DiscoverRhaglen Cymru
Rhaglen Cymru
Claim Ownership

Rhaglen Cymru

Author: andybmedia

Subscribed: 3Played: 23
Share

Description

Andy Bell a’i westeion yn dathlu darlledu Cymraeg a Chymreig.
Y bobl, y rhaglenni, y dylanwad.

rhaglencymru@hotmail.com
123 Episodes
Reverse
Hwnt ac yma gydag ITV

Hwnt ac yma gydag ITV

2025-09-2624:52

Pennod olaf y podlediad ynglyn â phenblwydd teledu annibynnol yn 70 oed. Taith igam-ogam yw hi ... mwynhewch. rhaglencymru@hotmail.com yw'r cyfeiriad am eich sylwadau. Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân ITSWW (At Pepe's Place - Syd Dale) Ffynhonellau holl bwysig wrth lunio cyfres Rhaglen Cymru am ITV:  https://www.youtube.com/@archifitvcymruwalesllgcitv9713 https://www.youtube.com/@walesbroadcastdarlleducymru  https://www.youtube.com/@transdiffusion Hanes ITV yng Nghymru  https://www.gwasgprifysgolcymru.org/book/history-of-independent-television-in-wales HTV a S4C https://www.uwp.co.uk/book/nid-sianel-gyffredin-mohoni  Gwefan hanes darlledu: https://transdiffusion.org        
ITV a fi

ITV a fi

2025-09-2213:53

Andy Bell yn synfyfyrio am deledu annibynnol wrth iddo ddathlu ei benblwydd yn  70 oed. Atgofion o Blodyn Tatws, TISWAS ac Amy Turtle ... Mae'r ddwy bennod flaenorol yn trafod ITV yn fwy ffeithiol/academaidd ... rhaglencymru@hotmail.com
ITV a Chymru

ITV a Chymru

2025-09-1939:24

Andy a'r Athro Jamie Medhurst o Brifysgol Aberystwyth ar wibdaith trwy hanes teledu annibynol yng Nghymru wrth iddo ddathlu ei benblwydd yn 70 ... 69 actiwali! Hefyd, montage o bob math o raglenni a phobl ITV Cymreig. Oes atgofion gennych am TWW neu HTV neu Teledu Cymru neu Granada? Cysylltwch â rhaglencymru@hotmail.com neu ar FB, Twitter neu Blue Sky. Llwyth o ddarllen pellach: Llyfr Jamie https://www.gwasgprifysgolcymru.org/book/history-of-independent-television-in-wales Granada https://granadatv.network/category/programmes/factual/dewch-i-mewn TWW https://transdiffusion.org/2024/03/03/goodbye-to-all-our-friends Teledu Cymru/WWN https://transdiffusion.org/2020/08/12/the-fall-of-teledu-cymru ITSWW https://transdiffusion.org/2017/10/23/itsww Harlech https://transdiffusion.org/2020/08/07/gremlins-hit-big-tv-opening HTV: https://www.independent.co.uk/news/business/htv-succumbs-to-united-news-in-pounds-370m-takeover-bid-1258407 Atgofion https://transdiffusion.org/2005/09/03/memories Gwefannau gwych Archif ITV Cymru/Wales @ LlGC https://www.youtube.com/@archifitvcymruwalesllgcitv9713 Archif Ddarlledu Cymru https://www.youtube.com/@walesbroadcastdarlledu  Archif Sgrin a Sain https://www.llyfrgell.cymru/catalogau-chwilio/am-ein-casgliadau/archif-sgrin-a-sain Transdiffusion https://transdiffusion.org/tv/itv/wales-west Cerddoriaeth gloi: Gorymdaith Y Saith Môr (Eric Coates) - arwyddgân TWW    
Mwy o ITV i ddod

