Discover
Yr Haclediad

130 Episodes
Reverse
Gyda S4C yn sacio un pennaeth ac Open AI yn sacio/ddim sacio un nhw, dyma bodlediad i chi sy wastad dan yr un arweinyddiaeth gadarn... ond sydd hefyd ddigon twp i wylio ffilms ofnadwy bob mis😅
Yn Haclediad Mis Tachwedd bydd Iest, Bryn a Sions yn datgymalu dyfodol OpenAI a’r Gynhadledd Bletchley; trafod mysterious airtags yn ymddangos ar dy ffôn; ffindio’r clustffonau bach gorau ac wrth gwrs gwylio Lara Croft: Tomb Raider ar BBC iPlayer am laffs y #FfilmAmDdim
Da ni’n hynod ddiolchgar i bawb sy’n gwrando a chyfrannu (https://ko-fi.com/haclediad) bob mis - diolch arbennig i Matt M a Jamie am roddion hael mis Tachwedd☺️
Ma genno ni bennod mwy sgeri na climate change i chi Mis yma - neu mwy sgeri nac AI oleia😏
Ymunwch â’r frightmasters eu hunain, Iestyn, Bryn a Sions i drafod y Google Pixel 8, printers (!) a sut i wneud dim byd gyda Jenny Odell 😴
FfilmAmDdim y mis ydy The Witches of Eastwick - ffilm gwallt mawr gorau'r ganrif ddiwethaf? Gewch chi weld 🧙♀️🧙♀️🧙♀️
Diolch i Daf y Gath, ab Agwedd a Jamie am gyfraniadau arbennig i'r pot KoFi mis yma - da ni'n wirioneddol stunned pan mae gwrandawyr yn cyfrannu, diolch o galon i chi gyd 🥹
🎃 Calan Gaeaf hapus - joiwch spooky season 🕷️
Hwciwch y pumpkin spice lattes na i'ch veins i ddathlu dechre'r hydref efo Bryn, Iest a Sions 🍂🍁
Mae'r dyfeisiadau diweddaraf gen Apple, Amazon a Google dan y chwyddwydr - yn ogystal â bill amddiffyniad plant digidol llywodraeth Prydain a pa mor syndod o ddefnyddiol ydy Bing chat 💡
Ond mae na laffs hefyd - mae'r Ffilm Di Ddim Am Ddim mis yma yn un o'r rhai mwyaf contrafyrshal ers Valerian! Ydy G.I. Joe Origins: Snake Eyes (Channel 4) yn ffilm o ddychymyg bachgen 11 oed efo cool sword fights, neu yn llanast llwyr fel gyrfa Henry Golding druan? Gwrandewch i ffeindio allan!
Diolch i bawb am wrando a chefnogi - popiwch geiniog yn y cwpan KoFi (https://ko-fi.com/haclediad) i helpu efo'r costau hostio os da chi'n joio be chi'n clywed 😘🙏
Croeso i blow out diwedd y gwyliau i griw'r Haclediad - da ni'n rhoi Haf 2023 i'w wely gyda kraken o benod i chi ☺️
Ymunwch gyda Bryn, Sions ac Iestyn i weld final death throws TwiXter, yr argymhellion i gael awdurdod darlledu i Gymru a holi sut allith yr Eisteddfod ehangu allan o'r maes yn ddigidol... hyn oll a'r campwaith o FfilmI'rDim "Master and Commander: Far side of the World", pa weevil basa chi'n dewis?🤔
Saethwch eich cannon balls llawn arian draw i'r cyfrif KoFi neu rhannwch y sioe efo rwyn sydd angen cwtsh clustiau 😘
Diolch am eich cefnogaeth 🫶
O'r diwedd, mae Bryn, Sions a Iestyn wedi ffendio ffordd i neud yr Haclediad yn hydynoed mwy o niche podcast na'r arfer... Ni'n neud pennod ar ffilm Star Trek 🤣
Na, na, peidiwch â mynd! Mae'n OK, mae genno ni lwyth o bethe arall, addo 😅 Fel bod ceir self driving rŵan yn road legal yn y DU, yr hwyl sydd i gael efo Bard a Bing, y trend weird o ffrydwyr NPCs ar Onlyfans ac wrth gwrs... Da ni'n gwylio Star Trek: Nemesis SORI NOT SORI.
