Discover
Lleisiau Llŷn
10 Episodes
Reverse
Dewch i wrando ar ddisgyblion Ysgol Sarn Bach yn trafod popeth! O gadw'n heini a bwyta'n iach i ffermio a llawer mwy!
Podlediad Beicio disgyblion Blwyddyn 5 a 6 Ysgol Llanbedrog, yn trin a thrafod manteision beicio a beicio yn yr ardal leol.
Rydym ni yma'n Ysgol Foel Gron wedi bod yn brysur yn dysgu am y bydysawd, felly fe wnaethom benderfynu creu ein podlediad am yr hyn yr oeddem wedi ei ddysgu. Mae yna wyth grwp yn siarad a sgwrsio am blanedau, gofodwyr enwog, bywyd ar blanedau eraill (yn cynnwys sgwrs efo’r cyfnod sylfaen), yr haul a’r sêr, y lleuad, gorsaf ofod, asteroid a bydysawd eraill. Gobeithio y gwnewch ei fwynhau!
Dewch i gwrdd a rhai o dalentau lleol yr ardal gyda disgyblion Ysgol Nefyn.
Dyma bodlediad gan blant Ysgol Morfa Nefyn yn sôn am bwysigrwydd ailgylchu.
Podlediad yn trafod llyfrau a chyfweliad gyda'r awdur Llŷr Titus. Beth am wrando ar ddisgyblion Blynyddoedd 5 a 6 Ysgol Edern, Llŷn, yn holi Llŷr am ei waith a'i ddylanwadau.
Dyma blant blwyddyn 5 yn trafod mynydd Garn Fadryn. Mae'r plant wedi mwynhau ymchwilio a dysgu gymaint am y mynydd sydd mor agos atynt ym Mhont y Gof.
Cawn gyfle i glywed hanes yr ynys a phrofiadau unigolion am yr ynys a hynny yng ngofal criw o ddisgyblion blwyddyn 8 Ysgol Botwnnog.
Podlediad Mantell yr Arbenigwr Ysgol Crud y Werin
Dyma griw o Ysgol Tudweiliog yn cyflwyno hanes llongddrylliad Y Cyprian













