DiscoverYr Hen Iaith
Yr Hen Iaith
Claim Ownership

Yr Hen Iaith

Author: Yr Hen Iaith

Subscribed: 11Played: 513
Share

Description

Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.
40 Episodes
Reverse
Pennod 39 (cyfres 2, pennod 6) Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar y datblygiad technolegol hollbwysig hwnnw, y wasg argraffu. O gofio mai trafod hanes llenyddiaeth Gymraeg yw nod y podlediad hwn, dylid gweld dyfodiad y cyfrwng hwn fel carreg filltir ryfeddol o drawsffurfiannol o safbwynt cynhyrchu a lledaenu llenyddiaeth. Argraffwyd y llyfr Cymraeg cyntaf yn 1546, ac eglurwn y teitl-nad-yw’n deitl a roddir arno, sef Yn y Llyfr Hwn. Syr John Prys a oedd yn gyfrol am gynhyrchu’r gyfrol Gymraeg arloesol hon, ond nodwn ei fod yn gymeriad a oedd wedi helpu chwalu rhai o adnoddau llenyddol Cymru yn ogystal â bod yn gyfrifol am wthio’r iaith Gymraeg dros drothwy byd print. * * * The Welsh Language and the New World of Print This episode focuses on that all-important technological development, the printing press. Given that discussing the history of Welsh literature is this podcast’s aim, we should see the arrival of this medium as an incredibly transformative milestone as far as creating and disseminating literature is concerned. The first Welsh book was printed in 1546, and we explain the title-which-is-not-a-tile normally used in referring to it, Yn y Llyfr Hwn (‘In This Book’). Sir John Price was responsible for producing this landmark Welsh volume, but we note that he was a character who helped destroy some of Wales’ literary resources in addition to being responsible for pushing the Welsh language across the threshold of the world of print. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Graham C. G. Thomas, ‘From Manuscript to Print – II. Print’, yn R. Geraint Gruffydd (gol.), A Guide to Welsh Literature 1530-1700 (1997). - R. Geraint Gruffydd, ‘Yny lhyvyr hwnn (1546): the earliest Welsh printed book, Bulletin of the Board of Celtic Studies, 23.1 (Mai, 1969).
Pennod 38 - Alis Wen

Pennod 38 - Alis Wen

2024-04-1140:51

Pennod 38 (cyfres 2, pennod 5) Trafodwn fardd benywaidd hynod ddiddorol yn y benod hon – Alis ferch Gruffudd neu ‘Alis Wen’, a fu’n canu yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. Dynion oedd beirdd proffesiynol y cyfnod, ond dysgodd Alis grefft barddoni a chyfansoddodd nifer o gerddi gan ddefnyddio un o’r hen fesurau caeth, yr englyn unodl uniawn. Mae’n debyg iawn mai ei thad, Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan oedd ei hathro barddol, a gwelwn fod ei pherthynas ungryw â’i thad yn bwnc dan sylw yn rhai o’i cherddi. Dyma lais barddol benywaidd prin sy’n amlygu teimladau gonest Cymraes am gariad, priodas a diswyliadau cymdeithasol. Er bod cymdeithas Cymru’r cyfnod yn ormesol o batrïarchaidd, gwelwn Alis yn protestio ac yn dymuno dilyn ei chalon yn hytrach nag ufuddhau i’r disgwyliadau hynny. Yn ogystal â mynegi’i barn a’i theimladau mewn modd di-flewyn-ar-dafod, mae’n gwneud hynny mewn modd rhyfeddol o ffraeth hefyd. * * * Alis Wen In this episode we discuss a remarkably interesting female poet –Alis ferch Gruffudd or ‘Alis Wen’, who composed poetry in the sixteenth century. Men were the professional poets in the period, but Alis learned the poetic art and composed a number of verses using one of the old strict metres, the englyn unodl union. It’s very likely that her father, Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan, was her bardic teacher, and we see that her unique relationship with her father is given attention in some of her poems. Here is a rare female poetic voice from the period which manifests a Welsh woman’s honest feelings about love, marriage and society’s expectations. Although Welsh society in the period was oppressively patriarchal, we see Alis protesting and expressing a desire to follow her own heart instead of submitting to those expectations. In addition to expressing her opinion and her feelings in a forthright manner, she also does that in a wonderfully witty way. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith neu YouTube: http://www.youtube.com/@yrheniaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen Pellach / Further Reading: - Gwen Saunders Jones, Alis ferch Gruffudd a’r Traddodiad Barddol Benywaidd (2015). - Cathryn Charnell-White(gol.), Beirdd Ceridwen: Blodeugerdd Barddas o Ganu Menywod hyd tua 1800 (2005). - Katie Gramich a Catherine Brennan (goln.), Welsh Women’s Poetry 1460-2001: An Anthology (2003).
