DiscoverY Podlediad Dysgu Cymraeg
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Claim Ownership

Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Author: BBC Radio Cymru

Subscribed: 261Played: 12,725
Share

Description

Casgliad o bodlediadau ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd. Sgyrsiau diddorol o bob math fydd yn gymorth ac yn gwmni i chi ar eich taith fel siaradwr Cymraeg newydd. A collection of podcasts for Welsh learners.

383 Episodes
Reverse
‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Stephen Rule, sydd yn cael ei adnabod hefyd fel 'Y Doctor Cymraeg'. Mae'r podlediad wedi ei recordio ym Maes D yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ym mis Awst eleni.
Mae Pigion yn bodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Awst yng nghwmni Aled Hughes a Robin Owain Jones.Geirfa ar gyfer y bennodClip 1 Gwefreiddiol: Thrilling Achlysur: Occasion Sbio ffordd arall o ddweud Edrych Dymchwel: To demolish Llwybrau: Paths Y mwyafrif: The majorityClip 2 Pennod:Episode Amserol: Timely Ymateb:To respond Enghraifft:Example Osgoi:To avoid Trwy gyfrwng:Through the medium of Cofrestr:RegisterClip 3 Addoldy: Place of worship Wedi deillio:Has emanated Cefnogwyr: Fans Cwrs Blasu:Taster course Atyniad:Attraction Amlwg:Obvious Gwerthfawrogi:To appreciate Ymroddiad:Commitment Diwylliant:CultureClip 4 Anrhydedd:Honour Cael fy nghydnabod:Being acknowledged Wedi wynebu:Has faced Tlodi:Poverty Led-led:Throughout Llwyth:Loads Heriau: Challenges Braint;Privilege Amgylchedd:EnvironmentClip 5 Genod:Girls Lled broffesiynol:Semi professional Ysbrydoledig;Inspiring Ymarfer corff:Physical exercise Newyddiaduraeth: Journalism Angerddol:Passionate Cyfuno:To combine Cydbwysedd:Balance Strach:A nuisance Clip 6 Ychwanegol:Extra Anhygoel o rugl:Incredibly fluent Sylwi:To notice Cyfnewid:Exchange Anffurfiol:Informal Cyfathrebu:Communicating Profiad:Experience Gwirfoddoli: To volunteer Bythgofiadwy:UnforgettableClip 7 Cyfnod clo: Lockdown Cyfres:Series Prif gymeriad:Main character Datblygu:To developClip 8 Grŵp trafod: Discussion group Poblogaidd:Popular Heb bwysau: Without pressure Dathliadol:Celebratory Uniaethu â:To identify with Egni: Energy Cyfleoedd: Opportunities Darganfod:To discover
Sgwrsio: Hans Obma

