Y Busnes Rhedeg 'Ma

Podlediad rhedeg Cymraeg yn trin a thrafod newyddion rhedeg, hyfforddi a mwy, ynghyd â chyfweliadau gyda rhedwyr Cymreig. Cyflwynir gan Owain Schiavone Welsh language running podcast featuring news, training and interviews. Presented by Owain Schiavone.

Pennod 1 (cyfres 2) - Dyfed Whiteside-Thomas

Mae'r podlediad yn ôl yn dilyn saib fach, a gwestai cyntaf yr ail gyfres ydy ffrind mawr i'r pod, Dyfed Whiteside-Thomas. Mae Dyfed yn aelod o Glwb Harriers Eryri, ac yn bennaf gyfrifol am y 'Sesiwn Elltydd' enwog (Thursday Night Hills) yn Llanberis. Mae hefyd yn rhedwr arbennig ac rydan ni'n sgwrsio'n fuan ar ôl iddo redeg marathon wych yng Nghasnewydd gan orffen mewn 2:43:57 - y Cymro cyntaf yn ei gategori oedran, sy'n ei wneud yn bencampwr M45 Cymry yn ein tyb ni, gan bod y ras yn Bencampwriaeth Meistri Cymru eleni (canlyniadau llawn). Sgwrs ddifyr, gyda boi da.  Cyfle hefyd i grynhoi canlyniadau rhywfaint o'r rasys sydd wedi bod yn ddiweddar, wrth i bethau ail-ddechau o ddifrif. Lot mwy o hyn yn y gyfres gobeithio.  Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Dyma Kim Carsons' gan y grŵp newydd o ardal Pontypridd, Y Dail. Allan yn ddigidol rŵan. 

11-17
01:10:13

Pennod 13 - Adolygiad efo Arwel

Pennod fach wahanol y tro yma, cyfle i ddal fyny a thrafod sawl peth o'r byd rhedeg gydag Arwel Evans o Running Review Cymru. Mae rasio'n dechrau nôl yn raddol felly mae'n gyfle i drafod rhai o'r rasus sydd wedi digwydd yng Nghymru gan gynnwys 10K Nick Beer yn Llandudno a chyfres 5K Athletau Cymru yn Y Rhyl a Phenbre.  Mae'n gyfle hefyd y gael rhagolwg fach o athletau'r Gemau Olympaidd, y gobeithion Cymreig gyda Jake Hayward, ac ambell uchafbwynt arall o'r amserlen.  Pennod syml, dim nonsens - rhowch wybod eich barn ac os hoffech chi glywed mwy o'r rhain yn y dyfodol. 

07-26
53:46

Pennod 12 - Dr Ioan Rees

Bydd llawer iawn o bobl yn gyfarwydd â Dr Ioan Rees diolch i gyfres deledu boblogaidd Ffit Cymru ar S4C, ond efallai mai llawer llai fydd yn gwybod ei fod hefyd yn athletwr dycnwch llwyddiannus. Mae Ioan yn un o arbenigwyr Ffit Cymru, ac mae'r seicolegydd wedi bod yn ganolog i lwyddiant y gyfres, a'r rhai sy'n cymryd rhan ynddi yn eu hymdrechion i golli pwysau a byw yn fwy iach. Ac mae ganddo brofiad uniongyrchol o ymgymryd â phroses debyg ei hun wrth iddo golli 6 stôn dros gwta 9 mis er mwyn cymryd rhan yn ei Ironman cyntaf yn 2009. Ers hynny, mae wedi cwblhau 5 Ironman arall gan ddod a'i amser lawr i 12 awr.  Mae'r sgwrs gyda Dr Ioan yn amserol iawn wrth i gyfyngiadau Covid lacio ac wrth i ni obeithio gweld rasio'n dychwelyd i Gymru, a'r heriau seicolegol sy'n ein wynebu i gyd gyda hynny. Mae ganddo lawer o gyngor ardderchog i athletwyr ar bob lefel hefyd, ac mae rhywbeth i bawb yn y sgwrs heb os.  Cerddoriaeth y bennod yma ydy sengl newydd Y Cledrau, 'Hei Be Sy' sydd allan ar label I KA CHING. Ac mae fideo gwych ar gyfer y sengl ar YouTube.  