Pennod 37 (cyfres 2, pennod 4) Wedi trafod natur ac arwyddocâd cronicl mawr Elis Gruffydd yn y bennod ddiwethaf, edrychwn y tro hwn ar nifer o straeon a gynhwyswyd yn y gwaith sydd o ddiddordeb neilltuol. Mae’n bosibl edrych ar y straeon hyn fel chwedlau gwerin Cymraeg nas cofnodwyd mewn unman arall – hanesion a glywodd Elis ar lafar pan oedd yn blentyn yn sir y Fflint a/neu straeon a welodd mewn llawysgrifau Cymraeg sydd bellach wedi diflannu. Diolch i Elis mae gennym y fersiwn cynharach sydd goroesi o ddwy stori gysylltiedig sy’n darlunio hanes y bardd arallfydol Taliesin, naratifau llawn hwyl sydd hefyd yn dweud llawer am y modd y canfyddai’r Cymry rym barddoniaeth. Sylwn hefyd ar chwedl sy’n darlunio’r Brenin Arthur fel merchetwr hunanol eiddigeddus. Ac yntau’n filwr ffyddlon ym myddin Harri VIII, cofnododd Elis nifer o chwedlau’n ymwneud â ‘hanes’ y Tuduriaid hefyd, gan gynnwys un sy’n dyrchafu Harri VII fel ‘y mab darogan’ ar draul Owain Glyndŵr, stori gariad sy’n egluro tarddiad y teulu, ac un am y brudiwr o fardd Rhobin Ddu a broffwydodd am enedigaeth Harri Tudur. * * Old Welsh Legends and Tudor Propaganda: Elis Gruffydd ( Part 2) Having discussed the nature and significance of Elis Gruffydd’s long chronicle in the last episode, we look this time at a number of stories of special interest which were included in the work. It’s possible to look at these narratives as Welsh folktales which were note recorded anywhere else – stories which Elis Gruffydd heard recited orally when he was a child in Flintshire and/or tales which he saw in Welsh manuscripts which have since disappeared. Thanks to Elis Gruffydd we have the earliest version of two connected tales presenting the history of the otherworldly poet Taliesin, narratives full of fun which also say a great deal about the way in which the Welsh perceived the power of poetry. We also mention a tale which depicts King Arthur as a selfish and jealous womanizer. A loyal soldier in the army of Henry VIII, Elis recorded a number of tales having to do with the ‘history’ of the Tudors as well, including one which elevates Henry VII as y mab darogan (the prophesied savior of the Welsh) above Owain Glyndŵr, a love story which explains the origins of the family, and one about the prophet bard Rhobin Ddu who foresaw the birth of Henry Tudor. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith neu YouTube: http://www.youtube.com/@yrheniaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen Pellach / Further Reading: - Patrick K. Ford (gol.), Ystoria Taliesin (1992) - Jerry Hunter, ‘Taliesin at the Court of Henry VIII: Aspects of the writings of Elis Gruffydd’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (2003). - Jerry Hunter, ‘Poets, Angels and Devilish Spirits: Elis Gruffydd’s Meditations on Idolatry,’ yn Joseph F. Nagy a Leslie Ellen Jones (goln.), Heroic Poets and Poetic Heroes in Celtic Tradition (Dulyn, 2005).
Pennod 36 - (cyfres 2, pennod 3) Dyma gyflwyniad i awdur Cymraeg rhyfeddol, Elis Gruffydd, Cymro o sir y Fflint a fu’n filwr ym myddin Harri VIII ac yn aelod o warchodlu Calais. Yno ar y cyfandir yr ysgrifennodd ei gronicl hirfaith, hanes y byd o’r Creu Beiblaidd hyd at ddechrau’r 1550au, y testun naratifol hwyaf a ysgrifennwyd erioed yn yr iaith Gymraeg. A’i fywyd yn rhychwantu hanner cyntaf oes y Tuduriaid, mae’n bosibl disgrifio Elis Gruffydd gyda gwrthddywediad ymddangosiadol a dweud ei fod yn awdur cwbl unigryw a oedd yn gwbl nodweddiadol o’i oes. Gwelir yn ei waith ysgrifenedig y pontio rhwng yr hen oes a’r newydd, wrth iddo fynd ati’n uchelgeisiol i gofnodi cymaint o wybodaeth trwy gyfrwng ei famiaith. Gan fod Elis yn sôn am ei fywyd ei hun yn ystod rhan olaf ei groncil, a ellir dweud mai hwn yw’r hunangofiant cyntaf yn yr iaith Gymraeg? Holwn hefyd pam nad oes rhagor o Gymry heddiw sy’n gwybod am yr awdur Cymraeg diddorol hwn a’i waith rhyfeddol? Ai oherwydd y ffaith ei fod yn Gymro a oedd yn deyrngar iawn i’r Frenhiniaeth Seisnig a’i byddin? * * Elis Gruffydd (Part 1) This is an introduction to a remarkable Welsh author, Elis Gruffydd, a Welshman from Flintshire who served as a soldier in Henry VIII’s army and who was a member of the garrison of Calais. It was there on the continent that he wrote is long chronicle, a history of the world from the Biblical Creation to the start of the 1550s, the longest narrative text ever written in the Welsh language. His life spanned the first half of the age of the Tudors, and it’s possible to describe Elis Gruffydd with an apparent contradiction and say that he was a completely unique author who was completely characteristic of his age. One can see the bridging between the old age and the new in his written work, as he went at it ambitiously to record so much knowledge in his native language. Given the fact that Elis discusses his own life in the last part of his chronicle, can it be said that this is the first autobiography in the Welsh language? We also ask why more Welsh people today don’t know about this interesting Welsh writer and his remarkable work? Is it because he was a Welshman who was very loyal to the English monarchy and its army? Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith neu YouTube: http://www.youtube.com/@yrheniaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen Pellach / Further Reading: - Thomas Jones, `A Welsh Chronicler in Tudor England’, Cylchgrawn Hanes Cymru 1 (1960) - Prys Morgan, ‘Elis Gruffydd of Gronant - Tudor chronicler extraordinary’, Journal of the Flintshire Historical Society, 25 (1971-2) - Ceridwen Lloyd-Morgan, ‘Elis Gruffydd a Thraddodiad Cymraeg Calais a Chlwyd’, Cof Cenedl 11 (1996) - Jerry Hunter, Soffestri’r Saeson: Hanesyddiaeth a Hunaniaeth yn Oes y Tuduriaid (2000). - Jerry Hunter, ‘Taliesin at the Court of Henry VIII: Aspects of the writings of Elis Gruffydd’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (2003) - Jerry Hunter, ‘Poets, Angels and Devilish Spirits: Elis Gruffydd’s Meditations on Idolatry,’ yn Joseph F. Nagy a Leslie Ellen Jones (goln.), Heroic Poets and Poetic Heroes in Celtic Tradition (Dulyn, 2005).
