Discover
Beti a'i Phobol
675 Episodes
Reverse
Mae Cai Tomos yn artist, dawnsiwr, seicotherapydd a hwylusydd creadigol sydd yn byw yng Nghanolbarth Cymru. Mae ei waith yn cyfuno dawns, symudiad, iechyd, therapi a'r celfyddydau creadigol, gyda ffocws arbennig ar lesiant, iachâd a chymuned.Fe dreuliodd y rhan fwyaf o’i blentyndod yn Nolgellau, ond fe fu’n byw yn Llundain am gyfnod oherwydd gwaith ei Dad – Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.Hyfforddodd fel dawnsiwr proffesiynol ac mae wedi gweithio'n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bu'n aelod o gwmni dawns Earthfall ac mae wedi datblygu gyrfa sy'n pontio'r byd celfyddydol a'r sector iechyd. Yn ogystal â'i waith fel artist, mae Cai yn seicotherapydd cofrestredig, ac yn gweithio gyda phobl sy'n wynebu heriau fel trawma, galar, salwch a straen. Mae Cai yn defnyddio celf, symudiad a dychymyg fel rhan o'r broses therapi. Mae hefyd wedi gweithio fel artist preswyl yn Ysbyty Chelsea and Westminster yn Llundain, gan ddod â dawns a gweithgareddau creadigol at gleifion ar wardiau canser, HIV a phobl hŷn.Mae’n byw yng Nghanolbarth Cymru.
Mae Ioan Huws yn byw yn Rotterdam ers wyth mlynedd, lle mae’n gweithio fel rheolwr llwyfan gyda Cherddorfa Philharmonig Rotterdam. Trwy ei waith, mae wedi cael y cyfle i deithio’r byd ac i weithio ochr yn ochr â rhai o gerddorion gorau’r byd.Roedd ei dad yn heddwas, a gan fod y teulu’n symud yn rheolaidd oherwydd y gwaith, treuliodd Ioan ei blentyndod mewn sawl rhan o Ogledd Cymru, gan gynnwys Yr Wyddgrug, Bae Colwyn a Chaernarfon. Mae’r profiadau hynny wedi cyfrannu at ei ddealltwriaeth ddofn o wahanol gymunedau yng Nghymru a’r ffurfiau amrywiol ar fywyd Cymreig yno.Bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth - yn astudio drama.Cyn newid cyfeiriad yn llwyr yn ei yrfa, roedd Ioan yn athro Cymraeg a Drama yn Ysgol Alun, yn Yr Wyddgrug.
Mae Mei Gwynedd yn un o enwau mwyaf dylanwadol cerddoriaeth Gymraeg cyfoes. Yn wreiddiol o Waunfawr ger Caernarfon, mae wedi bod wrth galon y sîn gerddoriaeth ers dros dri degawd, gan chwarae rhan allweddol mewn bandiau eiconig fel Beganifs, Big Leaves, Sibrydion a The Peth. Mae hefyd wedi gwneud gyrfa lwyddiannus o'i angerdd dros gerddoriaeth, gan weithio ar draws sawl agwedd ar y diwydiant.Heddiw, mae'n byw yng Nghaerdydd lle mae'n gweithio fel cerddor, cyfansoddwr a chynhyrchydd llawrydd, yn ogystal â rhedeg stiwdio a label recordiau. Mae hefyd yn wyneb cyfarwydd i lawer drwy ei brosiect poblogaidd Band Tŷ Potas, sy'n boblogaidd iawn yn yr Eisteddfod. Mae hefyd yn brysur gyda cherddorfa ukulele yng Nghaerdydd, a sefydlwyd yn wreiddiol i annog dysgwyr Cymraeg. Yn 7 oed, fe benderfynodd Mei ei fod eisiau bod yn ganwr pop, ac fe sefydlodd ei fand cyntaf yn 11eg mlwydd oed.
Mae wedi rhannu llwyfan gyda Shaking Stevens a'r grŵp Oasis, ac mae'n rhannu'r hanesion yma ac yn dewis 4 cân sydd wedi gadael argraff arno.
 hithau'n benblwydd S4C yn 44 oed, mae Beti George yn holi Geraint Evans - Prif Weithredwr S4C.Fel mab i weinidog, fe symudodd y teulu sawl gwaith, a bu'n byw yn Three Crosses ger Abertawe, cyn symud i Drawsfynydd, Llanbrynmair ac yna i Bontarddulais.Aeth i Brifysgol Aberystwyth i astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ac yna i astudio Newyddiaduraeth yng Nghaerdydd.Bu'n gweithio fel newyddiadurwr gyda ITV Cymru am 25 mlynedd, cyn ymuno hefo S4C yn 2019 fel Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes.Mae'n Brif Weithredwr S4C ers mis Ionawr 2025.Mae Beti a Geraint yn trafod ei fagwraeth, sefyllfa bresennol S4C, a gobeithion Geraint ar gyfer dyfodol y Sianel a darlledu yng Nghymru.
Mari Grug James yw un o wynebau mwyaf adnabyddus S4C, mae hi'n gyflwynydd ar Heno a Prynhawn Da. Wedi’i magu ym Mynachlog-ddu, dechreuodd ei gyrfa gyda rhaglenni plant cyn symud ymlaen i newyddion a chyflwyno. Ers cael diagnosis o ganser y fron yn 2023, mae hi wedi codi ymwybyddiaeth yn ddiflino drwy ei gwaith darlledu, ei rôl fel llysgennad Ymchwil Canser Cymru, a’r podlediad llwyddiannus 1 mewn 2, a enillodd nifer o wobrau.Yn 2026, cafodd ei hanrhydeddu drwy gael ei dewis yn Llywydd Gŵyl yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd Mari Grug yn ymuno â ni i sôn am ei gyrfa, ei hymgyrchu, a’i thaith bersonol ryfeddol.Mae hi hefyd yn dewis 4 cân yn cynnwys O Magnum Mysterium · Côrdydd.
Fe recordiwyd y rhaglen yma cyn ei llwyddiant yn BAFTA Cymru 2026, Mari oedd cyflwynydd gorau'r flwyddyn am y rhaglen Mari Grug: Un Dydd Ar y Tro, sy'n olrhain y cyfnod wedi iddi gael gwybod ei bod â chanser am yr eildro.



