Discover
Sut i Ddarllen
Sut i Ddarllen
Author: Cyngor Llyfrau Cymru
Subscribed: 3Played: 30Subscribe
Share
© Cyngor Llyfrau Cymru
Description
Sut i Ddarllen, sgyrsiau gonest am ddarllen gyda Francesca Sciarrillo.
Fe fyddwn ni'n trafod pob math o agweddau ar ddarllen - o’i ddylanwad i’w effaith ar ein bywydau bob dydd.
Yn rhannu atgofion ac argymhellion, rhinweddau a rhwystredigaethau a hynny efo gwesteion difyr.
Fe fyddwn ni'n trafod pob math o agweddau ar ddarllen - o’i ddylanwad i’w effaith ar ein bywydau bob dydd.
Yn rhannu atgofion ac argymhellion, rhinweddau a rhwystredigaethau a hynny efo gwesteion difyr.
11 Episodes
Reverse
Yn ymuno a Francesca Scarrillo mae’r awdur a’r cyflwynydd Geraint Iwan. Dros y blynyddoedd mae wedi dilyn nifer o yrfaoedd a gweithio i lu o gwmnïau gwahanol, gan gynnwys y BBC, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac amryw o gwmnïau teledu. Cyhoeddir ei gyfrol gyntaf, Storis Geraint Iwan, storis am yr hyn sy’n llechu dan yr wyneb, gan Wasg Carreg Gwalch, fis Mawrth.Yn y bennod mae Ger yn trafod ei obsesiwn efo straeon, darganfod darllen drwy ffilmiau a pheryglon gwrando ar lyfrau llafar yn Morrisons Caernarfon.Ffilmio a golygu: Dafydd HughesRecordio sain: Aled Wyn HughesRecordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, LlandwrogRhestr DdarllenCongrinero - David MeredithRownd y Byd yn y Ras Falwnau Orau Erioed - Sue ScullardBeibl y Plant Mewn Lliw I Ble Aeth Haul y Bore? - Eurig WynDan Gadarn Goncrit - Mihangel MorganCysgod y Cryman - Islwyn Ffowc ElisYn y Gwaed - Geraint V. JonesTân ar y Comin - T. Llew JonesJaws - Peter BenchleyJurassic Park - Michael CrichtonDo Androids Dream of Electric Sheep? - Philip K. DickThe Gone-Away World - Nick HarkawayReady Player One - Ernest ClineI am Legend - Richard MathesonTrioleg Extracted – RR HaywoodI, Partridge: We Need To Talk About Alan - Alan PartidgeThe Rivers of London - Ben AaronovitchCyfres The Bourne Identity – Roberts LudlumStraeon byrion Ruth Rendell And Then There Were None - Agatha ChristieCyfres A Game of Thrones - George R. R. MartinThe Martian – Andy WeirY llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.
Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r bardd a'r awdur Sioned Erin Hughes.Daw Erin o Ben Llŷn. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Tregaron yn 2022 gyda'i chyfrol gyntaf i oedolion, Rhyngom. Hi oedd golygydd y gyfrol Byw yn fy Nghroen a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2020, ac mae hefyd wedi golygu Iaith Heb Ffiniau a chyd-olygu Beyond/Tu Hwnt.Roedd ei chyfrol O'r Rhuddin ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025, ac fe gyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o gerddi Fel y Moroedd y llynedd.Yn y bennod mae Erin yn trafod ei diffyg diddordeb mewn llyfrau yn blentyn, effaith a dylanwad sgwennu personol a hunangofiannau ar ei bywyd a'r angen i ddarllen gyda phensil yn ei llaw.Ffilmio a golygu: Dafydd HughesRecordio sain: Aled Wyn HughesRecordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog.Dyma’r llyfrau sy’n cael eu trafod yn y bennod honJames a'r Eirinen Wlanog Enfawr - Roald Dahl, addasiad Elin MeekNab Wrc - Roald Dahl, addsiad Elin MeekModdion Rhyfeddol George - Roald Dahl, addasiad Elin MeekMatilda - Roald Dahl, addasiad Elin MeekThe Book Thief - Markus ZusakI Am, I Am, I Am: Seventeen Brushes With Death – Maggie O’FarrellThe Choice - Edith EgerCasglu Llwch – Georgia RuthTell Me Who I Am - Georgia RuthCamu – Iola YnyrNelan a Bo – Angharad PriceThe Bell Jar – Sylvia PathReason To Stay Alive – Matt HaigA Thousand Splendid Suns - Khaled HosseiniThe Kite Runner - Khaled HosseiniLan Stâr – Anthony Shapland, addasiad Esyllt LewisDevotions – Mary Oliver Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.
