Discover
Yr Hen Iaith
121 Episodes
Reverse
Dyma ni’n dathlu diwedd cyfres 3 Yr Hen Iaith a’r ffaith syfrdanol ein bod ni wedi cyrraedd 100 o benodau – yn y brif gyfres, heb gyfrif y gyfres lefel A – gyda phennod arbennig a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn y Babell Lên yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Edrychwn yn gyntaf ar ychydig o hanes yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a gweld bod nifer o themâu canolog y gyfres hon hefyd yn ganolog yn yr eisteddfodau hynny. Wrth grybwyll y bobl a oedd yn gweithio y tu ôl i’r llenni ac yn ymdrechu i broffesiynoli gweinyddiaeth y r Eiseddfod Genedlaethol, mae enw Beriah Gwynfe Evans yn codi, sy’n gyfle perffaith i fanteisio ar arbenigedd Richard Wyn Jones a chraffu ar gysylltiad difyr rhwng llenyddiaeth Gymraeg a gwleidyddiaeth Gymreig y cyfnod.
Mae Jerry Hunter yn mynd ati wedyn i geisio darbwyllo Richard y dylai ddarllen nofel Beriah Gwynfe Evans, Dafydd Dafis, sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol (1899). Er bod y prif gymeriad yn greadigaeth ffuglennol, mae neb llai na Tom Ellis a Lloyd George yn ymddangos fel cymeriadau yn y nofel ddychanol fywiog hon. Mae’r draofaeth yn arwain at ddiweglo’r gyfres, wrth i ni nodi bod sylfeini solet wedi’u gosod ar gyfer llenyddiaeth Gymraeg erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif.
*
The Eisteddfod, the Novel and Politics at Century’s End
Here we celebrate the end of series 3 of Yr Hen Iaith and the astounding fact that we’ve reached 100 episodes – in the main series, not counting the A-level series – with a special episode recorded in front of a live audience in the Literature Tent in this year’s National Eisteddfod.
First we look at some of the history of the National Eisteddfod at the end of the nineteenth century, and see that a number of the themes central in this series are also central in those eisteddfodau. While mentioning the people who worked backstage and strove to professionalize the administration of the Eisteddfod, Beriah Gwynfe Evans’ name crops up, creating a perfect opportunity to take advantage of Richard Wyn Jones’ specialty and examine an interesting connection between Welsh-language literature and Welsh politics in the period.
Jerry Hunter then tries to persuade Richard that he should read a novel by Beriah Gwynfe Evans, Dafydd Dafis, sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol [Dafydd Dafis, namely the Autobiography of a Candidate for Parliament] (1899). Although the main character is a fictional creation, famous figures such as Tom Ellis and Lloyd George appear ac characters in this lively satirical novel. The discussion leads us to wrap up the series as we note that solid foundations for Welsh-language literature were in place by the start of the twentieth century.
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru
Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes
Darllen Pellach/Further Reading:
- Richard Wyn Jones, Rhoi Cymru’n Gyntaf [:] Syniadaeth Wleidyddol Plaid Cymru, cyfrol 1 (Gwasg Prifysgol Cymru 2007).
- Beriah Gwynfe Evans, Bronwen (adargraffiad Melin Bapur).
- Beriah Gwynfe Evans, Llywelyn (adargraffiad Melin Bapur).
Rydym yn deall bod Melin Bapur yn bwriadu adargraffu Dafydd Dafis yn fuan hefyd.
Gan barhau â’n pwyslais diweddar ar lenyddiaeth y 1890au a’r cysylltiad rhwng llenorion Cymraeg y cyfnod hwnnw a gwleidyddiaeth genedlaetholgar, edrychwn ar Emrys ap Iwan y tro hwn.
Byddai T. Gwynn Jones ysgrifennu cofiant iddo yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, ac byddai’r llyfr hwnnw’n dylanwadu’n drwm ar y genhedlaeth nesaf o genedlaetholwyr Cymreig, ond canolbwyntiwn ar waith llenyddol Emrys ap Iwan. Ar ôl ystyried gyrfa gynnar y Cymro Ewropeaidd hwn a’r modd yr aeth ati i feirniadu’r ‘Dwymyn Seisnig’, craffwn yn fanylach ar ei gampwaith pryfoclyd, Breuddwyd Pabyd wrth ei Ewyllys. Dadleuwn y dylai Emrys ap Iwan gael ei ystyried fel un o arloeswyr ffuglen wyddonias neu ‘ddyfodolaidd’ yn yr iaith Gymraeg. Rhyfeddwn at ddarlun o Iwtopia Ryddfrydol sy’n troi ideoleg y Gymru ymneilltuol ar ei phen. Mae’n gwbl syfrdanol bod awdur a oedd yn weinidog ymneilltuol ddychmygu tranc Protestaniaeth yng Nghymru a goruwchafiaeth Catholigiaeth fel datblygiadau cadarnhaol!