(cafodd y pod ei recordio CYN i Elon gael un normal iawn a newid Twitter i X dros nos - ond i fod yn onest, sa ni just wedi neud jôcs Vin Diesel am y peth probabli)
Diolch o galon o bob UN ohonoch chi sy'n gwrando, a'r Unicorn Investors sy'n cyfrannu bob mis i gadw ni i fynd - da chi gyd yn blydi gwych 🥹
Rhy boeth i gysgu? Aircon yn freuddwyd pell? WEL, co’ chi Haclediad mis Mehefin i ffanio chi efo breezy chat tri ffrind am dechnoleg, billionaires a ffilms rybish
Byddwn ni’n sipian coctêls oer a thrafod Reddit, VR Headset freaky newydd Apple, trip Bryn i dŷ’r Cyffredin a FfilmAmDdim-DiDdim waethaf (?) ein run ni o 40 hyd yn hyn: London has Fallen.
Diolch o galon i bob un ohonnoch chi sy’n gwrando ac yn cyfrannu (https://ko-fi.com/haclediad) bob mis - chi’n ridic a da ni’n meddwl y byd ohonoch!
Mae’r Haclediad yn cael ei recordio mewn golau ddydd o’r diwedd -yup, mae’r haf yn dod!
Byddwch yn barod am FfilmDiDdim(AmDdim) ridic o boncyrs - yr anhygoel Adventures of Buckaroo Banzai Across the 8th Dimension 😨
Hefyd y mis yma fe gewch chi chydig iawn o actual newyddion tech, a llwyth o travel vlog Sions wrth iddi ddychwelyd o daith gyfareddol i Japan 🗾
Hyn oll a llawer mwy ar Haclediad Mis Mai!
Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu, rhannu a hoffi’r sioe - chi werth y byd ❤️
Be, pennod mis Ebrill YN mis Ebrill?! Ydy, mae'r Haclediad nôl i'w threfn arferol - gyda pennod jiwsi arall i'ch clustiau chi.
Mis yma bydd Iest, Bryn a Sions yn trafod Humane AI a'i dyfais syth allan o'r ffilm "She", Alarms UK, Sioned yn ymuno â Mastodon fel rhywfath o hipster ac ein Ffilm Di Ddim Gymraeg gyntaf Y SŴN!
A fydd Bryn yn cofio ei login S4C Clic? A fydd Sioned yn hitio'r sub standard tonic chydig yn galed? A fydd Iestyn yn pivotio i fod yn Anson Mount lookalike?!
Yr atebion i hyn a llawer mwy yn Haclediad 121!
Diolch am wrando, etc!!
Mae hi di bod yn 'bit of a Mis' i griw'r Haclediad - so dyma chi treat bach, pennod mis Mawrth, ond ym mis Ebrill!
Gyda franchise killer o Ffilm di Ddim, yr infamous Divergent:Allegiant, llwyth mwy o scramblo brêns gyda AI a fideo brilliant newydd arall ar y Metaverse gan Dan Olson mae genno ni gwerth mis o sioe arall i chi AM DDIM!
Os hoffech chi helpu allan efo costau creu'r sioe a bil therapi'r cyflwynwyr, taflwch bit coin neu ddwy drew i'n cyfrif Ko-Fi fan hyn (https://ko-fi.com/haclediad) 😘 ☕
Diolch eto, a welwn ni chi ddiwedd y mis 😍
Dewch am dro draw i diroedd pell Mastodon efo'r Haclediad mis yma - bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn gweld sut mae dechrau o'r dechrau ar rwydwaith gymdeithasol sy'n chydig o ddrysfa o'r tu allan. Da ni yma i ddal eich llaw i neud y naid!