05-25
01:21:38

Pennod 11 (Rhan 2) - Angharad Mair

Ail ran y sgwrs gyda'r gyflwynwraig, ac un o redwyr marathon gorau Cymru erioed, Angharad Mair. Yn y rhan yma o'r sgwrs rydym yn trafod comeback Angharad i redeg ar ôl tua 15 mlynedd i ffwrdd o'r gamp, a'i llwyddiannau anhygoel wedi hynny. Rydym hefyd yn trafod y ffaith ei bod wedi ail-ddechrau eto erbyn hyn ar ôl cyfnod (byrrach) i ffwrdd, a'i chynlluniau a gobeithon ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd cyfle i drafod rhywfaint ar sefyllfa darlledu rasys rhedeg, a'r cyfleoedd sydd i ddarlledwyr.  Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Adfywio' sef sengl newydd The Gentle Good, allan ar label Bubblewrap Records nawr.  Mae'r bennod hefyd yn trafod Marathon Elite Wrecsam / Swydd Gaer a Marathon Shepperdine. Dyma ddolenni i ganlyniadau llawn rhain:  Marathon Elite Wrecsam / Swydd Gaer Marathon a Hanner Marathon Shepperdine

04-28
55:58

Pennod 11 (Rhan 1) - Angharad Mair

Y gwestai diweddaraf i ymuno ag Owain Schiavone ar Y Busnes Rhedeg Ma ydy Angharad Mair. Mae Angharad wrth gwrs yn wyneb a llais cyfarwydd ar y cyfryngau Cymraeg fel un o gyflwynwyr amlycaf Cymru. Ond ar un pryd, Angharad oedd rhedwraig marathon gorau Cymru hefyd. Mae ei hamser gorau o 2:38:47 dros y pellter ym 1996 yn dal i'w gosod yn y 10 Uchaf o ferched Cymreig erioed, ac fe gafodd y cyfle i redeg ym Mhencampwriaethau Athletau'r Byd yn Athen y flwyddyn ganlynol. Er iddi roi'r gorau i redeg am 15 mlynedd flwyddyn yn dilyn anaf ym 1998, fe ail-gydiodd ynddi fel rhedwr hŷn, a llwyddo i dorri record Ewrop yn y categori oedran V55! Mae hanes Angharad yn un hynod o ddifyr, gymaint felly nes bod digon o ddeunydd i rannu'r bennod yn ddau - bydd yr ail ran yn ymddangos wythnos nesaf.  Cerddoriaeth y bennod yma ydy sengl Griff Lynch, 'Os Ti'n Teimlo', sydd allan ar label Lwcus T nawr. Mwy o wybodaeth ar wefan Y Selar. 

04-21
01:03:05

Pennod 10 - Andrew Davies

Andrew Davies ydy gwestai diweddaraf podlediad Y Busnes Rhedeg 'Ma yng nghwmni Owain Schiavone. Mae Andy'n un o redwyr pellter, a rhedwyr marathon yn benodol, gorau Cymru ers sawl blwyddyn bellach ac wedi bod y ddwy bencampwriaeth Gemau'r Gymanwlad ynghyd â Phencampwriaethau Athletau'r Byd unwaith. Mae o hefyd yn gyn bêl-droediwr lle broffesiynol sydd wedi chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru gyda Caersws. Yn Rhagfyr 2019 llwyddodd Andy hefyd i dorri'r record Brydeinig ar gyfer y marathon ar gyfer dynion dros 40 oed - roedd darn ar y blog ynglyn â hyn wrth iddo redeg 2:14:36 yn Valencia.  Mae'r sgwrs wedi ei recordio ychydig ddyddiau ar ôl i Andy redeg yn nhreialon marathon Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Siapan fis Gorffennaf felly cawn glywed ei argraffiadau ar y ras unigryw a hynod honno. Mae'n gyfle hefyd i drafod ei hanes fel rhedwr marathon, rhedeg mynydd a'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Sgwrs ddifyr efo boi da.  Cerddoriaeth y bennod yma - '400+' gan Omaloma sydd allan ar yr EP 'Roedd' (Recordiau Cae Gwyn). Mwy am yr EP ar wefan Y Selar. 

