Rhaglen Cymru

Andy Bell a’i westeion yn dathlu darlledu Cymraeg a Chymreig. Y bobl, y rhaglenni, y dylanwad. rhaglencymru@hotmail.com

Rownd A Rownd @30

Cyfle i ddathlu gwaith arbennig criw 'Rownd A Rownd' - y ddrama boblogaidd sy'n dathlu ei phenblwydd yn 30 oed eleni. Mae Llio Non wedi gweithio ar y rhaglen am dipyn - o flaen y camera ac y tu ôl iddo. Hi yw golygydd cyfrol dathlu https://www.ylolfa.com/products/9781800997622/rownd-a-rownd-yn-dathlur-30 A dyma dudalen You Tube y gyfres: https://www.youtube.com/@RowndaRownd Cerddoriaeth gloi: Thema diweddara'r gyfres. rhaglencymru@hotmail.com  

11-28
26:19

Cyhoeddi, criced a mwy

Ar drothwy cyfres y Lludw - The Ashes - dyma Andy'n cynnal sgwrs gydag Alun Rhys Chivers o Golwg 360.   Ill dau yn gefnogwyr criced brwd, felly cyfle i drafod y gamp, ei chyfryngau a sefyllfa'r Gymraeg yng nglwb Morgannwg. Hefyd, mae Alun yn sôn am ei waith i ehangu cyraeddiad https://golwg.360.cymru a'i daith newyddiadurol. Erthgl AB am y Lludw: https://golwg.360.cymru/chwaraeon/criced/2185889-lludw-rhan-hanes-creu-cenedl   Amserlen y Lludw: https://www.espncricinfo.com/series/the-ashes-2025-26-1455610/match-schedule-fixtures-and-fixtures Cerddoriaeth gloi: Cricket's On The Radio gan Greg Champion https://youtu.be/8AaiGC4daPE?si=LOeu2o0YTF14vrJz    

11-18
45:02

Y Bîb a’i bicil

Pennod sydyn arall o’r podlediad Y diweddara am helyntion y BBC - ymateb ar draws y byd, bach o ddadansoddi + sgwrs gyda Karl Davies. Mae Karl wedi gweithio i’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig ar yr ochr olygyddol AC ac yr ochr weinyddo.  Mae ganddo brofiad a safbwynt arbennig iawn i’w gynnig. rhaglencymru@hotmail.com am e-byst. Cerddoriaeth gloi: “Now That I Own The BBC” gan Sparks.  https://youtu.be/xaXYwdS_V2Q?si=CIGbFuArvqylPFhJ  

11-16
31:23

Mwy o Siân Lloyd

Ail ran sgwrs rhwng Andy a'r ddarlledwraig brofiadol ac amryddawn. Cyflwyno'r tywydd, prosiectau lluosog a'i harferion gwylio. Mae S4C yn cael tipyn o glod hefyd! Dau gyn gyd-weithwyr yn rhannu profiadau a safbwyntiau mewn sgwrs ddifyr. Hunangofiant Siân: https://www.abebooks.com/9781844545315/Funny-Kind-Love-Story-Lloyd-1844545319/plp Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân 'Bewitched' ban y New Project Funk Orchestra rhaglencymru@hotmail.com    

11-14
31:26

Y BBC Dan Warchae

Pennaeth y BBC, Tim Davie, a pnennaeth Newyddion Y BBC, Deborah Turness, hefyd wedi ymddiswyddo. Dywedodd Cadeirydd y BBC, Samir Shah ei fod yn “ddiwrnod trist i’r BBC”. https://newyddion.s4c.cymru/article/31270 Andy yn cyflwyno pennod sydyn sy'n cynnwys peth o'i sgwrs gyda Richard Martin a ryddhawyd yn gynharach yn y flwyddyn. Richard oedd ymhlith y deg aelod o banel arbenigol ar ddatganoli darlledu a benodwyd gan Lywodraeth Cymru. Dyma eu hadroddiad terfynol: https://www.llyw.cymru/dyfodol-newydd-ar-gyfer-darlledu-chyfathrebu-yng-nghymru Sylwadau: rhaglencymru@hotmaiol.com a thudalennau Rhaglen Cymru ar Facebook, X a Bluesky. Cerddoriaeth cloi: Cyflwyniad i 'Mrs Dale's Diary', opera sebon radio a ddarlledwyd ar y BBC Light Programme a Radio 2 rhwng 1948 a 1969 .  

