Lleisiau Llŷn

Cyfres o bodlediadau gan Ysgolion Dalgylch Botwnnog.

Ysgol Sarn Bach

Dewch i wrando ar ddisgyblion Ysgol Sarn Bach yn trafod popeth! O gadw'n heini a bwyta'n iach i ffermio a llawer mwy!

07-13
11:50

Podlediad Ysgol Llanbedrog

Podlediad Beicio disgyblion Blwyddyn 5 a 6 Ysgol Llanbedrog, yn trin a thrafod manteision beicio a beicio yn yr ardal leol.

06-29
25:31

Podlediad Ysgol Foel Gron

Rydym ni yma'n Ysgol Foel Gron wedi bod yn brysur yn dysgu am y bydysawd, felly fe wnaethom benderfynu creu ein podlediad am yr hyn yr oeddem wedi ei ddysgu. Mae yna wyth grwp yn siarad a sgwrsio am blanedau, gofodwyr enwog, bywyd ar blanedau eraill (yn cynnwys sgwrs efo’r cyfnod sylfaen), yr haul a’r sêr, y lleuad, gorsaf ofod, asteroid a bydysawd eraill. Gobeithio y gwnewch ei fwynhau!

05-20
23:23

Ysgol Nefyn - Talentau Lleol

Dewch i gwrdd a rhai o dalentau lleol yr ardal gyda disgyblion Ysgol Nefyn.

04-05
16:13

Podlediad Ysgol Morfa Nefyn

Dyma bodlediad gan blant Ysgol Morfa Nefyn yn sôn am bwysigrwydd ailgylchu.

03-30
05:48

Podlediad Ysgol Edern

Podlediad yn trafod llyfrau a chyfweliad gyda'r awdur Llŷr Titus. Beth am wrando ar ddisgyblion Blynyddoedd 5 a 6 Ysgol Edern, Llŷn, yn holi Llŷr am ei waith a'i ddylanwadau.

03-30
16:56

Podlediad Pont y Gof

Dyma blant blwyddyn 5 yn trafod mynydd Garn Fadryn. Mae'r plant wedi mwynhau ymchwilio a dysgu gymaint am y mynydd sydd mor agos atynt ym Mhont y Gof.

03-22
24:00

Ysgol Botwnnog - Enlli a'i Phobl

Cawn gyfle i glywed hanes yr ynys a phrofiadau unigolion am yr ynys a hynny yng ngofal criw o ddisgyblion blwyddyn 8 Ysgol Botwnnog.

03-18
35:25

Ysgol Crud Y Werin

Podlediad Mantell yr Arbenigwr Ysgol Crud y Werin

03-18
06:50

Ysgol Tudweiliog

Dyma griw o Ysgol Tudweiliog yn cyflwyno hanes llongddrylliad Y Cyprian

03-18
06:51

Recommend Channels