Sgwrsio: Hans Obma

2025-08-1338:39

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Hans Obma sydd yn actor ac yn ysgrifennwr.Mae Hans yn enedigol o Wisconsin yng ngogledd yr Unol Daleithiau a bellach yn byw yn Los Angeles.Fe benderfynodd ddysgu Cymraeg ar ôl darganfod bod ei fam-gu yn byw ym Mrynmawr, Blaenau Gwent cyn symud i America ar ôl yr Ail Ryfel Byd.Treuliodd haf 2023 yn dysgu'r iaith ar gwrs ym Mhrifysgol Caerdydd, ac wedi iddo ddychwelyd i America mae'n parhau i ddysgu trwy ddilyn cwrs ar-lein.
Mae Pigion yn bodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru a BBC Sounds yn ystod mis Gorffennaf yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennodClip 1Dyfarnwr: Referee Dwys: Intense Anghytuno: Disagreeing Ddim yn ei anterth: Not at his peak Doniol tu hwnt: Extremely amusing Dychwelyd: To return Yn selog; Regularly Arddegau hwyr: Late teens Galw llinellau: Calling the lines Lled-broffesiynol: Semi professional Yr hadyn wedi ei blannu: The seed was plantedClip 2Cyfres: Series Y gwirionedd: The truth Darlledu:To broadcast Cyfnod;A period of time Tonnau: Waves Llenwi’r bwlch: Filling the gap Trosleisiau: Voiceovers Cynnal gyrfa: To maintain a careerClip 3Mas ffordd arall o ddweud Allan Y cyfnod clo: Lockdown Breintiedig: Privileged Iechyd meddwl: Mental health Pridd: Soil Sad: Stable Corfforol: Physical Ysbrydoli: To inspire Grym natur: The force of nature Creadigol: CreativeClip 4Ymweliad: A visit Antur: Adventure Morladron: Pirates Prydferth: Beautiful Gwyddeleg: Irish language Cernyweg: Cornish language Blodeuog: Flowery Gad: BattleClip 5Cyfrolau: Volumes Canrif: Century Trysorau: Treasures Penaethiaid: Chiefs Cywydd y Drindod teitl cerdd enwog Gymraeg Barddoni: To compose poetry Sbio ffordd arall o ddweud Edrych Clip 6Cydbwyso: To balance Cefnogaeth: Support Safle; Position Yn sobor o bwysig dyna sut mae rhai yn dweud Yn bwysig iawn Uchelgais: Ambition Gwireddu breuddwyd: Fulfiling a dream Petai ffordd arall o ddweud Tasai Clip 7Telynores: Harpist Offeryn: InstrumentClip 8Cyfansoddi: To compose Ymateb: To respond Bodoli: To exist Cyfrannu: Contributing
Sgwrsio: Fleur de Lys

Sgwrsio: Fleur de Lys

2025-07-0940:20

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.Mae'r bennod yma yn bennod arbennig ac wedi ei recordio yng Ngŵyl Tafwyl yn ystod mis Mehefin eleni gydag aelodau'r band Fleur de Lys.
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru a BBC Sounds yn ystod mis Mehefin yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennodCLIP 1 Gemau’r Gymanwlad: Commonwealth Games O ‘mynadd…: Oh, can’t be bothered Fatha ffordd arall o ddweud FelCLIP 2 Gwlad Groeg: Greece Y Llyfrgell Genedlaethol: The National Library Chwilfrydig iawn: Very curious Wedi ei argraffu: Printed Diwylliant: CultureCLIP 3 Llwyth: Loads Bronnau: Breasts Breuddwyd: A dream Cael eu gwthio: Being pushed Beth yn y byd?: What on earth? Dwys: Intensive Ymdrochi: Immersion Adrodd a llefaru y ddau yn golygu: To recite CLIP 4 Creu: To create Tirlun: Landscape Deunyddiau: Materials Diwydiannol: Industrial Haearn: Iron Cefndir: Background Celfyddydol :Artistic Mewn unrhyw fodd: In any way Cymysgedd: A mixture Llithro: To slipCLIP 5 Hyderus: Confident Ychwanegol: Additional Pwyleg: Polish Iaith Arwyddion Prydain: British Sign Language Diolchgar: Grateful Darganfod: To discover Cyfathrebu: To communicateCLIP 6 Tu fas ffordd arall o ddweud Tu allan Mam-gu a Tad-cu ffordd arall o ddweud Nain a TaidCLIP 7 Ar yr awyr: On air Cyfeilio: To accompany (on piano) Crefyddol: Religious Dychmygwch!: Imagine!CLIP 8 Campfa : Gym Parhau: To continue Cymuned: Community Men(y)wod ffordd arall o ddweud : Merched Rwtsh: Nonsense Trawsnewid: To transform Annog: To encourage
Sgwrsio: Israel Lai