11-10
33:56

Siân Lloyd

Aduniad dros y milltiroedd rhwng Andy a Siân Lloyd. Rhan gyntaf sgwrs dwy bennod: magwraeth, y profiad o fod yn 'wyneb' i'r Sianel Pedwar Cymru newydd a'r "bedydd tân" o gychwyn gyrfa (gyda AB) yn radio lleol yng Nghaerdydd. rhaglencymru@hotmail.com yw'r cyfeiriad. Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân 'Jackanory'.

11-07
34:20

Ail Gyfle - Dechreuad S4C

S4C newydd droi'n 43!! Felly dyma ail gyfle i glywed sgwrs rhwng Dr Elain Price, awdur y llyfr "Nid Sianel Gyffredin Mohoni", ac Andy am sefydlu a chynnal y sianel. Stori am yr heriau a'r ofnau wrth greu sefydliad. Hon oedd un o bennodau cynnar y podlediad. https://www.gwasgprifysgolcymru.org/book/nid-sianel-gyffredin-mohoni  A dyma adroddiad blynyddol diweddara'r sianel: https://www.s4c.cymru/cy/amdanom-ni/page/adroddiadau-blynyddol rhaglencymru@hotmail.com Cerddoriath gloi: Arwyddgân "The Newsroom" - teledu CBC Canada 1996–2005

11-03
37:07

BBC Bangor @ 90

Dyma gyfraniad Rhaglen Cymru tuag at ddathliadau canolfan BBC Bangor yn 90 oed. Conglfaen darlledu Cymraeg ar hyd y blynyddoedd yw Bryn Meirion a chartref y rhaglen Gymraeg fwyaf poblogaidd erioed - 'Noson Lawen'. Y hanes cynnar cythryblus a sylw i'r pennaeth arloesol Sam Jones a geir yn y bennod hon. Atgofion o BBC Bangor: https://www.bbc.com/cymrufyw/31907485 Cerddoriaeth gloi: 'Day Trip To Bangor" gan Band Pres Somersham, Swydd Gaergrawnt https://youtu.be/COyaJqtFkBA?si=OFMX0OixdPTTxv-K A dolen i 'Goon Pod' gyda Andy: https://podcasts.apple.com/au/podcast/the-good-wife-season-4-episode-4-dont-haze-me-bro/id1740655317?i=1000732652635 rhaglencymru@hotmail.com

10-31
30:16

Caerffili a'r cyfryngau oll

Rhyw bennod fympwyol ydy hon. Ar ôl synfyfyrio am is-etholiad Caerffili am dipyn mae Andy wedi treulio ei Sul yn ei pharatoi ... #anorac #nerd Bach o hanes gohebu ar is-etholiadau trwy newsreel, radio a theledu cyn trafod y ffordd ddigidol o wneud pethe. Mae'na ddeallusrwydd artiffisial o'r safon gwaethaf hefyd. Mwynhewch!!! rhaglencymru@hotmail.com Cerddoriaeth gloi: 'Castell Caerffili' gan Band Press Cymdeithas Adeiladu Britannia 

10-26
14:37

DET - y darlledwr coll

Pennod wahanol y tro hwn wrth i Aled Eirug sôn am ei gofiant o'r gwleidydd ac arweinydd cenedlaethol Dafydd Elis Thomas. A wyddoch chi yr oedd Dafydd Êl yn gyflwynydd teledu CYN iddo gael ei ethol fel Aelod Seneddol dros Feirionydd? Ynteu'n llywio rhaglenni ar HTV a BBC Cymru!! Ei berthynas â'r cyfryngau yw calon y sgwrs hon. Y llyfr: https://www.gwasgprifysgolcymru.org/book/dafydd-elis-thomas-eirug Digwyddiad am y llyfr: 'Dafydd Elis Thomas - Pensaer Cenedl' @ Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 20/11/2025 https://www.ticketsource.co.uk/llgcnlw/evt-WGL5r1zgz440gzeP Y Ddau Frank a Dafydd Êl: https://youtu.be/BGsS8Yyy46o?si=aRFijrYppH-1qnUg rhaglencymru@hotmail.com yw'r cyfeiriad  

