Y Coridor Ansicrwydd

<p>Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn "Y Coridor Ansicrwydd" ac yn barod i drafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed yn ogystal â phob math o bethau eraill yng nghwmni Dylan Griffiths.</p>

Does unman yn debyg i gartref

Ar noson berffaith yng Nghaerdydd, gwelwyd perfformiad syfrdanol gan Gymru wrth sgorio saith gol heibio Gogledd Macedonia er mwyn gorffen yn ail yn y grŵp rhagbrofol. A'r wobr am wneud hynny ydi gêm gartref yn erbyn Bosnia a Herzegovina yn rownd gynderfynol y gemau ail-gyfle, a'r sicrwydd o gêm gartref yn y rownd derfynol os nawn nhw ennill.Gan fod Owain ar ei wyliau, cyn gapten Cymru Kath Morgan sy'n camu mewn i drafod gobeithion tîm Craig Bellamy gyda Mal a Dyl.

11-21
45:20

Sheehan allan ac anafiadau Cymru

Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n trafod yr enwau yn y ffrâm i gymryd swydd rheolwr Abertawe ar ôl i'r clwb ddiswyddo Alan Sheehan, ac yn gofyn os fydd diffyg goliau yn brifo Cymru wrth i ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2026 gyrraedd y ddwy gêm olaf.

11-13
50:30

Dechrau'r daith i Frasil, Y Cas Ras yn bownsio & Celtic yn llygadu Bellamy

Ar ôl creu hanes drwy gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2025, y targed amlwg nesaf i ferched Cymru yw cyrraedd Cwpan y Byd yn 2027. Mae'r llwybr i Frasil ychydig cliriach bellach wrth i garfan Rhian Wilkinson ddysgu pwy fydd ei gwrthwynebwyr cyntaf yn y rowndiau rhagbrofol.Roedd Dylan Griffiths ar Y Cae Ras nos Wener i weld "gêm orau'r tymor hyd yma" wrth i Wrecsam guro Coventry City, gan helpu chwalu unrhyw atgofion o'r golled siomedig i Gaerdydd yng Nghwpan y Gynghrair.Tydi'r hwyliau ddim cystal yn Abertawe. Ydi'r rheolwr Alan Sheehan yn tangyflawni o ystyried cryfder y garfan?Ac wrth i Craig Bellamy barhau i gael ei gysylltu gyda swydd wag Celtic, fydd o wir yn cael ei ddenu i'r Alban yng nghanol ymgyrch ragbrofol Cymru?

11-04
50:37

Ani Glass: Troedigaeth bêl-droed

Y gantores Ani Glass sy'n trafod ei chariad at y bêl gron, a sut ddysgodd hi am hoffter cyn seren Croatia Davor Suker at siocled.Yn yr ail ran, buddugoliaeth Caerdydd yn erbyn Wrecsam yng Nghwpan y Gynghrair ar y Cae Ras sy'n cael y prif sylw, wrth i'r criw drafod y gwahaniaeth amlwg rhwng dulliau hyfforddi'r ddau dîm.

10-30
48:16

Joe Morrell, Lerpwl mewn picil ac Wrecsam angen ennill

Yn 28 oed, bu'n rhaid i Joe Morrell dderbyn bod ei yrfa fel chwaraewr proffesiynol ar ben oherwydd anaf i'w ben-glin. Dau sy'n gallu uniaethu gystal â neb gyda'r ergyd enfawr hynny ydy Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones.Am y tro cyntaf ers dros i ddegawd, mae Lerpwl wedi colli pedair gem yn olynol. Manchester United, o bawb, oedd y diweddaraf i gael o gorau o dîm Arne Slot. Be sydd wedi digwydd i rai o sêr amlycaf y Cochion? Oes 'na obaith o'r newydd i gefnogwyr Utd?A pharhau i ddisgwyl am fuddugoliaeth mae Wrecsam. Ydi'r rheolwr Phil Parkinson wir mewn peryg o golli ei swydd?