*
A Nationalist’s Dream According to His Desire: Emrys ap Iwan
Continuing our recent emphasis on the literature of the 1890s and the connection between Welsh writers of the period and nationalistic politics, we look at Emrys ap Iwan this time.
T. Gwynn Jones would write a biography of him early in the 20th century, and that book would heavily influence the next generation of Welsh nationalists, but we concentrate on Emrys ap Iwan’s literary work. After considering the early career of this European Welshman and the way he went at it to criticism the ‘English Fever’, we look in more detail at his provocative masterpiece, Breuddwyd Pabyd wrth ei Ewyllys (‘A Catholic’s Dream According to His Will’). We argue that Emrys ap Iwan should be considered one of the pioneers of Welsh-language science or ‘futuristic’ fiction in the Welsh language. We are amazed by his portrayal of a Liberal Utopia which turns the ideology of Nonconformist Wales on its head. It is totally astounding that a writer who was a Nonconformist minister imagines the death of Protestantism in Wales and the triumph of Catholicism as positive developments!
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru
Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes
Darllen Pellach/Further Reading:
- Richard Wyn Jones, Rhoi Cymru’n Gyntaf [:] Syniadaeth Wleidyddol Plaid Cymru, cyfrol 1 (Gwasg Prifysgol Cym ru 2007), ac yn enwedig tt. 28-36.
- Dafydd Glyn Jones, (gol.), Emrys ap Iwan: Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys (Dalen Newydd, 2011).
-T. Gwynn Jones, Emrys ap Iwan: dysgawdr, llenor, cenedlgarwr (Cwmni’r Cyhoeddwyr Cymreig, 1912).
Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau poblogaidd sy’n hyrwyddo agenda genedlaetholgar.
A nodwn wrth fynd heibio fod y modd y mae’n trafod Protestaniaeth gynnar yn arddangos y math o wrth-Gatholigiaeth sy’n hollbresennol ar dudalennau gwasg gyfnodol Gymraeg y cyfnod, er bod gan driniaethau O. M. Edwards veneer boneddigaidd. Sylwn hefyd y modd y mae’n honni bod uchafbwyntiau llenyddol Cymraeg yn ganolog i bob ‘deffroad’ cenedlaethol Cymru. Wrth gofio’i waith diflino fel golygydd sawl cylchgrawn cenedlaethol, rhyfeddwn at hyd a lled ei weithgarwch, gan gyfeirio at gofiant gorchestol Hazel Walford Davies a nodi hefyd fod O. M. Edwards ei hun a rhai o’r bobl o’i gwmpas wedi dioddef oherwydd hyn oll.
*
Continuing with a theme which is shot through recent episodes, namely the interrelatedness of Welsh-language literary culture and the Cymru Fydd movement, this episode considers some of the early contributions made by Owen Morgan Edwards (1858-1920). A history tutor in Oxford, he was expected to produce substantial research in his special field, the history of the Renaissance and Protestant Reformation, but Welsh was the language of most of his writings and he used his knowledge am the history of Europe and Wales in order to fashion popular pieces which promote a nationalistic agenda.
We note in passing that the way in which he discusses early Protestantism displays the kind of anti-Catholicism which is omnipresent on the pages of the Welsh periodical press in the period, although O. M. Edwards’ treatments have a more polite veneer. We also take note of the way he maintained that Welsh literary highpoints were and are central to each of Wales’ national ‘awakenings’. While recalling his tireless work as the editor of several national periodicals, we are amazed by the breadth and depth of his activities, referring to Hazel Walford Davies’s masterful biography and also noting that O. M. Edwards himself and some of the people around him suffered because of all of this.
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru
Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes
Darllen Pellach/Further Reading:
- Hazel Walford Davies, Writers of Wales: O.M. Edwards (1988).