Byddwn ni hefyd yn rhoi Iest Test i'r frwydr am hawliau trans, yn ogystal â gwylio ffilm di ddim sy mor ridiculous allwn ni ddim hyd yn oed: Furious 7
Diolch o galon i bob un ohonoch chi sy'n gwrando, cefnogi a chyfrannu bob mis - caru chi! 😘
Blwyddyn newydd dd- wps! OK so mae'r Haclediad braidd yn hwyr efo'r cyfarchion, ond dyma chi gwerth mis arall o #cynnwys tech a pop culture i'ch cadw i fynd yn 2023!
Da ni'n popio draw i CES i weld skins newydd i dy gar, sensor piso a sut i optimeiddio dy hun i fod yn super hiwman. Ond pwy sydd angen hiwmans pan fydd AI yn neud y job drosa ni eniwe?
Ffilm di ddim y mis ydy'r epic oesol Warcraft gan ffrind y sioe Duncan Jones - a bydd Iest, Bryn a Sions yn argymell beth ddylai chi wylio yn lle hwnnw yn yr after party.
Joiwch, diolch am bob cyfraniad (https://ko-fi.com/haclediad) a welwn ni chi mis nesa!
Da ni’n dathlu heuldro’r gaeaf yn yr unig ffordd bosib eleni - efo llwyth o booze a ffilm ofnadwy(o dda!)
Iep, mis yma ni’n parhau i CSI-io diwedd Twitter, yn gegrwth efo sgams FTX, ac yn dathlu FIND Y FLWYDDYN gan Iest - ffilm A CHRISTMAS ICETASTROHE (2014)
Diolch o galon i chi GYD am wrando, cyfrannu a chefnogi elenni - welwn ni chi am fwy yn 2023 🥰
OK bawb, mae'n gwdyn cymysg o'r gwych a'r gwallgof heno ar eich hoff bodlediad tech-a-phopeth arall, croeso ir gaeaf!
Setlwch nôl efo mulled wine a neidiwch mewn i gornel crypto enfawr wrth i Iestyn drio esbonio be ddiawl sy'n digwydd 😅 Ry'n ffarwelio â cartref y we Gymraeg ers degawd wrth i Twitter gwympo'n ddarnau dan Elon Musk...
Ac heb anghofio, mae'n dymor y siwmperi a charthenni, felly fe wylion ni Ffilm I'r Dim mis yma - See How They Run, cwtshwch lan a neidiwch mewn 🛋️
Gyda tymor sbŵci ar ein pennau bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn neidio mewn i newyddion tech/bywyd/popeth yr hydref - ydy Rishi Sunak yn crypto bro? Hiraeth hen iPods a (diffyg) ethics apps cymdeithasol.
(Recordiwyd y sioe cyn i Elon Musk actually brynu Twitter tho, sori!)
Ffilm di ddim y mis ydy John Carter, ydy’r 10 mlynedd ers iddo agor wedi newid y feirniadaeth arno…? (sboilers: mae un o’r criw yn flin am y peth!)
Diolch o galon eto i bawb sy’n gwrando a chyfrannu i’r sioe bob mis 🥹
Oeddech chi’n meddwl bod dim Haclediad am fod mis yma? Dim y fath lwc, yn hwyr neu’n hwyrach dyma hi, Haclediad mis Medi!
Mae Bryn yn ôl o’i wyliau yn yr Eidal (dydi o ddim yn licio siarad amdano) ac yn barod i drafod newyddion tech efo Iestyn a Sioned.
Bydd y criw yn trafod fideo newydd Dan Olson am Evans passive income, hardware newydd Amazon a cynhyrchiad theatr / ffilm / arlein newydd trippy “Galwad”.
Yn fwy na hyn, bydd y criw yn trafod o bosib y ffilm di ddim di-ddimiaf ohonynt i gyd: MOONFALL (spoilers: pa un o’r tri sy fwya blin efo hwn? The answer might surprise you!)
Diolch o galon i bawb am gefnogi a gwrando - os hoffech chi gefnogi ni, taflwch geiniog it het fan hyn (https://ko-fi.com/haclediad), neu rhannwch ni gyda’ch ffrindiau!