10-21
49:12

Diolch Jess

Dylan, Owain a Mal sy'n ymateb i’r newyddion bod Jess Fishlock - un o sêr mwyaf hanes pêl-droed Cymru - wedi ymddeol o’r gêm ryngwladol. Bydd digon o drafod hefyd ar berfformiad Cymru ar ôl y golled yn erbyn Gwlad Belg nos Lun. Mae cwestiynau’n codi am y tîm ac am yr arddull, ond dyw Bellamy ddim am newid.

10-16
46:12

Gwers? Oedd hyn yn ddynion yn erbyn hogiau.

Wedi’r wers bêl-droed yn Wembley nos Iau, lle mae hyn yn gadael tîm Craig Bellamy, sydd yn wynebu her arall enfawr nos Lun - yn erbyn Gwlad Belg, un o gewri pêl-droed y byd - mewn gêm y mae’n rhaid ei hennill os oes unrhyw obaith o orffen ar frig y grŵp ac ennill lle yn Nghwpan y Byd 2026. Hefyd, pwt o werthfawrogiad i’r capten Ben Davies, fydd yn cyrraedd ei 100fed cap dros Gymru nos Lun.

10-10
27:43

Gall Cymru gladdu 'hoodoo' Lloegr?

Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n asesu gobeithion Cymru i guro Lloegr am y tro cyntaf mewn wyth gêm, a'r tro cyntaf yn Wembley ers 1977. Fydd y rheolwr Craig Bellamy yn dewis ei dîm cryfaf wrth ystyried yr her 'bwysicach' i ddilyn yn erbyn Gwlad Belg? Ai dyma garfan gwanaf Lloegr ers tro?Ac ar ôl i Russell Martin gael ei ddiswyddo gan Rangers, mae Ows yn rhoi blas o'r driniaeth sarhaus mae ei ffrind wedi ei ddioddef yn yr Alban.

10-08
53:04

Dwrn gan Jan Molby

Wrth i Abertawe nesu at safleoedd ail-gyfle y Bencampwriaeth diolch i fuddugoliaeth oddi cartref yn Blackburn, mae'r criw yn trafod os ydi dal yn rhy gynnar yn y tymor i gymryd unrhyw sylw o safleoedd ein clybiau yn y tabl. Wedi pedair gêm gartref, dal i ddisgwyl am fuddugoliaeth ar y Cae Ras mae Wrecsam - fydd hynny'n newid gydag ymweliad Birmingham nos Wener?A sôn am ganlyniadau siomedig gartref, beth yn y byd ddigwyddodd i Gaerdydd yn erbyn Burton Albion, oedd ar waelod Adran Un ar gychwyn y gêm? Parhau mae problemau enbyd Casnewydd - oes unrhyw arwyddion bod gan y rheolwr Dave Hughes atebion i atal rhediad o naw colled mewn 10 gêm.Ac ar ôl i amddiffynnwr Arsenal rhywsut lwyddo i osgoi unrhyw gosb am ddyrnu Nick Woltemade, mae gan Mal ac Ows atgofion o dderbyn dwrn neu benelin slei ar y cae.

10-02
50:38

Gwalia United ar garlam i gyrraedd y brig

Mae gan Gwalia United gynlluniau uchelgeisiol iawn. Stadiwm newydd, chwaraewyr yng ngharfan Cymru ac, yn bennaf oll, cyrraedd prif adran clybiau Lloegr, y Women's Super League. Hyn oll o fewn y pum mlynedd nesaf. Dau yng nghanol y prosiect ydi Trystan Bevan a Casi Gregson. Tra bod Trystan yn defnyddio ei brofiad helaeth ym myd rygbi proffesiynol i geisio gosod y sylfaen am gynnydd a llwyddiant oddi ar y cae, sgorio goliau yw nod Casi er mwyn cychwyn y daith o drydedd haen Lloegr i'r brig. Mae'r ddau yn esbonio wrth Ows a Mal sut yn union maen nhw'n bwriadu gwneud hynny...