Sgwrsio: Israel Lai

2025-06-1152:02

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gydag Israel Lai, sydd wedi ei eni a'i fagu yn Hong Kong ac wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dwy flynedd. Cerddor a chyfansoddwr ydy Israel sydd yn byw erbyn hyn ym Manceinion. Cantoneg ydy ei famiaith ac mae yn gallu siarad 20 o ieithoedd eraill sydd yn cynnwys y Gymraeg!
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Mai yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.CLIP 1 Arbenigol: SpecialistSerennu: To starSefydlodd: EstablishedCynrychioli: To representCamp: A sportCLIP 2Llywydd: Presiding OfficerGweinidog Cefn Gwlad: Minister for Rural Affairs Cythryblus: Troublesome Difa moch daear: Culling badgersOriel Gyhoeddus: Public GalleryGwrthododd: RefusedYr hawl: The right Pleidlais: VoteYn drech na: Mightier thanCLIP 3Diflino: UntiringCyfrifoldeb: ResponsibilitySant Ioan: St John’sClod: Praise Elusennau: CharitiesCLIP 4Styfnig: StubbornAndros o ffeind ffordd arall o ddweud Caredig iawnFfyddlon: Faithful Am gyfnodau hir: For long periodsBlew: FurCysgod: ShadowYmennydd: BrainCLIP 5Cyflwyniad: IntroductionPennaeth: HeadDi-Gymraeg: Non Welsh speakingCrefyddol: ReligiousLlithrig: SlipperyCLIP 6Llonyddwch neu foddhad: Tranquillity or contentmentDinbych y Pysgod: TenbyLlwyfan: StageTirlun: LandscapeHafan: HavenAtgofion: MemoriesMam-gu a Tad-cu ffordd arall o ddweud Nain a TaidBalch: ProudCLIP 7 Cyfarwydd â: Familiar with Dilyniant: Following Y gweddill: The rest Gŵr bonheddig: Gentleman Ennill: To earn Addo: To promiseCLIP 8 Efeilliaid: TwinsParhau llwyddiant: Continuing the successCyfryngau cymdeithasol: Social mediaYsbrydoliaeth: InspirationCipio gwobr: To win the prizeCyfoethogi: To enrichElwa: To gainLlysgennad: AmbassadorHyrwyddo: To promoteCyfrwng: Medium
Sgwrsio: Grace Jones

Sgwrsio: Grace Jones

2025-05-1438:28

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda Grace Jones, sydd wedi ei geni a'i mhagu yn Seland Newydd ac wedi dysgu Cymraeg, a hynny ar ôl cyfarfod ei gŵr Llion pan aeth ef allan i weithio fel cneifiwr i Seland Newydd. Fe dreuliodd Grace gyfnod yng Nghymru pan ddaeth hi a Llion i fyw yn Nebo, ger Llanrwst am gyfnod. Tydy Grace ddim wedi cael unrhyw wersi Cymraeg ffurfiol - mae hi wedi dysgu'r iaith drwy fyw a gweithio ymhlith Cymry pan oedd yng Nghymru ac wrth sgwrsio a gwrando ar Llion yn siarad. Bellach mae Grace a Llion wedi dychwelyd yn ôl i fyw i Seland Newydd, mae nhw newydd brynu fferm ac yn rieni balch i fab bach sydd yn ddwy oed.
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Ebrill yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennodCLIP 1 Cynyddu: To increase Sionc: Lively Drygionus: Naughty Ambyti nhw ffordd arall o ddweud Amdanyn nhw Efeilliaid: Twins Yn gwmws: Exactly Cerrig milltir: MilestonesCLIP 2 Penillion: Verses Gorchymyn: Command Bwrw mlaen : To get on with it Egni: Energy Ysgwyddo: To shoulder Tewch â sôn: Don’t mention Rhyfedda: Strangest Dod i ben: To fulfil Pellter: Distance Helaeth: Extensive CLIP 3 Safbwynt: Point of view Addas: Suitable Hoyw: Gay Uchelgais: Ambition Mewnblyg: Introverted Angerdd: Passion Gwrywaidd: Masculine Rhwydwaith: Network Galluogi;: Enabling Awydd: Desire Gweddnewid: To transform Adlewyrchu: To reflectCLIP 4 Coelio ffordd arall o ddweud Credu Dychmygu: To imagine Hedyn: Seed Diarth, neu dieithr: Foreign Dychrynllyd: Frightening Ben i waered; Upside down Defnyddiol : Useful Gwirioni; To doteCLIP 5 Llysgenhadon: Ambassadors Hybu: To promote Annog: To encourage Her: A challenge Ymgymeryd: To undertake Yn yr un gwynt: In the same breath Yn uniongyrchol: Directly Codi ymwybyddiaeth: Raising awareness Ysbrydoledig; Inspiring Gorchfygu; To conquer Brwydr: Battle Cynrychioli; To representCLIP 6 Cyflwynydd: Presenter Rhyddid i’r celfyddydau; Freedom for the arts Pennaeth; Head Cyfweliad; Interview Fatha ffordd arall o ddweud Fel Cytundeb: ContractCLIP 7 Maeth: Nutrition Deilen; A leaf Gwrthsefyll heintiau; To withstand diseases Adweithiad; Reaction Cyfraddau; Rates Gwyddonol: Scientific Honni: To claim Drudfawr: Expensive Cnydau; Crops Graddfa diwydiant; Industrial scaleCLIP 8 Cadarnhaol: Positive Yn awyddus: Eager Sefydlu yr elusen; Establish the charity Nerth; Strength Ymdopi; Coping Teyrngedau: Tributes I’r eithaf; To the full Mwyafrif; Most Ffugenw; Nickname Anferth; Huge
Sgwrsio: Ben McDonald

