Yr Haclediad

Tri ffrind yn rhannu diod a thrafod technoleg, teli, ffilm a phopeth arall unwaith y mis. Podlediad hyna’r Gymraeg ™

Hac the Planet!!

"I am a Haclediad, and this is my manifesto. You may stop this podcast, but you can't stop us all... " Y flwyddyn yw 1995, mae sbectols bychan a rollerblades yn bla ar ein strydoedd, a mae 'Hackers' yn dy siop video leol... ochenaid dyddiau da. Yn y bennod yma o'r Haclediad (sy'n brysur troi mewn i Milennial hiraeth cast) bydd Iest, Sions a Bryn yn trafod: 👉cariad Llywodraeth Cymru tuag at AI 👉Sylwadau Mira Murati o Open AI am sut bo rhai swyddi creadigol "ddim angen bodoli" 👉y blockchain yn amddiffyn gwaith artistiaid 👉 ac wrth gwrs - y Ffilmdiddim AmDdim - Hackers (1995) ar Freevee Diolch eto i bob un ohonoch sy'n gwrando, tanysgrifio a chefnogi (https://ko-fi.com/haclediad) - chi werth y byd 🥹

06-29
02:51:15

Paned with the Apes

Yn parhau'r run o benodau melltigedig, trïwch sbotio lle wnaeth Sioned ddiffodd switch trydan ei set up cyfan ynghanol y sioe yma ⚡😅 Bydd Iest, Bryn a Sions yn taclo Cymru/Wales yn y Metaverse, hysbyseb yr ipad Crush ac enshittifiation cynnyrch Apple. Gwyliwch allan am ddial Cupertino ar Iest yn ail hanner y sioe wrth i Face Time crasho bob 5 munud 😖 Ffilm ofnadwy y mis yma ydy campwaith Marky Mark Planet of the Apes (2001) - pwy wyddau pa mor horni allai mygydau rwber fod? Diolch i bawb sy'n gwrando a chefnogi (https://ko-fi.com/haclediad)🙏❤️ (Recordiwyd y bennod yma cyn implosion Cwis Bob Dydd, neu base ni di cyfro hwna hefyd!)

05-28
03:15:25

Mae 'na ffilms gwell Argylle...

Shhhh, peidiwch gadael y gath o'r cŵd am gynnwys Haclediad mis Ebrill... y cyfan allwn ni ddeud ydy bod yr Humane AI pin yn siomedigaeth a mai Argylle ydy o bosib y Ffilmdiddim GWAETHAF hyd yn hyn (yup, waeth na Diana the Musical😨). Ymunwch â Bryn, Iestyn a Sions i leddfu'ch unigrwydd gyda 2+ awr o tech talk, trafod obsesiwn plant Sioned efo "Death in Paradise" ac awgrymiadau beth DYLE chi wylio (hint: Deffinetli ddim Argylle) Diolch o galon i bawb sy'n gwrando a chyfrannu - chi wirioneddol yn lejys bob un 🥹

04-28
02:40:47

Dune i’m, ‘de

Pasg hapus... neu ffŵl Ebrill? Penderfynwch chi! OK, mae 'na newyddion tech i’w gael, ond mae pennod Mis Mawrth yn un Ffilm Di Ddim ffest go iawn... diolch i ffrind y sioe Ross McFarlane, mae Bryn, Sions ac Iest wedi gwylio DUNE (1984). Dy’n ni ddim yn rhy siŵr os ydyn ni’r un bobl ar ei ôl o, ond tiwniwch mewn i glywed Diolch i bob un ohonoch chi sy’n gwrando, cyfrannu (https://ko-fi.com/haclediad) a chefnogi ni bob mis - a diolch arbennig i Iest am waith arwrol golygu a chynhyrchu’r sioe mis yma 🔥"I must not fear. Fear is the mind-killer. Fear is the little-death that brings total obliteration. I will face my fear. I will permit it to pass over me and through me. And when it has gone past I will turn the inner eye to see its path. Where the fear has gone there will be nothing. Only Yr Haclediad will remain."🔥

03-31
02:48:15

Ddim cweit yn Taron 12

“Haul y gwanwyn, gwaeth na gwenwyn” meddai’r Nains, so anwybyddwch y pelydrau egwan yna, ffendiwch flanced a cwtshwch fyny am bennod Chwefror 2024 o’ch hoff podlediad tech-ffilm-sortof! O’r diwedd byddwn ni’n mynd i’r berllan i weld be di’r ffys am yr Apple Vision Pro, a wedyn syllu’nyn gegrwth ar fideos AI diweddaraf Sora. I’r rhai ohono chi sy’n joio’r podcast-within-a-podcast, mae’r #FfilmDiDDim yn... ofnadwy?! Mi oedd na LOT o emosiynau cryf wrth drafod (Not your Daddy’s) Robin Hood (2018), y Robin Hood gwaethaf erioed?! Diolch i bawb sy’n gwrando a chefnogi (https://ko-fi.com/haclediad) - chi werth y byd! 🙏😊

