Gwleidydda

<p>Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos. Political discussion.</p>

02 Gorffennaf: Dyfodol y Ceidwadwyr, a'r etholiad yn yr Alban

Yn y podlediad olaf cyn yr etholiad cyffredinol, cyn ymgynghorydd Boris Johnson, Guto Harri sy’n ymuno â Vaughan a Richard yr wythnos hon. Ymgyrch y Ceidwadwyr a dyfodol y blaid yw rhai o’r pynciau o dan sylw. Mae golwg penodol hefyd yn cael ei rhoi i’r etholiad yn yr Alban ac argraffiadau'r ymgyrch dros y pum wythnos diwethaf.

07-02
28:52

26 Mehefin: Y sgandal gamblo, a'i effaith ar yr ymgyrch

Faint o effaith mae honiadau o gamblo yn ei gael ar ymgyrch yr etholiad? Dyna brif ffocws Vaughan Roderick a’r Athro Richard Wyn Jones.Sylw i ymgyrch Plaid Cymru, gyda dadansoddiad gan cyn aelod Cynulliad y Blaid, Nerys Evans. Ac mae sylw penodol hefyd yn cael ei rhoi i etholaethau'r de.

06-26
34:25

19 Mehefin: Maniffestos Y Blaid Lafur a Phlaid Cymru

Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones sy'n trafod maniffestos y Blaid Lafur a Phlaid Cymru gan ystyried perthynas Llafur Cymru a'r blaid yn eangach ar lefel Brydeinig. Yn ymuno gyda'r ddau mae Owen John cyn ymgynghorydd arbennig i gyn Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford i drafod tactegau Llafur yn yr ymgyrch hyd yma. Hefyd mae'r ddau yn dadansoddi yr ymgyrch etholiadol y Ceidwadwyr dros yr wythnos diwethaf, tactegau ymgyrchu'r Democratiaid Rhyddfrydol ac arwyddocad Reform UK yn lansio ei 'chytundeb' gyda'r bobl ym Merthyr Tudful.. Cyfle hefyd i roi sylw penodol i etholaethau'r Canolbarth a'r Gorllewin.

06-19
39:46

12 Mehefin: Etholaethau'r Gogledd

Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones yn trafod yr ymgyrch etholiadol hyd yma, gan ganolbwyntio ar rai o etholaethau'r gogledd.

06-12
31:42

Llond Bol o Bledleisio

Vaughan Roderick a’r Athro Richard Wyn Jones sy’n cychwyn y ras i etholiad Senedd Cymru yng nghwmni Kate Crockett.

03-25
22:45

Brexit yn Berwi

Trafodaeth danbaid wrth i’r UE a llywodraeth y DU geisio taro bargen ar gytundeb masnach.

12-18
24:59

Cytundeb masnach ar y dibyn?

Alun Thomas, Elliw Gwawr, Mared Gwyn, Paul Davies ac Hywel Williams sy'n trafod.

12-11
24:16

Y Brechlyn Newydd

Alun Thomas yn holi pa mor barod fydd pawb i gael eu brechu o ystyried yr holl newyddion ffug ar wefannau.

12-04
24:51

Nadolig Covid

Trafod effaith cyfyngiadau y coronafeirws ar yr ŵyl gyda Gwenllian Grigg, Teleri Glyn Jones, Dr Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru a Ifan Llywelyn.

11-27
21:08

Drama Downing Street

Yr Athro Richard Wyn Jones, Vaughan Roderick a Morley Jones sy’n ymuno â Gwenllian Grigg.

11-20
21:11

Beth nesa i America?

Gwenllian Grigg sy’n holi Bethan James, Syr Deian Hopkin a’r Athro Jerry Hunter

11-13
22:38

Y Ras i'r Tŷ Gwyn

Gwenllian Grigg sy’n cael cwmni Maxine Hughes, Catrin Jones a Jonathan Edwards

11-06
21:13

Hydref Dan Glo...

Dafydd Morgan, Teleri Glyn Jones, Cynog Prys a Carys Huws sy’n trafod y cyfnod clo...

10-30
21:14

Yr Ail Glo

Gwenllian Grigg sy'n trafod y cyfnod clo newydd gydag Alun Thomas, Yr Athro Arwyn Thomas Jones o Brifysgol Caerdydd a Dr Eleri Davies Iechyd Cyhoeddus Cymru.

10-23
20:50

Pysgota am gytundeb Brexit?

Gwenllian Grigg, Richard Wyn Jones, Mared Gwyn a Vaughan Roderick sy’n trafod.

10-16
20:32

Y Ras i'r Tŷ Gwyn

Vaughan Roderick, Sion Rogers, Ann Griffith a Maxine Hughes sy’n trafod y ras i’r Tŷ Gwyn

10-07
23:36

Hunan-ofal mewn cyfnod pryderus

Ynghanol y newyddion pryderus am COVID19, beth allwn ni ei wneud i ofalu am ein hunain?

10-02
26:06

Podlediad Cymru Fyw: Yr Ail Don?

Gyda rhagor o gyfyngiadau wedi eu cyhoeddi i geisio atal lledaeniaid y coronafeirws heddiw, ydyn ni ar fin gweld ail don? Alun Thomas a’i westeion sy’n pwyso a mesur.

09-25
23:45

Llond Bol o Brexit?

Kate Crocket yn trafod datblygiadau Brexit yng nghwmni Vaughan Roderick, Dr.Carol Bell a’r Athro Richard Wyn Jones.

06-17
22:49

Llond Bol o Bolitics

Ddiwrnod cyn i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd Kate Crockett, Yr Athro Richard Wyn Jones, Dr. Edward Thomas Jones a Mared Gwyn sy’n rhoi’r byd gwleidyddol yn ei le.

01-30
22:27

Recommend Channels