Sgwrsio: Ben McDonald

2025-04-0935:57

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Ben McDonald, ei ffrind ers dyddiau ysgol, ac mae'r ddau erbyn hyn yn dysgu Cymraeg.
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Mawrth yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.GEIRFACLIP 1 Cadair olwyn: Wheelchair Fatha - ffordd arall o ddweud - Fel Profiad: Experience Gwerthfawrogi bywyd: To appreciate life Rhwystredig: Frustrating Goleuni: Light Coelio - ffordd arall o ddweud - Credu Tîm elusennol: Charity Team Ymateb: To respond Difaru: RegrettingCLIP 2 Cyfarwydd: Familiar Diflannu: Disappearing Chwyldroadol: Revolutionary Cenhedlaeth: Generation Gohebu: Reporting Lloeren: Satellite Cael gwared ar: To get rid of Cynnyrch craidd: Core product Canolbwyntio: ConcentratingCLIP 3 Dymchwel: To demolish Ymwybodol: Aware Atyniad: Attraction Ymgyfarwyddo: To familiarize oneself Torf: A crowdCLIP 4 Ymladdwr cawell: Cage fighter Pwysau: Pressure Bant - ffordd arall o ddweud - I ffwrdd Llefain - yn y gogledd mi fasen ni’n dweud - CrioCLIP 5 Pencampwraig: Champion Mocha o gwmpas: Messing around Cystadleuol: Competitive Llyfn: Smooth Llechen: Slate Galluogi: To enableCLIP 6 Saer: Carpenter Prin: Scarce Sa i’n cofio - ffordd mae rhai’n dweud - Dw i ddim yn cofio Dieithr: Unfamiliar Mwyach: Any moreCLIP 7 Penodol: Specific Datgelu: To disclose Gwatswch allan: Look out Dail: Leaves Gwythiennau: Veins Bwytadwy: Eatable Caniatâd: Permission Tlws: Pretty Sawrus: SavouryCLIP 8 Cuddio: Hiding Dinistr: Destruction Cragen: Shell Llecyn: A small place Deiliach: Herbage Difa: To kill
Pont: Rob Lisle