04-02
56:57

Pennod 9 (Rhan 2) - Nia Davies a David Cole

Dyma ail hanner y sgwrs gyda Nia Davies a David Cole, y ddeuawd sy'n gyfrifol am bodlediad triathlon Nawr yw'r Awr. Yn y bennod yma rydyn ni'n trafod rhai o'r heriau rhedeg uchelgeisiol mae David wedi'u taclo dros y misoedd diwethaf, a sut mae Nia yn ymdopi gyda dal ati i hyfforddi yn ystod ei beichiogrwydd.   Cofiwch chwilio am Nawr yw'r Awr ar eich chwaraewr podlediadau a gwrando nôl ar gymaint â phosib o'r penodau.Mae'r penodau canlynol yn arbennig o berthnasol i'r hyn rydyn ni'n trafod yn y sgwrs yma: Rhedeg yr Adfent gyda Guto Jones Llwybr Arfordir Ceredigion Shanghai Ironman 70.3 Cerddoriaeth y bennod: 'Rhwng Dau' gan Sywel Nyw gyda Casi Wyn (allan ar label Lwcus T)

02-24
01:00:20

Pennod 9 (Rhan 1) - Nia Davies a David Cole

Ym mhennod ddiweddaraf Y Busnes Rhedeg Ma mae Owain yn cael cwmni y cwpl o Aberteifi sy'n gyfrifol am bodlediad triathlon Nawr yw'r Awr. Lansiwyd y pod ym mis Mehefin 2020, ac fe wnaethon nhw gyhoedd 25 pennod wythnosol yn y gyfres gyntaf. Maen nhw wedi cyfweld llwyth o athletwyr ac enwogion o'r byd chwaraeon, ynghyd ag arbenigwyr mewn maesydd penodol o fyd y campau. Mae wir yn werth i chi chwilio am Nawr yw'r Awr ar eich chwaraewr podlediadau a gwrando nôl ar gymaint â phosib o'r penodau.  Roedd cymaint i'w drafod nes bod rhaid rhannu'r bennod yn ddwy ran. Yn y cyntaf, rydan ni'n trafod Nawr yw'r Awr, hanes Nia a Dai fel rhedwyr, a'r gobeithion o weld digwyddiadau mawr triathlon a rhedeg yn dychwelyd yn fuan.  Rhan 2 i ddilyn yn fuan!  Cerddoriaeth y bennod: 'Breuddwyd' gan Eädyth (allan ar Recordiau UDISHIDO)

02-17
47:31

Pennod 8 - Math Llwyd

Podlediad cyntaf Y Busnes Rhedeg 'Ma yn 2021, ac mae Owain unwaith eto'n cael cwmni cerddor, sef Math Llwyd sy'n aelod o'r band gwych Y Reu. Mae Math hefyd yn redwr da, ac yn aelod brwd o glwb Harriers Eryri. Yn ystod mis Ionawr, mae o, gweddill aelodau Y Reu, a chwpl o gerddorion eraill yn gwneud her 'High and Dry' er mwyn codi arian at elusen Banc Bwyd Arfon. Y nod ydy codi £1000 at yr elusen trwy redeg 870 o filltiroedd a gallwch eu cefnogi trwy'r safle Just Giving.  Yn y sgwrs mae Math yn trafod bach ar gerddoriaeth, sut y dechreuodd redeg, Parkrun yn Awstralia, y Rock and Roll Marathon yn Lerpwl ac ambell beth arall.  Cerddoriaeth y bennod yma ydy Y Reu wrth gwrs, gyda'r diwn 'Mhen i'n Troi' oedd ar yr EP 'Hadyn' a ryddhawyd yn 2015.

