syniad pwysig iawn tra’n sâl yn y gwely. O ie, ac mae Darwin hefyd yn ymddangos! Cyflwynydd/ Awdur: Llinos Mai Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence Golygydd sgript: Rhys ap Trefor Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions Ltd).
Rydym wedi clywed llawer am Emmeline Pankhurst ond tybed faint sydd wedi clywed am swffragét Cymraeg o Lanwern ger Casnewydd, yr Arglwyddes Rhondda, Margaret Haig Thomas? Roedd hi'n swffragét blaenllaw, yn wraig fusnes byd-eang, yn olygydd, yn ymgyrchydd dros gydraddoldeb menywod, ac oedd ar fwrdd yr RMS Lusitania pan suddodd yn Mor yr Iwerydd gan oroesi trwy ddal 'mlaen gafael ar ddarn o bren yn y môr rhewllyd am oriau. Am fenyw!Llinos Mai sy'n dod â Hanes Cymru yn fyw trwy gomedi a chân.
Iolo Morgannwg

Iolo Morgannwg

2026-01-1911:48

Llinos Mai sy'n cyflwyno Hanes Mawr Cymru - y podlediad hanes i blant 9-12 oed. Pwy oedd Iolo Morgannwg a beth yw ei gysylltiad gyda'n diwylliant ni heddiw? Ac o ble ddaeth y cerddi cafodd eu "darganfod" gan Iolo? Gwrandewch i gael yr ateb!Awdur: Llinos Mai Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence Golygydd sgript: Rhys ap Trefor Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions)
loading
Comments