Discover
Ar Y Soffa
Ar Y Soffa
Author: Golwg Cyf.
Subscribed: 3Played: 37Subscribe
Share
© Golwg Cyf.
Description
Dyma Golwg yn cyflwyno Ar Y Soffa, y podlediad sy’n trafod a dadansoddi yr hen a newydd yn sîn diwydiant ffilm a theledu Cymru. Podlediad sy’n cael ei gyflwyno gan Dr Kate Woodward, darlithydd o adran theatr, ffilm a theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Gwilym Dwyfor, colofnydd Ar Y Soffa yng nghylchgrawn Golwg.
16 Episodes
Reverse
Pa mor debyg ydy cyfres STAD â bywyd go iawn yng Nghaernarfon?Dyna un o’r pethau sydd ar feddwl Dyfan a Kate wrth drin a thrafod cyfres nos Sul ddiweddaraf S4C. Cwmni Golwg sy’n cynhyrchu Ar y Soffa - y podlediad sy’n trafod ac yn dadansoddi’r hen a’r newydd yn sîn ffilm a theledu Cymru.
Un arall o gyfresi trosedd S4C sydd dan y chwyddwydr y mis yma, sef Y Golau: Dŵr.Mae’n dilyn stori Caryl Hughes, y myfyriwr prifysgol sy’n astudio newyddiaduraeth, ac sydd nôl yn Llanemlyn ar drywydd stori am gronfa ddŵr yr ardal.Yn ôl Kate Woodward, mae yma gyswllt difyr Cymreig rhwng y gyfres â ffilm Yr Ymadawiad, cyfresi Pen Talar ac Under Salt Marsh, a hyd yn oed Pobol y Cwm yn ddiweddar... tybed beth yw hynny? Ac ydy’r gyfres yma’n llwyddo i blesio Kate a Gwilym? Gwrandwch ar bodlediad Ar y Soffa i glywed mwy.
Yn y bennod hon o Ar y Soffa, mae Kate Woodward a Gwilym Dwyfor yn trafod y gyfres BBC, The Guest.Mae'n ddrama bedair rhan seicolegol sy’n canolbwyntio ar berthynas beryglus rhwng Ria, glanhäwr ifanc, a’i chyflogwr cyfoethog, Fran. Sut mae pŵer, dosbarth a chyfrinachau tywyll yn cael eu trin yn y gyfres?Dyna sy'n mynd â sylw Kate a Gwilym y tro hwn.Cwmni Golwg sy’n cynhyrchu Ar y Soffa - y podlediad sy’n trafod ac yn dadansoddi’r hen a’r newydd yn sîn ffilm a theledu Cymru.
Yn y bennod hon o Ar y Soffa, mae Kate Woodward a Gwilym Dwyfor yn trafod y gyfres Hafiach.Wedi’i gosod yn y Rhyl a Phrestatyn, a'i thargedu at wylwyr 13 oed a thu hwnt.Mae’r gyfres yn dod â materion bywyd go iawn i’r sgrin gan gynnwys profiadau ffoaduriaid, trosedd, yr amgylchedd a heriau mewn perthnasoedd.Ond a yw 13 oed yn rhy ifanc i wylio’r gyfres?Beth yw barn Kate a Gwilym?Cwmni Golwg sy’n cynhyrchu Ar y Soffa – y podlediad sy’n trafod ac yn dadansoddi’r hen a’r newydd yn sîn ffilm a theledu Cymru.
Yn y bennod hon o Ar y Soffa, drama drosedd sy’n mynd â sylw Gwilym Dwyfor a Kate Woodward. Ond nid drama drosedd arferol yw Death Valley. Mae’r gyfres sydd wrthi’n cael ei darlledu ar BBC 1 yn ddrama gomedi sydd wedi’i gosod a’i ffilmio yng Nghymru. Cwmni Golwg sy’n cynhyrchu Ar y Soffa – y podlediad sy’n trafod ac yn dadansoddi’r hen a’r newydd yn sîn ffilm a theledu Cymru.
Yn y bennod hon, mae Gwilym Dwyfor a Kate Woodward yn trafod Oed Yr Addewid. Ffilm Gymraeg gan Emlyn Williams a ryddhawyd yn 2001.Dyma Golwg yn cyflwyno Ar Y Soffa, y podlediad sy’n trafod a dadansoddi'r hen a newydd yn sîn diwydiant ffilm a theledu Cymru.Podlediad sy’n cael ei gyflwyno gan Dr Kate Woodward, darlithydd o adran theatr, ffilm a theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Gwilym Dwyfor, colofnydd Ar Y Soffa yng nghylchgrawn Golwg.
Mae’r ddrama garchar gafaelgar, Bariau, wedi dychwelyd ar gyfer ail gyfres gan fynd â ni nol tu ôl i ddrysau Carchar y Glannau.Ar ôl digwyddiadau ysgytwol y gyfres gyntaf, mae’r tensiynau o fewn waliau'r carchar yn uwch nag erioed.Yn yr ail gyfres, mae’r frwydr am reolaeth yn fwy ffyrnig nag erioed, a does neb yn ddiogel rhag penderfyniadau eu gorffennol. Bu Gwilym Dwyfor a Dr Kate Woodward yn ddigon lwcus i gael gwylio’r ddwy bennod gyntaf yn gynnar. Felly beth yw eu barn nhw am yr ail gyfres hyd yn hyn?
