Discover
Stori Tic Toc

259 Episodes
Reverse
Dewch i helpu Martha i ddod o hyd i’r sŵn mwya erchyll yn y byd. Beth neu bwy allai fod tybed? Lily Beau sy'n adrodd stori gan Rhiannon Williams.
Dewch i wrando ar stori am antur Reji a’i ffrind Leia yn y ffair. Lily Beau sy'n adrodd stori gan Natalie Jones.
Dewch i gwrdd â NiNi sy’n fach a Cwlffyn sy’n gawr. Er eu bod nhw mor wahanol i’w gilydd, mae’r ddau yn ffrindiau mawr, ac eisiau ennill arian i brynu losin.
Lara Catrin sy'n adrodd stori gan Sioned Wyn Roberts.
Gobeithio eich bod chi’n dda am gadw cyfrinach. Stori yw hon am Alys sy’n derbyn anrheg arbennig iawn. Lara Catrin sy'n adrodd stori gan Elen Mair Thomas.
Os ydych chi’n mwynhau sosejis, wel mi gewch chi hwyl yng nghwmni Iori a Heti. Tybed fyddan nhw’n dod o hyd i’r Creadur Anhygoel?Lara Catrin sy'n darllen ei stori ei hun.
Dewch i ymuno â’r teganau. Pan fyddwch chi’n cysgu’n drwm, maen nhw wrth eu boddau yn gwylio sioe hudolus y sêr yn dawnsio a disgleirio yn yr awyr.
Lara Catrin sy'n adrodd stori gan Sioned Wyn Roberts.
Dyma stori am bedair draig fach â sgiliau arbennig sy'n dysgu sut i weithio gyda'i gilydd. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Sion Tomos Owen.
Dewch i wrando ar stori am anrheg Nadolig arbennig yng nghanol yr haf! Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Anni Llyn.
Dewch i wrando ar stori am Greta’r gwcw sy’n chwilio am ei llais canu. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Rhiannon Williams
Dewch i ddathlu Eid gydag Alina a Nain Lleuad. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Hammad Rind.
Mae Berwyn y Tarw wedi arfer cael ei ffordd ei hun, ond mae’r gwartheg wedi cael hen ddigon! Bethan Ellis Owen sy'n adrodd stori gan Anna Lisa Jenaer
Dyma stori am Blodi y blodyn haul sy’n codi gwên ar bawb. Bethan Ellis Owen sy'n adrodd stori gan Mirain Fflur.
Dyma stori am Elsi a Magi ei milgi ffyddlon sy’n cael bob math o freuddwydion. Bethan Ellis Owen sy'n adrodd stori gan Hanna Jarman.
Mae Lwsi yn mynd ar daith anhygoel gyda ei ffrind newydd Cai y cwningen. Bethan Ellis Owen sy'n adrodd stori gan Mari Lovgreen
Dewch i wrando ar stori am gamgymeriad yn arwain at barti hufen iâ. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Rhiannon Oliver.
Dewch i wrando ar stori am seren wib a syrthiodd i’r ddaear yng nghanol y nos. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Sioned Wyn Roberts.
Dewch i wrando ar stori am aderyn arbennig ac am edrych, gwrando a bod yn garedig. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Hammad Rind.
Dewch i wrando ar stori am drip llawn hwyl i’r traeth, er falle nid y trip roedd pawb yn ei ddisgwyl. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Rhiannon Oliver.
Ci bach cyfeillgar yw Tegwen ond pam tybed does ganddi ddim ffrindiau? Richard Elfyn sy'n darllen stori gan Brennig Davies.
Un diwrnod braf yn y parc, mae’r hen ddyn yn dod o hyd i dedi bach yn eistedd ar ei fainc, ond tedi pwy tybed? Richard Elfyn sy'n adrodd stori gan Chris Harris.