DiscoverElis James – Dwy Iaith, Un Ymennydd
Claim Ownership
13 Episodes
Reverse
Garmon Ceiro, yr awdur comedi a golygydd gwasanaeth Golwg yw'r gwestai.
Y cerddor o Gaerdydd sy'n trafod bywyd a gyrfa rhwng sawl iaith...
Y canwr ac ymgyrchydd dylanwadol sy'n ymuno ag Elis James i drafod iaith, bywyd a gyrfa
Sgwrs am fywyd a gwaith rhwng dwy iaith gyda'r cynhyrchydd a chyfarwyddwr Luned Tonderai
Elis James sy'n trafod iaith, gwaith a bywyd gyda'r actor Richard Elis
Sgwrs rhwng y comedïwr Elis James a'r awdur a'r perfformiwr comedi Sian Harries. Mae'r ddau yn trafod magwraeth ieithyddol Sian a'i gyrfa.
Sgwrs rhwng y comedïwr Elis James a'r hanesydd yr Athro Prys Morgan. Beth oedd cyfraniad unigolion a chymdeithasau Cymreig ym mhrif ddinas Lloegr ar iaith a diwylliant Cymru ar hyd yr oesau? Pa mor hir fydd hi'n gymeryd i'r iaith Gymraeg golli rheolau treiglo? A sut mae rhedeg y ferf ' skidaddle’?
Elis James yn sgyrsio gyda'r comediwraig Esyllt Sears am ddwyieithrwydd.
Elis James sy'n sgwrsio gyda'r DJ Huw Stephens.
Sgwrs rhwng Elis James a'r gohebydd seneddol a'r awdur Elliw Gwawr. Mae'r ddau'n trafod cefndir ieithyddol Elliw a fagwyd ar aelwyd Gymraeg ond sydd bellach yn byw yn Essex ac yn trio magu plentyn dwyieithog yn ne ddwyrain Lloegr. Clywn am y penderfyniadau ieithyddol bwysig wrth sgwennu llyfrau coginio poblogaidd, ac am yr her o gyfathrebu'n glir ar y teledu a thrwy'r cyfryngau cymdeithasol wrth ohebu mewn cyfnod gwleidyddol cythryblus.
Sgwrs rhwng y comedïwr Elis James a chomisiynydd comedi Radio 4, Sioned Wiliam. Mae'r ddau yn trafod magwraeth ieithyddol Sioned yn y Bari, a sut mae wedi llwyddo i fagu mab sy'n Gymro Cymraeg yng nghanol Llundain. Clywn am yrfa ddisglair Sioned yn gweithio gyda mawrion y byd comedi o Steve Coogan i Jonathan Ross, ac ar rai o gyfresi comedi ac adloniant fwyaf dylanwadol y degawdau diwethaf, ynghyd a'r nofelau Cymraeg mae wedi bod yn 'sgwennu yn y blynyddoedd diweddar.
Y cerddor Gruff Rhys yw gwestai cyntaf y gyfres. Mae'r ddau yn trafod magwraeth ieithyddol Gruff, dylanwad y cyfnod pan fu'n astudio yn Barcelona, ac effaith iaith a dwyieithrwydd ar ei gyfansoddi, ei waith creadigol a'i fywyd teuluol.
Elis James sy'n archwilio’r ffordd mae iaith yn allwedd i ddiwylliant.