Dewr
Claim Ownership

Dewr

Author: BBC Radio Cymru

Subscribed: 7Played: 111
Share

Description

Yn 2020 fe gychwynnodd Tara Bethan ar daith i ddysgu am sut mae’r creadigrwydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau mewn cyfnodau heriol a hapus. Yn ei chartref newydd ar BBC Sounds mae’r sgyrsiau yn parhau, a chawn gyfarfod mwy o wynebau cyfarwydd Cymru i glywed am y pethau sy’n eu cynnal nhw. Ar hyd y ffordd cawn glywed am brofiadau yn ymwneud ag iechyd meddwl a lles yn cael eu trafod mewn ffordd agored a gonest. Mae’r podlediad yma’n cynnwys iaith gref.

9 Episodes
Reverse
Elis James

Elis James

2022-01-2201:01:29

Y comedïwr Elis James sy’n trafod bywyd stand-up, ei bodlediad iechyd meddwl a’i fywyd newydd yn llenwi theatrau ar daith gyda’r Socially Distant Sports Bar.
Beti George

Beti George

2022-01-1655:32

Yn y bennod mae Tara yn cael cyfle i sgwrsio gyda’r ddarlledwraig Beti George, sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth iddi ar hyd ei gyrfa.Mae Beti yn fwy cyfarwydd â holi’r cwestiynau, ond y tro yma hi sy'n eu hateb gan drafod cyfnodau hapus a heriol ei bywyd a gyrfa.
Carys Eleri

Carys Eleri

2022-01-0856:25

Pwysigrwydd perthynas gyda ffrindiau, galar a gweld goleuni trwy’r tywyllwch. Yn y rhifyn yma mae Tara yn cael sgwrs gyda’r awdur a pherfformiwr ffabiwlys Carys Eleri yn y twba twym!
Seren Jones

Seren Jones

2022-01-0255:06

Mae Seren Jones yn gyflwynydd a chynhyrchydd podlediadau sy’n byw yn Llundain. Yn y sgwrs yma mae hi’n rhannu ei phrofiadau fel newyddiadurwraig a’n trafod cyfnodau hapus ac anodd ei bywyd a gyrfa.Roedd 2020 yn flwyddyn arbennig o heriol i Seren fel newyddiadurwraig, ac mae hi’n sôn am y ffordd gwnaeth ei phrofiad fel cyn-nofwraig broffesiynol ei helpu yn ystod y flwyddyn. Cawn glywed hefyd am ei gwaith yn sefydlu’r Black Swimming Association, a gobeithion Seren ar gyfer y dyfodol.
Erin Richards

Erin Richards

2021-12-1955:52

Hyder corff, rhewi wyau a rhyw… sgwrs ffraeth ac agored gyda’r actor a chyfarwyddwr adnabyddus. Yn wreiddiol o Benarth fe ddaeth Erin Richards yn wyneb cyfarwydd yng Nghymru fel cyflwynydd teledu. Yna fe ddaeth hi'n enwog ar draws y byd am chwarae rhan Babs yn y gyfres Gotham, ac mae ei gyrfa wedi mynd o nerth i nerth ers hynny. Mae’r bennod yma’n cynnwys iaith gref.
loading
Comments