Yr awdur a’r darlledwr Huw Stephens sy’n cadw cwmni i Francesca Sciarrillo.Mae Huw Stephens yn darlledu’n ddyddiol ar BBC Radio 6 Music, ac yn cynnal sioeau wythnosol yn y Gymraeg a Saesneg ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru. Fe sefydlodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig a Gŵyl Sŵn Caerdydd. Ef hefyd yw awdur y gyfrol, Wales - 100 Records.Yn y bennod mae Huw yn sgwrsio am gyfieithu The Twits yn blentyn, ei hoff nofel Gymraeg yn y byd i gyd a’i gyfraniad i’r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.Ffilmio a golygu: Dafydd HughesRecordio sain: Aled Wyn HughesRecordiwyd y bennod ar leoliad yn Teddy’s Place, Caerdydd.Dyma’r llyfrau sy’n cael eu trafod yn y bennod honY Dyn'i hun – Hywel GwynfrynThe Twits – Roald DahlBoy – Roald DahlPaid a Bod Ofn – Non ParryAll the Best for the Future: Growing Up Without Growing Old – Greg JamesIs-Deitla'n Unig - Emyr Glyn WilliamsDiolch Dewi! Ffrindiau'n Cofio – Gol. Myrddin ap DafyddCydymaith i Lenyddiaeth Cymru – Gol. Meic StephensA Room Above a Shop - Anthony ShaplandBechgyn Drwg am Byth – Llwyd Owen Cam o’r Tywyllwch – Rhys MwynAtgofion drwy Ganeuon: Dyddie Da - Delwyn SiônAtgofion drwy Ganeuon: Rhwng Bethlehem a'r Groes - Barry (Archie) JonesAtgofion drwy Ganeuon: Llechan yn y Gwaed – Gai TomsCerddi’r Ystrad – Lyn EbenezerLladd Arth – Kayley RobertsOf Mice and Men – John SteinbeckY Tŵr – Gwenlyn ParryZonia Bowen - Dy Bobl Di Fydd fy Mhobl I - Zonia BowenOedolyn (ish) – Melanie OwenCylchgrawn Folding RockO Ffrwyth y Gangen Hon – Gol. Nia MoraisGwlad Bardd – Rhys IorwerthO! Tyn y Gorchudd – Angharad PriceThe Life of Rebecca Jones – Angharad Price, cyfieithiad Lloyd JonesNelan a Bo – Angharad PriceYr Odliadur – Roy StephensSalem a Fi – Endaf EmlynFfansins: Caws Heb Dost, Siarc Marw, Brechdan Tywod, Tacsi, Viva Sparky, KlustY llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol.
Cyfres newydd o Sut i Ddarllen ar gael yn fuan.Mwy o sgyrsiau difyr am lyfrau a darllen gyda Francesca Scarrillo.
Darllenydd mewn Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor yw Dr Eirini Sanoudaki.Yn wreiddiol o Groeg, mae ei hymchwil yn archwilio iaith mewn pobl uniaith a dwyieithog. Bu Francesca ac Eirini yn trafod sut mae llyfrau yn gallu mynd a ni nôl, pwysigrwydd darllen efo plant, a mawredd Llyfr Glas Nebo.Recordiwyd y bennod yn Shed, Y FelinheliFfilmio a golygu: Dafydd Hughes Sain: Aled HughesRhestr DdarllenLlyfrau Zoe SkoldingLlyfrau Alys ConranLlyfrau Angharad PricePumed Cainc y Mabinogi – Peredur Glyn (Y Lolfa)Llyfr Glas Nebo – Manon Steffan Ros (Y Lolfa)Il Nome Della Rosa - Umberto Eco (Bompiani)Sali Mali - Mary Vaughan Jones (Atebol)Y Tywysog Bach - Antoine de Saint-Exupéry (Edition Tintenfaß)The Catcher in the Rye - J. D. Salinger (Penguin)One Moonlit Night / Un Nos Ola Leuad - Caradog Prichard (Y Lolfa)Mae’r llyfrau ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol. Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol yma.