01-21
53:33

Pennod 7 - Elliw Haf

Ym mhennod ddiweddaraf podlediad Y Busnes Rhedeg 'Ma mae Owain Schiavone yn cael cwmni rhedwraig Harriers Eryri a Chymru, Elliw Haf. Mae Elliw wedi cael cryn lwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf, gan gyrraedd y brig (yn llythrennol) trwy gynrhychioli Cymru yn Ras yr Wyddfa ar ddau achlysur. Ym mis Mai, daeth newid ar fyd wrth iddi roi genedigaeth i'w plentyn cyntaf ac yn y sgwrs mae'n trafod sut y llwyddodd i barhau i redeg yn ystod ei beichiogrwydd, ac ail-ddechrau'n fuan ar ôl yr enedigaeth.  Ar dop y sioe mae Owain yn sôn am ddwy her elusennol sydd ar y gweill gan David Cole a Peter Gillibrand. Dyma'r dolenni os ydych chi eisiau cefnogi'r heriau hynny, a chyfrannu at yr elusennau teimlwng: David Cole - https://www.justgiving.com/fundraising/MINDAdventCalendarRunningChallenge  Peter Gillibrand - https://uk.virginmoneygiving.com/PeterGillibrand1 

12-22
01:12:06

Pennod 6 - Dion Jones

Ym mhennod diweddaraf Y Busnes Rhedeg Ma mae Owain Schiavone yn cyfuno rhedeg gydag un o'r diddordebau mawr eraill, cerddoriaeth. Y gwestai ydy Dion Jones, canwr a gitarydd y grŵp roc Alffa a grëodd hanes gyda'r gân 'Gwenwyn' - y gân Gymraeg gyntaf i'w ffrydio dros filiwn o weithiau ar Spotify (mae wedi croesi 3 miliwn erbyn hyn!) Mae Dion wedi dechrau rhedeg yn ystod y cloi mawr, ac mae'n trafod y budd mae wedi'i gael o hynny a sut mae wedi helpu llenwi'r bwlch o berfformio ar lwyfan. Mae Dion, a chwe cherddor adnabyddus arall, yn gwneud her Tashwedd / Movember ar hyn o bryd gan dyfu mwstash (wel...trio tyfu mwstash) a rhedeg neu seiclo 750km yn ystod y mis. Gallwch eu noddi nawr - https://movember.com/t/tash-mob?mc=1  Cerddoriaeth y bennod yma - 'Gwenwyn' gan Alffa (wrth gwrs). 

11-16
45:34

Pennod 5 - Matthew Roberts

Ym mhennod ddiweddaraf podlediad Y Busnes Rhedeg 'Ma mae Owain Schiavone yn cael cwmni'r rhedwr mynydd, Matthew Roberts. Ers diwedd mis Awst, Matthew Roberts sy'n dal y record am amser cyflyma' Rownd y Paddy Buckley yn Eryri - yr her 60+ o filltiroedd sy'n cynnwys 47 o gopaon Eryri. Hon yn ôl llawer, ydy'r galeta' o'r dair rownd glasurol ym Mhrydain sy'n cynnwys y Bob Graham (Ardal y Llynnoedd) a'r Ramsey Round (Yr Alban). Roedd darn am y record ar flog Y Busnes Rhedeg 'Ma ar y pryd - https://rhedeg.wordpress.com/2020/09/03/math-yn-chwalu-record-y-paddy-buckley/  Cerddoriaeth y bennod yma ydy sengl ddiweddaraf Betsan, 'Ti Werth y Byd', sydd allan ers 2 Hydref 2020.  Cofiwch roi adolygiad bach i'r podlediad os allwch chi, a cysylltwch gydag unrhyw sylwadu. 

10-20
50:29

Pennod 4 - Peter Gillibrand

Ym mhennod ddiweddaraf y podlediad rhedeg Cymraeg mae Owain Schiavone'n cael sgwrs gyda'r rhedwr marathon, a boi iawn, Peter Gillibrand (@GillibrandPeter). Mae Peter yn newyddiadurwr fu'n gohebu tipyn ar farathon Llundain elen - y ras elite a rhithiol - ac a fu'n ddigon ffodus i holi Paula Radcliffe ac Eliud Kipchoge wrth wneud hynny.  Roedd Peter ei hun yn rhedeg y marathon rhithiol wedi'i wisgo fel seren er mwyn codi arian at elusen Mencap - gallwch ei noddi nawr https://uk.virginmoneygiving.com/fundraiser-display/showROFundraiserPage?userUrl=PeterGillibrand1&pageUrl=1.  Mae agwedd Peter at redeg, a'r modd mae wedi mynd ati i ddefnyddio rhedeg fel modd o helpu eraill yn ysbrydoliaeth.  Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Y Gorwel' gan Ghostlawns, fydd ar yr albwm Motorik - allan ar 30 Hydref. 

