Discover
Lleisiau Cymru
Lleisiau Cymru
Author: BBC Radio Cymru
Subscribed: 28Played: 682Subscribe
Share
© (C) BBC 2026
Description
Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol! Straeon personol ac emosiynol, sgyrsiau diddorol, eich hoff gyflwynwyr, a chymeriadau mwya' difyr Cymru i gyd mewn un lle. A collection of Welsh language podcasts featuring interesting voices and opinions from across Wales.
61 Episodes
Reverse
Y cogydd Lisa Fearn sy’n ymuno efo Meinir Gwilym i drafod tyfu cynnyrch ei hun a’i ddefnyddio yn ei choginio. Mae hi hefyd yn trafod yr ysgol goginio a sut mae tyfu a choginio yn ddylanwad positif nid yn unig ar blant ifanc ond oedolion hefyd.Cawn hefyd glywed gan Kim a drodd at arddio yn ystod cyfnod anodd yn ei bywyd. Ei llwyddiant mwyaf oedd tyfu blodau’r haul yn ei gardd yng Nghaernarfon a blwyddyn yma ei phrif ffocws fydd i dyfu mwy o flodau.Naomi sy’n trafod sut ddaru ei chariad at dyfu cychwyn gydag obsesiwn am blanhigion tŷ a’r her mae hi wedi gosod i’w hun eleni o dyfu ei blodau priodas.Meinir sy’n nodi’r jobsys fydd hi’n eu gwneud yn yr ardd ar ddiwedd Mawrth gan gynnwys hau hadau tomatos a chilli a phlannu bylbiau’r haf mewn potiau a’r borderi.
Y canwr a’r cyfansoddwr Al Lewis sy’n ymuno efo Meinir Gwilym i drafod ei gyfnod yn tyfu ar randir, y pwysigrwydd o ddangos i’w blant o ble mae bwyd yn dod a’i ardd ddinesig yng Nghaerdydd.Cawn hefyd glywed gan Mari sydd wedi bod yn byw a’n gweithio fel warden ar Ynys Enlli. Yn fuan ar ôl cyrraedd, fe adeiladodd Mari dwnnel tyfu ar yr ynys heb brofiad o dyfu cynnyrch ei hun cyn hynny. Bellach, mae cynhyrchu a thyfu bwyd yn rhan fawr o fywyd Mari.Owen sy’n trafod sut mae garddio yn ystod ei blentyndod wedi siapio’r hyn mae o’n ei wneud heddiw ac mae o bellach yn astudio pensaernïaeth tirwedd yn y brifysgol.Meinir sy’n nodi’r jobsys fydd hi’n eu gwneud yn yr ardd fis Mawrth gan gynnwys cychwyn plannu tubers dahlia a meithrin toriadau Lelog a Weigela.
Pan nad yw'n canu ar hyd a lled y wlad fel y Welsh Whisperer, mae Andy Walton wrth ei fodd yn sefyll ar ochr cae pêl-droed. Dilynwch y gŵr sy'n wreiddiol o Gwm Felin Mynach ar daith o amgylch clybiau'r gogledd orllewin, lle mae cannoedd o bobl yr un fath ag o yn pentyrru bob penwythnos. Mae'n cyfarfod y cymeriadau sydd yn rhoi oriau o'u hamser i sicrhau bod eu timau nhw a'u cymunedau nhw'n bodoli ac yn ffynnu.
Mae tîm merched Caernarfon bellach yn rhan swyddogol o'r clwb. Andy sy'n cael clywed mwy. Andy visits his beloved Oval in Caernarfon.
Ymunwch efo Llŷr a Lisa wrth iddyn nhw ganu cloch Eleri Siôn a chael croeso mawr yn ei chartref. O’r Ewros i bianos, a phobi bara yn y Barri – mae’r oll sydd yn ei thŷ yn sbardun am stori!
Stori am frwydr, dewrder, brad a gwladgarwch; Aled Hughes sy’n holi pwy oedd Llywelyn Ein Llyw Olaf a beth yn union ddigwyddodd iddo? Yr hanesydd Euryn Roberts sy’n cyflwyno’r cyd-destun hanesyddol a gwleidyddol a arweiniodd at frwydr Cilmeri a marwolaeth Tywysog olaf Cymru yn 1282.