Pennod 35 (cyfres 2, pennod 2) Roedd y bennod ddiwethaf yn amlinellu’r newidiadau mawr a ddaeth yn ystod oes y Tuduriaid. Mae’r bennod hon yn ystyried effaith rhai o’r newidiadau hyn ar y traddodiad barddol Cymraeg. Ond er gwaethaf yr holl drawsffurfiadau, gwelwn wrth graffu ar ychydig o ganu mawl o ddechrau’r cyfnod fod nifer o agweddau hynafol ar y traddodiad yn parhau wrth i’r traddodiad hwnnw esblygu ac amsugno elfennau newydd. Yn sicr, cyfuniad o’r hen a’r newydd yw’r hyn sy’n gwneud y cyfnod hwn yn hanes llenyddiaeth Gymraeg mor ddiddorol. Er bod pob rhan o Gymru wedi’i hail-lunio ar ffurf siroedd Seisnig yn ystod teyrnasiad Harri VIII, nodwn fod y gyfundrefn farddol Gymraeg yn parhau i feddwl am ddaearyddiaeth y wlad mewn dull Cymreig hynafol. Ac er gwaethaf awgrym rhai haneswyr Protestannaidd a awgrymai fod mynachdai Cymru’n sefydliadau pydredig erbyn iddynt gael eu diddymu gan Harri VIII, gwelwn fod rhai ohonynt wedi parhau’n ganolfannau diwylliannol a chrefyddol bywiog hyd at y diwedd. // The Persistence of an Old Tradition The last episode outlined the big changes which came during the ag of the Tudors. This episode considers the way in which these changes effected the Welsh bardic tradition. But despite of the transformations, we see while examining some praise poetry from the early part of the perioed that ancient aspects of the tradition continue while that tradition evolves and absorbs new elements. Indeed, a combination of the old and the new is what makes this period in the history of Welsh literature so interesting. Although every part of Wales was redrawn in the form of English shires during Henry VIII’s reign, we note that the Welsh bardic order continued to think of the country’s geography in ancient Welsh terms as well. And while some Protestant historians suggested that the monasteries of Wales were rotten institutions by the time that Henry VIII disestablished them, we see that some of them continued to be vibrant cultural and religious centres right up to the end. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith neu YouTube: http://www.youtube.com/@yrheniaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen Pellach / Further Reading: T. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (1926), cyfrol I a chyfrol II A. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Siôn Ceri (1996)
Dyma bennod gyntaf ail gyfres ‘Yr Hen Iaith’! Dechreuwn drafod llenyddiaeth Gymraeg yr unfed ganrif ar bymtheg trwy ystyried y datblygiadau hynny sy’n ein galluogi i wahaniaethu rhwng yr Oesau Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar. Un o’r pethau sydd mor ddiddorol am y cyfnod hwn yw’r modd y gwelwn feirdd ac awduron Cymraeg yn ymaddasu ac yn ymateb wrth i gymdeithas newid yn ystod hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg. Ni ellir gwadu bod datblygiadau gwleidyddol, technolegol, crefyddol ac addysgiadol wedi cyfuno i drawsffurfio cymdeithas Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Ond pwysleisiwn hefyd fod llenyddiaeth Gymraeg yn datblygu yn ei ffordd unigryw ei hun a bod cryfder traddodiad yn ein galluogi i weld y ‘cyfnodoli’ hwn mewn golau holl wahanol! * * * A New Period? This is the first episode in the second series of ‘Yr Hen Iaith’! We begin discussing the Welsh literature of the sixteenth century by considering those developments which allow use to differentiate between the Middle Ages and the Early Modern Period. One of the things which is so interesting about this period is seeing how Welsh poets and writers adapted and reacted as society changed during the first half of the sixteenth century. It can’t be denied that political, technological, religious and educational developments combined to transform society in Wales during this period. Yet we also stress that Welsh literature develops in its own unique way and note that the strength o Welsh tradition allows us to see this ‘periodization’ in a completely different light? Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith neu YouTube: http://www.youtube.com/@yrheniaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad.
Dyma edrych ymlaen at yr ail gyfres a fydd yn canolbwyntio ar lenyddiaeth y cyfnod modern cyntaf, gan ddechrau gyda’r trawsffurfiadau heriol a ddaeth yn oes y Tuduriaid. Introducing our second series Here’s looking forward to the second series, which will concentrate on literature of the early modern period, starting with challenging transformations that came in the Tudor period.
Dyma ni’n cloi’r gyfres gyntaf a chlywed bod llênbaras Richard Wyn Jones wedi lleihau erbyn. Hefyd, er ein bod ni wedi gorffen trafod yr Oesau Canol, mae Jerry Hunter yn pwysleisio bod hanes llenyddiaeth Gymraeg yn unigryw ac wedi datblygu mewn modd unigryw. / The End of the Middle Ages Here we reach the end of our first series and hear that Richard Wyn Jones's llên-barrassment has reduced a bit. Also, although we have finished discussing the Middle Ages, Jerry Hunter emphasizes that the history of Welsh literature is unique and has developed in a unique way. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith neu YouTube: http://www.youtube.com/@yrheniaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad.