10-12
01:06:17

Pennod 3 - Angharad Davies

Ym mhennod diweddaraf y podlediad mae Owain yn sgwrsio gyda'r athletwraig elité, Angharad Davies, Mae Angharad yn dod yn wreiddiol o Lanymddyfri, ond bellach yn byw yn Galicia, Sbaen. Ar ôl serennu fel rhedwraig ieuenctid ac wrth gamu i'r categori oedolion, bu iddi gymryd egwyl o athletau am gwpl o flynyddoedd. Bellach mae nôl yn cystadlu ar y trac dros y pellteroedd canolig, ac yn rhedeg yn well nag erioed. Yn y cyfweliad mae'n trafod her hyfforddi yn ystod y cloi mawr, cydraddoldeb i ferched yn y byd rhedeg a sawl pwnc amserol arall. Yn ystod y cyfweliad rydym yn trafod achos penodol yn ymwneud â diogelwch merched wrth redeg yn Sbaen. Dyma ddolen i'r erthygl sy'n dyfynu Angharad ynglŷn â hyn - https://www.runnersworld.com/women/a28368894/running-as-a-woman-in-spain/ Hefyd yn y podlediad yma, newyddion am record newydd yn Rownd y Paddy Buckley, llwyddiant pellach i Melissa Courtney-Bryant a chanlyniadau 10k Pont Hafren. 'Golau' gan .magi ydy'r dewis o gerddoriaeth yn y bennod yma - https://www.youtube.com/watch?v=oNbY1DcKRMc 

09-04
01:15:00

Pennod 2 - Alaw Beynon-Thomas ac Arwel Evans

Mae ail bennod podlediad Y Busnes Rhedeg 'Ma, gydag Owain Schiavone, yn croesawu Alaw Beynon-Thomas ac Arwel Evans - dau redwr da iawn, sydd hefyd yn gyfrifol am wefan sy'n rhoi sylw i redeg yng Nghymru, Running Review Cymru (https://runningreviewcymru.com). Mae Alaw yn athletwraig ers yn ifanc, yn un o redwyr gorau Cymru, ac wedi cynrychioli ei gwlad ar sawl achlysur. Mae ei phartner, Arwel, yn gyn bêl-droediwr ac yn fwy newydd i'r gamp ond yn datblygu'n gyflym i fod yn rhedwr cystadleuol.  Gydag ambell ras yn digwydd o'r diwedd, mae bach o newyddion yn y bennod yma hefyd!  Plîs rhowch adolygiad o'r podlediad os allwch chi, a bwrw golwg ar flog Y Busnes Rhedeg 'Ma - https://rhedeg.wordpress.com Cerddoriaeth y bennod yma - 'Amrant' gan Carw.

08-13
01:11:45

Pennod 1 - Gwyndaf Lewis

Mae pennod gyntaf podlediad Y Busnes Rhedeg 'Ma yn gweld golau dydd o'r diwedd! Does dim llawer o rasio yn y byd rhedeg ar hyn o bryd, er bod ambell her FKT diddorol ar y gweill. A heriau rhedeg trawiadol sydd wedi'n ysgogi i drefnu Gwyndaf Lewis fel cyfweliad cyntaf y pod. Ar ôl colli ei fam i COVID-19, mae Gwyndaf wedi mynd ati i godi arian at elusennau wrth ymgymryd â dwy her redeg pellter sylweddol dros y cwpl i fisoedd diwethaf. Gallwch ddilyn Gwyndar ar Twitter, @GwyndafL, a cofiwch fwrw golwg ar flog Y Busnes Rhedeg 'Ma - https://rhedeg.wordpress.com  Cerddoriaeth y bennod yma - 'Dan Dy Draed' gan Endaf ac Ifan Pritchard

07-26
01:08:13

Recommend Channels