Mwy o ITV i ddod

2025-09-1502:28

Rhagflas o'r bennod nesaf ...  
Dathlu Platinwm ITV

Dathlu Platinwm ITV

2025-09-1229:03

Mae teledu annibynnol yn 70 oed. Dechreuwyd y rhwydwaith yn Llundain ym mis Medi 1955. Yn y bennod hon mae'r Athro Jamie Medhurst yn sôn am yr ymgyrch i dorri monopoli'r BBC wedi'r ail ryfel byd a ffurfio teledu annibynnol. Hefyd, rhan bwysig Cymro Cymraeg o Gwmgwrs wrth ffurfio'r syniad o gyfundrefn ranbarthol + rhaglenni agroriadol rhyfedd ambell i orsaf ITV. Dyma lyfr Jamie am ITV yng Nghymru: https://www.gwasgprifysgolcymru.org/book/history-of-independent-television-in-wales Cerddoriaeth gloi: “Widespread World” gan John Dankworth, arwyddgân Redifusion rhwng 1964 a 1968. Mwy am noson gyntaf ITV: https://transdiffusion.org/2015/09/22/tonights-itv-in-1955 Unrhyw atgofion o ITV cynnar? A oeddech chi'n gwylio neu'n cymryd rhan? Cysylltwch â rhaglencymru@hotmail.com Tro nesaf - ITV a Chymru ... stori a hanner.  Sgandal, heriau daearyddol a gwleidyddiaeth o bob lliw a llun.
Penblwydd y Pod

Penblwydd y Pod

2025-09-0554:30

Mae'n flwyddyn ers cychwyn y podlediad ac mae Andy wedi creu pennod arbennig i nodi'r achlysur!! Lleisiau Eurof Williams, yr Athro Richard Wyn Jones, Dr Ffion Owen, Aled Jones, Mike Parker, Aran Jones a Beti George a glywir ynghyd â vocal stylings unigryw Andy. Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân "Tonight", Teledu BBC 1959. Cyflwyniad i ddarn Beti yn dod o 'Dim Byd fel dim byd': https://youtu.be/o311wHhoMlA?si=-v10j56aE8o7OD0I Ewch i dudalennau'r podlediad ar FB, BSky a Twitter/X i weld y llun o Andy 9 oed !!! Diolch am gefnogi menter lafur cariad. rhaglencymru@hotmail.com  
Un elfen gyson yn narlledu yw dathlu cerrig milltir yn lle creu cynnwys gwreiddiol I fathu gair: dathluyddiaeth. A nid yw'r podlediad hwn yn eithriad!!! Mae'n flwyddyn ers cychwyn Rhaglen Cymru ... rhaglencymru@hotmail.com  
Walisischer Rundfunk

Walisischer Rundfunk

2025-08-2936:26

Y Gymraeg ar y radio o Berlin ym 1944!!! Dyna bwnc y bennod hon yng nghwmni William Owen Roberts, awdur drama "Radio Cymru"/"Peenemünde" am Raymond Davis Hughes. Hughes ddarlledodd i filwyr Cymreig yn ystod misoedd ola'r ail ryfel byd. Y sgwrs yn trafod ei stori ryfedd a llawer mwy. Y sgript: https://www.waterstones.com/book/cyfres-ir-golau-peenem-nde-drama-mewn-dwy-act/william-owen-roberts/9780863819087 Darllen pellach: https://www.historyhit.com/fake-news-how-radio-helped-the-nazis-shape-public-opinion-at-home-and-abroad Cerddoriaeth gloi: "Eine Schwarzwaldfahrt" AKA "A Walk in the Black Forest. rhaglencymru@hotmail.com      
Y Maes Chwarae

Y Maes Chwarae

2025-08-2323:45

Amser Ail-Wampio eto!! Cyfle o'r newydd i glywed peth o ddwy sgwrs sy'n ymwneud â darlledu a chwaraeon. Gareth Blainey a Richard Wyn Jones sy'n siarad am eu profiadau gwahanol - y naill ar yr awyr, y llall yn aelod o dimau cynhyrchu. Y pennodau gwreiddiol cyflawn: Gareth (ar ôl newyddion sydyn am Capital Cymru): https://rhaglencymru.podbean.com/e/gareth-blainey/ Richard: https://rhaglencymru.podbean.com/e/rheolir-llawr-cadwr-hanes/ rhaglencymru@hotmail.com    
Cyfle i ddathlu penblwydd yn 73 oed y trosglwyddydd teledu cyntaf i'w godi ar dir Cymru. Andy yn dweud tipyn o'r hanes A hanes teledu Cymreig cyn dyfodiad Gwenfô. rhaglencymru@hotmail.com Cerddoriaeth gloi: "Out Of The Blue" (Arwyddgân 'Sports Report')
Y dyn sy'n gyfrifol