Dyma bennod fyw arbennig a recordiwyd ym Mhabell Lên Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, a pha beth gwell i’w drafod ar y maes ym Moduan na hanes yr eisteddfodau cynharaf?! A yw’n bosib gweld ‘Gwledd Arbenning’ a gynhaliwyd gan yr Arglwydd Rhys yn Aberteifi yn 1176 fel yr eisteddfod gyntaf a gofnodwyd? Ac wrth drafod eisteddfod a gynhaliwyd tua chanol y 15fed ganrif, rydym ni’n archwilio’r cysylltiad rhwng yr eisteddfodau cynnar hyn a’r modd yr oedd dysg y beirdd yn cael ei thraddodi, ei diogelu a’i rheoli. Beth yw arwyddocâd y ‘gramadegau barddol’ sydd wedi goroesi mewn llawysgrifau, a beth yw hanes y term rhyfedd hwnnw, ‘dwned’, sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio testun o’r fath weithiau? Gyda golwg ar gyfres nesaf y podlediad – a fydd yn craffu ar lenyddiaeth Gymraeg yr 16fed ganrif – trafodwn yr eisteddfodau a gynhaliwyd yng Nghaerwys yn yn ystod y ganrif honno a’r ddogfen ddiddorol honno a gysylltir ag Eisteddfod gyntaf Caerwys, ‘Statud Gruffudd ap Cynan.’ Nodwn ei bod yn bosib weld yr holl reoleiddio hwn mewn dwy ffordd hollol wahanol – fel arwydd o gryfder, yn cadarnhau statws a phwysigrwydd yr hen gyfundrefn farddol Gymraeg, neu fel arwydd o wendid, gan fod ffynonellau nawdd yn crebachu yn ystod cyfnod y Tuduriaid. Ac beth fyddai beirdd Cymraeg yr 21fed ganrif yn meddwl am y modd y mae’r ‘Statud’ yn gwahardd beirdd rhag mynychu tafarndai?! * * * The Earliest Eisteddfodau and Bardic Education Here’s a special live episode recorded in the Literature tent of the Llŷn and Eifionydd National Eisteddfod, and what better subject to discuss on the Maes in Boduan than the earliest eisteddfodau? Is it possible to see the ‘Special Feast’ held by Lord Rhys in Cardigan in 1176 as the first eisteddfod ever recorded? And while discussing an eisteddfod held about the middle of the 15th century we consider the connection between these early eisteddfodau and the way in which bardic learning was transmitted, safeguarded and controlled. What is the significance of the ‘bardic grammars’ which have survived in manuscripts, and what is the history of that strange term, dwned, used sometimes to describe these kinds of texts? With an eye to the next series of the podcast – which will examine Welsh literature from the 16th century – we discuss the eisteddfodau held in Caerwys during that century and that interesting document, ‘The Statue of Gruffudd ap Cynan’, which is connected with the Caerwys Eisteddfodau. We note that it’s possible to see all of this regulation in two very different ways – as an indication of strength, confirming the status and importance of the old Welsh bardic order, or as a sign of weakness, as sources of patronage were diminishing during the age of the Tudors. And what would 21st-century Welsh poets think about the way in which the ‘Statute’ prohibits bards from frequenting taverns?! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith neu YouTube: http://www.youtube.com/@yrheniaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach / further reading: - Gwyn Thomas, Eisteddfodau Caerwys (1968). - G. J. Williams ac E. J. Jones (goln.), Gramadegau’r Penceirddiaid (1934).
Ar wahân i bennod arbennig a recordiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac a gaiff ei darlledu nesaf, hon yw pennod olaf cyfres gyntaf Yr Hen Iaith. Rydym ni’n gorffen trafod llenyddiaeth yr Oesoedd Canol a daw llawer o themâu’r gyfres ynghyd wrth i ni ystyried cywyddau brud yn gysylltiedig â ‘Rhyfel y Rhos’. Ystyr ‘brud’ yw proffwydodliaeth, a chawn gyfle i egluro bod gan yr hen Gymry ddull arbennig o weld cysylltiadau rhwng hanes, presennol a dyfodol y genedl Gymreig. Rhyfel rhwng teulu Lancaster a theulu York am goron Loegr ydoedd, a ddaeth i ben yn 1485 gyda buddugoliaeth y Cymro Harri Tudur a aeth yn Harri VII. Ond, er eu bod yn cefnogi ymgeiswyr go iawn am y goron, roedd y beirdd proffwydol hyn yn aml yn darlunio’r rhyfel mewn dull hynafol a dwfn fel ymrafael rhwng y Cymry a’u hen elynion y Saeson. Craffwn yn benodol o waith Dafydd Llwyd o Fathafarn, gan ystyried nifer o gywyddau sy’n dangos y modd y defnyddiodd draddodiadau hynafol i drafod gwleidyddiaeth gyfoes gan oedi dipyn ynghylch cerdd isaol o waedlyd, ei ymddiddan â’r Gigfran. Dyma gyfle i archwilio cysyniadau mawr, gan gynnwys ‘proto-genedlaetholdeb cyn-fodern’ a pharhâd traddodiad * ‘A Feast of Flesh all the way to the North’: Prophetic Poetry from the War(s) of the Roses Not counting a special episode recorded in the National Eisteddfod which will be broadcast next, this is the last episode in the first series of Yr Hen Iaith. We finish discussing literature from the Middle Ages and many themes from the series come together as we consider prophetic poems in the cywyddau form connected with the ‘Wars of the Roses’. The word for prophecy used in this context is brud, and we explain that Welsh in previous times had a special way of seeing connections between the history, the present and the future of the Welsh nation. They were wars between the families of York and Lancaster for the crown of England, and the struggles ended in 1485 with the victory that made Harri Tudur yn Henry VII. But, while they supported real contestants in the struggle, these prophetic poets often depicted the wards in a deeply archaic way as a conflict between the Welsh and their old enemies, the English. We look at some poetry by Dafydd Llwyd of Mathafarn, considering a number of cywyddau which show how he used ancient traditions to treat contemporary politics, lingering for a while over a wondrously bloody poem, his dialogue with the Raven. Here's an opportunity to examine some big concepts, including ‘pre-modern proto-nationalism’ and the continuation of tradition. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith neu YouTube: http://www.youtube.com/@yrheniaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach / further reading: - W. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn (1964). - Gruffydd Aled Williams, ‘The Bardic Road to Bosworth: A Welsh View of Henry Tudor’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (1986). - Jerry Hunter, Soffestri’r Saeson: Hanesyddiaeth a Hunaniaeth yn Oes y Tuduriaid (2000). - Aled Llion Jones, Darogan: Prophecy, Lament and Absent Heroes in Medieval Welsh Literature (2013).