02-28
03:09:32

Rebal Moon Wîcend

Diwedd mis Ionawr, tywydd ofnadwy, ond mae na gwmni da a ffilm gwael genno ni i'ch cadw i fynd! Bydd Bryn, Iestyn a Sions yn trafod sgandal Horizon, Gladiators, dyfais ddigidol Rabbit (ond dim honna sori), memory hole Bryn am Bwncath ac amserlennu bysus efo AI. Mae'r ffilmdiddim yn LLANAST o gynhyrchiad gan un o feistri'r genre - Rebel Moon gsn Zack Snyder. Tybed pa un o'r criw oedd dioddef PMS gwaeth na'r arfer o'i herwydd? 😅 Diolch o galon eto i bawb sy'n gwrando, cyfrannu a rhoi hwb i ni gario mlaen efo'r nonsens llwyr yma 😘

01-28
03:00:37

A Christmas Twistmas🎄🌪️

🎄A dyma ni gyfeillion… gwledd Nadolig swmpus arall gan griw ffyddlon yr Haclediad. Mae’r fideo 10 awr 4k o le tân yn ffrydio as we speak, felly neidiwch mewn a joiwch ddechrau’r gwyliau Nadoig gyda ffilm-di-ddim-am-ddim OFNADWY a thrafodaeth ddeallus* a sensitif* o newyddion y flwyddyn. Mae Bryn, Iest a Sions yn cael dipyn o ddychryn go iawn wrth i Bard gamddarllen adroddiad S4C, yn cael dipyn o laff ar gelwydd Google Gemini ac yn joio trio ffigro allan be ydi teitl y Ffilm Di ddim - A Chritsmas Twister, neu F6: Twister?! Bethbynnag ydy’r enw, diolch i chi gyd sy’n cyfrannu (https://ko-fi.com/haclediad) i gadw’r servers yn spinio yma ar yr Haclediad - yn enwedig i diolch I Ross McFarlane a Jamie mis yma! 🥹 DIolch i bob un ohonnoch chi sy’n rhannu’r 3ish o oriau yma efo ni bob mis, gobeithio y byddwn ni’n cadw chi i fynd trwy’r gwyliau ma os ydych chi’n teimlo bach yn unig 🫶🎄

12-20
02:31:43

Large Language Model Croft: Tomb Raider

Gyda S4C yn sacio un pennaeth ac Open AI yn sacio/ddim sacio un nhw, dyma bodlediad i chi sy wastad dan yr un arweinyddiaeth gadarn... ond sydd hefyd ddigon twp i wylio ffilms ofnadwy bob mis😅 Yn Haclediad Mis Tachwedd bydd Iest, Bryn a Sions yn datgymalu dyfodol OpenAI a’r Gynhadledd Bletchley; trafod mysterious airtags yn ymddangos ar dy ffôn; ffindio’r clustffonau bach gorau ac wrth gwrs gwylio Lara Croft: Tomb Raider ar BBC iPlayer am laffs y #FfilmAmDdim Da ni’n hynod ddiolchgar i bawb sy’n gwrando a chyfrannu (https://ko-fi.com/haclediad) bob mis - diolch arbennig i Matt M a Jamie am roddion hael mis Tachwedd☺️

11-29
02:40:51

Tri Gwrach, un Pwmpen

Ma genno ni bennod mwy sgeri na climate change i chi Mis yma - neu mwy sgeri nac AI oleia😏 Ymunwch â’r frightmasters eu hunain, Iestyn, Bryn a Sions i drafod y Google Pixel 8, printers (!) a sut i wneud dim byd gyda Jenny Odell 😴 FfilmAmDdim y mis ydy The Witches of Eastwick - ffilm gwallt mawr gorau'r ganrif ddiwethaf? Gewch chi weld 🧙‍♀️🧙‍♀️🧙‍♀️ Diolch i Daf y Gath, ab Agwedd a Jamie am gyfraniadau arbennig i'r pot KoFi mis yma - da ni'n wirioneddol stunned pan mae gwrandawyr yn cyfrannu, diolch o galon i chi gyd 🥹 🎃 Calan Gaeaf hapus - joiwch spooky season 🕷️