Stori am frwydr, dewrder, brad a gwladgarwch; Aled Hughes sy’n holi pwy oedd Llywelyn Ein Llyw Olaf a beth yn union ddigwyddodd iddo? Yr hanesydd Euryn Roberts sy’n cyflwyno’r cyd-destun hanesyddol a’r llinell amser gan ddechrau yn y degawdau cyn marwolaeth Tywysog olaf Cymru yn 1282.
Kim, Sue a Sara sy'n cadw cwmni i Andy Walton yn Maes Dulyn, Penygroes.
Richard Jones, neu 'Dicky Mint' sy'n sgwrsio hefo Andy am glwb Bont FC, Pontrhydfendigaid
Beth petai rywbeth mawr wedi digwydd yn wahanol, neu heb ddigwydd o gwbl?Siân Stacey ac Elinor Gwynn sy'n cadw cwmni i Dylan ac yn trafod sawl Beth Petai? sy'n gysylltiedig gydag Ynys Enlli a chadwraeth yn gyffredinol.
Beth petai rywbeth mawr wedi digwydd yn wahanol, neu heb ddigwydd o gwbl?Aled Gruffydd Jones sy'n cadw cwmni i Dylan ac yn trafod y wasg Gymraeg a'r syniad o bapur newydd dyddiol yn y Gymraeg.
Beth petai rywbeth mawr wedi digwydd yn wahanol, neu heb ddigwydd o gwbl? Elin Haf Gruffydd Jones a Rhys Jones sy'n trafod rhai o ddinasoedd a threfi Cymru gyda Dylan Iorwerth: Beth Petai Caerdydd ddim yn brifddinas? Beth petai Porthdinllaen yn brif borthladd i Ogledd Cymru yn lle Caergybi? Beth petai'r Llyfrgell Genedlaethol mewn tref arall?
Beth petai rywbeth mawr wedi digwydd yn wahanol, neu heb ddigwydd o gwbl?Mei Emrys a Ffion Owen sy'n ymuno gyda Dylan Iorwerth i drafod sawl "Beth Petai?" o'r byd chwaraeon.
Ymunwch efo Llŷr a Lisa wrth iddyn nhw ganu cloch Mari Lovgreen a chael croeso mawr yn ei chartref. Mae’r trugareddau celfyddydol yn ei thŷ yn llawn hanesion am ei bywyd - o delynau i doiledau, a phob dim yn y canol!
Ymunwch efo Llŷr a Lisa wrth iddyn nhw ganu cloch Nic Parry a chael croeso mawr yn ei gartref. Yn gyn-farnwr, sylwebydd pêl-droed ac arweinydd nosweithiau cerddoriaeth bop, mae gan Nic Parry lwyth o drugareddau celfyddydol yn ei dŷ sy’n ei atgoffa o gyfnodau amrywiol yn ei fywyd!