Trafodwn un o feirdd Cymraeg pwsicaf y 15fed ganrif yn y bennod hon. Cafodd Guto’r Glyn oes hir, ac yntau wed’i eni ychydig o flynddoedd ar ôl diwedd gwrthryfel Glyndŵr ac wedi marw rai blynyddoedd ar ôl i Harri Tudur gipio coron Lloegr yn 1485. Roedd yn filwr proffesiynol ar adegau hefyd, ac agweddau ar ei waith yn dangos mor gyfarwydd ydoedd â rhyfela’r oes. Yn arbenigo ar y cywydd mawl, mae dros gant o’i gerddi wedi goroesi, ac mae’r corff mawr hwn o farddoniaeth yn ffynhonnell bwysig iawn er mwyn deall y traddodiad barddol ar ddiwedd y cyfnod canoloesol. Er na chanodd am serch a natur fel llawer o’r cywyddwyr eraill, roedd ei ganu mawl yn amrywio’n fawr ac yn gallu bod yn ddyfeisgar iawn. Disgrifia un o’i gerddi frwydr rhwng y beirdd a gwin yn llys eu noddwr, wrth iddyn nhw fynd ati am y gorau i wagio seleri’r uchelwr. Trafodwn ei farwnad ddwy i fardd arall, Llywelyn ab y Moel, a chywydd a ganodd Guto ddiwedd ei oes, cerdd ryfeddol sy’n dangos y bardd fel hen ŵr yn aflonyddu ar y mynaich a oedd yn gofalu amdano. * Wine, a Coffin and the End of Life In this episode we discuss one of the most important Welsh poets of the 15th century. Guto’r Glyn had a long life, being born a few years after the end of Owain Glyndŵr’s rebellion and dying some years after Henry Tudor won the crown of England. Guto was a professional soldier at times as well, and aspects of his work show how familiar he was with warfare of the age. Specializing in praise poetry cast in the cywydd metre, more than one hundred of his poems have survived, and this large body of work is an important source for understanding the bardic tradition in the later Middle Ages. Although he didn’t compose about love and nature as did many of the other cywydd poets, his praise poetry varies greatly and can be extremely inventive. One of his poems describes a battle between the bards and the wine of their patron, as they attempt to empty his cellars. We also discuss his powerful elegy to another poet, Llywelyn ab y Moel, and a cywydd which Guto sung towards the end of his life, a remarkable poem which portrays the bard as an old man troubling the monks caring for him. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: www.twitter.com/YrHenIaith neu YouTube: www.youtube.com/@yrheniaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach / further reading: - Guto’r Glyn.net: http://www.gutorglyn.net/gutorglyn/index/ - Saunders Lewis, ‘Gyrfa Filwrol Guto’r Glyn’, yn Ysgrifau Beirniadol IX (1976)
Er mwyn dyfnhau’n dealltwriaeth o waith ‘Beirdd yr Uchelwyr’ neu’r Cywyddwyr, edrychwn yn y bennod hon ar rai o’u hymrysonau. Wrth ystyried cywyddau yr oedd beirdd yn eu cyfnewid, rydym ni’n archwilio cysylltiadau posib rhwng y farddoniaeth hon a chyd-destunau cymdeithasol coll. Mae’n debyg bod beirdd yn ymrysona am wahanol resymau yn y cyfnod – er mwyn cystadlu am nawdd, er mwyn sefydlu neu gadarnhau enw da, er mwyn trafod agweddau ar eu crefft (a dadlau yn eu cylch!), ac er mwyn hwyl neu adloniant – ond mae’n rhaid i ni ddefnyddio’n dychymyg (ac ychydig o theory anthropolegol!) er mwyn deall y berthynas rhwng y cerddi rhyfeddol hyn a’r cyd-destun(au) a roes fod iddynt. Trafodwn gwestiwn hynod ddiddorol arall hefyd: pam bod bardd yn galw enwau mor hyll ar ei wrthwynebydd, a hynny mewn trafodaeth am bynciau dyrchafedig fel ffynhonnell yr awen a phriod waith y bardd? / ‘Shit-man!’: Bardic Debates of the Cywyddwyr In order to deepen our understanding of the work of ‘The Poets of the Uchelwyr’ or the Cywyddwyr, we look at their ymrysonau or bardic debates in this episode. While considering poems exchanged by bards, we examine possible connections between this poetry and lost social contexts. It’s likely that bards engaged in an ymryson for various reasons during the period in question – in order to compete for patronage, in order to establish or confirm one’s reputation, in order to discuss aspects of their art (and argue about them!), and for the sake of fun or entertainment – but we must use our imagination (and some anthropological theory!) in order to understand the relationship between this amazing poems and the context(s) which gave birth to them. We also discuss another very interesting question: why does a poet call his opponent such nasty names, and do so in a discussion about refined topics such as the source of poetic inspiration and the proper function of a poet? Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith neu YouTube: https://www.youtube.com/@yrheniaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach / further reading: - https://dafyddapgwilym.net/cym/3win.php - Dylan Foster Evans (ed.), Gwaith Rhys Goch Eryri (2007) - Ann Matonis, ‘Barddoneg a Rhai Ymrysonau Barddol Cymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar’, Ysgrifau Beirniadol 12 (1982). - Morgan Davies, “ ‘Aed i’r coed i dorri cof’: Dafydd ap Gwilym and the Metapoetics of Carpentry”, Cambridge Medieval Celtic Studies 30 (Gaeaf, 1995). - Jerry Hunter, “Cyd-destunoli Ymrysonau’r Cywyddwyr: Cipolwg ar yr ‘Ysbarddiad Barddol’)”, Dwned 3 (1997) a Bleddyn Huws ac A. Cynfael Lake (goln.), Genres y Cywydd (2016).
Mae’n hen bryd i ni ganolbwyntio ar lenyddiaeth gan Gymraes. Gan ein bod wedi dechrau trafod cyfnod y cywydd, rydym ni’n neidio ymlaen ryw ganrif ac ychydig o oes Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon er mwyn ystyried gwaith Gwerful Mechain, bardd benywaidd a oedd yn byw ac yn cyfansoddi yn ystod ail hanner y 15fed ganrif. Mae hefyd yn fodd i ni ystyried y modd y mae ‘canonau’ llenyddol Cymraeg – megis y gyfrol ddylanwadol honno, Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg – wedi anwybyddu gwaith gan feirdd benywaidd fel Gwerful Mechain. Nodwn hefyd fod Gwerful wedi’i chofio gan rai fel ‘bardd masweddus’ yn bennaf – ysbrydebu anffodus - gan fod ei barddoniaeth yn mynd i’r afael â rhychwant o themâu, gan gynnwys crefydd. Edrychwn yn weddol fanwl ar ei chywydd gorchestol i’r Iesu yn ei ddioddefaint. Cawn gyfle i ystyried barddoniaeth o fath gwahanol iawn ganddi, gwaith sy’n trafod rhyw o safbwynt y fenyw ac yn dychanu canu serch y beirdd gwrywaidd. * * * It’s about time that we concentrate on literature by a Welsh woman. Since we have started discussing the period of the cywydd, we leap forward from the time of Dafydd ap Gwilym a century and more in order to consider the work of Gwerful Mechain, a female poet who lived and composed during the second half of the 15th century. It is also a means of considering how Welsh literary ‘canon’s – like that influential volume, The Oxford Book of Welsh Verse – have ignored the work of female poets like Gwerful Mechain. We also note that Gwerful is remembered chiefly by some as an ‘indecent poet’ – an unfortunate stereotyping - because her work treats a range of themes, including religion. We look in some detail at her masterful cywydd describing the passion of Jesus. We have an opportunity to consider some very different poetry as well, work which discusses sex from a woman’s point of view and satirizes the love poetry of the male bards. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach / further reading: - Gwaith Gwerful Mechain ac eraill, gol. N. A. Howells (2001) - Welsh Womens’ Poetry 1450-2001, goln. Katie Gramich a Catherine Brennan (2003).