Y dyn sy'n gyfrifol

2025-08-0831:43

Heini Gruffudd, awdur, athro ac ymgyrchydd iaith, yw'r gwestai'r tro hwn.   Mae e wedi profi pob cam o'r daith ddarlledu Gymraeg a Chymreig yn ystod ei fywyd mwy na lai ac mae ganddo dipyn i ddweud am yr hyn sydd wedi digwydd a'r pethe sydd i ddod.   Ond, ac mae'n ond enfawr, mae'na rheswm pwysicach am wahodd Heini i'r podlediad - fe gewch wybod ar ddechreu'r sgwrs.   rhaglencymru@hotmail.com   Cerddoriaeth gloi: Fersiwn band pres o arwyddgân "The Flintsones'.
Eisteddfod Ar Yr Awyr

Eisteddfod Ar Yr Awyr

2025-08-0221:55

Perthynas yr Eisteddfod Genedlaethol â'r BBC yn nyddiau cynnar radio yw testun y podlediad y tro hwn. Am fwy o hanes Eisteddfod 1940 - Eisteddfod y Radio: https://www.cvhs.org.uk/Eisteddfodau/Chapters/Chapter_10.pdf  rhaglencymru@hotmail.com Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân 'All Things Considered' NPR.
Creu Sŵn

Creu Sŵn

2025-07-2451:01

Sgwrs gyda Gareth Potter. Byw Yn Y Radio: https://youtu.be/v7P6XLr6q2U?si=tfCWEwLwQcW1KU8E Monsieur Potter y Troellwr: https://www.mixcloud.com/Mr_Potter https://soundcloud.com/gareth-potter rhaglencymru@hotmail.com A'r helfa am gynnwys Cymraeg ...
Pennod nesaf y podlediad fydd sgwrs gyda rhywun sydd wedi dangos ei ddoniau lluosog ers degawdau. Gareth Potter fydd gwestai nesaf Rhaglen Cymru. rhaglencymru@hotmail.com
Dau bwnc yn y bennod: diwedd BBC Sounds i wrandawyr tramor o'r 21ain o Orffennaf ymlaen a penblwydd agor gorrsaf drosglwyddo a ddaeth â radio i bob cornel o Gymru. Siom ac atgofion. rhaglencymru@hotmail.com
Rhagflas o'r bennod nesaf ... Hanes lle yn Lloegr fu'n allweddol yn hanes radio Cymreig a Chymraeg yn y dyddiau cynnar A diwedd cyfnod i wasanaeth cyfoes. rhaglencymru@hotmail.com
Seiniau a S4C

Seiniau a S4C

2025-07-1236:25

Pennod dau ben arall!! Radio A Theledu sydd dan sylw ... brechdan ddarlledu gyda bach o saws ;-) Rhagor o wybodaeth am dynged argaeledd Radio Cymru i'r diaspora a sgwrs gydag aelod newydd o Fwrdd Sianel Pedwar Cymru. rhaglencymru@hotmail.com
Penodwyd aelodau newydd i Fwrdd Sianel Pedwar Cymru yn ddiweddar ... sgwrs gydag un ohonynyt fydd ym mhennod nesaf y podlediad. https://www.bbc.com/cymrufyw/erthyglau/cg5v7m28gjjo https://www.s4c.cymru/cy/amdanom-ni/page/bwrdd-s4c Hefyd, y diweddara am ddiflanniad BBC Sounds i wrandawyr tramor + newid i ddwy orsaf radio lleol Cymreig.    
Y newid i BBC Sounds yn digwydd o'r diwedd ... newyddion da a drwg i'r diaspora Cymraeg. Y diweddara gan Andy a thipyn o ddadansoddi amdani. https://www.bbc.com/mediacentre/2025/articles/update-on-access-to-bbc-sounds-outside-the-uk Hefyd ... y weithred o wylio a barnu - gwaith y colofnydd teledu. Sgwrs fywiog a dadlennol gydag Elinor Wyn Reynolds, colofnydd cylchgrawn Barn. Pynciau trafod yn cynnwys 'Y Llais', drama ar y bocs bach a trash TV. https://barn.cymru Cerddoriaeth gloi: Crystal Tipps & Alistair, un o hoff raglenni erioed EWR & AB !! https://youtu.be/xWZzMK98n4I?si=nK6ltA4QjRJbfR5f  rhaglencymru@hotmail.com  
Elinor Wyn Reynolds yw colofnydd teledu cylchgrawn Barn. Hi yw'r gwestai nesaf - yn trafod S4C, hoff raglenni a trash TV!! rhaglencymru@hotmail.com
loading
Comments 
loading