- Hazel Walford Davies, O.M.[:] Cofiant Syr Owen Morgan Edwards (2020).
Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth.
Nodwn fod JMJ yn ddarlithydd ifanc yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru (Prifysgol Bangor bellach) a bod ei yrfa yn dechrau tuedd sy’n parhau’n rhan o’r Adran Gymraeg honno, gyda’i staff yn pontio rhwng ymchwil academaidd ac ysgrifennu creadigol. Awn ati wedyn i drafod y modd y defnyddiai’r darlithydd ifanc hwnnw ei ddysg i wasanaethu’r genedl mewn modd ymarferol hefyd, ac yntau’n gadeirydd y pwyllgor a geisiai sefydlogi orgraff yr iaith Gymraeg. Gwelwn hefyd fod rhyddiaith academaidd JMJ yn bell o fod yn sych a’i fod yn bell o fod yn burydd iaith ystrydebol!
*
A Poet’s Utopia and a Scholar’s Criticism: John Morris-Jones
Contrasting sharply with the long-winded pryddestau of the ‘New Poets’ whom were discussed in the last episode, we begin this time with ‘Cymru Fydd’, the finely-wrought awdl by John Morris-Jones (1864-1929). But while stressing the elegance and economy of language which characterizes JMJ’s poems, we must pause once again and discuss the interwovenness of that nationalistic movement (Cymru Fydd) and Welsh literature in the 1890s. We find that this awdl strikes a utopian tone as well as presenting pointed criticism of capitalism.
We note that JMJ was a young lecturer in the University College of North Wales (now Bangor University) and that his career began a tendancy which continues to be part of that Welsh Department’s culture, with staff bridging between academic research and creative writing. We then turn to discuss the way in which this young lecturer used his learning to serve the nation in a practical way as chair of the committee which sought to standardize Welsh orthography. We also see that JMJ’s academic prose is far from being dry!
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru
Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes
Darllen Pellach/Further Reading:
- Allan James, John Morris-Jones (2011).
- Huw Walters, John Morris-Jones, 1864-1929: Llyfryddiaeth Anodiadol (1987).
- Richard Wyn Jones, Rhoi Cymru’n Gyntaf: Syniadaeth Wleidyddol Plaid Cymru, cyfrol 2 (yn ymddangos yn 2027). Caiff mudiad Cymru Fydd lawer o sylw yn y gyfrol hon.
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895.
Ystyriwn feirniadaeth afieithus Elphin wrth iddo fflangellu’r ‘Bardd Newydd’ a nodi bod ganddo bwyntiau difrifol iawn er gwaethaf ei ormodiaeth ddychanol. Cydymdeimlwn â dwy ochr y ddadl lenyddol hon ac awgrymwn ei bod yn fodd i bwyso a mesur cyflwr barddoniaeth Gymraeg ar ddiwedd y ganrif. Ac mae llawer o’r cwestiynau canolog yr un mor berthnasol wrth ystyried barddoniaeth Gymraeg heddiw (e.e., a yw’n bosibl bod ystyriaethau ffurfiol yn gorlywodraethu weithiau? Beth yw rôl dysg mewn cerdd? A.y.y.b.). Rydym ni’n diffinio’r ‘Bardd Newydd’ a ‘Rhamantiaeth’ wrth fynd heibio hefyd.
*
Elphin’s Whip: Poetry and Literary Criticism in the 1890s
We have fun in this episode while looking at a piece by ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) which was published in Y Geninen in 1895.
We consider Elphin’s gleeful criticism as he scourges the ‘Bardd Newydd’ (‘New Poet’) and note that he has very serious points despite his satirical excess. We sympathize with both sides of this literary debate and we suggest that it’s a way of assessing the state of Welsh poetry at the end of the century. And many of the central questions are just as relevant to those who consider Welsh poetry today (for example, is it possible that formal considerations sometimes dominate? What is the role of learning in a poem? And etc.). We also define the ‘New Poet’ and ‘Romanticism’ in passing.
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru
Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes
Darllen Pellach/Further Reading:
- Ann Rhian Hughes (gol.), Beirniad Llym Gynddeiriog: Ysgrifau a Cherddi Elphin (Dalen Newydd, 2026).
- Cewch ddarllen Y Geninen ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/browse/2354296,