10-31
02:51:12

SpecsDols G.I. Ken

Hwciwch y pumpkin spice lattes na i'ch veins i ddathlu dechre'r hydref efo Bryn, Iest a Sions 🍂🍁 Mae'r dyfeisiadau diweddaraf gen Apple, Amazon a Google dan y chwyddwydr - yn ogystal â bill amddiffyniad plant digidol llywodraeth Prydain a pa mor syndod o ddefnyddiol ydy Bing chat 💡 Ond mae na laffs hefyd - mae'r Ffilm Di Ddim Am Ddim mis yma yn un o'r rhai mwyaf contrafyrshal ers Valerian! Ydy G.I. Joe Origins: Snake Eyes (Channel 4) yn ffilm o ddychymyg bachgen 11 oed efo cool sword fights, neu yn llanast llwyr fel gyrfa Henry Golding druan? Gwrandewch i ffeindio allan! Diolch i bawb am wrando a chefnogi - popiwch geiniog yn y cwpan KoFi (https://ko-fi.com/haclediad) i helpu efo'r costau hostio os da chi'n joio be chi'n clywed 😘🙏

09-24
02:44:05

Bwncath Seepage

Croeso i blow out diwedd y gwyliau i griw'r Haclediad - da ni'n rhoi Haf 2023 i'w wely gyda kraken o benod i chi ☺️ Ymunwch gyda Bryn, Sions ac Iestyn i weld final death throws TwiXter, yr argymhellion i gael awdurdod darlledu i Gymru a holi sut allith yr Eisteddfod ehangu allan o'r maes yn ddigidol... hyn oll a'r campwaith o FfilmI'rDim "Master and Commander: Far side of the World", pa weevil basa chi'n dewis?🤔 Saethwch eich cannon balls llawn arian draw i'r cyfrif KoFi neu rhannwch y sioe efo rwyn sydd angen cwtsh clustiau 😘 Diolch am eich cefnogaeth 🫶

08-28
02:57:03

Treklediad: Deep Space Bryn

O'r diwedd, mae Bryn, Sions a Iestyn wedi ffendio ffordd i neud yr Haclediad yn hydynoed mwy o niche podcast na'r arfer... Ni'n neud pennod ar ffilm Star Trek 🤣 Na, na, peidiwch â mynd! Mae'n OK, mae genno ni lwyth o bethe arall, addo 😅 Fel bod ceir self driving rŵan yn road legal yn y DU, yr hwyl sydd i gael efo Bard a Bing, y trend weird o ffrydwyr NPCs ar Onlyfans ac wrth gwrs... Da ni'n gwylio Star Trek: Nemesis SORI NOT SORI. (cafodd y pod ei recordio CYN i Elon gael un normal iawn a newid Twitter i X dros nos - ond i fod yn onest, sa ni just wedi neud jôcs Vin Diesel am y peth probabli) Diolch o galon o bob UN ohonoch chi sy'n gwrando, a'r Unicorn Investors sy'n cyfrannu bob mis i gadw ni i fynd - da chi gyd yn blydi gwych 🥹

07-29
02:50:26

Caernarfon Has Fallen

Rhy boeth i gysgu? Aircon yn freuddwyd pell? WEL, co’ chi Haclediad mis Mehefin i ffanio chi efo breezy chat tri ffrind am dechnoleg, billionaires a ffilms rybish Byddwn ni’n sipian coctêls oer a thrafod Reddit, VR Headset freaky newydd Apple, trip Bryn i dŷ’r Cyffredin a FfilmAmDdim-DiDdim waethaf (?) ein run ni o 40 hyd yn hyn: London has Fallen. Diolch o galon i bob un ohonnoch chi sy’n gwrando ac yn cyfrannu (https://ko-fi.com/haclediad) bob mis - chi’n ridic a da ni’n meddwl y byd ohonoch!

06-26
02:42:44

Byth Di Bod i Japan

Mae’r Haclediad yn cael ei recordio mewn golau ddydd o’r diwedd -yup, mae’r haf yn dod! Byddwch yn barod am FfilmDiDdim(AmDdim) ridic o boncyrs - yr anhygoel Adventures of Buckaroo Banzai Across the 8th Dimension 😨 Hefyd y mis yma fe gewch chi chydig iawn o actual newyddion tech, a llwyth o travel vlog Sions wrth iddi ddychwelyd o daith gyfareddol i Japan 🗾 Hyn oll a llawer mwy ar Haclediad Mis Mai! Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu, rhannu a hoffi’r sioe - chi werth y byd ❤️

