DiscoverPod Sgorio
Pod Sgorio
Claim Ownership

Pod Sgorio

Author: S4C

Subscribed: 8Played: 84
Share

Description

Y gorau o gampau’r Cymry ar draws y cynghreiriau pêl-droed, croeso i Pod Sgorio.
149 Episodes
Reverse
Mae'n dymor newydd yn Uwch-gynghrair Cymru ac mae Sioned, Ifan a Dylan yn trafod y penwythnos agoriadol, perfformiad clybiau Cymru yn Ewrop, ac edrych ymlaen at weddill y tymor. It's a new season of the Cymru Premier and Sioned, Ifan and Dylan discuss the performance of Welsh clubs in Europe, look forward to the upcoming season, and look back on the opening weekend (including a big shock already!)
Pod 124: Hwlffordd yn Ewrop gyda Mike Davies Sylwebydd Sgorio Mike Davies sy'n ymuno â Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym i drafod llwyddiant Hwlffordd yn y Gemau Ail-gyfle a chyrraedd Ewrop am yr ail dro mewn tair mlynedd. Cyfle hefyd i drafod y twll mae colli Aberystwyth a'r Drenewydd o Uwch Gynghrair Cymru yn ei adael yng Nghanolbarth Cymru, Connor Roberts yn ymarfer gyda'r tîm cenedlaethol a balchder Mike wrth weld ei gyn-ddisgybl yn Ysgol Bro Preseli Angharad James yn capteinio menywod Cymru yn Ewro 2025 dros yr Haf. Sgorio commentator Mike Davies joins Sioned Dafydd and Ifan Gwilym to discuss Haverfordwest County's Play-Off victory and achieving European football for the second time in three seasons. They also chat about the gap left in Mid Wales following Aberystwyth Town and Newtown's relegation from the Cymru Premier JD, Connor Roberts' international call-up and Mike's delight and pride at seeing his former Ysgol Bro Preseli pupil, Angharad James captain Wales Women at this summer's Euros.
Dylan, Ifan a Sioned sy'n trafod rowndiau terfynol Cwpan Cymru, ymddeoliad John Disney, a'r gemau ail-gyfle i gyrraedd Ewrop (yn ogystal ag Arsenal yng Nghynghrair y Pencampwyr, wrth gwrs!) Dylan, Ifan and Sioned chat Welsh Cup finals, shock retirement announcements, and European play-offs (while there's also time to check on Dylan's nerves before Arsenal's Champions League semi final)
Pod 122: Pwynt yn Göteborg, gôl fawr Francis a Callum McKenzie Mae Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym yn ôl i drafod llwyddiant tîmoedd menywod Cymru ac edrych ymlaen at benwythnos mawr tua waelod tabl Uwch Gynghrair Cymru wrth i'r Drenewydd herio Aberystwyth yn fyw ar Sgorio. Sioned Dafydd and Ifan Gwilym are back to discuss the recent success for the Wales Womens first team and Under-19s then look ahead to a big weekend at the bottom of the Cymru Premier as Newtown host Aberystwyth live on Sgorio.
Gyda gêm bwysig yn y frwydr i osgoi’r cwymp ar y ffordd y penwythnos yma, Tomi Morgan sy'n ymuno am sgwrs i drafod Aberystwyth a’r Drenewydd, sydd byth wedi cwmpo o’r Uwch-gynghrair eto – ond gyda'r ddau mewn peryg ar hyn o bryd. Aberystwyth v Y Drenewydd yn fyw ar Sgorio am 12 dydd Sadwrn (cic gynta am 12.15) With an important game in the relegation battle this weekend, Tomi Morgan joins Pod Sgorio to discuss Aberystwyth and Newtown, who have never been relegated from the Premier League yet - but with both in danger at the moment. Aberystwyth v Newtown live on Sgorio at 12 on Saturday (kick-off at 12.15)
Pod 120: Cwpan Cymru gyda James Davies Nicky John ac Ifan Gwilym sy'n dechrau'r pod yn edrych yn ôl ar buddugoliaeth hanesyddol Y Seintiau Newydd dros Abertawe yn Nhlws Yr Adran cyn edrych ymlaen at benwythnos o Gwpan Cymru JD. Mae Ifan yn cael sgwrs gyda chwaraewr Airbus UK, James Davies am eu tymor hyd yma a'r gobeithion wrth iddyn nhw herio'r Seintiau Newydd bnawn Sadwrn. Nicky John and Ifan Gwilym look back at The New Saints Women's historical Adran Trophy victory over Swansea City Women before turning their attention to this weekend's JD Welsh Cup action. Ifan chats with Airbus UK's James Davies about their season so far and the prospect of facing The New Saints on Saturday.
