Discover
Craffu360

Craffu360
Author: Golwg 360
Subscribed: 4Played: 21Subscribe
Share
© Golwg 360
Description
Croeso i Craffu360, podlediad gwleidyddol Cymraeg newydd fydd yn holi rhai o ffigyrau mwyaf dylanwadol Cymru.
Bydd Craffu360 yn holi gwleidyddion y gorffennol, y presennol, a’r dyfodol, er mwyn clywed mwy am eu credoau a'u polisïau.
Byddwn ni hefyd yn sgwrsio â ffigyrau diwylliannol ledled y wlad er mwyn dysgu mwy am gyd-destun y Gymru sydd ohoni heddiw.
Bydd Craffu360 yn holi gwleidyddion y gorffennol, y presennol, a’r dyfodol, er mwyn clywed mwy am eu credoau a'u polisïau.
Byddwn ni hefyd yn sgwrsio â ffigyrau diwylliannol ledled y wlad er mwyn dysgu mwy am gyd-destun y Gymru sydd ohoni heddiw.
8 Episodes
Reverse
Yn ymuno a ni y tro hwn yw’r newyddiadurwr Aled Eirug i drafod ei lyfr newydd, Dafydd Elis Thomas: Nation Builder. Mi fydden yn trafod yr hyn oedd yn siapio ‘Dafydd El’ fel un o wleidyddion unigryw ei oes, a thrafod yr angen am ei fath o wleidyddiaeth bragmatig mewn Senedd go wahanol o fis Mai nesaf ymlaen.Mae Dafydd Elis Thomas: Nation Builder ar gael gan Wasg Prifysgol Cymru yma:https://www.uwp.co.uk/book/dafydd-elis-thomas-eirug/
Yn ymuno a ni y tro hwn yw cyn Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford. Fel rhywun fydd o bosib yn mynd lawr fel arweinydd mwyaf adnabyddus Llywodraeth Cymru ers dechrau datganoli, mi fydd ei ddylanwad yn parhau ymhell i’r dyfodol.Hefyd, ei benderfyniad o i ddiwygio’r Senedd sy’n debygol o greu’r amodau ar gyfer yr etholiad mwyaf cyffroes erioed mis Mai nesaf.Rydym yn trafod hyn a mwy o Faes yr Eisteddfod yn Wrecsam.
Yn ymuno â ni ar Craffu360 y tro yma yw’r newyddiadurwr Maxine Hughes, sy’n byw yn Washington. Yn brif wyneb Newyddion S4C yn yr Unol Daleithiau, mae Maxine Hughes yn wyneb cyfarwydd i nifer fel rhywun sy’n adrodd straeon gwleidyddol a materion cyfoes o’r wlad honno.Fyddwn yn trafod eithafiaeth, byw yn yr Unol Daleithiau, a’i ffrindiau mawr a perchnogion CPD Wrecsam, Rob McElhenney a Ryan Reynolds.
Yn gyn-Ddirprwy Brif Weinidog Cymru ac yn gyn-arweinydd Plaid Cymru, mae Ieuan Wyn Jones yn enw adnabyddus o fewn gwleidyddiaeth yng Nghymru.Gydag etholiad Senedd 2026 ar y gorwel, a’r tebygolrwydd o gydweithio trawsbleidiol wedyn, Rhys Owen, Gohebydd Gwleidyddol golwg360, sy'n trafod y sefyllfa debygol gyda Ieuan Wyn Jones, sydd â phrofiad helaeth o gydweithio mewn clymblaid â Llafur, fel rhan o gytundeb Cymru'n Un yn gynnar yn oes y Cynulliad.Mae hefyd yn trafod canmlwyddiant Plaid Cymru.
Ar ôl cyfnod cythryblus i'r sianel Gymraeg, mae gan S4C Brif Weithredwr newydd wrth y llyw.Yn y bennod hon, mae Rhys Owen, gohebydd gwleidyddol golwg360, yn holi Geraint Evans, sy'n gobeithio troi’r dudalen a chanolbwyntio ar dyfu cynulleidfa a darparu cynnwys newydd, fel rhaglen Y Llais, er mwyn cyrraedd cynulleidfa iau....
Yn wyneb a llais cyfarwydd o'r byd gwleidyddol yng Nghymru, daeth Vaughan Roderick i amlygrwydd adeg y refferendwm cyntaf ar ddatganoli yn 1979.Bu'n gweithio ar rai o raglenni gwleidyddol amlycaf BBC Cymru ers hynny, ac yn cyflwyno rhaglenni megis Sunday Supplement a Dros Ginio yn fwyaf diweddar.Yn y bennod hon, mae ein gohebydd gwleidyddol ni, Rhys Owen, yn holi'r holwr am ei yrfa ac am flwyddyn hynod gyffrous a diddorol yn hanes gwleidyddiaeth ddiweddar Cymru.
Yn y bennod yma o Craffu360, mi fydd y Prif Weinidog Eluned Morgan yn ymuno â ni i drafod ei gyrfa gwleidyddol, ac i edrych ymlaen at y flwyddyn a hanner sydd i ddod cyn etholiad Seneddol 2026.
Mewn cyfres podlediad newydd, golwg360 sy'n craffu ar waith rhai o ffigurau gwleidyddol amlycaf Cymru.Yn y bennod gyntaf, ein Gohebydd Gwleidyddol Rhys Owen sy'n ymweld â Chaerfyrddin i gwrdd ag Ann Davies, Aelod Seneddol Plaid Cymru gafodd ei hethol dros yr etholaeth newydd sbon.Sut all pedwar Aelod Seneddol Plaid Cymru ddylanwadu ar San Steffan a'i 650 o aelodau? Beth yw ei barn hi am ddyddiau cynnar y Llywodraeth Lafur newydd yn Llundain? Pwy yw ei harwr? Sut mae ei dydd Sul delfrydol yn edrych?Hyn a llawer mwy ar Craffu360...