Bu farw 16 o bobl yn nhrychineb Dolgarrog, yn 1925, pan dorrodd dau argae uwchben y pentref. Mae Hywel Griffiths yn ddarlithydd daearyddiaeth ac yn y rhaglen hon, mae'n olrhain yr hanes ofnadwy hwn, gan ofyn pa wersi a ddysgwyd o 1925? Yn sicr, cyflwynwyd mesurau diogelwch newydd yn 1930 yn sgil Dolgarrog, a ’does yr un drychineb debyg wedi digwydd ers hynny - ond mae ofn llifogydd yn parhau. Mae Hywel yn holi’r Athro Mererid Puw Davies sut mae’r ofnau hyn yn lliwio ein dychymyg, o’r Dilyw Beiblaidd a chwedl Cantre’r Gwaelod i’r nofelau diweddara. Mae Dr Cerys Jones yn egluro sut y gall newid hinsawdd olygu y bydd stormydd glaw a llifogydd yn fwy dwys ac yn digwydd yn amlach. Ystyriwn y tywydd eithafol diweddar yng Nghwm Rhondda a Valencia; ac ystyriwn sut y llwyddwyd i osgoi trychineb yn Blatten - ond methu yn Guadalupe ac Alau. Mae angen dysgu o wersi'r gorffennol o hyd er mwyn osgoi trychinebau fel Dolgarrog
Mae Gwenllian Ellis, neu Gwen, wastad wedi bod eisiau gwybod mwy am Gwen Ellis arall. Yn 1594 cafodd Gwen ferch Ellis o Landyrnog ei chrogi ar grocbren sgwâr Dinbych ar gyhuddiad o fod yn wrach. Hi oedd y person cyntaf i gael ei chrogi am witshgrafft yng Nghymru. Yn y podlediad, Gwen y Wrach a Fi, mae Gwenllian Ellis yn mynd ar daith i ddarganfod pwy oedd Gwen y ferch, y chwaer, y ffrind, y wraig, y swynwraig a’r iachawraig, a pham rhoi’r gosb eithaf iddi. O ymweld â sgwâr Dinbych lle dreuliodd hi ei heiliadau olaf, i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth lle mae cofnodion llys Gwen yn cael eu cadw, i Eglwys Llansanffraid ger Glan Conwy lle casglodd tystion i roi tystiolaeth yn ei herbyn, mae Gwenllian yn dod i ddeall mwy am stori Gwen a beth mae ei hanes yn ei ddweud wrthi am fod yn ferch heddiw.
Ar ei thaith mae’n cael cwmni Holly Gierke, Ruth Williams, Dr Gareth Evans Jones, Dr David Moore a Siân Melangell Dafydd.Cyflwynydd: Gwenllian Ellis
Cynhyrchydd: Anna George
Sain: Richard Durrell
Kiri Pritchard McLean sy’n ymuno gyda Meinir Gwilym i sgwrsio am bopeth sy'n ymwneud â garddio! Ar ôl iddi ddychwelyd yn ôl i dŷ fferm y teulu, fe ddechreuodd gymryd diddordeb mewn tyfu ei chynnyrch ei hun yn enwedig dros y cyfnod clo. Bellach, mae ganddi brosiect go arbennig ar y gweill sy’n golygu tyfu llysiau a ffrwythau ar raddfa uwch gyda’r gobaith o allu darparu bocsys i fwydo aelodau o’r gymuned leol.
Louise o Lanilltud Fawr sydd wedi darganfod y pleser o dyfu ei bwyd ei hun dros y blynyddoedd diwethaf ac Alex sy’n trafod yr hyn sydd wedi ei hysbrydoli i dyfu ei blodau ei hun adref.
Wedi haf llawn gigs, mae Hywel yn cymryd seibiant haeddianol ac yn ymuno efo Meinir Gwilym i drafod ei ardd drefol yn y bennod yma o’r Podlediad Garddio. Mae Hywel wrth ei fodd yn tyfu llysiau a pherlysiau a’i gariad o goginio yn helpu iddo gynllunio’r hyn mae o am ei dyfu yn yr ardd yn flynyddol.
Anne sy’n trafod yr ardd fuodd hi’n brysur yn ei greu ar gyfer ei phlant ifanc a sut mae hynny wedi esblygu iddi bellach allu ei rannu gyda’r gymuned leol.
Gregg sy’n trafod y tro yn ei yrfa pan gychwynnodd ei fusnes garddio ei hun a beth mae hynny’n ei olygu iddo fel unigolyn newroamrywiol.
Yn 1985 gwnaeth cynlluniau dadleuol Cyngor Dosbarth Caerfyrddin i adeiladu byncer yn y dre ysgogi ar brotestiadau gan gannoedd o ymgyrchwyr heddwch. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach mae'r rheiny oedd yn ei chanol hi’n adrodd yr hanes, ac yn ystyried pa mor real yw’r bygythiad niwclear o hyd?



















This had a very easy and enjoyable flow to it. It’s the kind of content that quietly keeps your attention without overdoing anything. I usually find things like this while taking a quick pause from work or browsing, and that’s also when I sometimes jump into CPS Games for a casual break.