Dywed Richard Wyn Jones rywbeth yn y bennod hon sydd, er ei fod yn sylw ffwrdd-a-hi, efallai’n dweud mwy am afiaith y farddoniaeth hon na holl draethu’i gyd-gyflwynydd. Dywed y byddai wedi astudio’r Gymraeg yn y brifysgol yn hytrach na Gwleidyddiaeth Ryngwladol, o bosib, pe bai wedi cael darllen y cerddi hyn yr ysgol! Dyna ddigon i awgrymu bod y cerddi dychanol doniol hyn gan Ddafydd ap Gwilym yn eang iawn eu hapêl. Edrychwn ar hunan-ddychan Dafydd yn y cywyddau ‘Trafferth mewn Tafarn’ a ‘Merched Llanbadarn’. Trafodwn hefyd y gerdd a gafodd ei sensro am flynyddoedd lawer, sef ‘Cywydd y Gal’. Ac ystyriwn ei ymddiddan â’r ‘Brawd Llwyd’, cerdd ryfeddol sy’n cyflwyno fersiwn syfrdanol o fodern o Gristnogaeth ac sy’n amddiffyn yr union fath o ganu serch a gysylltir â Dafydd ap Gwilym. Mae hefyd yn gerdd sy’n tystio i’r ffaith bod celf o safon uchel yn gallu dylanwadu ar ymddygiad pobl. * * * Satire, Humor and the Power of Art (Dafydd ap Gwilym part 3) Richard Wyn Jones says something in this episode which, although it’s an off-the-cuff remark, perhaps says more about this poetry’s zest than all of his co-presenter’s discussion. He says that, if he had read these poems in school, he might’ve studied Welsh at university instead of International Politics! That’s enough to suggest that these humorous satirical poems by Dafydd ap Gwilym have a very wide appeal. We look at Dafydd’s self-satire in the cywyddau ‘Trouble in a Tavern’ and ‘Women of Llanbadarn’. We also discuss the poem which was censored for many years, ‘The Cywydd of the Penis’. And we consider his dialogue with the ‘Grey Friar’, an amazing poem which presents a surprisingly modern version of Christianity and which defends the exact type of love poetry connected with Dafydd ap Gwilym. It is also a poem which testifies as to the power of high-quality art to influence people’s behaviour. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach / further reading: - Dafydd ap Gwilym.net: https://dafyddapgwilym.net/index_cym.php - Morgan Davies, ‘Dafydd ap Gwilym and the friars: the poetics of antimendicancy’, Studia Celtica xxix (1995). - Huw M. Edwards, Dafydd ap Gwilym: Influences and Analogues (1996).
Rydym ni’n parhau i drafod ffresni rhyfeddol barddoniaeth Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon, gan bwysleisio bod newydd-deb ei gyfansoddiadau wedi’i greu gyda deunydd crai traddodiadol i ryw raddau. Ystyriwn ychydig o ganu serch Dafydd, gan ddechrau â’r cywydd ‘Morfudd fel yr Haul’, cyn craffu ar y modd y mae dwy thema fawr, serch a natur, wedi’u plethu ynghyd yn ei waith. Trafodwn yr ‘oed yn y coed’, a’r bardd yn cyfarfod â’i gariad ym myd natur yn bell o hualau cymdeithas (ac yn bell o ‘eiddig’ ar adegau, pan fydd ei gariad yn wraig briod!). Er nad ydym yn ateb y cwestiwn astrus hwn, rydym yn ei godi o leiaf: a oedd y cariadon sy’n ganolbwynt i gynifer o gywyddau Dafydd yn ferched go iawn? Cewch glywed am y llatai hefyd, y negesydd serch y mae’r bardd yn ei gomisynu. Love in the Woods: Dafydd ap Gwilym (2) We continue to discuss the amazing freshness of Dafydd ap Gwilym’s poetry in this episode, emphasizing that the newness of his compositions is created out of traditional material to a certain extent. We consider some of Dafydd’s love poetry, beginning with ‘Morfudd like the sun’, before examining the way in which two themes, love and nature, are woved together in his work. We talk about the ‘tryst in the woods’ (oed yn y coed), with the poet meeting his lover in the world of nature far from the confines of society (and far from eiddig, ‘the jealous one’, when his lover happens to be a married woman!). Although we don’t answer this difficult question, we at least ask it: were the lovers so central to so many of Dafydd’s poems real women? You’ll also here about the llatai, the love messenger the poet commissions. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach / further reading: - Thomas Parry, Gwaith Dafydd ap Gwilym - Dafydd ap Gwilym.net: https://dafyddapgwilym.net/index_cym.php - Huw Meirion Edwards, Dafydd ap Gwilym: Influences and Analogues
Dechreuwn drafod bardd Cymraeg enwocaf yr Oesau Canol y bennod hon – Dafydd ap Gwilym. Nid yw hanes ei fywyd yn gwbl sicr, ond tybir iddo gael ei eni tua 1315 a marw o gwmpas y flwyddyn 1350 – o bosibl oherwydd y Pla Du. Ond mae’n sicr bod oes a gwaith Dafydd yn cydfynd â dechrau oes y cywydddwyr – a chewch beth o hanes y cywydd yn y bennod hon hefyd felly. Mae gwaith Dafydd ap Gwilym yn arwyddo cyfnod newydd yn hanes llenyddiaeth Gymraeg mewn sawl ffordd, ac mae’n bosib awgrymu mai fo oedd ‘y dyn iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn’, yn fardd talentog a beiddgar ar adeg pan oedd cymdeithas yn newid a phosibliadau barddol yn ymagor o’r herwydd. Mae’n cael ei gofio’n bennaf heddiw am ei ganu search a natur (pwnc ein pennod nesaf!). Mae canrifoedd o Gymry wedi dotio at ei ffresni, ei newydd-deb, ei hiwmor a’i feiddgarwch ond nodwn ei fod hefyd yn fardd traddodiadol ar un wedd, yn canu mawl ac yn cyfansoddi cerddi crefyddol dwys yn ogystal â’r gwaith hwyliog a ffraeth a gysylltir â’i enw heddiw. Craffwn ar un o’i gywyddau, sef cân o fawl i dref Niwbwrch. Awgryma’r gerdd hon fod Dafydd yn claddu