Mae’r tech yn eilradd i’r ffilm y mis yma - gyda Iestyn, Bryn a Sions yn taclo’r Ymerodraeth Brydeinig yn y FFORDD MWYAF EPIC trwy wylio/profi RRR 🤯
OK, mae na chydig o tech hefyd, gyda sŵn diffeithwch y gofod, keyloggers yn browsers eich hoff social media apps a burnout artistiaid vfx - ond gan fwyaf? RRR fancast ydy hwn mis yma (a byddwn, fyddwn ni'n sôn am y stwff problematic hefyd 😣)
Diolch o galon i’n holl gyfranwyr ar Kofi, ac i bob un ohonoch chi sy’n gwrando ar y llanast yma bob mis - ni’n falch o gael chi yma 🥰
Dyma hi, parti haf (arall) yr Haclediad - a mae hi just digon hir i bara'r dreif i'r sdeddfod 😬
🍹 Fel Piña colada i'ch clustiau, bydd Bryn, Iestyn a Sions yn sipian drinks oer, trafod Glassholes, backlash Insta newydd a ffilm... Dda!?
Yup, ar ôl dwy flynedd o 'Ffilmiau Di Ddim', mae'r criw yn swapio'r rhai gwael am 'Ffilmiau Pam Ddim?' Ac yn deifio fewn efo'r design classic mildly problematic The Man From U.N.C.L.E. 😅
Diolch o galon eto i bawb sy wedi ein cefnogi ni wrth wrando a chyfrannu i'r gronfa slush ☀️😎
Meddwl mai dim ond Iesu Grist oedd yn gallu atgyfodi pethe o farw'n fyw? Meddyliwch eto - trwy rhyw wyrth mae’r criw yn cyflwyno Pennod 111 i chi: The Cursed Haclediad.
Mae na newyddion sentient chatbots a’r Apple WWDC yn ogystal â Ffilm di Ddim rybish go iawn (Jumper gyda Hayden Christensen);ond yn bwysicach na hynny... Mae na bennod wedi ei ryddhau mis yma diolch i Iestyn Grist ✝️😇👼
Diolch eto i chi GYD sy’n gwrando, cyfrannu (https://ko-fi.com/haclediad) 😉a rhannu’r amateur (2) hour yma o sioe - welwn ni chi gyd mis nesa 😍
Croeso i Haclediad arall sy’n gofyn “ydy gwneud acen Wyddelig, pan ti’n amlwg ddim yn Wyddelig, yn dderbyniol?”
Mae’r ateb i hwn, a’ch holl gwestiynau tech, yma ar bennod 110 o’r Haclediad. Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn mynd i Gornel Crypto Caernarfon, siarad efo dy Sonos, herio Netflix a siarad am y “Ffilm Di Ddim gwaethaf hyd yn hyn” - Bryn Salisbury
Diolch i chi gyd am wrando bob mis, ni’n joio llenwi’ch clustiau efo’r audio equivalent o’r distraction dance - os chi awydd ymuno â’r criw ffyddlon o gyfranwyr, taflwch cwpl o bunnoedd i’r pot Ko-rfi (https://ko-fi.com/haclediad) ☺️
Os nad yw’r teitl rhy off-putting i chi, dyma Haclediad mis Ebrill😅
Mae gyda ni 2+ awr o newyddion tech, barn heb ymchwil na gwybodaeth, a ffilm di-ddim FFYRNIG🔥
Bydd Iest, Bryn a Sions yn holi pam na chafon nhw £32k i wneud podcast am gaws efo Mark Drakeford, dwyn Netflix logins Yncl Rhyds a trio deall Bond villain plan Elon Musk - hyn i gyd cyn gwylio HOUSE OF GUCCI a lansio spin off sit-com efo Paolo👌
Diolch eto i chi GYD sy’n gwrando, cyfrannu a rhannu’r amateur (2) hour yma o sioe - welwn ni chi gyd mis nesa 😍