Discover
Beti a'i Phobol
667 Episodes
Reverse
Beti George yn holi Arwel Hughes neu Arwel MAD fel mae rhai yn ei adnabod, sy'n adnabyddus fel DJ ac fel dyn busnes llwyddiannus ar Ynys Môn. Sefydlodd gwmni sain a goleuo MAD dros 25 mlynedd yn ôl, ac ers hynny mae wedi bod yn rhan allweddol o drefnu a chefnogi digwyddiadau mawr ledled Cymru. Mae wedi gweithio gyda nifer fawr o artistiaid Cymraeg ac adnabyddus dros y blynyddoedd, ac mae hefyd yn rhedeg busnes ymgymerwyr angladdau teuluol sydd wedi bodoli ers pedair cenhedlaeth.Fe ddechreuodd Arwel ei yrfa fel DJ yn 13eg mlwydd oed, yn cynnal disgos yn lleol, a bu'n gweithio yn ddiweddarach yr Octagon ym Mangor am 12eg mlynedd.Fo hefyd sy’n gyfrifol am atgyfodi gŵyl Llychlynwyr Amlwch sy’n denu cannoedd o bobl o bob cwr o Brydain i gymryd rhan mewn ‘re-enactments’.Mae wedi mabwysiadu dau o blant ac yn briod gydag Elaine. Cawn hanesion difyr ei fywyd ac mae'n dewis 4 cân yn cynnwys Elin Fflur – Ar Lan y Môr - y gân sy'n mynd ag Arwel yn syth yn ôl i'w blentyndod yn Amlwch.
Yn ôl yn 1995, bu Nic Parry yn westai ar raglen Beti a'i Phobol. Bellach, 31 mlynedd yn ddiweddarach, gwahoddodd Beti George ef yn ôl i gadw cwmni iddi yn Eisteddfod y Garreg Las, Llantwd, 2026, a hynny o flaen cynulleidfa ym Mhabell y Cymdeithasau.
Cyfreithiwr ifanc oedd Nic bryd hynny, yn sylwebu ar gemau pêl-droed ac yn dad ifanc. Ers hynny, mae wedi dringo i frig ei broffesiwn gan ddod yn Farnwr, tra'n parhau â'i waith fel un o sylwebwyr pêl-droed mwyaf adnabyddus Cymru. Mae hefyd yn gwasanaethu fel Llywydd Llys yr Eisteddfod ac, erbyn hyn, yn daid balch.
Yn ystod y sgwrs mae cyfle i edrych yn ôl dros daith ryfeddol o dri degawd, gan olrhain y datblygiadau yn ei yrfa a'i fywyd personol ers ei ymddangosiad cyntaf ar y rhaglen.
Hefyd, mae'n trafod yr heriau sy'n wynebu carchardai ym Mhrydain, cyflwr y system gyfreithiol, a'i bryder cynyddol am effaith newid hinsawdd.
Gyda dros 40 mlynedd o brofiad ym myd newyddiaduraeth, does neb sy’n adnabod gwleidyddiaeth Cymru yn well na Vaughan Roderick, ac ef yw gwestai Beti a’i Phobol yr wythnos hon.
Mae Vaughan yn gyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru a Radio Wales, lle mae’n cyflwyno rhaglenni gwleidyddol ar fore Sul, ac mae hefyd yn cyd-gyflwyno’r podlediad poblogaidd Gwleidydda ochr yn ochr â Richard Wyn Jones.Yn y rhaglen, cawn glywed hanesion difyr ei fywyd a’i fagwraeth. Yn fachgen ifanc, roedd yn cadw ieir ac yn eu henwi ar ôl gwleidyddion y dydd.Datblygodd y diddordeb mewn gwleidyddiaeth a hanes yn ifanc iawn. Mae’n cofio etholiad cyffredinol 1964 yn fyw, er mai tua saith oed yn unig oedd pan gafodd ei gynnal. Yn y blynyddoedd wedyn, bu’n dilyn rhai o isetholiadau mawr y 1960au, gan fynd gyda’i dad i gyfarfodydd ac ymgyrchoedd mewn ardaloedd fel Gorllewin y Rhondda a Chaerffili.
