DiscoverSionedigaeth
Claim Ownership
Sionedigaeth
Author: Sioned Mills
Subscribed: 3Played: 15Subscribe
Share
© Sioned Mills
Description
Mix tape arbrofol o brofiadau i'ch clustiau gan un o griw podcast yr Haclediad. Ymunwch â Sioned Mills am sgyrsiau am ddiwylliant, fywyd merched, bywyd Cymraeg, dumpster fire y byd a sbrinclin o rianta.
An amateur Welsh language chat podcast from Sioned Mills
An amateur Welsh language chat podcast from Sioned Mills
7 Episodes
Reverse
Diolch am gadw Sionedigaeth yn eich feeds! Fel gwobr, a bach o sioc, dyma bennod efo Geraint Howells o gwmni cyfieithu gemau rhyngwladol Shloc. Mae Geraint wedi bod yn byw a gweithio yn Japan ers 8 mlynedd, a wnes i ddal fyny efo/cornelu fo yn nhafarn y Grange, Caerdydd i'w holi am... wel toilets sy'n chwarae cerddoriaeth a stwff boncyrs cŵl arall hefyd, mwynhewch.
o.n. sori unwaith eto am y sain, dwi wir wir yn trio gwella, ond doedd eistedd wrth y drws yn y bar ffrynt ddim yn syniad da o gwbl, a dwi wedi dysgu ngwers!
Pennod yn dathlu gŵyl ganol gaeaf gyda'r arbennig Sara ydy hon - yn dilyn calendr rhod y flwyddyn, mae'n amser agosáu at y tân a mynd i hen fyd ysbrydol. Da ni'n sgwrsio am wrachyddiaeth, hen gredoau, dod yn ôl at eich coed a dwi'n cael fy nhro cyntaf ar gardiau tarot... jyst y peth i wrando wrth gyrlio o flaen y tân gyda diod boeth efo siot o wirod/CBD ynddo, mwynhewch!
(Ailddarllediad, gyda'r sain llawn!)
Popiwch y bennod ddiweddaraf yn eich clustiau i gael clywed sgwrsweliad cwtshlyd gyda'r raconteur rhyngwladol, Bryn Salisbury. Fel cyfuniad o Beti a'i phobl a sesiwn therapi improv, dwi'n siarad gyda Bryn am hunan ofal, cefnogi’n gilydd, bod allan yn y gwaith a sut i golli dy hun a ffindio dy hun trwy befformio.
Gallwch chi ffindio Bryn ar @Bryns
Diolch i bawb sy'n lawrlwytho, ac ymddiheuriadau am y glitches sain - dwi dal i weithio ar fy sgilz golygu
Recordiad ar hap yn nigwyddiad BAFTA Cymru gyda Lynwen Brennan, pennaeth Lucasfilm - ges i ofyn cwestiwn a phopeth! Ymddiheuriadau am safon y sain eto, diolch i bawb am wrando, dal i chwilio am theme tune os oes unrhyw syniadau genno chi!
Anfonwch unrhyw adborth draw at @llef - bydd hi'n gret i glywed genno chi!
Mae experiments sain Sioned yn parhau - y tro yma yn Tafwyl. Combo cyffroes o gyfweliadau, plant ciwt yn canu, merits candi fflos vs Tango Ice Blast a sesiwn llyfr Codi Llais . Diolch i'r Lolfa am gael recordio gyda Rhiannon Marks, Mabli Jones, Kizzy Crawford a Mari McNeill - ac wrth gwrs Menna Machreth y golygydd.
Diolch massif i Aled Mills (@mr_llef) am gymysgu'r sain a trio gwneud recordiad y sesiwn Codi Llais yn llai o lanast. Mae'r mic newydd ar ei ffordd, felly maddeuwch i fi am y niwed i'ch clustiau. Bydd mwy i ddod dros yr haf!
Mini bennod arbrofol, iei! Wedi' recordio ar fy commute adre ar y beic mewn gwres llethol (cam arall ar y daith i fod yn LA podcaster)
Croeso i bennod arbrofol gyntaf Sionedigaeth! Podcast misol gyda Sioned Mills. Tro yma, gewch chi antur glywedol amatur efo Sara Huws, digidwraig, crefftwraig, raconteur a chyd-sefydlwraig East End Women's Museum.
Ymddiheuriadau garw i Yann Tiersen am ddwyn ei gerddoriaeth i roi naws faux-Ffrengig i'r sioe!