Yn wreiddiol o Wimbledon, fe enillodd Joe Healy wobr Dysgwr y Flwyddyn yn 2022. Bellach mae’n diwtor Cymraeg yng Nghaerdydd ac yn cyflwyno rhaglen Y Sin ar S4C gyda Francesca.Bu’r ddau yn trafod darllen llyfrau Cymraeg am y tro cyntaf, dod yn nol at ddarllen, a pheidio bod ofn barddoniaeth.Recordiwyd y bennod yn Tramshed Tech, Caerdydd.Ffilmio a golygu: Dafydd HughesSain: Aled HughesRhestr DdarllenY Lindysyn Llwglyd Iawn / TheVery Hungry Catepillar – Eric Carle (Dref Wen)Little Rabbit Foo Foo – Michael Rosen (WalkerBooks)Llyfrau Tomas y Tanc Llyfr Glas Nebo – Manon Steffan Ros (Y Lolfa)Cwlwm – Ffion Enlli (Y Lolfa)The Lord of the Rings – J. R. Tolken (Harper Collins)The Hobbit - J. R. Tolken (Harper Collins)Of Mice and Men – John Steinbeck (PenguinBooks)Paddy Clarke Ha, Ha Ha – Roddy Doyle (Penguin)To Kill a Mockingbird – Harper Lee (Penguin)Pigeon / Pijin - Alys Conran (Parthian)Open Up – Thomas Morris (Faber)Cyfres Stori SydynThe Handmaid's Tale - Margaret Atwood (Vintage)Mae’r llyfrau ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol. Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol yma:https://llyfrau.cymru/siopau-llyfrau-cymru/
Manon Steffan Ros yw un o’n hawduron mwyaf poblogaidd. Mae ei nofel Llyfr Glas Nebo wedi swyno darllenwyr ym mhell ac agos. Mae hi hefyd yn caru darllen.Bu Francesca a Manon yn sgwrsio am sut mae darllen yn gwneud i ni deimlo, pam cadw copi o waith T.H. Parry-Williams yn y car, a sut i fynd i’r arfer o ddarllen.Recordiwyd y bennod yn Y Shed, Y FelinheliFfilmio a golygu: Dafydd Hughes Sain: Aled HughesRhestr DdarllenChildhood - Maksim Gorky (Ivan R. Dee)Salem a Fi - Endaf Emlyn (Y Lolfa)Llyfr Glas Nebo - Manon Steffan Ros (Y Lolfa)Llyfrau Danielle SteeleLlyfrau Jackie CollinsMatilda - Roald Dahl (Gwasg Rily)Boy - Roald Dahl (Puffin)Ffiwsi...Be? - Irma Chilton (Gwasg y Dref Wen)Cyfres Ifan Bifan – Gunilla Bergstrom, addasiad Juli Phillips (Gwasg y Dref Wen)Lloffion – T. H. Parry-Williams Llyfrau Sally RooneyLlyfrau Matt HaigTake a BreakMae’r llyfrau ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol. Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol yma: https://llyfrau.cymru/siopau-llyfrau-cymru/ Mae Manon hefyd un o griw podlediad Colli’r Plot. Gwrandewch yma:https://open.spotify.com/show/7nplXp8TLGqvi9sx1IHbzn
Mae Sara Yassine yn byw yng Nghaerdydd, ac wedi bod yn un o feirniaid gwobrau llyfrau plant a phobl ifanc Tir na n-Og. Bu Francesca a Sara yn sgwrsio am adolygu llyfrau Enid Blyton, dychwelyd at ddarllen llyfrau Cymraeg a manteision ac anfanteision gosod nod darllen i ti dy hun. Recordiwyd y bennod yn Tramshed Tech, CaerdyddFfilmio a golygu: Dafydd HughesSain: Aled HughesRhestr ddarllen Llyfrau Roald Dahl Llyfrau Jaquline Wilson Hanes yn y Tir - Elin Jones (Gwasg Carreg Gwalch) Madws - Sioned Wyn Roberts (Gwasg y Bwthyn) Trigo - Aled Emyr (Y Lolfa)Mae’r llyfrau ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol. Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol yma.