09-24
54:06

Cymru'n symud cartref a Parky dan bwysau

Mae bron i saith mlynedd bellach wedi mynd heibio ers i Gymru chwarae yn Stadiwm Principality, ond fydd hynny'n newid cyn hir o dan gynllun Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Ymateb cymysg sydd wedi bod gan y cefnogwyr, ond mae Ows a Mal yn gweld synnwyr y syniad er mwyn paratoi at y posibilrwydd o chwarae gemau yn y stadiwm yn Ewro 2026...cyn belled bod gemau rhagbrofol ddim yn symud o Stadiwm Dinas Caerdydd.Mae cryn amser hefyd ers i Wrecsam golli gymaint o gemau. QPR oedd y diweddaraf i guro criw y Cae Ras ddydd Sadwrn. Oes 'na bwysau ar y rheolwr Phil Parkinson? Mae gan Ows neges chwyrn at unrhyw gefnogwr sy'n galw am ei ddiswyddo. Ac mae gan Dyl her annisgwyl i Conor Coady...

09-18
54:22

Cip i'r dyfodol wrth i Ganada danio Bellamy

Roedd 'na gyfle i gael cip o'r dyfodol yn Abertawe wrth i rai o chwaraewyr ifanc Cymru wynebu tîm graenus Canada mewn gêm gyfeillgar. Ac er colli 1-0, mi welodd y criw ddigon i gredu bod 'na genhedlaeth newydd yn barod i dorri drwodd. Digon i'r rheolwr Craig Bellamy - doedd ddim rhy hapus gyda dathliadau'r ymwelwyr - asesu cyn y ddwy her enfawr i ddod yn erbyn Lloegr a Gwlad Belg fis nesaf.Nôl i'r bara menyn dros y penwythnos wrth i'r gemau clybiau ddychwelyd, a chyfle i Wrecsam ac Abertawe gynnwys rhai o'r chwaraewyr arwyddodd ar ddiwedd y ffenestr drosglwyddo am y tro cyntaf.

09-11
48:25

Cymru yn crafu buddugoliaeth yn erbyn Kazakhstan

Roedd hi'n bell o fod yn gyfforddus, ond llwyddodd Cymru i adael Kazakhstan gyda thri phwynt hollbwysig yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd - tri phwynt sydd yn mynd â nhw i frig y grŵp. Rhoddodd gôl Kieffer Moore y sylfaen berffaith i Gymru yn yr hanner cyntaf, ond siomedig oedd yr ail hanner. Tarodd y tîm cartref y trawst ddwywaith - gydag un o'r ergydion hynny yn dod gyda chic ola'r gêm. Oes 'na le i boeni am y perfformiad, ta'r canlyniad ydi'r unig beth sy'n cyfri? Roedd 'na dipyn o anghytuno ynglŷn â hynny rhwng y criw!Ond un peth sy'n sicr, roedd pawb wedi rhyfeddu gan berfformiad di-fai Dylan Lawlor yng nghanol yr amddiffyn wrth iddo ennill ei gap cyntaf. Seren newydd y dyfodol

09-05
27:09

Dwi'n licio'r positifrwydd 'ma!

