DiscoverLleisiau Cymru
Lleisiau Cymru
Claim Ownership

Lleisiau Cymru

Author: BBC Radio Cymru

Subscribed: 46Played: 1,162
Share

Description

Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol! Straeon personol ac emosiynol, sgyrsiau diddorol, eich hoff gyflwynwyr, a chymeriadau mwya' difyr Cymru i gyd mewn un lle. A collection of Welsh language podcasts featuring interesting voices and opinions from across Wales.

87 Episodes
Reverse
Cyfres sy’n ail-ymweld â rhai o achosion troseddol mwyaf enwog, cymhleth a dadleuol Cymru. Yng nghwmni’r bobl oedd yno – ar wyneb y graig, yn ymchwilio ac yn adrodd ar yr achosion – mae’r cyn-farnwr Nic Parry yn ail-fyw digwyddiadau a gafodd effaith ddofn ar gymunedau ac ar y system gyfiawnder.Wrth edrych ar elfennau cyfreithiol, datblygiadau dramatig a’r cwestiynau sy’n parhau hyd heddiw, mae’r gyfres yn gofyn: sut allai hyn ddigwydd? Pam y digwyddodd hynny? A sut y daethpwyd i’r penderfyniadau a gafodd eu gwneud?Yn y bennod hon, mae’r newyddiadurwyr Iola Wyn ac Aled Scourfield yn ymuno â Nic Parry i drafod diflaniad Mike O’Leary o Nantgaredig – a’r ymchwiliad i'w lofruddiaeth a ddatgelodd gyfrinachau tywyll yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin.
Cyfres sy’n ail-ymweld â rhai o achosion troseddol mwyaf enwog, cymhleth a dadleuol Cymru. Yng nghwmni’r bobl oedd yno – ar wyneb y graig, yn ymchwilio ac yn adrodd ar yr achosion – mae’r cyn-farnwr Nic Parry yn ail-fyw digwyddiadau a gafodd effaith ddofn ar gymunedau ac ar y system gyfiawnder.Wrth edrych ar elfennau cyfreithiol, datblygiadau dramatig a’r cwestiynau sy’n parhau hyd heddiw, mae’r gyfres yn gofyn: sut allai hyn ddigwydd? Pam y digwyddodd hynny? A sut y daethpwyd i’r penderfyniadau a gafodd eu gwneud?Yn y bennod hon, mae’r newyddiadurwr Telor Iwan yn ymuno â Nic Parry i drafod llofruddiaeth Joanne Penney yn Nhonysguboriau – dynes ddiniwed a saethwyd yn farw wrth i ryfel rhwng gangiau cyffuriau’r ardal gyrraedd eithafion dychrynllyd.Cynhyrchiad Meicro Cyf ar gyfer BBC Radio Cymru.
Celwydd Neil Hopper

Celwydd Neil Hopper

2026-11-1027:11

Cyfres sy’n ail-ymweld â rhai o achosion troseddol mwyaf enwog, cymhleth a dadleuol Cymru. Yng nghwmni’r bobl oedd yno – ar wyneb y graig, yn ymchwilio ac yn adrodd ar yr achosion – mae’r cyn-farnwr Nic Parry yn ail-fyw digwyddiadau a gafodd effaith ddofn ar gymunedau ac ar y system gyfiawnder.Wrth edrych ar elfennau cyfreithiol, datblygiadau dramatig a’r cwestiynau sy’n parhau hyd heddiw, mae’r gyfres yn gofyn: sut allai hyn ddigwydd? Pam y digwyddodd hynny? A sut y daethpwyd i’r penderfyniadau a gafodd eu gwneud?Yn y bennod hon, mae’r newyddiadurwr David Grundy yn ymuno â Nic Parry i drafod hanes y llawfeddyg Neil Hopper o Geredigion. Daeth yn adnabyddus am ddychwelyd i’w waith ar ôl colli ei ddwy goes, ac am ddod yn agos at gael ei ddewis i fynd i’r gofod fel gofodwr anabl. Ond roedd yn cuddio cyfrinach dywyll iawn a fyddai’n ei yrru i’r carchar.Cynhyrchiad Meicro Cyf ar gyfer BBC Radio Cymru
Mae Llŷr a Lisa yn ôl, yn busnesu o gwmpas cartrefi rhai o enwau adnabyddus Cymru. Pwy fydd yn cadw cwmni i Llŷr a Lisa y tro 'ma? Cliw i chi, mae nhw'n mwynhau sgwrsio gyda'u Pobol, boed hynny mewn stiwdio radio neu dan y lloer. Pwy fydd yn holi pwy???Penodau newydd o Ding Dong ar gael ar 20 Hydref a 03 Tachwedd.
Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â geiriau Cymraeg.Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy ... ac yn y bennod hon mae nhw'n meddwl am Galan Gaeaf ac ysbrydion.Cynhyrchiad Cwmni Golwg i BBC Radio Cymru.
loading
Comments