Owain Jones (Hwlffordd) sy'n ymuno ag Ifan a Sioned wythnos yma i drafod tymor Hwlffordd hyd yn hyn, a'u gem nhw yn erbyn Penybont dros y penwythnos (YN FYW ar-lein ac ar eich teledu clyfar ddydd Sadwrn 1 Chwefror 12:10). Mae hefyd cyfle i drafod cyn-glwb Owain, Merthyr yn dilyn y newyddion eu bod wedi cael cynnig £6m wrth y Gymdeithas Bel-droed i ymuno a'r pyramid yng Nghymru. Owain Jones (Haverfordwest) joins Ifan and Sioned this week to discuss Haverfordwest's season so far, and their upcoming game against Penybont (LIVE online and on your smart TV on Saturday 1 February 12 :10). There is also an opportunity to discuss Owain's former club, Merthyr Town, following the news that they had been offered £6m by the FAW to join the pyramid in Wales.
Ar y Pod wythnos yma cawn glywed wrth Jack Sharpe am gynlluniau Cymdeithas Bel-droed Cymru i wahodd y clybiau alltud o Gynghrair Bel-droed yn Lloegr i gystadlu am un o lefydd Cymru yn Ewrop. Mae Ifan yn teithio i Barc Jenner i gael ymateb cefnogwyr y Barri a Hwlffordd, ac i ddarganfod pwy fydd yn 6 ucha Uwch-gynghrair Cymru ar gyfer ail ran y tymor, er wrth i'r noson ddod i ben mae'r sefyllfa dal braidd yn ...niwlog. On this week's Pod we hear from Jack Sharpe about the FAW's plans to invite the (Welsh) English Football League clubs to compete for one of Wales' places in Europe. Ifan travels to Jenner Park to get the reaction of Barry and Haverfordwest fans, and to find out who will be in the top 6 of the Cymru Premier for Phase 2 of the season, although as the evening comes to an end the situation is still somewhat...foggy.
Dylan, Ifan a Sioned sy'n croesawu'r flwyddyn newydd wrth ddewis symudiadau Sgorio ar gyfer y ffenestr drosglwyddo. Beth sydd FEWN ar gyfer 2025 - sbectol newydd Dylan, cerddoriaeth Ifan, neu car Sioned?! Dylan, Ifan and Sioned welcome the new year by choosing Sgorio's moves for the transfer window. What's IN for 2025 - Dylan's new glasses, Ifan's music, or Sioned's car?!
Gyda’r enwau mas o’r het ar gyfer Euro 2025, mae Cymru yn gwybod taw Ffrainc, Lloegr a'r Iseldiroedd fydd eu gwrthwynebwyr nhw yn y Swistir haf nesa. Yn ogystal ag ymateb i grwp Ewros Cymru, mae Ifan a Sioned yn trafod Cwpan Cymru a'r Brif Adran yn dilyn sawl sioc dros y penwythnos. With the names drawn for Euro 2025, Wales know that France, England and the Netherlands will be their opponents in Switzerland next summer. As well as reacting to Wales's group, Ifan and Sioned discuss the Welsh Cup and the Adran Premier following a few shocks over the weekend.
Wrth i benwythnos o gemau Cwpan Cymru agosau, Barry Owen (rheolwr yr Wyddgrug) sy'n ymuno am sgwrs cyn iddyn nhw wynebu Cei Connah yn fyw o flaen camerau Sgorio dydd Sadwrn. Y gêm yn fyw ar S4C - Cei Connah v Yr Wyddgrug, y gic cynta am 17:15. Mae Ifan a Sioned hefyd yn trafod dathliadau Sioned allan yn Nulyn, Tlws Adran Genero, a gemau arall Cwpan Cymru - ble fydd y sioc? As another Welsh Cup weekend approaches, Barry Owen (Mold Alexandra manager) joins to disguss their upcoming game against Connah's Quay on Saturday. The game will be shown live on S4C - Connah's Quay v Mold Alex, kick-off at 17:15. Ifan and Sioned also discuss Sioned's celebrations out in Dublin, the Genero Adran Trophy, and the weekend's other Welsh Cup games - will there be a shock somewhere?
Wedi buddugoliaeth hanesyddol i Gymru yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle i gyradd Ewro 2025 yn y Swistir, Gwennan Harries sy'n ymuno i drafod pwysigrwydd y canlyniad - y tro cynta i dîm menywod Cymru gyrradd prif dwrnament. After a historic victory for Wales in the play-offs to qualify for Euro 2025 in Switzerland, Gwennan Harries joins the Pod to discuss the importance of the result - the first time for the Welsh women's team to qualify for a major tournament.
Ifan a Sioned sy'n trafod wythnos fawr i dîm Cymru gyda gemau ail-gyfle pwysig yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon, a gemau'r penwythnos yn Uwch-gynghrair Cymru. Mae rheolwr newydd Aberystwyth, Antonio Corbisiero, hefyd yn ymuno am sgwrs (15:59) cyn eu gem nhw yn erbyn Caerdydd yn rownd gynderfynol Cwpany Gynghrair Nathaniel MG. Ifan and Sioned look forward to an important double-header for Wales against the Republic of Ireland in the play-off final to reach Euro 2025 in Switzerland, as well as looking back at the weekend's games in the Cymru Premier. Aberystwyth's new manager, Antonio Corbisiero, also joins in for a chat (starting at 15:59) before their game against Cardiff in the semi-final of the Nathaniel MG League Cup.
Pod 112: Sorba Thomas

