Discover
Gwleidydda
![Gwleidydda Gwleidydda](https://is1-ssl.mzstatic.com/image/thumb/Podcasts125/v4/ec/31/22/ec312259-c5c8-d603-fd5d-11edf1304c9a/mza_10678344311834666461.jpg/400x400bb.jpg)
54 Episodes
Reverse
Yn y podlediad olaf cyn yr etholiad cyffredinol, cyn ymgynghorydd Boris Johnson, Guto Harri sy’n ymuno â Vaughan a Richard yr wythnos hon. Ymgyrch y Ceidwadwyr a dyfodol y blaid yw rhai o’r pynciau o dan sylw.
Mae golwg penodol hefyd yn cael ei rhoi i’r etholiad yn yr Alban ac argraffiadau'r ymgyrch dros y pum wythnos diwethaf.
Faint o effaith mae honiadau o gamblo yn ei gael ar ymgyrch yr etholiad? Dyna brif ffocws Vaughan Roderick a’r Athro Richard Wyn Jones.Sylw i ymgyrch Plaid Cymru, gyda dadansoddiad gan cyn aelod Cynulliad y Blaid, Nerys Evans. Ac mae sylw penodol hefyd yn cael ei rhoi i etholaethau'r de.
Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones sy'n trafod maniffestos y Blaid Lafur a Phlaid Cymru gan ystyried perthynas Llafur Cymru a'r blaid yn eangach ar lefel Brydeinig. Yn ymuno gyda'r ddau mae Owen John cyn ymgynghorydd arbennig i gyn Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford i drafod tactegau Llafur yn yr ymgyrch hyd yma.
Hefyd mae'r ddau yn dadansoddi yr ymgyrch etholiadol y Ceidwadwyr dros yr wythnos diwethaf, tactegau ymgyrchu'r Democratiaid Rhyddfrydol ac arwyddocad Reform UK yn lansio ei 'chytundeb' gyda'r bobl ym Merthyr Tudful..
Cyfle hefyd i roi sylw penodol i etholaethau'r Canolbarth a'r Gorllewin.
Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones yn trafod yr ymgyrch etholiadol hyd yma, gan ganolbwyntio ar rai o etholaethau'r gogledd.
Vaughan Roderick a’r Athro Richard Wyn Jones sy’n cychwyn y ras i etholiad Senedd Cymru yng nghwmni Kate Crockett.
Trafodaeth danbaid wrth i’r UE a llywodraeth y DU geisio taro bargen ar gytundeb masnach.
Alun Thomas, Elliw Gwawr, Mared Gwyn, Paul Davies ac Hywel Williams sy'n trafod.
Alun Thomas yn holi pa mor barod fydd pawb i gael eu brechu o ystyried yr holl newyddion ffug ar wefannau.
Trafod effaith cyfyngiadau y coronafeirws ar yr ŵyl gyda Gwenllian Grigg, Teleri Glyn Jones, Dr Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru a Ifan Llywelyn.
Yr Athro Richard Wyn Jones, Vaughan Roderick a Morley Jones sy’n ymuno â Gwenllian Grigg.
Gwenllian Grigg sy’n holi Bethan James, Syr Deian Hopkin a’r Athro Jerry Hunter
Gwenllian Grigg sy’n cael cwmni Maxine Hughes, Catrin Jones a Jonathan Edwards
Dafydd Morgan, Teleri Glyn Jones, Cynog Prys a Carys Huws sy’n trafod y cyfnod clo...
Gwenllian Grigg sy'n trafod y cyfnod clo newydd gydag Alun Thomas, Yr Athro Arwyn Thomas Jones o Brifysgol Caerdydd a Dr Eleri Davies Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gwenllian Grigg, Richard Wyn Jones, Mared Gwyn a Vaughan Roderick sy’n trafod.
Vaughan Roderick, Sion Rogers, Ann Griffith a Maxine Hughes sy’n trafod y ras i’r Tŷ Gwyn
Ynghanol y newyddion pryderus am COVID19, beth allwn ni ei wneud i ofalu am ein hunain?
Gyda rhagor o gyfyngiadau wedi eu cyhoeddi i geisio atal lledaeniaid y coronafeirws heddiw, ydyn ni ar fin gweld ail don? Alun Thomas a’i westeion sy’n pwyso a mesur.
Kate Crocket yn trafod datblygiadau Brexit yng nghwmni Vaughan Roderick, Dr.Carol Bell a’r Athro Richard Wyn Jones.
Ddiwrnod cyn i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd Kate Crockett, Yr Athro Richard Wyn Jones, Dr. Edward Thomas Jones a Mared Gwyn sy’n rhoi’r byd gwleidyddol yn ei le.
Comments