medd yn y dref – yn wir, ‘mynwent medd Môn’ oedd Niwrbwrch yn ei eiriau’i hun! – ac mae’r cywydd hwyliog hwn hefyd yn sôn am yfed gwin, cwrw a methyglyn (medd wedi’i drwytho â pherleisiau). Drinking in Niwbwrch: Dafydd ap Gwilym (part 1) We start discussing the most famous Welsh poet of the Middle Ages in this episode – Dafydd ap Gwilym. The details of his life are not certain, but it is thought that he was born about the year 1315 and died about 1350, perhaps because of the Black Death. But it is certain that Dafydd’s life and work are part and parcel of the beginning of the age of the cywyddwyr – and thus you’ll also get some of the history of the cywydd metre in this episode. Dafydd ap Gwilym’s work signifies a new period in the history of Welsh literature in several ways, and it’s possible to suggest that he was ‘the right man yn the right place at the right time’, a talented and adventurous poet at a time when society was changing and poetic possibilities were opening up as a result. He is remembered today mostly for his love and nature poetry (the subject of our next episode!). Centuries of Welsh people have taken to his freshness, ingenuity, his humour and his boldness, but we note that he was also a traditional poet in some ways, composing praise poetry and serious religious verse as well as the light and witty work which is connected with his name today. We look in detail at one of his poems, a song of praise to the town of Niwbwrch in Anglesey. This poem suggests that Dafydd ‘buried’ a lot of mead there – indeed, it was ‘Angelsey’s graveyard of mead’ according to his own words! – and this light-hearted cywydd also mentions drinking wine, beer and methgelyn (mead flavoured with herbs). Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach / further reading: - Thomas Parry, Gwaith Dafydd ap Gwilym - Dafydd ap Gwilym.net: https://dafyddapgwilym.net/index_cym.php - Huw Meirion Edwards, Dafydd ap Gwilym: Influences and Analogues
Er ein bod ni wedi crybwyll y ffaith bod cymdeithas y Gymru ganoloesol yn drywadl Gristnogol, ac er ein bod wedi nodi agweddau creffyddol ar rai testunau llenyddol wrth fynd heibio, yn y bennod hon rydym ni’n canolbwyntio ar lenyddiaeth Gristnogol – ac yn bennaf, gwahanol draddodiadau’n ymwneud â’r seintiau Cymreig. Nodwn fod y Cymry yn weddol unigryw yn eu hoffter o lunio ‘bonedd’ neu ‘achau’ seintiau (amlygiad canoloesol o’r awydd Cymreig oesol i holi i bwy mae rhywun yn perthyn, efallai!). Trafodwn draddodiad llenyddol storïol poblogaidd hefyd, ‘Bucheddau Seintiau’, cofiannau neu fywgraffiadau. Edrychwn ar Fuchedd Dewi a thrafod rôl llenyddiaeth yn y datblygiad a wnaeth ef yn nawddsant Cymru. Cewch glywed hanes cyffrous am forwyn o’r enwi Gwenfrewi wrth iddi arddel ‘strategaeth risg-uchel’ (chwedl Richard Wyn Jones) er mwyn ceisio dianc rhag y brenin cas, Caradog, a hanes y ffynnon sy’n dwyn enw’r santes honno. Cawn gyfle i ystyried canu mawl i’r seintiau, gan graffu ar un awdl sy’n dyrchafu Dewi uwchlaw holl seintiau eraill y byd. * * * Saints and Sinners Although we have mentioned the fact that the society of medieval Wales was thoroughly Christian, and although we have noted some religious aspects of some literary texts in passing, in this episode we concentrate on Christian literature – specifically, various traditions having to do with the Welsh saints. We note that the Welsh were fairly unique in their love of creating genealogies for the saints (a medieval manifestation of that ageless Welsh desire to ask to whom somebody is related, perhaps!). We discuss a popular narrative tradition as well, ‘Saints’ Lives’, biographies or the histories of their lives. We loo at the Life of St. David and discuss the role of literature in the development which made him the patron saint of Wales. You’ll hear the exciting story about a maiden named Gwenfrewi as she adopts a ‘high-risk strategy’ (according to Richard Wyn Jones) in order to try to escape from the nasty king, Caradog, and the history of the well which bears that saint’s name. We also consider the praise poetry to saints, and examine one awdl which elevates St. David above all of the other saints of the world. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach / further reading: - D. Simon Evans (gol.), Buchedd Dewi gyda Rhagymadrodd a Nodiadau (Caerdydd, 2005 [adargraffiad] ) - Patrick Sims-Williams (gol.), Buchedd Beuno: The Middle Welsh Life of St Beuno (Dulyn, 2018). - Gwefan prosiect ymchwil ‘Seintiau’: https://saints.wales/cartref/