Pont: Rob Lisle

2025-03-1125:30

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Rob Lisle. Cafodd Rob Lisle ei fagu yn yr Iseldiroedd ac yn Abertawe. Pensaer yw Rob ac ar ôl cyfnod yn byw yn Llundain penderfynodd ddychwelyd gyda’i deulu i Gymru i Sir Gaerfyrddin. Mae’n byw yno gyda’i wraig Sian a’r plant. Penderfynodd ddysgu’r Gymraeg er mwyn cefnogi addysg ei blant a hefyd er mwyn ymdoddi i’r gymuned leol.
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Chwefror yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennod:-CLIP 1 Sawna: Sauna Buddion: Benefits Diffyg cwsg: Lack of sleep Arbrofi: To experiment Plymbwll: Plunge pool Datblygu: To develop Corddi: Churning Chwysu: Sweating Elwa: To benefit Pwysau gwaed: Blood pressure Dihuno ffordd arall o ddweud DeffroCLIP 2 Pennaeth: Head Byth bythoedd: Never ever Yn hytrach na: Rather than Cynhyrchu: To produce Hewl dyma’r ffordd mae llawer yn dweud y gair HeolCLIP 3 Dylunydd ydy Designer Ymgyrch: Campaign Ro’n i’n cael (f)y nenu at: I was drawn to Cyfrifoldebau penna(f): Main responsibilities Deunyddiau: Materials Cynnwrf: Excitement Cyfryngau cymdeithasol: Social media Ail benodi: To reappoint I’r dim: ExactlyCLIP 4 Trawiadol: Striking Yn gyfrifol am: Responsible for Wedi gwirioni efo yn y de ‘dwlu ar ‘ Hoff iawn Ymgorffori: To incorporate Teyrnged: Tribute Arwyddocaol: SignificantCLIP 5 Yr Aifft: Egypt Enfawr: Huge I raddau: To an extent Amlwg: Obvious Meddylfryd: Intention Corff: Body Wedi tynhau: Have tightened Ysbrydoliaeth: InspirationCLIP 6 Bwriadol: Intentional Adnabyddus gair arall am Enwog Cynulleidfa: AudienceCLIP 7 Mas ffordd arall o ddweud Allan ‘Slawer dydd ffordd arall o ddweud Ers talwm Mam-gu a Tad-cu neu Nain a Taid Yr aelwyd: HomeCLIP 8 Go iawn? Really? Cefnogol: Supportive Mewn cyswllt efo: In contact with Fatha yr un fath â neu Fel Picio draw: Come over Gwirfoddoli: Volunteering Annog: Encouraging Bwrw ymlaen fel ’na: Carried on like that
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Alanna Pennar-Macfarlane.Cerddor llawrydd yw Alanna Pennar-Macfarlane. Yn wreiddiol o dref Stirling yr Alban, mae hi bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Dechreuodd ddysgu’r Gymraeg o ddifri yn 2020 yn ystod y cyfnod clo. Cyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2024. Erbyn mae hi wedi sefydlu cwmni creu adnoddau i ddysgwyr sef Pennar Bapur.
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Ionawr yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennod:-Clip 1 Cyfres: Series Cychwynnol: Initial Pennod: Episode Andros o gyffrous: Very exciting Datgelu: To reveal Llywio: Presenting Cyngor: Advice Gweithgareddau: Activities Heb os nac oni bai: Without doubtClip 2 Cynhesu, neu C’nesu, i fyny: Warming up Asgellwr: Winger Eisteddle: Stands Canlyniad: Results Cic o’r smotyn: Penalty Efaill: Twin Callio: To wisen up Dyrchafiad: PromotionClip 3 Ffyddlon: Faithful Bradwyr: Traitors Yn datgan: Declaring Rhyfedd: Strange Yn fanwl gywir: Being accurate Wedi bachu: Nicked Cael gwared ar: To get rid of Ansicrwydd: Uncertainty Strwythuro: To structure Cuddio: To hide Ymwybodol : AwareClip 4 Mwya poblogaidd: Most popular Cynulleidfa lawn: A capasity audience Denu: To attract Yn gyson: Regularly Hybu: To promote Perchnogion: Owners Ar y cyd â: Jointly with Diwylliant: Culture Annog: To encourageClip 5 Y Deyrnas Unedig: The United Kingdom Traddodiadau: Traditions Unigryw: Unique Cysylltu yn ddyfnach: Connecting deeper Llenyddiaeth: LiteratureClip 6 Llachar: Bright Yn glou - Ffordd arall o ddweud: Yn gyflym Pydru: To decay Moy’n - Ffordd arall o ddweud: Isio Dail: Leaves Cael gwared ar: To get rid ofClip 7 Mae’n bwrw ti: It knocks you Ynghlwm â: Connected to Defod: Ritual Hylif: Liquid Ystol: Ladder Tagu: To chokeClip 8 Oes Aur: Golden Age Huawdl: Eloquent Tu fas: Tu allan Hapusrwydd: Happiness Rhan annatod: An essential part
Pont: Judi Davies

