Discover
Comisiynydd y Gymraeg

6 Episodes
Reverse
Wrth i ni edrych ymlaen at etholiad Senedd Cymru ym mis Mai 2026 mae Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones yn trafod ei maniffesto a’r blaenoriaethau penodol sydd ynddo. Hwn fydd y cyntaf mewn cyfres o bodlediadau fydd yn trafod y maniffesto felly cadwch olwg amdanynt dros y misoedd nesaf.
Yn y podlediad arbennig hwn i gyd-fynd ag ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg, mae Hanna Hopwood yn cael cwmni Non, Rachel ac Emma o’r grŵp Eden ac yn sgwrsio am eu profiadau nhw gyda’r iaith Gymraeg yn eu bywydau personol, ac yn eu gyrfaoedd.
Yn ein podlediad diweddaraf mae Mathew Thomas, Pennaeth Tîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg, yn sgwrsio gyda Hanna Hopwood am waith y tîm ac yn benodol am y Cynnig Cymraeg. Yn ymuno â nhw mae Harri Jones o gymdeithas adeiladu’r Principality.
Yn ein hail podlediad mae Osian Llywelyn, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, yn sgwrsio gyda Hanna Hopwood ac yn amlinellu ein dull rheoleiddio i'r dyfodol.
Wrth i Efa Gruffudd Jones ddod at ddiwedd ei blwyddyn gyntaf fel Comisiynydd y Gymraeg, mae hi'n sgwrsio gyda Hanna Hopwood, yn edrych yn ôl ar ei chyfnod cyntaf yn y swydd ac nodi rhai uchafbwyntiau, a’i gobeithion i'r dyfodol.
Mae podlediad cyntaf Comisiynydd y Gymraeg yn rhannu ei farn am sefyllfa'r Gymraeg dros y pum mlynedd diwethaf. Bydd Aled Roberts yn trafod ei weledigaeth am y blynyddoedd sydd i ddod er mwyn cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr sy'n defnyddio'r Gymraeg erbyn 2050