Cawn drafod un o gerddi enwocaf yr iaith yn y bennod hon, cerdd sy’n gysylltiedig ag un o drobwyntiau mwyaf yn hanes Cymru. Wrth i ni ddadansoddi Marwnad Llywelyn, ystyriwn y modd y gall llenyddiaeth fod yn danwydd i ddychymyg cenedl, a’r dychymyg hwnnw’n allweddol i allu cenedl i oroesi ar ôl iddi gael ei goresgyn. Trafodwn yr hyn a wyddys am fywyd y dyn a gyfansoddodd y gerdd eiconig hon hefyd, sef Gruffydd ab yr Ynad Coch. Awgryma’r dystiolaeth mai bardd crefyddol ydoedd yn anad dim, ac a yw hynny’n fodd i ni gyd-destunoli llawer o ddelweddaeth y farwnad? A yw’n mynd yn rhy bell i ddweud bod Gruffydd yn cymharu Llywelyn â nab llai na Iesu Grist ei hun? Ac a yw gwedd ar hanes y bardd hwn – ffaith hanesyddol sy’n syfrdanol o wahanol i’r modd y mae llawer o Gymry yn canfod y berthynas rhwng Gruffydd a Llywelyn – hefyd yn fodd i egluro angerdd anghyffredin y gerdd bwerus hon? * * * In this episode we get to discuss one of the language’s most famous poems, a poem connected with one of the biggest turning points in the history of Wales. As we analyse Llywelyn’s Marwnad (‘Elegy’), we consider the way in which literature can be fuel for a nation’s imagination, that imagination being essential for a nation’s ability to survive after being conquered. We also discuss what is known about the life of the man who composed this iconic poem, namely Gruffydd ab yr Ynad Coch. Evidence suggests that he was a religious poet above all else, and is this a way for us to contextualize a great deal of the elegy’s imagery? Is it going too far to say that Gruffydd compares Llywelyn with none other than Jesu Christ himself? And is a part of this poet’s history – a historical fact which is shockingly different from the way in which many Welsh people perceive the relationship between Gruffydd an Llywelyn – also a way of explain this powerful poem’s extraordinary passion? Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach / further reading: - Rhian M. Andrews (gol.), Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Caerdydd, 1996)
Rydym ni’n parhau i drafod Beirdd y Tywysogion yn y bennod hon, gan ganolbwyntio ar farddoniaeth sy’n gysylltiedig ag Owain Gwynedd a’i deulu. Wedi’i enwi’n ‘gyfaill y pod’ gennym yn barod, mae’n rhaid cyfrif Owain Gwynedd (c.1100-1170) ymysg y tywysogion pwysicaf. Yn wir, ef oedd y cyntaf i ddefnyddio’r teitl ‘Tywysog Cymru’ ac ef hefyd oedd Brenin Gwynedd yn ei ddydd. Edrychwn ar waith Cynddelw Brydydd Mawr yn ‘dyrchafu’ neu’n ‘arwyrain’ Owain Gwynedd ac edrychwn hefyd ar farddoniaeth sy’n canolbwyntio ar rôl a hunaniaeth y bardd ei hun. Dychmygwn fod un ohonynt, Gwalchmai ap Meilyr Brydydd, yn strytio’n frolgar fel rapiwr ar lwyfan, a thrafod barddoniaeth gan fab Owain Gwynedd, Hywel, a’i ddiwedd alaethus ef. * * Lifting Up, Loving and Fighting: Poetry connected with Owain Gwynedd and his family We continue to discuss the Poets of the Princes in this episode, focusing on poetry connection with Owain Gwynedd and his family. Already named ‘a friend of the pod’ by us, Owain Gwynedd (c.1100-1170) must be counted as one of the most important of the princes. Indeed, he was the first to use the title ‘Prince of Wales’ and he was also King of Gwynedd in his day. We look at work by Cynddelw Brydydd Mawr (or ‘Cynddelw the Great Poet’) ‘lifting up’ or ‘elevating’ Owain Gwynedd and we also look at poetry which concentrates on the role and identity of the poet himself. We imagine one of them, Gwalchmai ap Meilyr, strutting boastfully like a rapper on stage, and we discuss poetry by Owain Gwynedd’s son, Hywel, and consider his tragic ending. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: https://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen Pellach/ Further Reading: - R. R. Davies, The Age of Conquest [:] Wales 1063-1425 (Rhydychen, 1987). - Nerys Ann Jones and Ann Parry Owen (goln..), Cyfres Beirdd y Tywysogion[:] Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr II (Caerdydd, 1995).
Dechreuwn drafod Beirdd y Tywysogion yn y bennod hon gan agor cil y drws ar gorff sylweddol o farddoniaeth Gymraeg hynod gain sydd hefyd yn hynod bwysig o safbwynt astudio hanes Cymru. Cawn gyfle i ystyried arwyddocâd Llawysgrif Hendregadredd (y llawysgrif sydd wedi diogelu’r rhan fwyaf o’r cerddi hyn), gwaith rhyfeddol o ddiddorol gan ei fod yn ffrwyth ymdrech i gofnodi barddoniaeth oes y Tywysogion yn fuan iawn ar ôl i’r cyfnod hwnnw yn hanes Cymru ddod i ben. Edrychwn ar waith y cyntaf o Feirdd y Tywysogion, Meilyr Brydydd, a’r arweinydd yr oedd yn canu mawl iddo, Gruffudd ap Cynan. Dyma gyfle i egluro termau ychydig hefyd (a oes gwahaniaeth rhwng ‘y Gogynfeirdd’ a ‘Beirdd y Tywysogion’, er enghraifft?). // Political Poetry: The Poets of the Princes We begin discussing the Poets of the Princes in this episode, opening the door to a considerable body of incredibly artful verse which is incredibly important when it comes to studying Welsh history. We will consider the significance of the Hendregadredd Manuscript (the manuscript which has preserved most of these poems), a wonderfully interesting work which because it is the result of an effort to record the poetry of the age of the Princes shortly after that period in the history of Wales came to an end. We look at the work of the first of the Poets of the Princes, Meilyr Brydydd, and the leader for whom he composed praise, Gruffudd ap Cynan. Here's an opportunity to clarify terminology a little as well (for example, is there a difference between the ‘Gogyfeirdd’, or ‘Rather Early Poets’, and ‘the Poets of the Princes’?) Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen Pellach / Further Reading: - Daniel Huws, ‘The Hendregadredd Manuscript’, yn Medieval Welsh Manuscripts (Cardiff & Aberystwyth, 2000), 193-226. - J.E. Caerwyn Williams a Peredur I. Lynch (goln.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
loading
Comments 
Download from Google Play
Download from App Store