Yn y bennod hon, mae Dr Kate Woodward a Gwilym Dwyfor yn edrych ar Out There, y ddrama chwe rhan ar ITV, sydd wedi'i lleoli yng Nghymru.Gyda Martin Clunes yn chwarae’r brif ran, mae'r ddrama ddwys hon yn dilyn brwydr anobeithiol tad i achub ei fab rhag crafangau gang cyffuriau.Ymunwch â Kate a Gwilym wrth iddyn nhw drafod beth oedd yn gweithio a beth oedd ddim.
Yn y bennod hon, mae Gwilym Dwyfor a Kate Wooward yn trafod y ddrama newydd sydd ar y gweill ar S4C, Ar y Ffin. Mae Ar y Ffin yn dilyn yr Ynad profiadol, Claire Lewis Jones, yn darganfod gwead o weithgareddau troseddol all ei rhoi hi a’i theulu mewn peryg. Wrth i’r gwirionedd gael ei ddatgelu a chanlyniadau ddod i’r amlwg, rhaid i Claire wynebu ei rhagfarnau a’i phenderfyniadau ei hun. Daw’r ffin rhwng beth sy’n gywir ac anghywir yn annelwig, wrth i reddf famol Claire wrthdaro gyda’i hymrwymiad i gynnal y gwirionedd. Felly, beth yw barn Gwilym a Kate ar ôl gwylio’r ddwy bennod gyntaf? Bydd y bennod gyntaf o Ar y Ffin i’w gweld ar S4C am naw o’r gloch nos Sul (29ain o Ragfyr), gyda’r holl benodau eraill ar gael ar Clic neu BBC iPlayer yn dilyn darlledu’r bennod gyntaf.
Mae Gwilym Dwyfor a Kate Woodward wedi bod yn trafod y ddrama drosedd newydd ar S4C, Cleddau.Wedi’i seilio yn Sir Benfro, mae’r ddrama yn dilyn llofruddiaeth nyrs sy’n dod fel sioc enfawr i gymuned drefol fach.O’r actio i’r teitlau agoriadol, mi fyddan nhw’n trafod y cyfan...
Yn y bennod hon, mae Gwilym Dwyfor a Kate Woodward yn trafod y ddrama newydd gan BBC One, Lost Boys and Fairies.Wedi'i seilio yng Nghaerdydd, mae'r ddrama ddwyieithog yn dilyn Gabriel ac Andy, ar eu taith i fabwysiadu eu plentyn cyntaf.Dyma Golwg yn cyflwyno Ar Y Soffa, y podlediad sy’n trafod a dadansoddi yr hen a newydd yn sîn diwydiant ffilm a theledu Cymru.Podlediad sy’n cael ei gyflwyno gan Dr Kate Woodward, darlithydd o adran theatr, ffilm a theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Gwilym Dwyfor, colofnydd Ar Y Soffa yng nghylchgrawn Golwg. Mwy: https://golwg.360.cymru/celfyddydau/sgrin
Mae Gwilym Dwyfor a Kate Woodward yn trafod y gyfres newydd chwe rhan S4C. Drama sy’n camu i fyd bregus iechyd meddwl a galar, Creisis.Dyma Golwg yn cyflwyno Ar Y Soffa, y podlediad sy’n trafod a dadansoddi yr hen a newydd yn sîn diwydiant ffilm a theledu Cymru.Podlediad sy’n cael ei gyflwyno gan Dr Kate Woodward, darlithydd o adran theatr, ffilm a theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Gwilym Dwyfor, colofnydd Ar Y Soffa yng nghylchgrawn Golwg. Mwy: https://golwg.360.cymru/celfyddydau/sgrin
Ym mhedwaredd bennod Ar y Soffa, mae Gwilym Dwyfor a Kate Woodward yn edrych yn ôl ar ffilm nostalgic, y comedi tywyll sy'n dathlu chwarter canrif ers cael ei ryddhau - Twin Town.Dyma Golwg yn cyflwyno Ar Y Soffa, y podlediad sy’n trafod a dadansoddi yr hen a newydd yn sîn diwydiant ffilm a theledu Cymru.Podlediad sy’n cael ei gyflwyno gan Dr Kate Woodward, darlithydd o adran theatr, ffilm a theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Gwilym Dwyfor, colofnydd Ar Y Soffa yng nghylchgrawn Golwg. Mwy: https://golwg.360.cymru/celfyddydau/sgrin
Mae Gwilym Dwyfor a Kate Woodward yn trafod y ddrama wefreiddiol newydd, sef début cyfarwyddol Michael Sheen, The Way.
Yn ail bennod Ar y Soffa mae Gwilym Dwyfor a Kate Woodward yn croesawu gwestai arbennig - Ciron Gruffydd, awdur y gyfres ddrama newydd, Bariau.
Ym mhennod gyntaf Ar Y Soffa, mae Dr Kate Woodward a Gwilym Dwyfor yn trafod y ddrama swreal a chomedi tywyll newydd gan S4C, Pren Ar Y Bryn.

