10-24
28:53

Y Pethe a'r Prifardd

Myrddin ap Dafydd o Wasg Carreg Gwalch yw gwestai Andy yn y bennod hon. https://carreg-gwalch-gwalch Cyflwr a chyfrifoldeb y cyfryngau tuag at y 'pethe' yw man cychwyn y sgwrs. Fe gwch glywed hefyd am streic y beirdd, atyniad radio a llawer mwy. rhaglencymru@hotmail.com am sylwadau ac awgrymiadau. Mae'r podlediad ar gael ar y llwyfanau isod: FB: https://www.facebook.com/rhaglen.cymru X:  @rhaglencymru Blue Sky: @rhaglencymru.bsky.social  Cerddoriaeth gloi: 'Night Song', Sammy Davis Jr. yn arwain cerddorfa!! https://youtu.be/ZTpvsHff-_c?si=e4NkrVSyVZyPCWSg

10-17
35:40

Golwg o'r Paith

Esyllt Nest Roberts yw gwestai Andy, hithau'n siarad o'i chartref yn y Gaiman. Trafodaeth am sefyllfa'r Wladfa a geir gyda phwyslais ar effaith diflanniad argaeledd ar-alw rhaglenni Cymraeg trwy BBC Sounds. Ac mae gan AB lygedyn o obaith am newid er gwell.  Erthygl Mark Damazer am BBC Sounds: https://www.prospectmagazine.co.uk/culture/the-culture-newsletter/71035/bbc-sounds-turns-inwards Mark Damazer ar bodlediad Roger Bolton 'Beebwatch': https://podcasts.apple.com/gb/podcast/mark-damazer-former-bbc-trustee-on-the-bbcs/id1646974353?i=1000728304450 Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân Stingray (Barry Gray) Century 21 Concert Band   

10-10
39:52

Digidol heb ofn

Steff Morris yw gvwestai'r podlediad - dyn ifanc sy'n rhannu cynnwys trwy You Tube.. Dyma ei fideo am Batagonia: https://youtu.be/f9A5dHvo2E0?si=qnW-X0KcVQP3pQqG Cefnogwch ei dudalen YT: https://www.youtube.com/@steffmorris Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân 'Freewheelers', rhaglen antur i blant pan yr oedd Andy yn fachgen ac yn dwlu ar y ffaith mai o Southern Television, Southampton ddaeth y gyfres!!

10-03
32:14

Hwnt ac yma gydag ITV

Pennod olaf y podlediad ynglyn â phenblwydd teledu annibynnol yn 70 oed. Taith igam-ogam yw hi ... mwynhewch. rhaglencymru@hotmail.com yw'r cyfeiriad am eich sylwadau. Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân ITSWW (At Pepe's Place - Syd Dale) Ffynhonellau holl bwysig wrth lunio cyfres Rhaglen Cymru am ITV:  https://www.youtube.com/@archifitvcymruwalesllgcitv9713 https://www.youtube.com/@walesbroadcastdarlleducymru  https://www.youtube.com/@transdiffusion Hanes ITV yng Nghymru  https://www.gwasgprifysgolcymru.org/book/history-of-independent-television-in-wales HTV a S4C https://www.uwp.co.uk/book/nid-sianel-gyffredin-mohoni  Gwefan hanes darlledu: https://transdiffusion.org        

09-26
24:52

ITV a fi

Andy Bell yn synfyfyrio am deledu annibynnol wrth iddo ddathlu ei benblwydd yn  70 oed. Atgofion o Blodyn Tatws, TISWAS ac Amy Turtle ... Mae'r ddwy bennod flaenorol yn trafod ITV yn fwy ffeithiol/academaidd ... rhaglencymru@hotmail.com