Am y tro cyntaf ers sbel, mae gan y criw ddigon o reswm i deimlo'n obeithiol am obeithion clybiau Cymru. Yn ogystal â chanlyniadau addawol, mae Abertawe wedi cryfhau'r garfan gan wario'n sylweddol ar chwaraewyr newydd am y tro cyntaf ers tro. Ac er nad ydi canlyniadau Wrecsam wedi bod cystal, does dim posib cwestiynu’r uchelgais wrth i'w gwariant nhw dros yr haf fynd heibio £30m.Mae Caerdydd hefyd wedi synnu nifer drwy arwyddo Omari Kellyman ar fenthyg - chwaraewr canol cae symudodd i Chelsea am £19m y llynedd. A phrin fod cefnogwyr yn gallu cwyno efo'r perfformiadau ar y cae wrth i'r Adar Gleision godi i frig Adran Un. Dydi pethau ddim cystal yng Nghasnewydd, ond dyddiau cynnar ydi hi i'r rheolwr newydd Dave Hughes...Ac wrth gwrs, mae gan Gymru daith hir i Kazakstan ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd 2026. Ydi diffyg munudau rai o amddiffynwyr Cymru am greu penbleth i'r rheolwr Craig Bellamy?

09-03
52:33

Crwydro draw i Kazakhstan

Owain Llyr sy’n ymuno ag OTJ a Mal i edrych ymlaen at gêm Cymru yn Kazakhstan

08-28
53:46

Aduniad cyn llinell flaen Watford

Mae Dylan Griffiths a Malcolm Allen yn cael cwmni Iwan Roberts. Mae yna atgofion am ganu gyda Elton John, ac wedi’r dechrau da mae o wedi ei gael gyda Chaerdydd y tymor yma fydd clybiau yn cadw golwg ar Rubin Colwill?

08-20
57:15

'Pan o'n i'n tŷ Kevin Keegan ddoe...'

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n asesu perfformiadau a chanlyniadau cynnar pedwar prif glwb Cymru, a'r safleoedd sydd angen eu cryfhau yn y garfan.Ac yn ddigon lwcus i Mal, ddoth sefyllfa Alexander Isak yn Newcastle United i fyny yn y sgwrs... cyfle perffaith felly i ddangos bod o dal yn cymysgu yn yr un cylchoedd â rhai o'r mawrion!

08-14
49:20

Gobaith, gwynt a glaw ar faes Eisteddfod Wrecsam

Cyn hir, mi fydd Wrecsam yn chwarae yn ail haen pêl-droed Lloegr am y tro cyntaf mewn 43 o flynyddoedd. Lle gwell, felly, i drafod gobeithion a disgwyliadau'r clwb nag ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam? Ac er gwaetha'r gwynt a'r glaw, mae Dylan, Mal ac Ows yn cael cwmni tri aelod o'r clwb. Yn gyntaf, sgwrs efo Huw Birkhead, sydd yn dysgu Cymraeg i chwaraewyr, staff a chefnogwyr y clwb. Ac yna Cledwyn Ashford, y sgowt a'r gwirfoddolwr sydd wedi gwneud cymaint dros y clwb. Ac mae ganddo egsliwsif neu ddau i rannu hefyd...Mi fydd tymor Abertawe hefyd yn cychwyn ddydd Sadwrn. Oes 'na obaith am fwy na thymor arall yng nghanol y tabl? A beth fydd effaith mewnbwn Snoop Dogg a Luka Modric? Ac wrth gwrs, mae'r tymor wedi cychwyn yn barod i Gaerdydd a Chasnewydd.

08-05
38:51

Cychwyn newydd, gobaith newydd?

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n pwyso a mesur sut dymor fydd hi i Gaerdydd a Chasnewydd o dan eu rheolwyr newydd. A pham bod cefnogwyr Abertawe yn dechrau troi ar gefnogwyr Wrecsam..?

07-29
56:37

Diwedd yr antur ond cychwyn y daith

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod sut all Cymru adeiladu ar ei ymddangosiad hanesyddol cyntaf yn rowndiau terfynol un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol. Colli tair, chwarae tair ydi'r ffeithiau moel. Ond y gobaith yw fydd effaith cyrraedd Y Swistir i'w deimlo am flynyddoedd i ddod.A pham yn y byd bod y rapiwr Snoop Dogg yn hyrwyddo crys newydd Abertawe..?!

07-15
47:10

Recommend Channels