Yn yr ysgol, roedd Hanes a Hanes Cymru ymhlith ei hoff bynciau.Mae Vaughan hefyd yn trafod ei gyfnod ym Mhrifysgol Bangor, pan oedd y mudiad cenedlaetholgar a diwylliannol Cymraeg yn arbennig o gryf.
Wedi gadael y brifysgol, bu’n gweithio yn Sain Ffagan yn archifo sgyrsiau llafar cyn dechrau ei yrfa ddarlledu gyda gorsaf radio fasnachol CBC. Yn ddiweddarach, ymunodd â’r BBC, lle sefydlodd ei hun fel un o newyddiadurwyr gwleidyddol amlycaf Cymru.
Mae’n mynegi pryder am ddyfodol newyddiaduraeth, gan dynnu sylw at y cyflogau isel sy’n wynebu llawer sy’n dechrau yn y proffesiwn heddiw. Mae hefyd yn edrych yn ôl ar ddiwylliant ystafelloedd newyddion hanner canrif yn ôl, gan gynnwys y diwylliant yfed a oedd yn rhan amlwg o’r byd hwnnw ar y pryd.
Fel rhan o’r sgwrs, mae Vaughan yn dewis pedair cân sydd yn arbennig iddo, gan gynnwys Emyn Groeswen a Rhywle Draw Dros yr Enfys gan Tara Bethan.
Hedydd Hughes yw gwestai Beti George. Mae hi wedi ymroi i ddiogelu traddodiadau ac etifeddiaeth ardal Sir Benfro. Mae wedi sefydlu gwefan sydd yn casglu cyfraniadau am hanes ardal Abergwaun ac yn mynd o gwmpas ysgolion yn cyflwyno chwedlau ac arferion yr ardal. Bu hefyd yn gweithio ar brosiect oedd yn canolbwyntio ar gyfoeth ieithyddol y Sir. Mae hi'n fam i 3 o blant ac yn byw yn Pen-caer, ac yn cadw bythynnod gwyliau. Mae hi wedi dewis caneuon gan fandiau o'r ardal ac mae aelodau o'i theulu yn chwarae ynddynt sef Lafant, Bwca a Y Dhogie Band. Cawn hefyd glywed ei thafodiaith hyfryd wrth iddi ddarllen darn bach o Bwll Deri.
Mae Dr Simon Brooks yr ysgolhaig, awdur a hanesydd o Gymru a anwyd yn 1971, sy’n gweithio fel Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Abertawe ac yn arbenigo mewn meysydd fel hanes, theori wleidyddol, aml-ddiwylliannedd a pholisi cyhoeddus. Mae wedi cyfrannu’n sylweddol at fywyd deallusol Cymru fel cyn-olygydd cylchgrawn Barn ac fel awdur llyfrau dylanwadol megis Pam na fu Cymru a Hanes Cymry. Yn ogystal â’i waith academaidd, mae hefyd wedi gwasanaethu fel cynghorydd i Lywodraeth Cymru ar faterion sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg a pholisi cymunedol, gan ddylanwadu ar ddatblygu polisïau cyhoeddus yng Nghymru. Simon wnaeth hefyd sefydlu y cylchgrawn Tu Chwith. Fe fydd yn cyhoeddi llyfr arall yn yr Hydref o'r enw Lloegr Gymraeg, ac mae'n trafod y llyfr yma gyda Beti George. "Mae'n bosib y bydd AI yn achub y Gymraeg" mae hefyd yn sôn am newid hinsawdd a'r heriau ddaw gyda hynny, ac yn trafod sut y gwnaeth y capeli Cymraeg achub yr iaith yn eu dydd.Mae hefyd yn wynebu heriau gyda'i iechyd, ac yn trafod ei ddiagnosis o Myeloma a'r driniaeth ryfeddol mae e'n ei derbyn ym Manceinion, a'r gofal arbennig mae o wedi ac yn ei dderbyn yn Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd. Mae'n hoff o gefnogi tîm pêl-droed Porthmadog, ac yn dad i 2 o blant.Un o'r dewisiadau cerddorol yw Haf yn Llundain gan Treiglad Pherffaith, gan iddo gael ei eni yn Llundain ac mae'r gan yn sôn am fywyd yn Llundain yn yr 80au - ac mae'n falch o fod yn Gymro o'r brifddinas.