Mae Kayley Roberts yn gwnselydd ac yn llenor sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaernarfon.Yn aelod o Glwb Darllen Llyfrau Lliwgar, soniodd Kayley am y pleser o drafod llyfrau efo criw, Islwyn Ffowc Elis y versatile king, a thrio peidio sbïo ar dy ffôn pam ti’n darllen. Recordiwyd y bennod yn Y Shed, Felinheli.Ffilmio a golygu: Dafydd HughesSain: Aled HughesRhestr Ddarllen The Illustrated Mum - Jacqueline Wilson (Yearling) Think Again - Jacqueline Wilson (Bantam) Sugar Rush - Julie Burchill (Macmillan) A Little Life - Hanya Yanagihara (Picador) Danny The Champion of the World / Danny Pencampwr y Byd - Roald Dahl (Puffin) / (Rily) Sunburn - Chloe Michelle Howarth (Verve Books) Intermezzo - Sally Rooney (Faber) Sêr y Nos yn Gwenu - Casia Wiliam (Y Lolfa) Cwlwm - Ffion Enlli (Y Lolfa) Jayne Eyre - Charlotte Bronte (Penguin) Villette - Charlotte Bronte (Penguin) The Bell Jar - Sylvia Plath (Faber) Cysgod y Cryman - Islwyn Ffowc Elis (Gwasg Gomer / Y Lolfa) Wythnos yng Nghymru Fydd - Islwyn Ffowc Elis (Gwasg Gomer / Y Lolfa) Y Blaned Dirion - Islwyn Ffowc Elis (Gwasg Gomer) V + Fo - Gwenno Gwilym (Gwasg y Bwthyn) Neon Roses - Rachel Dawson (John Murray) tu ôl i’r awyr - Megan Angharad Hunter (Y Lolfa) Curiadau - Gol. Gareth Evans-Jones (Barddas) A Christmas Carol - Charles Dickens (Penguin) Why I’m No Longer Talking to White People About Race - Reni Eddo-Lodge (Bloomsbury) Complete Poems - Emily Dickinson (Faber) Cyfres The Realm of the Elderlings - Robin Hobb (HarperVoyage) The Secret History - Dona Tartt (Penguin)Mae’r llyfrau hyn ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol.Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol YMA.Mwy am Llyfrau Lliwgar fan hyn.Bydd nofel gyntaf Kayley Roberts, Lladd Arth (Y Lolfa), allan yn haf 2025.
Mae Siôn Tomos Owen yn fardd, artist a chyflwynydd radio a theledu. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth,Pethau Sy’n Digwydd nôl yn haf 2024.Bu Francesca a Siôn yn sgwrsio am ddarllen pedwar llyfr ar yr un pryd, agweddau snobyddlyd at gomics a chariad at lyfrgelloedd.Recordiwyd y bennod yn Tramshed Tech, Caerdydd.Ffilmio a golygu: Dafydd HughesSain: Aled Hughes Rhestr DdarllenPenbwl-Comic Plant CymruCyfres Rwdlan - Angharad Tomos (Y Lolfa)Matilda - Roald Dahl (Rily)The Catcher in the Rye - J. D. Salinger (Penguin)The Master and Margarita - Mikhail Bulgakov (Vintage Classic)Love in the Time of Cholera- Gabriel García Márquez (Penguin)Storyteller: The Life of Roald Dahl - Donald Sturrock (William Collins)Everything Must Go: The Stories We Tell About the End of the World - Dorian Lynskey (Picador)Madws -Sioned Wyn Roberts (Gwasg y Bwthyn)The Tipping Point: How Little Things Can Make a Big Difference - Malcolm Gladwell (Abacus)In Praise of Slow: How a Worldwide Movement is Challenging the Cult of Speed -Carl Honore (Orion)Nofelau graffeg Chris Ware ac Adrian TomineCawl - Siôn Tomos Owen (Parthian)Pethau Sy’n Digwydd - Siôn Tomos Owen (Barddas)Short Short Stories - Dave Eggers (Penguin)Library of Wales: Selected Stories - Rhys Davies (Parthian)Collected Stories - Dylan Thomas (W&N)Open Up - Thomas Morris (Faber)Straeon byrion Rachel Trezise, João Morais, Rhian ElizabethMae’r llyfrau hyn ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol.Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leolYMA.
Sut i Ddarllen, sgyrsiau onest a dadlennol am ddarllen gyda Francesca Sciarrillo.
Fe fyddwn ni’n trafod pob math o agweddau ar ddarllen, o’i ddylanwad i’w effaith ar ein bywydau bob dydd.
Yn rhannu atgofion ac argymhellion, rhinweddau a rhwystredigaethau a hynny efo gwesteion difyr.
Ymunwch â ni.
Sut i Ddarllen, podlediad newydd, ar gael yn fuan.













