Pethe

Lisa Gwilym a chriw cynhyrchu Pethe yn trafod y newyddion diweddaraf o fyd y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt.

Pethe 29 - Festival Number Six

Gwion Hallam fuodd yn sgwrsio gyda pump arall fuodd yn yr wyl dros y penwythnos diwethaf - Siwan Haf, Iestyn Lloyd, Daniel Parry Evans, Llyr ab Alwyn ac Osian Howells. Pob un wedi cael profiad hollol wahanol o'r wyl ym Mhortmeirion.

09-12
19:17

Pethe 28 - Plu yn Gŵyl Arall

Elan Mererid Rhys o'r band 'Plu' fuodd yn sgwrsio gyda Lisa Gwilym mewn sesiwn yn ystod Gŵyl Arall 2014

07-24
32:27

Pethe 27 - Gwenno Saunders yn Gŵyl Arall

Gwenno Saunders fuodd yn sgwrsio gyda Lisa Gwilym mewn sesiwn yn ystod Gŵyl Arall 2014. Mae hefyd cyfle i glywed Gwenno'n perfformio rhai o'i chaneuon.

07-23
35:20

Pethe 26 - Categori Barddoniaeth, Llyfr Y Flwyddyn 2014

Ifor ap Glyn sy'n trafod y llyfrau yng nghategori barddoniaeth Llyfr Y Flwyddyn 2014 gyda Gwion Hallam yn ein podlediad diweddaraf

06-26
28:10

Pethe 25 - Categori Ffuglen, Llyfr Y Flwyddyn 2014

Menna Machreth a Non Tudur sy'n trafod y llyfrau yng nghategori ffuglen Llyfr Y Flwyddyn 2014 gyda Gwion Hallam yn y podlediad yma.

06-05
29:18

Pethe 24 - Categori Ffeithiol Greadigol, Llyfr y Flwyddyn 2014

Gwion Hallam fuodd yn trafod llyfrau yng nghategori Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2014 gyda Emyr Gruffudd a Meg Elis.

05-28
31:21

Pethe 23 - Cylch Canu

Gwion Hallam sy’n holi’r cerddor Stephen Rees (Ar Log, Crasdant) a’r canwr Gwilym Bowen Rhys (Y Bandana, Plu) am yr adfywiad yn y sîn gwerin yng Nghymru, a nhw ymhlith deg cerddor sy’n teithio’r sioe werin ‘Cylch Canu/Songchain’ o gwmpas y wlad.

04-11
17:16

Pethe 22 - Theatr Bara Caws

Gwion Hallam fuodd yn sgwrsio gyda Betsan Llwyd am gynhyrchiad diweddaraf Theatr Bara Caws, 'Dros Y Top'

03-31
12:56

Pethe 21 - Dros Y Top

Gwion Hallam fuodd yn sgwrsio gyda thri o actorion ac ysgrifenwyr 'Dros Y Top' - cynhyrchiad diweddaraf Theatr Bara Caws, sef Carwyn Jones, Rhian Blythe a Rhodri Sion.

03-21
11:16

Pethe 20 - Blodeuwedd

Gwion Hallam sy'n holi Yr Athro Gwyn Thomas am gynyrchiad newydd Theatr Genedlaethol Cymru, Blodeuwedd.

02-07
14:02

Pethe 19 - Intermission gan Owen Martell

Gwion Hallam sy’n holi’r nofelydd John Rowlands am nofel Saesneg gyntaf Owen Martell - Intermission.

12-11
15:49

Pethe 18 - Cerddoriaeth

Gwion Hallam sy'n trafod cerddoriaeth newydd sydd ar gael rhwng nawr a chyfnod y Nadolig gydag Osian Howells a Gethin Evans

12-02
29:23

Pethe 17 - Cerddi'r Goron

Lisa Gwilym, Aneurin Thomas ac Ifor ap Glyn sy'n trafod ‘Terfysg’ – Cerddi’r Goron. Triniaeth drawiadol o’r casgliad o gerddi a enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Dinbych i Ifor.

10-11
16:00

Pethe 16 - Cyfres newydd

Yn y podlediad yma, Lisa Gwilym a Gwion Hallam sy'n edrych ymlaen at gyfres newydd o 'Pethe'

10-07
13:26

Pethe 15 - Manon a Lleuwen Steffan

Lisa Gwilym fuodd yn cynnal sesiwn trafod gyda Manon a Lleuwen Steffan yn ystod penwythnos Gwyl Arall yng Nghaernarfon.

07-30
34:14

Pethe 14 - Gwyneth Glyn

Cyfe i fwynhau sgwrs a sesiwn acwstig gyda Gwyneth Glyn fel un o ddigwyddiadau Pethe yn Gwyl Arall 2013.

07-25
42:11

Pethe 13 - Categori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn

Nici Beech ac Ifor ap Glyn sy'n ymuno gyda Gwion Hallam ar gyfer trafod categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2013, sef Trydar Mewn Trawiadau gan Llion Jones, Parlwr Bach gan Eigra Lewis Roberts ac O Annwn i Geltia gan Aneirin Karadog.

07-16
33:51

Pethe 11 - Categori Ffuglen Llyfr y Flwyddyn

Gwion Hallam sy’n holi Eirian (Palas Print) James a Rhian George am y nofel Blasu gan Manon Steffan Ros, y nofel Ras Olaf Harri Selwyn gan Tony Bianchi a’r nofel Cig a Gwaed gan Dewi Prysor.

07-15
22:09

Pethe 12 - Categori Ffeithiol Llyfr y Flwyddyn

Meg Elis a Non Tudur sy’n trafod y llyfrau ar y rhestr ffeithiol hefo Gwion Hallam. Beth fydd eu barn am Cofnodion gan Meic Stephens, Yr Erlid gan Heini Gruffudd, a Tuchan o Flaen Duw gan Aled Jones Williams?

07-12
22:53

Pethe 10 - Yr Ods

Lisa Gwilym sy’n sgwrsio efo Osian Howells – aelod o Yr Ods – am yr ail albwm hir ddisgwyliedig. Mae’r albwm “Llithro” yn cael ei rhyddhau yn fuan, a dyma gyfle arbennig i glywed a mwynhau caneuon oddi ar y casgliad newydd. Lisa Gwilym speaks with Osian Howells – a member of “Yr Ods” – about their forthcoming second album. “Llithro” will be released in the next month, but here’s a great opportunity to listen and enjoy tracks from the new collection.

07-02
34:06

Recommend Channels