DiscoverGwreichion
Gwreichion
Claim Ownership

Gwreichion

Author: BBC Radio Cymru

Subscribed: 4Played: 74
Share

Description

Meibion Glyndŵr: Oes rhywun yn rhywle'n gwybod? Meibion Glyndŵr: Ioan Wyn Evans investigates a turbulent period in recent Welsh history.

6 Episodes
Reverse
Croesholi

Croesholi

2023-08-1737:16

Yn y bennod yma cawn hanes achos llys 1993, ble cafodd tri pherson eu cyhuddo o fod yn rhan o weithredoedd Meibion Glyndŵr. Fe glywn fwy hefyd am y Gwasanaethau Cudd. Beth yn union oedd ei ymwneud nhw â'r ymgyrch losgi, a pham fod cymaint o wybodaeth o'r cyfnod sy'n parhau yn ddirgelwch.
Yn y cysgodion

Yn y cysgodion

2023-08-0339:27

Wrth i’r ymgyrch barhau, roedd sïon am ymwneud y gwasanaethau cudd yn tyfu. Ond beth yn union wnaeth ddigwydd? Yn y bennod yma fe glywn am hanes ciosg Talysarn, ac ambell i ddamcaniaeth ryfeddol am bwy arall allai fod yn clustfeinio…
Yng ngwyneb y fflam

Yng ngwyneb y fflam

2023-07-2750:41

Perchnogion eiddo, gwleidyddion, newyddiadurwyr a mwy. Dyma brofiadau rhai o'r bobl ddaeth i gyswllt gyda gweithredoedd Meibion Glyndŵr. Erbyn canol y 1980au, roedd ymosodiadau ar draws Cymru a thu hwnt, gyda pherchnogion eiddo a gwleidyddion wedi’u targedu. Fe glywn hefyd gan ymladdwr tân fu’n dyst i berygl y dyfeisiadau ffrwydrol, ac am gymhelliant amrywiol posibl y sawl oedd yn gyfrifol.
Yn oriau mân y bore ar Ragfyr 13 1979, cafodd tanau eu cynnau yn fwriadol mewn dwy ardal wahanol o Gymru. Yn Llanrhian, Sir Benfro ac yn Nefyn a Llanbedrog ym Mhen Llŷn, roedd tai gwyliau wedi eu llosgi'n ulw. Dyma oedd cychwyn ymgyrch Meibion Glyndŵr-gweithredoedd fyddai’n parhau am dros ddegawd wedi hynny. Yn y gyfres yma mae’r newyddiadurwr Ioan Wyn Evans yn ail ymweld â’r hanes a’n cyfarfod â’r rheiny fu’n dyst i’r digwyddiadau. Wrth i’r ymosodiadau barhau, roedd pwysau cynyddol ar yr heddlu i ddod o hyd i atebion. Yn y bennod yma fe glywn gan unigolion gafodd eu cyhuddo o fod yn rhan o weithredoedd Meibion Glyndŵr.
Cynnau tân

Cynnau tân

2023-07-2035:40

Yn oriau mân y bore ar Ragfyr 13 1979, cafodd tanau eu cynnau yn fwriadol mewn dwy ardal wahanol o Gymru. Yn Llanrhian, Sir Benfro ac yn Nefyn a Llanbedrog ym Mhen Llyn, roedd tai gwyliau wedi eu llosgi'n ulw. Dyma oedd cychwyn ymgyrch Meibion Glyndŵr-gweithredoedd fyddai’n parhau am dros ddegawd wedi hynny. Yn y gyfres yma mae’r newyddiadurwr Ioan Wyn Evans yn ail ymweld â’r hanes a’n cyfarfod â’r rheiny fu’n dyst i’r digwyddiadau. Mae’r bennod yma’n cychwyn ar y noson aeafol honno ym 1979, wrth i Tony Pierce, ymladdwr tân lleol, dderbyn galwad ffôn annisgwyl...
Rhwng 1979 a 1993, cafodd cannoedd o danau eu cynnau yng Nghymru ac mewn mannau yn Lloegr yn enw Meibion Glyndŵr. Dim ond un person gafodd ei gyhuddo a'i ganfod yn euog o fod yn gysylltiedig â'r ymosodiadau. Mewn cyfres arbennig mae Ioan Wyn Evans yn ceisio darganfod atebion newydd i gwestiynau o un o gyfnodau mwyaf cythryblus hanes diweddar Cymru. Drwy lygaid diffoddwyr tân, gohebwyr, gwleidyddion ac unigolion gafodd eu targedu gan y gweithredoedd, cawn glywed am effaith pellgyrhaeddol y digwyddiadau a'r dirgelwch sy'n parhau.
Comments 
loading