Pod 112: Sorba Thomas

2024-11-1219:01

Wrth i gemau Cymru yn erbyn Twrci a Gwlad yr Iâ agosau, cyfle i wrando ar sgwrs Sioned Dafydd gyda Sorba Thomas (Cymru a Nantes). Yn fyw ar Sgorio yr wythnos yma: * Rhydaman v Hwlffordd, Cwpan Cymru, Dydd Sadwrn 16 Tachwedd am 14:00 ar S4C ac ar-lein * Twrci v Cymru, Cynghrair y Cenhedloedd, Dydd Sadwrn 16 Tachwedd am 16:30 ar S4C ac ar-lein * Cymru v Gwlad yr Iâ, Cynghrair y Cenhedloedd, Nos Fawrth 19 Tachwedd am 19:20 ar S4C ac ar-lein As Wales' matches against Turkey and Iceland approach, an opportunity to listen to Sioned Dafydd's conversation with Sorba Thomas (Wales and Nantes). Join us live on Sgorio this week: * Ammanford v Haverfordwest, Welsh Cup, Saturday 16 Nov at 14:00 on S4C and online * Turkey v Wales, Nations League, Saturday 16 Nov at 16:30 on S4C and online * Wales v Iceland, Nations League, Tuesday 19 Nov at 19:20 on S4C and online
Cyfle i glywed gan Craig Bellamy wrth iddo enwi ei garfan i wynebu Twrci a Gwlad yr Iâ yng Nghynghrair y Cenhedloedd Craig Bellamy speaks to Dylan Ebenezer as he names his squad to face Turkey and Iceland in the UEFA Nations League
Pod 110: Temptio Ffawd

Pod 110: Temptio Ffawd

2024-10-2826:33

Ifan a Sioned sy'n edrych ar brif bynciau trafod y penwythnos o bel-droed domestig yng Nghymru, ac yn edrych ymlaen at ddwy gem gyw ar Sgorio benwythnos nesaf - Llansawel v Aberystwyth yn Uwch-gynghrair Cymru (dydd Sadwrn, 17:15) ac Aberystwyth v Y Seintiau Newydd yn y Brif Adran (dydd Sul, 17:10). Ifan and Sioned discuss the weekend's main talking points in Welsh domestic football, and look forward to two live games on Sgorio next weekend - Briton Ferry v Aberystwyth in the Cymru Premier (Saturday, 17:15) and Aberystwyth v The New Saints in the Adran Premier (Sunday, 17:10).
Pod 109: Pedwar Sioc Cwpan Cymru Wedi penwythnos llawn cyffro yng Nghwpan Cymru, mae Tom McLean (Caerau Trelai) ac Ifan Emlyn Jones (Hotspur Caergybi) yn ymuno i drafod eu buddugoliaethau nhw ar giciau o’r smotyn yn erbyn timau Uwch Gynghrair Cymru. Bydd hefyd cyfle i glywed gan garfan Cymru wrth i’r merched baratoi am gemau ail-gyfle i gyrraedd Ewro 2025 yn y Swistir. After an eventful Welsh Cup weekend, Tom McLean (Caerau Ely) and Ifan Emlyn Jones (Holyhead Hotspur) join Ifan Gwilym to talk us through their wins over Cymru Premier opposition on penalties. We also hear from Carrie Jones and Lois Joel as Wales women prepare for their Euro 2025 play-off on Friday.
Craig Bellamy sy'n siarad gyda Dylan Ebenezer wrth i' garfan Cymru gael ei enwi ar gyfer gemau nesa Cynghrair y Cenhedloedd. Mae Ifan a Sioned yn trafod cynlluniau'r Gymdeithas Bel-droed ar gyfer Uwch-gynghrair Cymru, a thrip Y Seintiau Newydd i'r Eidal i wynebu Fiorentina. Craig Bellamy talks to Dylan Ebenezer as the Wales squad is named for the next Nations League games. Ifan and Sioned discuss the FAW's plans for the Cymru Premier, and The New Saints' trip to Italy to face Fiorentina.
Dylan, Ifan a Sioned sy'n trafod wythnos llawn cyffro yn Uwch-gynghrair Cymru wedi i'r Seintiau golli dwy gem yn olynol am y tro cynta ers 2019. Cwarter ffordd trwy'r tymor, mae'r tri yn dewis eu gem gorau, a'r chwaraewr sydd wedi dal y sylw. Dylan, Ifan and Sioned discuss an exciting week in the Cymru Premier after the New Saints lost two games in a row for the first time since 2019. A quarter way through the season, the three choose their best game, and the best newcomer to the league.
Mael Davies sy'n sgwrsio gyda Pod Sgorio cyn gem fawr Pen-y-bont yn erbyn Y Seintiau Newydd nos Wener. Mae Sioned ac Ifan hefyd yn cael cyfle i sgwrsio am weddill gemau'r uwch-gynghrair, ac edrych nol ar benwythnos agoriadol y Brif Adran Genero. Mael Davies chats with Pod Sgorio before Penybont's big game against The New Saints on Friday night. Sioned and Ifan also have the opportunity to discuss the rest of the Cymru Premier games, and look back at the opening weekend of the Genero Adran Premier.
loading
Comments