Pont: Judi Davies

2025-01-1415:50

Saesnes yw Judi a gafodd ei magu yn Lloegr. Cwrdd â Chymro di-Gymraeg a’i denodd hi i ymgartrefu yn Aberdâr. Wedi iddi ymddeol yn gynnar o’i swydd fel athrawes, penderfynodd ymuno â Chwrs Dwys, Prifysgol De Cymru er mwyn dysgu’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae hi’n fam-gu ac yn defnyddio’r Gymraeg gyda’r wyrion ac yn gwirfoddoli gyda maes Cymraeg i Oedolion. Mae hi’n aelod o gangen leol Merched y Wawr ac yn gwirfoddoli fel siaradwr rhugl ar gynllun partnera’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae ei brwdfryddedd a’i hangerdd dros y Gymraeg yn heintus.
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Rhagfyr yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennod:-CLIP 1Beiriniaid: JudgesIas: A shiverChwerw-felys: Bitter sweetDiniwed: InnocentCynhyrchwyr: ProducersClyweliadau: AuditionsHyfforddwyr: CoachesEwch amdani: Go for itSylwadau: CommentsY Bydysawd: The UniverseCyfarwyddwr: DirectorCLIP 2Lleoliad: LocationGwerthfawrogi: To appreciateHeb os: Without doubtYn ei hawl ei hun: In its own rightDenu cynulleidfa: To attract an audienceDifreintiedig: DisadvantagedWedi elwa: Has profitedYn sylweddol: SubstantiallyFyddwn i’n dychmygu: I would imagineYn bellgyrhaeddol: Far reachingY tu hwnt i: BeyondAchlysuron arbennig: Special occasionsCLIP 3Yn achlysurol: OccasionallyTroedio yn ofalus: Treading carefullyI raddau: To an extentYmwybodol: AwareAgweddau: AspectsRhagrith: HypocrisyEithafiaeth: ExtremismAr yr ymylon: On the fringesFfydd: FaithCLIP 4Cic o’r smotyn: PenaltyErgyd: A shotY cwrt cosbi: Penalty areaYsbrydoli: To inspireMenywod: ffordd arall o ddweud MerchedCLIP 5Cyd-destun: ContextAgweddau: AttitudesBuddsoddiad: InvestmentCynnydd: IncreaseParhau i ddatblygu: Continuing to developCarfan: SquadCLIP 6Atgofion: MemoriesCerddoriaeth: MusicCerrig milltir: MilestonesTegan: ToyCLIP 7Bugeiliaid: ShepherdsDrama’r Geni: NativityBraint: A privilegeY Ceidwad: The SaviourUnig: LonelyMynyddig: MountainousDeuddeg can erw: 1200 acresTerfynau: BoundariesEang: ExtensiveAwydd: DesireEr bore oes: Since childhoodCLIP 8Agorawd: OvertureGwisgoedd: DressesCystadleuol tu hwnt: Extremely competitiveHeriol: ChallengingCerddorfa: OrchestraYsgafnder: LightnessGwaith caib a rhaw: Spadework er mai ‘pick and shovel’ ydy’ caib a rhaw’ fel arferCynhyrchiad: ProductionUchafbwynt: HighlightHyblyg: Flexible
Pont: Kierion Lloyd

Pont: Kierion Lloyd

2024-12-1017:29

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Kierion Lloyd.Cafodd Kierion Lloyd ei eni yn Aberhonddu ond oherwydd gwaith y teulu treuliodd ei blentynod yn byw dramor. Dychwelodd i ardal Wrecsam yn ddeunaw oed. Wedi cyfnod yn teithio yn Seland Newydd, roedd yn benderfynol o fynd ati i ddysgu’r Gymraeg ac i ailgydio yng ngwreiddiau’r teulu. Erbyn hyn, mae’n byw yn Rhosllanerchrugog. Mae ei hoffter a’i ddiddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg wedi bod yn allweddol yn ei daith iaith.
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Tachwedd yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.
loading
Comments