Gwrachod Heddiw

<p>Trafod hefo rhai o genod mwyaf di-flewyn-ar-dafod Cymru.Podlediad yn dathlu merched Cymru, trwy geisio canfod pa nodweddion mae nhw’n ei rannu hefo gwrachod confensiynol. </p>

Trafod hefo Meilir Rhys

Send us a text Mynd i'r Bala mewn cwch banana? Na, mynd i'r Bala i drafod patriarchaeth, bod yn driw i chdi dy hun rhywioldeb a llawer mwy hefo' brodor o'r ardal... yr Actor, Cyflwynydd, Podlediwr o fri Meilir Rhys. Yn y sgwrs bwerus, hwyl a thyner yma, mae Mari yn trafod popeth Gwrachaidd hefo Meilir, gan gynnwys ei fagwraeth, ei gariad at drawsnewid ffurf ac wrth gwrs Ru Paul. Gwrandewch, Mwynhewch... ...byddwch wych, byddwch wrachaidd xoxo

07-17
58:08

Trafod hefo Lisa Jên

Send us a text Yn y bennod yma, mae Mari'n eistedd i lawr gyda'r actores, cantores, perfformiwr, a chydlynydd agosatrwydd Lisa Jên Brown ym mro ei mebyd, Bethesda. Mae'r ddwy yn sgwrsio am ddarganfod eu llwyth, byw yn driw i'w hunain, a'r holl anturiaethau hudolus a gwrachaidd mae Lisa wedi bod yn eu gwneud. Peidiwch â cholli'r sgwrs ysbrydoledig a swyngyfareddol hon! Byddwch Wych, Byddwch Wrachaidd ✨ In this episode, Mari sits down with the brilliant actress, singer, performer, and intima...

12-17
01:22:36

Trafod hefo Angharad Tomos

Send us a text "Gwrach glên oedd Rala Rwdins..." Anaml iawn mae rhywun yn cael y cyfle i gyfweld ag arwres eu plentyndod , ond dyna'n union mae'r podlediwr Mari Elen yn gwneud yn y bennod arbennig yma o Gwrachod Heddiw. Wedi ei recordio yn yr Orsaf ym Mhenygroes, mae Mari yn holi'r awdur, arlunydd, dramodydd ac ymgyrchydd Angharad Tomos. Gwrandewch a mwynhech sgwrs hir am Wlad y Rwla, Ymgyrchu, Eileen Beasley, Cyflwr y byd a pha mor bwysig ydi bod yn driw i dy hun a'th egwy...

10-22
01:35:18

Trafod hefo Caryl Burke

Send us a text Croeso nôl i fyd Gwrachod Heddiw! Dyma'r bennod cyntaf yn ein trydydd cyfres, ac mae'n fraint gael cyflwyno y digrifwr Caryl Burke! Yn y bennod doniol a thwymgalon hon, mae’r digrifwr Caryl Burke yn ymuno â ni o flaen cynulleidfa byw yn Nhafarn y Plu, Llanystumdwy am sgwrs di-flewyn-ar-dafod am gathod, galar, comedi a boobs. Rydyn ni'n plymio'n ddwfn i'r hyn sy'n gwneud Caryl yn debycach i wrach heddiw - boed yn gasineb at gathod, ei synnwyr gomedi hudolus, neu ei phersbecti...

10-01
53:01

Trafod gyda Lauren Albertina-Morais - Cathod Sassy, Beyonce a bod yn ffrind gorau i chdi dy hun

Send us a text CALAN GAEAF HAPUS WITCHEZ! Dyma bennod newydd o Gwrachod Heddiw i ddathlu. Yn y bennod yma, dwi'n siarad hefo'r actor / perfformiwr / bardd / cyfarfwyddwr o fri Lauren Albertina-Morais am yr holl bethau sydd yn ei gwneud hi'n wrachaidd. Mwynhewch Hags, A Plis @iwch fi hefo'ch gwisgoedd gwrachaidd! Byddwch wych, Byddwch Wrachaidd

10-31
01:02:44

Trafod gyda Mhara Starling : Swyngyfaredd, Doethgrefft, Trawsffobia a bwlio.

Send us a text Sgwrs gyda'r swynwraig Mhara Starling am wir ystyr y term "Gwrach". Yn y bennod hir hon o Gwrachod Heddiw, mae Mhara yn sôn am hanes swyngyfaredd a doethgrefft yng Nghymru, ei hanes personol hi a'r rhwystrau mae hi wedi wynebu yn ei bywyd i gyrraedd lle mae hi rŵan. Sgwrs ddwys, ddigri ac ysbrydol! Byddwch Wych, Byddwch Wrachaidd xoxo

08-17
01:39:38

Trafod gyda Mahum Umer : Cynrychiolaeth, Iechyd Meddwl a Ffitio Mewn

Send us a text Sgwrs am Iechyd meddwl, cynrychiolaeth o ferched ifanc Mwslimaidd yn y cyfryngau yng Nghymru a ffitio mewn. Ymunwch hefo Mari Elen mewn sgwrs gwrachaidd hefo'r awdur ifanc Mahum Umer, un o gyd-awduron cyfres y Pump.

