Siarad Secs

<p>Lisa Angharad a'i gwesteion yn siarad am ryw a rhywioldeb mewn ffordd agored a gonest. Popeth yn Gymraeg! </p><p>Mae'r podlediad yma'n trafod themâu o natur rywiol ac yn cynnwys iaith gref.</p>

Pam dwi'n trafod rhywedd yn y dafarn yn Llanuwchllyn

Lisa Angharad yn sgwrsio gyda Meilir Rhys am ei rywedd ('gender') a'i rywioldeb ('sexuality'), pam ei fod yn gwrthod y labeli taclus a pham ei fod yn hoffi eu trafod yn y dafarn yn Llanuwchllyn.Mae'r podlediad yma'n trafod rhyw yn agored. Cynhyrchwyd gan Astud i BBC Sounds.

08-04
38:44

Jess Davies: Modelu, rhyw a ffeministiaeth

Lisa Angharad yn sgwrsio gyda Jess Davies am ei phrofiad o fodelu 'glamour', pam bod hi'n bwysig bod merched yn mwynhau rhyw a sut i deimlo'n dda am ein cyrff ('body positivity').Mae'r podlediad yma'n trafod rhyw yn agored ac yn cynnwys iaith gref iawn. Cynhyrchwyd gan Astud i BBC Sounds.

07-28
45:14

Pam fod dynion strêt eisiau rhyw gyda brenhines drag?

Lisa Angharad yn sgwrsio gyda Kris Hughes am baganiaeth, y profiad o ddod allan yng ngogledd Cymru yn yr 80au a pham bod gymaint o ddynion syth/heterorywiol eisiau rhyw gyda brenhines drag enwocaf Cymru, Maggi Noggi.Mae'r podlediad yma'n trafod rhyw yn agored ac yn cynnwys iaith gref iawn. Cynhyrchwyd gan Astud i BBC Sounds.

07-21
49:47

Y gwir am ryw lesbiaidd

Lisa Angharad yn sgwrsio gyda'r actor a cherddor Emmy Stonelake am ryw lesbiaidd cariadus (sy'n wahanol iawn i'r hyn sydd mewn pornos), a'r profiad o fod yn panrywiol ('pansexual').Mae'r podlediad yma'n trafod rhyw yn agored ac yn cynnwys iaith gref iawn. Cynhyrchwyd gan Astud i BBC Sounds.

07-14
41:01

Y boen wrth drio am blant

Lisa Angharad yn holi Nia Parry am ei phrofiad personol o drio am blant, cael problemau wrth feichiogi, cael plant a pha effaith gafodd y cyfan ar ei pherthynas â rhyw.Mae'r podlediad yma'n trafod rhyw yn agored ac yn cynnwys iaith gref iawn. Cynhyrchwyd gan Astud i BBC Sounds.

07-07
34:23

Pam dwi'n dewis gwneud gwaith rhyw

Lisa Angharad yn cael sgwrs arbennig gyda gweithiwr rhyw sydd yn egluro sut ddechreuodd yn y swydd a pham ei fod yn dewis gwneud hynny.Mae'r podlediad yma'n trafod rhyw yn agored ac yn cynnwys iaith gref.

06-30
39:07

Curo'r cywilydd

Lisa Angharad yn sgwrsio gyda'r cartwnydd a chyflwynydd Siôn Tomos Owen a'r ffeminydd ac arbenigwraig hanes Sara Huws. Maen nhw'n trafod ein 'cywilydd' am ryw - eu profiadau personol, ei effaith ar unigolion, a sut allwn ni ddod drosto.Mae'r podlediad yma'n trafod themâu o natur rywiol ac yn cynnwys iaith gref iawn.

08-30
34:40

‘Dwi ddim yn teimlo fel menyw na dyn’

Mae Rhi Kemp-Davies yn hyfforddi ac addysgu pobl am ryw, ac yn y podlediad yma mae Rhi yn rhannu ei stori bersonol am fyw fel person aneuaidd (non-binary) yng Nghymru heddiw.Maen nhw hefyd yn trafod y profiad o gynghori pobl traws (trans) ar berthnasau a rhyw.Mae'r podlediad yma'n cynnwys themâu o natur rywiol a iaith gref.

08-23
38:13

Sut i roi condom ar fanana

Lisa Angharad yn sgwrsio gyda'r sgwennwr ac actor Alun Saunders a'r fyfyrwraig feddygaeth Ffraid Gwenllian. Maen nhw'n rhannu eu profiadau o drafod rhyw wrth dyfu fyny, addysg rhyw mewn ysgolion, ac yn trafod sut i siarad am ryw gyda'ch plant a'ch rhieni. Oes rhaid iddo fod mor anodd a chwithig?Mae'r podlediad yma'n trafod themâu o natur rywiol ac yn cynnwys iaith gref.

08-16
36:42

Be' dwi 'di dysgu wrth wylio porn

Lisa Angharad yn sgwrsio gyda'r actores a sgwennwr Hanna Jarman a'r cyfarwyddwr artistig Elgan Rhys. Maen nhw'n trafod pornograffi, eu profiadau o ysgrifennu ac actio mewn dramâu sy'n cynnwys golygfeydd rhyw, a'r defnydd o iaith wrth gael rhyw.Mae'r podlediad yma'n trafod themâu o natur rywiol ac yn cynnwys iaith gref.

08-09
37:03

Ydw i'n 'bi'?

Strêt, hoyw, lesbian, deurywiol - oes angen label? Lisa Angharad yn sgwrsio gyda'r artist Elin Meredydd a'r comedïwr Steffan Alun am eu rhywioldeb, yr orgasm benywaidd, a pha mor agored ydyn nhw am ryw.Mae'r podlediad yma'n trafod themâu o natur rywiol ac yn cynnwys iaith gref.

08-02
37:16

Helo, libido!

Pam bod hi mor anodd i drafod dy libido? Yr actores Carys Eleri a'r myfyriwr nyrsio John Vale sy'n ymuno â Lisa Angharad i drafod libidos a'u profiadau, da a drwg, o ddefnyddio dating apps. Mae'r podlediad yma'n trafod themâu o natur rywiol ac yn cynnwys iaith gref.

07-26
33:08

Croeso i bodlediad Siarad Secs

Croeso i bodlediad Siarad Secs gyda Lisa Angharad a'i gwesteion yn siarad am ryw a rhywioldeb mewn ffordd agored a gonest.

07-25
00:44

Recommend Channels