DiscoverCraffu360
Craffu360
Claim Ownership

Craffu360

Author: Golwg 360

Subscribed: 4Played: 89
Share

Description

Croeso i Craffu360, podlediad gwleidyddol Cymraeg newydd fydd yn holi rhai o ffigyrau mwyaf dylanwadol Cymru.

Bydd Craffu360 yn holi gwleidyddion y gorffennol, y presennol, a’r dyfodol, er mwyn clywed mwy am eu credoau a'u polisïau.

Byddwn ni hefyd yn sgwrsio â ffigyrau diwylliannol ledled y wlad er mwyn dysgu mwy am gyd-destun y Gymru sydd ohoni heddiw.
31 Episodes
Reverse
Y Gweinidog Cabinet dros Effeithlonrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad sydd yn ymuno a’r podlediad i drafod ei weledigaeth gyfansoddiadol i Gymru, gyda chanolbwyntio ar gyfiawnder a phlismona. Mewn sgwrs hirhoedlog, rydym yn trafod ei ymrwymiad i feicio fel Aelod o’r Senedd, gwylan yn cael damwain ar ei ben, a’r materion mwy difrifol sydd yn debyg o fod ar ei blât ar hyd ei gyfnod yn Llywodraeth Cymru.
Yn ymuno’n a’n Gohebydd Gwleidyddol, Rhys Owen, yr wythnos hon yw Aelod y Senedd Llafur dros Gaerdydd Penarth, Huw Thomas. O dan sylw mae goblygiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig o dan arweiniad Andy Burnham i Gymru.Mae Huw Thomas hefyd yn trafod penodiad Arweinydd Llafur yr Alban, Anas Sarwar, i Dŷ’r Arglwyddi – rhywbeth mae o’n dweud ei fod wedi “synnu” gyda.Mae hefyd y mater o Lafur Cymru, a’r angen am drafodaeth dros gyfeiriad y blaid yn symud i mewn i’r dyfodol wedi eu canlyniad gwaethaf mewn etholiad yn oes datganoli.
Gyda Phlaid Cymru yn methu a phasio ei gyllideb atodol, mae Efan a Rhys yn trafod be yw’r dyfodol yn edrych fel i Lywodraeth sydd eisiau llywodraethau’n effeithiol. Wrth i Syr Keir Starmer baratoi i adael Rhif 10 ar ddydd Llun, rydym yn edrych yn ôl ar ei amser o ran yr hyn mae ei ddylanwadu ar Gymru, os unrhyw beth.Hefyd o dan sylw mae Andy Burnham a’i weledigaeth i Brydain, a be all hyn olygu i setliad datganoledig Cymru.
Yn ymuno â Rhys ac Efan heddiw mae'r Llafurwr Owain Williams. Rydym yn pori drwy fethiannau Llafur Cymru a beth mae'n credu sydd angen digwydd nesaf i sicrhau bod Llafur yn goroesi ei her fwyaf: aros yn berthnasol. Hefyd, byddwn yn trafod dyfodol Swyddfa Cymru o dan brif weinidogaeth bosibl Andy Burnham, a'r ffaith ein bod eisoes dros chwarter y ffordd drwy gan diwrnod cyntaf Llywodraeth Plaid Cymru.Darllenwch fwy am beth mae Owain eisiau ei weld gan Lafur Cymru yma:https://nation.cymru/opinion/without-reinvention-welsh-labour-is-dead/
Rhys a Efan sy’n trafod straeon gwleidyddol mwyaf yr wythnos yng Nghymru, yn cynnwys sesiwn gyntaf Cwestiynau i’r Prif Weinidog i Rhun ap Iorwerth.
loading
Comments