07-19
01:03:31

Trafod Hefo Llinos Anwyl

Send us a text Trafod hefo'r wrach Llinos Anwyl am ei chelf, pwer geiriau, pwysau teulu ar dy hunaniaeth a sut oedd merched yn cosbi dynion oedd yn gneud petha rybish yn yr hen ddyddiau.

05-11
01:02:00

Trafod Hefo Emmy Stonelake

Send us a text Yr actor a’r model Emmy Stonelake ydy’r wrach dwi’n sgwrsio hefo heddiw, am nabod dy hun, cathod, drag race a bod yn ferched blewog ✨

04-20
01:02:00

Trafod Hefo Mirain Fflur

Send us a text Nabod dy werth, nabod dy gorff a Jini Me Jos. Sgwrs hefo'r perfformiwr / gwneuthiwr theatr a'r artist, Mirain Fflur am yr holl bethau sydd yn ei gwenud hi'r gwrach ydy hi. Mwynhau y podlediad? Hoffwch, tanysgrifiwch a rhowch adolygiad bach. Mae o'n gwneud BYD o wahaniaeth, coeliwch chi fi! Trydarwch gan ddefnyddio #GwrachodHeddiw i adael i mi wybod pa bethau Gwrachaidd 'dachi 'di bod yn gwneud, rhannwch hefo ffrind a sleidiwch mewn i'n DMs i. Bydwch wych, byddwch w...

03-30
01:02:10

Trafod Hefo Hanna Hopwood Griffiths

Send us a text Heuldro'r Gaeaf Hapus fy swynwragedd ysbennydd! Ym mhennod ola'r gyfres mi ydw i'n trafod hefo'r Academwrach hyfryd Hanna Hopwood Griffiths am ferched yr oesoedd canol , gwallt, esgor a sut mae hi'n gwneud ei bywyd hi'n haws. Diolch am eich cefnogaeth yn ystod y misoedd diwethaf, dwi'n lyfio witchez fi.

12-21
01:02:47

Trafod hefo Mama Lleuad

Send us a text Doula, Mam, Gwrach o Waunfawr. Sgwrs hefo'r hyfryd Mama Lleuad (Catrin Jones) am foddion, rhianta, placenta a natur. Mwynhewch!

12-09
59:55

Trafod hefo Llio Maddocks

Send us a text "Pan dwi'n cymharu'n ateb wan hefo be dd'udodd Mared Llywelyn am ri mwyar duon ym mhoced ei chwaer dwi fatha: Wyt ti'n serious?!" Sgwrs hefo'r bardd a'r awdur Llio Maddocks am berthnasau, Ffrindiau, Matilda, yr obsesiwn hefo : "Dwi ddim fatha' genod eraill", periods a lot o chwerthin! Mwynhewch!

11-25
43:56

Trafod hefo Bethan Gwanas

Send us a text Madarch, cwtshus i goed, byw ben dy hun ac wrth gwrs Siwsi Dôl-y-Clochydd. Sgwrs hefo Brenhines byd gwrachaidd Cymru, Bethan Gwanas. "Hefo synhwyro ysbrydion, ella dyna pam dwi’n gallu byw mewn tŷ ben fy hun... ma’ ‘na ysbrydion bob man, dwi’m yn gweld nhw... poeni dim arna fi”

11-04
55:10

Trafod Hefo Nia Llinos

Send us a text "Mae menywod yn treulio eu holl bywydau yn rhoi pŵer nhw a rhoi gwaed nhw a rhoi egni nhw mewn i bobl erill fel teulu a partneriaid a pethe, ond mae gwrachod yn pobl sy'n troi y pŵer 'na nôl at ei hun." Sgwrs gyda'r awdur a'r dramodydd Nia Llinos am bod yn od, yn lleiafrifol a sut mae horror yn helpu hefo gor-bryder.

10-21
40:18

Trafod hefo Efa Lois

Send us a text Positifrwydd, Gwrachod, Ffrogiau o'r 70au a chydig bach o Chwedloniaeth. Sgwrs gyda'r pensaer a'r arlunydd holl alluog, Efa Lois. Sgwrs hyfryd am godi llais pan bod angen, y broses creu a meithrin syniadau a'i chariad at cyd-ferched... a gwrachod.

10-08
51:04

Trafod hefo Gwennan Mair Jones

Send us a text Piriyds, Corff, Dyslecsia a tylluan o'r enw Bili. Sgwrs onest hefo Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd, Gwennan Mair Jones. "Os dani'n meddwl am y classics... dwi methu hedfan na?" Mwynhewch sgwrs hyfryd hefo gwrach hyfryd.

09-24
54:21

Trafod hefo Mared Llywelyn

Send us a text "Ma'n ffrindia fi'n d'eud fi 'sa'r person cynta' i ga'l fy hudo mewn i ymuno hefo cult" Sgwrs gyda'r dramodydd Mared Llywelyn am ei natur cenedlaetholgar, ei bro, ei chyfnod yn y brifysgol a Hocus Pocus. Mwynhewch!

09-09
40:35

Recommend Channels