DiscoverPryd ar Dafod
Pryd ar Dafod
Claim Ownership

Pryd ar Dafod

Author: Pryd ar Dafod

Subscribed: 0Played: 0
Share

Description

#PrydArDafod yw'ch cyfle i glywed beth yw tri hoff bryd bwyd rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru.

Ym mhob pennod fydd y gwesteion yn dewis...
- Pryd Plentyndod (pryd o fwyd sy'n eu hatgoffa o'u plentyndod)
- Pryd i Ddathlu (hoff fwyty ar gyfer dathliad a hanner)
- Pryd Unrhyw Bryd ('midweek meal' neu bryd sy'n 'staple' i'r gwesteion)

Ymunwch â Ianto Phillips a Dewi Richards sy'n cael y cyfle i drafod bwyd a theulu a phopeth rhwng y ddau.
15 Episodes
Reverse
Yr awdur, artist, cyflwynydd, y foodie (a'r Bardd Plant Cymru wrth gwrs) Siôn Tomos Owen yw gwestai y bennod hon.Lot o falu awyr, lot o fwyd a lot o hwyl. Mwynhewch!
Pennod 14: Efa Lois

Pennod 14: Efa Lois

2026-03-2055:37

Yn y bennod hon, y dylunydd, yr artist a'r awdur Efa Lois sy'n ymuno â Ianto a Dewi a'n rhannu ei hoff brydau. Ni'n trafod Penweddig, pinafalau, priodas, partis - a lot mwy o bethau'n dechrau gyda p. Joiwch. A sori bo ni'n siarad am bethe Nadoligaidd yn aml - ga'th hwn ei recordio jyst cyn Dolig (wps!).
***Rhybudd - iaith grêfi***Yn y bennod hon, y cerddor a'r artist Steffan Dafydd sy'n ymuno â Ianto a Dewi a'n rhannu ei hoff brydau. Ni'n trafod loads o bethe - bwyd, cerddoriaeth a Plasmawr wrth gwrs - ma llwyth ar y fwydlen yn y bennod hon.Mwynhewch, gwrandewch a rhannwch! Jolch x
Pennod 12: Llwyd Owen

Pennod 12: Llwyd Owen

2026-01-2201:12:08

Yr awdur, y podgastiwr a'r housewife anhygoel (diolch am y daal a'r brownies!) Llwyd Owen yw gwestai diweddara' Ianto a Dewi.O enwau canol gwirion i ryseitiau rili neis, mae llwyth i'w fwynhau ar y fwydlen!
Ho, ho, ho. Nadolig Llawen! Ein "Christmas Special" cynta' a sgwrs digon sbeshal gyda'r cogydd Rhodri Davies.Gaethon ni groeso cynnes ym mecws Alex Gooch, ar leoliad ei pop-yp, Sôs (@Sos_with_a_hat ar Instagram) a joio trafod bwyd, Cymraeg Plasmawr, ac ambell i gyfrinach am hoff a chas gogyddion Rhodri.Joiwch, bwytewch a byddwch lawen (a sori am safon y sain!) x
Pennod 10: Gareth Potter

Pennod 10: Gareth Potter

2025-12-1501:03:00

Y DJ, yr actor, y tywysydd, y sgwennwr, y canwr, y gwr bonheddig Gareth Potter sy'n gwmni i Ianto a Dewi tro 'ma.Chat lyfli a doniol am fwyd, cerddoriaeth, celfyddydau a'r Cymoedd. Gwrandewch, rhannwch a joiwch!
Pennod 9: Katie Hall

Pennod 9: Katie Hall

2025-11-1144:00

***Rhybudd - iaith grêfi***Yn y bennod hon, yr amryddawn, yr anhygoel, yr Aberdâr lej, Katie Hall o'r band Chroma sy'n ymuno gyda ni i drafod popeth o fiwsig i fwyd, tyfu lan a chillo mas.Mwynhewch, gwrandewch a rhannwch! Diolch!
Pennod 8: Daniel Glyn

Pennod 8: Daniel Glyn

2025-10-2843:44

***Rhybudd - iaith grefi***Comedïwr, ysgrifennwr... stuntman? Daniel Glyn sy'n ymuno 'da ni tro 'ma. Doniol, dirdynnol, diddorol a llwyth o eiriau eraill yn dechrau gyda d.Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru.Blydi Lyfli.
Pennod 7: Gwion Ifan

Pennod 7: Gwion Ifan

2025-10-0948:53

***Rhybudd - iaith grefi***"Y boi 'na o'r gorllewin sydd ar Hansh", Gwion Ifan sydd gyda ni wythnos 'ma. Y drydedd bennod yn fyw o'r 'Steddfod (ond y gynta' i gael ei recordio). Llwyth o hwyl a siarad am 'chydig o fwyd blasus.Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru.Tasty butt.
Pennod 6: Mari Elen

Pennod 6: Mari Elen

2025-10-0338:21

***Rhybudd - iaith grefi***Y perfformiwr, y dramodydd a'r PodledWrach Mari Elen sydd gyda ni tro' 'ma. Yr ail bennod yn fyw o'r 'Steddfod yn Wrecsam. Lot o hwyl, llwyth o smut - be well?Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru.Hapus. Blasus.
Pennod 5: Morgan Elwy

Pennod 5: Morgan Elwy

2025-09-1640:17

***Rhybudd - iaith gref***Y cerddor, y gwyddonydd a'r bach o bach o foodie (sori) Morgan Elwy yw'r gwestai tro 'ma. Yn fyw o Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam. Joiwch.Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru.
Pennod 4: Siôn Owens

Pennod 4: Siôn Owens

2025-08-2958:49

Siôn Owens - y comedïwr, y Cofi a basydd (de Cymru) Bwncath - yw ein gwestai tro 'ma. Boi doniol a diddorol sydd â dewisiadau bwyd digon...ym...diddorol.Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru.Joiwch!
Pennod 3: Hanna Jarman

Pennod 3: Hanna Jarman

2025-08-0154:52

***Rhybudd - iaith gref***Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru.Yr actor, awdur a'r dramodydd (a'r foodie) Hanna Jarman sy'n ymuno â nhw yn y bennod hon.Bone apple teeth!
Pennod 2: Emyr Siôn

Pennod 2: Emyr Siôn

2025-07-0847:28

***Rhybudd - iaith gref***Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru.Yn yr ail bennod, y cerddor a'r all-round funny guy Emyr Siôn yw'r gwestai. Dyma'ch cyfle i glywed os yw Emyr wir yn ddosbarth canol adeg 'Dolig.Mwynhewch, gwrandewch a rhannwch! Diolch!
***Rhybudd - iaith gref***Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru.Yn y bennod gyntaf, Jac Llwyd Northfield sy'n ymuno â Dewi ac Ianto. Boi doniol sy'n hoff o goginio, bwyta a rhannu ryseitiau.Mwynhewch, gwrandewch a rhannwch! Diolch!
Comments