O'r diwedd, mae pennod olaf Wicked wedi ei rhyddhau ac mae gan Meilir lawer i'w rannu (heb spoilers wrth gwrs)! Rydym yn ffarwelio gyda'e moch daear am y tro olaf yn y bennod hon - a sôn am foch, mae Tr*mp wedi llwyddo i fychanu menyw unwaith yn rhagor! Mae'r blwch unwaith eto yn gorlifo â cheisiadau felly dewch mewn i'r siop - mae'r drysau ar agor.
Wel mae gwyntoedd oer y gaeaf wedi cyrraedd o'r diwedd felly dewch i mewn i'r siop i glywed hanesion yr wythnos - o antics carped coch Wicked, dawnsathon Emma a Trystan i weiddi ar wylanod. We've got it all. Felly swatiwch a mwynhewch!
Roedd hi'n wythnos lwyddiannus i Alan Carr, Jonathan Bailey a Zohran Mamdani yr wythnos ddiwethaf felly mae'n silffoedd ni'n llawn dop yn barod ar eich cyfer chi. Ar ben hynny, mae Mari a Meilir wedi ail-ymweld â'r rhestr enwau drag arbennig gan James, Huw a Neil er mwyn rhoi dôs o lawenydd i ni cyn y penwythnos. Mwynewch!
Mae Calan Gaeaf wedi pasio ac mae Mariah wedi sgrechian ei neges - mae'n amser! Ydych chi'n barod i groesawu ysbryd yr Ŵyl? Pa wisg calan gaeaf oedd eich hoff un chi? Mewn wythnos pan welson ni dywysog yn colli ei goron a gwleidydd yn ymuno â panto, mae Mari a Meilir yn barod i siarad siop. Mewn â chi!
Yn y bennod sbŵci, dŵci, lŵci yma, mae Mari a Meilir yn tynnu albwm newydd Lily Allen yn ddarnau - gan drafod y manylion, yr alawon a'r holl fanylion mae hi'n ei rannu yn y caneuon. Newyddion trist oedd rhaid rhoi sylw iddo yr wythnos yma oedd marwolaeth Kelvin Walsh ar Rownd a Rownd, cyn i ni agor y blwch llawn o geisiadau a chyfrinachau. Dewch i mewn!
Mae hi wedi bod yn wythnos a hanner i bopeth brenhinol - o ladrad y gwemweithiau o'r Louvre i Dywysog Andrew yn ildio ei freintiau brenhinol. O, ie...a ma Kim Kardashian wedi ychwanegu thong blewog i'w chasgliad dillad diweddaraf. Pawb at ei beth a bo, am wn i! A peidiwch a dechre ni off ar Cwîn Celia Imrie. Mewn â chi heb lol.
Wel, mae'r siop ar agor ac mae'r moch daear yn hoffi eu lle yng ngardd Mari. Hefyd mae'r silffoedd yn llawn o straeon yr wythnos - o farwolaeth yr athrylith o actores, Diane Keaton i ddiddordeb diweddar Mari o gerddwyr Everest...! Allwch chi ddim cwyno bod dim amrywiaeth yma. Mewn a chi de.
Fel dywed y teitl - does what is says on tin! Os na welsoch chi'r nifer obnoxious o straeon ar ein cyfryngau cymdeithasol, yna gwrandewch i glywed yr hanes o'r British Podcast Awards a seremoni BAFTA Cymru. Spoiler alert: Llongyfarchiadau ENFAWR i Mari Grug a Sioned Nelson ar ddod yn fuddugol yn y BPA eleni ac i 'Yr Hen Iaith' ar ddod yn ail.
Er i ni ddweud nad oedd amser i recordio pennod cyn y Podcast Awards, da ni wedi llwyddo i recordio ein pennod hiraf hyd yn hyn. Wps! Roedd cymaint o stock - o bartïon penblwydd i drip Manceinion i'r holl newydd diwylliant pop heb sôn am y 23 cais yn ein blwch! Buckle in, bois bach a mewn â chi...