09-22
13:53

ITV a Chymru

Andy a'r Athro Jamie Medhurst o Brifysgol Aberystwyth ar wibdaith trwy hanes teledu annibynol yng Nghymru wrth iddo ddathlu ei benblwydd yn 70 ... 69 actiwali! Hefyd, montage o bob math o raglenni a phobl ITV Cymreig. Oes atgofion gennych am TWW neu HTV neu Teledu Cymru neu Granada? Cysylltwch â rhaglencymru@hotmail.com neu ar FB, Twitter neu Blue Sky. Llwyth o ddarllen pellach: Llyfr Jamie https://www.gwasgprifysgolcymru.org/book/history-of-independent-television-in-wales Granada https://granadatv.network/category/programmes/factual/dewch-i-mewn TWW https://transdiffusion.org/2024/03/03/goodbye-to-all-our-friends Teledu Cymru/WWN https://transdiffusion.org/2020/08/12/the-fall-of-teledu-cymru ITSWW https://transdiffusion.org/2017/10/23/itsww Harlech https://transdiffusion.org/2020/08/07/gremlins-hit-big-tv-opening HTV: https://www.independent.co.uk/news/business/htv-succumbs-to-united-news-in-pounds-370m-takeover-bid-1258407 Atgofion https://transdiffusion.org/2005/09/03/memories Gwefannau gwych Archif ITV Cymru/Wales @ LlGC https://www.youtube.com/@archifitvcymruwalesllgcitv9713 Archif Ddarlledu Cymru https://www.youtube.com/@walesbroadcastdarlledu  Archif Sgrin a Sain https://www.llyfrgell.cymru/catalogau-chwilio/am-ein-casgliadau/archif-sgrin-a-sain Transdiffusion https://transdiffusion.org/tv/itv/wales-west Cerddoriaeth gloi: Gorymdaith Y Saith Môr (Eric Coates) - arwyddgân TWW    

09-19
39:24

Mwy o ITV i ddod

Rhagflas o'r bennod nesaf ...  

09-15
02:28

Dathlu Platinwm ITV

Mae teledu annibynnol yn 70 oed. Dechreuwyd y rhwydwaith yn Llundain ym mis Medi 1955. Yn y bennod hon mae'r Athro Jamie Medhurst yn sôn am yr ymgyrch i dorri monopoli'r BBC wedi'r ail ryfel byd a ffurfio teledu annibynnol. Hefyd, rhan bwysig Cymro Cymraeg o Gwmgwrs wrth ffurfio'r syniad o gyfundrefn ranbarthol + rhaglenni agroriadol rhyfedd ambell i orsaf ITV. Dyma lyfr Jamie am ITV yng Nghymru: https://www.gwasgprifysgolcymru.org/book/history-of-independent-television-in-wales Cerddoriaeth gloi: “Widespread World” gan John Dankworth, arwyddgân Redifusion rhwng 1964 a 1968. Mwy am noson gyntaf ITV: https://transdiffusion.org/2015/09/22/tonights-itv-in-1955 Unrhyw atgofion o ITV cynnar? A oeddech chi'n gwylio neu'n cymryd rhan? Cysylltwch â rhaglencymru@hotmail.com Tro nesaf - ITV a Chymru ... stori a hanner.  Sgandal, heriau daearyddol a gwleidyddiaeth o bob lliw a llun.

09-12
29:03

Penblwydd y Pod

Mae'n flwyddyn ers cychwyn y podlediad ac mae Andy wedi creu pennod arbennig i nodi'r achlysur!! Lleisiau Eurof Williams, yr Athro Richard Wyn Jones, Dr Ffion Owen, Aled Jones, Mike Parker, Aran Jones a Beti George a glywir ynghyd â vocal stylings unigryw Andy. Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân "Tonight", Teledu BBC 1959. Cyflwyniad i ddarn Beti yn dod o 'Dim Byd fel dim byd': https://youtu.be/o311wHhoMlA?si=-v10j56aE8o7OD0I Ewch i dudalennau'r podlediad ar FB, BSky a Twitter/X i weld y llun o Andy 9 oed !!! Diolch am gefnogi menter lafur cariad. rhaglencymru@hotmail.com  

09-05
54:30

Parti benblwydd ar y gweill

Un elfen gyson yn narlledu yw dathlu cerrig milltir yn lle creu cynnwys gwreiddiol I fathu gair: dathluyddiaeth. A nid yw'r podlediad hwn yn eithriad!!! Mae'n flwyddyn ers cychwyn Rhaglen Cymru ... rhaglencymru@hotmail.com  

09-02
01:10

Recommend Channels