05-28
02:39:19

AI Generated Gwynfor Evans

Be, pennod mis Ebrill YN mis Ebrill?! Ydy, mae'r Haclediad nôl i'w threfn arferol - gyda pennod jiwsi arall i'ch clustiau chi. Mis yma bydd Iest, Bryn a Sions yn trafod Humane AI a'i dyfais syth allan o'r ffilm "She", Alarms UK, Sioned yn ymuno â Mastodon fel rhywfath o hipster ac ein Ffilm Di Ddim Gymraeg gyntaf Y SŴN! A fydd Bryn yn cofio ei login S4C Clic? A fydd Sioned yn hitio'r sub standard tonic chydig yn galed? A fydd Iestyn yn pivotio i fod yn Anson Mount lookalike?! Yr atebion i hyn a llawer mwy yn Haclediad 121! Diolch am wrando, etc!!

04-29
02:40:03

Pennod Mis Mawrth but make it Mis Ebrill / “Cocaine be?!”

Mae hi di bod yn 'bit of a Mis' i griw'r Haclediad - so dyma chi treat bach, pennod mis Mawrth, ond ym mis Ebrill! Gyda franchise killer o Ffilm di Ddim, yr infamous Divergent:Allegiant, llwyth mwy o scramblo brêns gyda AI a fideo brilliant newydd arall ar y Metaverse gan Dan Olson mae genno ni gwerth mis o sioe arall i chi AM DDIM! Os hoffech chi helpu allan efo costau creu'r sioe a bil therapi'r cyflwynwyr, taflwch bit coin neu ddwy drew i'n cyfrif Ko-Fi fan hyn (https://ko-fi.com/haclediad) 😘 ☕ Diolch eto, a welwn ni chi ddiwedd y mis 😍

04-02
02:21:09

The Iest and the Furious

Dewch am dro draw i diroedd pell Mastodon efo'r Haclediad mis yma - bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn gweld sut mae dechrau o'r dechrau ar rwydwaith gymdeithasol sy'n chydig o ddrysfa o'r tu allan. Da ni yma i ddal eich llaw i neud y naid! Byddwn ni hefyd yn rhoi Iest Test i'r frwydr am hawliau trans, yn ogystal â gwylio ffilm di ddim sy mor ridiculous allwn ni ddim hyd yn oed: Furious 7 Diolch o galon i bob un ohonoch chi sy'n gwrando, cefnogi a chyfrannu bob mis - caru chi! 😘

02-23
02:46:05

Sh*tcake Mushrooms

Blwyddyn newydd dd- wps! OK so mae'r Haclediad braidd yn hwyr efo'r cyfarchion, ond dyma chi gwerth mis arall o #cynnwys tech a pop culture i'ch cadw i fynd yn 2023! Da ni'n popio draw i CES i weld skins newydd i dy gar, sensor piso a sut i optimeiddio dy hun i fod yn super hiwman. Ond pwy sydd angen hiwmans pan fydd AI yn neud y job drosa ni eniwe? Ffilm di ddim y mis ydy'r epic oesol Warcraft gan ffrind y sioe Duncan Jones - a bydd Iest, Bryn a Sions yn argymell beth ddylai chi wylio yn lle hwnnw yn yr after party. Joiwch, diolch am bob cyfraniad (https://ko-fi.com/haclediad) a welwn ni chi mis nesa!

01-29
02:30:21

Sharknadodolig on Ice

Da ni’n dathlu heuldro’r gaeaf yn yr unig ffordd bosib eleni - efo llwyth o booze a ffilm ofnadwy(o dda!) Iep, mis yma ni’n parhau i CSI-io diwedd Twitter, yn gegrwth efo sgams FTX, ac yn dathlu FIND Y FLWYDDYN gan Iest - ffilm A CHRISTMAS ICETASTROHE (2014) Diolch o galon i chi GYD am wrando, cyfrannu a chefnogi elenni - welwn ni chi am fwy yn 2023 🥰

12-24
03:03:03

Twit-Ty-Whodunnit

OK bawb, mae'n gwdyn cymysg o'r gwych a'r gwallgof heno ar eich hoff bodlediad tech-a-phopeth arall, croeso ir gaeaf! Setlwch nôl efo mulled wine a neidiwch mewn i gornel crypto enfawr wrth i Iestyn drio esbonio be ddiawl sy'n digwydd 😅 Ry'n ffarwelio â cartref y we Gymraeg ers degawd wrth i Twitter gwympo'n ddarnau dan Elon Musk... Ac heb anghofio, mae'n dymor y siwmperi a charthenni, felly fe wylion ni Ffilm I'r Dim mis yma - See How They Run, cwtshwch lan a neidiwch mewn 🛋️

11-30
02:51:53

Recommend Channels