DiscoverRhaglen Cymru
Rhaglen Cymru
Claim Ownership

Rhaglen Cymru

Author: andybmedia

Subscribed: 7Played: 43
Share

Description

Andy Bell a’i westeion yn dathlu a dadansoddi darlledu a chraffu ar y cyfryngau'n gyffredinol


224 Episodes
Reverse
Y Weledigaeth

Y Weledigaeth

2026-11-2041:51

Yr arbenigwr cyfathrebu llawrydd Richard Nosworth sy'n cadw cwmni'r tro hwn. Trafod ei waith ynghyd â'i farn am gyflwr y cyfryngau a'r diffyg gweledigaeth wrth wynebu heriau lluosog.  A beth yw dwyieithrwydd da? Dyma gylchlythyr Richard: https://richardnosworthy.cymru/cylchlythyr A'i bodlediad 'Hefyd': https://hefyd.podbean.com Adroddiad Ofcom ar y BBC:  https://www.ofcom.org.uk/siteassets/resources/documents/tv-radio-and-on-demand/bbc/bbc-annual-report/2026/adroddiad-blynyddol-ofcom-ar-y-bbc-2025-2026.pdf?v=428227 [email protected] am sylwadau a syniadau. Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân 'The Newsroom' CBC Canada - dychan arbennig o newyddiaduraeth teledu. i https://youtu.be/pNY_XLh5bAA?si=4X_ZVS9mbqiSST7V
Un o’r genhedlaeth gyfryngol newydd yw Joe Morgan. Mae ganddo safbwyntiau ac agweddau ffres am greu cynnwys Cymraeg. Dyma ei bodlediad: https://ypod.cymru/pods/podlediad/swntrack A chyfrif insta Joe: https://www.instagram.com/joe_le_potato [email protected] am sylwadau/syniadau Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân ‘Joe 90’ https://youtu.be/2Eb6JrP7d1Y?si=NhWQWBusBXClJPwC
Newyddion yn torri ym mhob man. Senedd yr Alban yn pleidleisio dros ddatganoli darlledu a Bae Caerdydd a Whitehall i gwrdd i drafod yr un pwnc. https://www.parliament.scot/chamber-and-committees/votes-and-motions/S7M-01962-2 Hefyd, trafferthion ariannol darlledwr cyhoeddus Gwlad Y Cwmwl Gwyn Hir. https://www.rnz.co.nz/news/politics/2491845/treasury-wants-own-oversight-of-rnz-to-be-part-of-independent-review Mwy am y Cyfrin Gyngor: https://en.wikipedia.org/wiki/List_of_current_members_of_the_British_Privy_Council Sesiwn canolfan Llywodraethiant Cymru - 'Cymru a Siarter newydd y BBC': https://www.eventbrite.co.uk/e/wales-and-the-new-bbc-charter-tickets-2004604089795 [email protected] Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân 'All Things Considered', NPR: https://youtu.be/u5MKiTdWo4E?si=M0Rwv0FOePdy6i39    
Aled Eirug yw'r gŵr gwadd - cyn-Bennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru rhwng 1992 a 2003, cyn-aelod o fwrdd S4C a chyn-gadeirydd Pwyllgor Cynghori Cymru Ofcom. https://www.ofcom.org.uk/cy Gwaith y rheoleiddiwr, ariannu cyfryngau cyhoeddus a llawer mwy yw'r maes trafod. Hefyd, newyddion o bell ac agos am gyllidebau a chymorthdaliadau. @rhaglencymru yw'r Substanck a chyfrif X a BlueSky. [email protected] Cerddoriaeth y bennod: Arian Monty Python: https://youtu.be/vRsrOsWQNYs?si=7Lun-76mxIusMr4Q 'Money, Money, Money': https://youtu.be/FTDTqPK-WH4?si=TQNGcZJgdh40f6lj  
Sylw i'w datganiad "dyfodol y cyfryngau yng Nghymru" a gyflwynwyd i Senedd Cymru ddydd Mawrth. Geiriau trawiadol y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan, yw teitl y bennod hon. Trawsgrifiad cyflawn o 17:52 ymlaen: https://cofnod.senedd.cymru/Plenary/16420 Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân y 'Bell Telephone Hour'! https://youtu.be/nTSmd04T4ok?si=OYzRicO5LrOLyJ24 Substack: @rhaglencymru [email protected]  
loading
Comments