DEWR

Cyfres o sgyrsiau am ‘ups and downs’ bywyd – a sut mae’r celfyddydau a chreadigrwydd yn gallu helpu drwy gyfnodau heriol a hapus.

HEATHER JONES

Yn y bennod olaf o’r gyfres ma’r lejand Heather Jones yn tywys Tara ar siwrne liwgar, gyffrous ac ysgytwol ei bywyd. Mae’n trafod sut mae canu wedi rhoi’r cryfder iddi ddelio gyda chyfnodau anodd a’r hyder i wynebu’r her o fod yn ferch yn y sîn gerddoriaeth yn y 70au. Cefnogwyd y prosiect gan arian y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Am wybodaeth am anhwylderau iechyd meddwl, neu wybodaeth am gymorth arbenigol ewch i www.meddwl.org

11-29
01:05:32

IOLO SELYF

Yn eu haduniad cynta’ mewn 6 mlynedd mae Tara ac Iolo Selyf yn edrych nôl ar ei gyfnod fel frontman Y Ffug, a’i brofiad o siarad yn gyhoeddus am iselder ac anorexia. Mae Iolo hefyd yn rhannu ei brofiadau o fyw fel cerddor yn ystod pandemig, tra’n byw efo’i Nain yn Brixton. Cefnogwyd y prosiect gan arian y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Am wybodaeth am anhwylderau iechyd meddwl, neu wybodaeth am gymorth arbenigol ewch i www.meddwl.org

11-22
52:14

MANON STEFFAN ROS

Mae Tara a Manon yn nabod ei gilydd ers llai na blwyddyn ond mae cyfeillgarwch y ddwy yn amlwg wrth iddynt drafod yr effaith o golli rhiant yn ifanc, cariad Manon tuag at ei gwaith fel un o awduron mwyaf adnabyddus Cymru a’i siwrne o ddod “nôl at Manon” gyda chymorth. Nid un, nid dwy… ond TAIR sgwrs rhwng y ddwy! Cefnogwyd y prosiect gan arian y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Am wybodaeth am anhwylderau iechyd meddwl, neu wybodaeth am gymorth arbenigol ewch i www.meddwl.org

11-15
01:09:34

GAI TOMS

Yn y sgwrs garedig, agored ac emosiynol hon mae’r cerddor barddol Gai Toms yn tywys Tara ar ei siwrne galed o golli ei fam i COVID, a sut mae ei gerddoriaeth a’i fywyd teuluol yn gysur mawr iddo. Cefnogwyd y prosiect gan arian y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Am wybodaeth am anhwylderau iechyd meddwl, neu wybodaeth am gymorth arbenigol ewch i www.meddwl.org

11-08
45:49

HUW STEPHENS

Yn y sgwrs gynnes hon mae’r DJ Huw Stephens yn cymharu nodiadau gyda Tara am ddechrau eu gyrfaoedd fel teenagers, eu cariad at festivals a’u profiad o ddelio gyda'r galar o golli rhiant. Yn symud o’i sêt holi arferol i’r sêt rhannu mae Huw yn edrych nôl dros uchafbwyntiau ei siwrne hyd yma a’r rhyfeddod o ddod yn dad i‘w fab bach. Cefnogwyd y prosiect gan arian y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Am wybodaeth am anhwylderau iechyd meddwl, neu wybodaeth am gymorth arbenigol ewch i www.meddwl.org

11-01
55:43

CATRIN FINCH

Mae pawb yn gwybod am ddewines y delyn, Catrin Finch, ond pwy sy’n adnabod y Catrin go iawn? Yn y sgwrs ysbrydoledig hon caiff Tara ei thywys ar rollercoaster bywyd Catrin o’r diwrnod y derbyniodd ei thelyn gyntaf, i deithio’r byd yn perfformio, dod allan yn hoyw, a'i brwydr â chanser. Byddwch yn barod i fynd ar siwrne! Cefnogwyd y prosiect gan arian y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Am wybodaeth am anhwylderau iechyd meddwl, neu wybodaeth am gymorth arbenigol ewch i www.meddwl.org

10-25
01:09:02

AMEER DAVIES-RANA

Mae Ameer Davies-Rana yn ymgyrchu'n ddiflino dros yr iaith Gymraeg ac yn addysgu pobl am grefydd a hil. Ar ôl profi hiliaeth yn ei arddegau, mae Ameer yn rhannu ei stori gyda Tara am sut y llwyddodd i droi ei brofiad anodd yn stori o lwyddiant, positifrwydd a dewrder. Cefnogwyd y prosiect gan arian y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Am wybodaeth am anhwylderau iechyd meddwl, neu wybodaeth am gymorth arbenigol ewch i www.meddwl.org

10-18
55:03

NON PARRY

Rhybudd! Mae’r gair b*ll*cks (a gwaeth) yn cael ei ddweud 9 gwaith yn y sgwrs onest a doniol yma. Y gantores Non Parry sy’n tywys Tara ar ei siwrne o ddygymod ag OCD, iselder a gor-bryder. Cefnogwyd y prosiect gan arian y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Am wybodaeth am anhwylderau iechyd meddwl, neu wybodaeth am gymorth arbenigol ewch i www.meddwl.org

10-11
01:08:44

HYWEL GWYNFRYN

Yn 2018 fe drowyd bywyd Hywel Gwynfryn ar ei ben i lawr pan gollodd ei wraig, ei fyd, Anja i gancr. Yn y sgwrs amrwd, liwgar a di-stop hon mae Tara yn clywed sut mae gallu Hywel i droi’r negyddol yn bositif, ei ddihangfa mewn celfyddyd a’i brofiad mwy diweddar o dderbyn therapi yn ei helpu i ddal i fynd a ‘dal i gredu.’ Cefnogwyd y prosiect gan arian y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Am wybodaeth am anhwylderau iechyd meddwl, neu wybodaeth am gymorth arbenigol ewch i www.meddwl.org

10-04
50:03

ELIN FFLUR

Mae Elin Fflur yn wyneb cyfarwydd fel cantores flaenllaw ac yn fwy diweddar fel cyflwynydd Heno a Cân i Gymru. Yn y sgwrs gynnes ac onest hon rhwng dwy hen ffrind mae Elin yn rhannu ei phrofiadau gyda Tara am flynyddoedd o geisio beichiogi, IVF a’i gobeithion am addysgu a gwella dealltwriaeth pobl am ei gilydd. Cefnogwyd y prosiect gan arian y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Am wybodaeth am anhwylderau iechyd meddwl, neu wybodaeth am gymorth arbenigol ewch i www.meddwl.org

09-27
48:36

DEWR YN DOD YN FUAN

Cyfres o sgyrsiau am ‘ups and downs’ bywyd – a sut mae’r celfyddydau a chreadigrwydd yn gallu helpu drwy gyfnodau heriol a hapus. Cefnogwyd y prosiect gan arian y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

09-02
01:19

Victor Pau

I only understand about 3% of what they're saying but I still love this podcast

09-23 Reply

Recommend Channels