Mae Mari a Meilir nol ar y zoom yr wythnos yma and it's business as usual. Mae rhan wleidyddol y podlediad wedi ei bedyddio fel y Silff Sobor, mae moch daear yng ngardd Mari ac mae Kimmel nol wrth ei ddesg. Dewch i mewn, mae'r siop ar agor!
Mae hi di bod yn wythnos drom yn y newyddion ond mae wastad cyfle yn y siop i roi ychydig o ddihangfa. Boed yn sgwrs am snacs anarferol, adolygiadau teledu ac i gwyno am rieni sy'n rhoi guilt trips. Dewch i mewn am seibiant ac i wrando ar y mwydro arferol.
Yr wythnos hon, mae'r siop mor llawn ag erioed o straeon gan gynnwys penblwydd y gyfres 'Rownd a Rownd' yn 30, ein dilynwyr instagram newydd, marwolaeth Giorgi Armani, golygydd newydd Vogue yr UDA a llond blwch o geisiadau a chyfrinachau. Fedrwn ni ddim aros i chi glywed y rhestr o enwau brenhinesau drag Cymraeg gafodd eu cynnig... Mewn â chi!
Mae drysau'r siop bron a byrstio ar agor yr wythnos hon efo hanesion Mari a Meilir, digwyddiadau o amgylch y byd a blwch gorlawn o geisiadau. Mae hi'n bennod hir, felly strap in a mwynhewch y sgwrs.
Ar ôl wythnos brysur o deithio a digwyddiadau, mae Mari a Meilir yn falch o fod nol yn y siop i roi'r byd yn ei le. O Catrin Feelings i Lil Nas X, mae'r cyfryngau diwylliant pop wedi bod reit brysur. Dewch i mewn i wrando.
Mae'r haf bron a gorffen ond mae yna lwyth o straeon i'w rhannu cyn i'r dail ddechrau disgyn. Trip Aberdaron, pyllau padlo epig, hanesion date-io a Meilir yn achub bywyd rhywun. That's right - da chi wedi darllen yn gywir. Dewch i glywed yr hanesion!
Wel, mae'r Eisteddfod wedi cyrraedd a phasio bellach a dydi Meilir heb gael cyfle i ddadbacio ei ddillad cyn bod rhaid dadbacio holl ddigwyddiadau'r wythnos o amgylch y maes a rownd y byd. Pwy oedd y snogio wrth y portaloos? FAINT oedd pris taten drwy'i chroen? Pwy oedd yn Maes B? Dewch i mewn i wrando!
Wrth i Mari a Meilir baratoi i ymweld ag Eisteddfod Wrecsam mewn ychydig ddyddiau, mae 'na lwyth o geisiadau i drafod y ffordd orau i fwynhau a goroesi wythnos yn yr Ŵyl. Mewn â chi i'r siop i ymuno yn y sgwrs, gloi!
Mae hi'n un hir ond mae hi'n un dda... Er nad oes gan Mari a Meilir lawer i'w drafod am eu hwythnosau eu hunain, mae ganddyn nhw DDIGON i'w ddweud wrth ymateb i'r llu o geisiadau a'r cyfaddefiadau sydd wedi cyrraedd y blwch yr wythnos hon. Gwrandewch a gadwch i ni wybod beth yw eich barn chi hefyd!
"Ry ni yma o hyyyyd!" Mae Cymru nol yn yr Ewros a mae Mari a Meilir nol yn y siop! Gobeithio i chi fwynhau'r wythnos o hoe gawsom ni. Fe lenwoch chi ein blwch ni, yn union fel wnaethom ni ofyn, ac mae yna dipyn o geisiadau i'w trafod felly dewch i mewn i'r siop ar frys.
Wel, da chi di bod yn brysur efo'ch ceisiadau yr wythnos hon. Ond cyn i Mari a Meilir fynd i dyrchu, mae 'na ddigon o amser i drafod digwyddiadau Pride Cymru, hirddydd haf, bingo Llanuwchllyn a dillad Beyoncé! Mewn â chi, mae'r siop ar agor.