Ligo
Claim Ownership

Ligo

Author: podligo

Subscribed: 11Played: 414
Share

Description

Trafod pêl-droed o Gymru, Ewrop a thu hwnt. | Welsh-language football fan chat
66 Episodes
Reverse
Ffansi Fflint

Ffansi Fflint

2021-08-2034:42

Ifan, Rhodri, Rhys a Telor sy nôl (o’r diwedd!) i drafod eu uchafbwyntie pêl-droed o’r misoedd dwetha, ac edrych mlan i dymor newydd y Cymru Premier, Bundesliga, La Liga, Ligue 1 a Serie A!
Welsh Soccerites

Welsh Soccerites

2021-03-1228:53

Nick Davies a Jordan Griffiths sy’n ymuno gyda Ligo ar y rhifyn newydd i drafod eu cylchgrawn - Welsh Soccerites - sydd yn dathlu pêl-droed yng Nghymru. Ifan a Rhodri sy’n holi’r ddau am eu atgofion cynnar o ddilyn pêl-droed, eu hoff grysau pêl-droed, ac yn gofyn beth sy’n gwneud pêl-droed Cymreig yn grêt.
Ifan, Rhodri a Telor sy’n edrych ar brif benawdau pêl-droed o Ffrainc, Yr Almaen a’r Eidal, yn ogystal â Chynghrair y Pencampwyr
Ochoa a gwae

Ochoa a gwae

2021-02-1134:02

Ifan, Rhodri, Rhys, a Telor sy’n trafod Club World Cup, crysau Mexico, Twrci, a phrif gynghrieiriau Ewrop
Ifan, Rhodri a Telor (a cameo gan Rhys) sy’n edrych ar rownd derfynol y Copa Libertadores, Ligue 1, Bundesliga, a Phencampwriaeth Gwledydd Affrica
Ifan, Rhodri, Rhys, a Telor sy’n trafod digwyddiadau pêl-droed y cyfandir dros yr wythnos dwetha
Wedi saib dros y Dolig, ma Ligo nôl i edrych ar beth sydd di bod yn digwydd ym myd pêl-droed y cyfandir dros yr wythnose dwetha
Sbwylo Saboth Rhys

Sbwylo Saboth Rhys

2020-12-0634:53

Ifan, Rhodri, Rhys, a Telor sy’n bwrw golwg ar y Cymru Premier a phêl-droed o’r cyfandir
Bodø/Line Obsession

Bodø/Line Obsession

2020-11-2829:49

Ifan, Rhodri, a Telor yn trafod pêl-droed yr wythnos o’r cyfandir
Brass Banned

Brass Banned

2020-11-2137:41

Ifan, Rhodri, Rhys, a Telor sy’n edrych nôl ar wythnos dda i Gymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd, ac yn trafod pwy arall sydd di cael wythnos i’w gofio (a phwy sydd di cael wythnos i’w anghofio hefyd!)
Turkish Delight Lille

Turkish Delight Lille

2020-11-0735:06

Ifan, Rhodri, Rhys a Telor sy’n edrych ar y sefyllfa yng Nghynghrair y Pencampwyr a Chynghrair Ewropa.
Agorwch y Llifddorau

Agorwch y Llifddorau

2020-10-2938:18

Ifan, Rhodri, Rhys, a Telor sy’n edrych ar gynghrieriau ar draws Ewrop heddi, o Gymru i’r Ffindir, o Felarws i’r USA. Ac wrth gwrs, ma wastad amser i drafod y ras am y bencampwriaeth ar Ynysoedd Faro
Cymer dy Kjær

Cymer dy Kjær

2020-10-2237:55

Ifan, Rhodri, Rhys, a Telor sy’n edrych nôl dros yr wythnos dwetha yn y Cymru Premier, Cynghrair y Pencampwyr, a phrif chynghreiriau’r cyfandir!
Ifan, Rhodri, Rhys a Telor sy’n edrych nôl ar ffenest ryngwladol cymysg i Gymru. Wedi colli’n drwm yn erbyn yr hen elyn (Lloegr), 4 pt o’r ddau gêm UEFA Nations League yn cadw Cymru ar frig eu grŵp. Odd na gêmau yn y Cymru Premier i’w trafod hefyd, yn ogystal ag edeych mlan at bêl-droed y penwythnos sydd i ddod!
Angers Management

Angers Management

2020-10-0739:26

Ifan, Rhodri, Rhys a Telor yn trafod Cymru Premier, Cynghrair y Pencampwyr, gêmau rhyngwladol, a’r ffenest drosglwyddo.
Ifan, Rhodri, a Telor sy’n bwrw golwg ar gêmau diweddar y Cymru Premier, Bundesliga, a Serie A
Simply the Brest

Simply the Brest

2020-09-1737:45

Criw Ligo yn trafod gêmau agoriadol y Cymru Premier, y Seintiau yn Ewrop, Ligue 1, DFB Pokal a Serie A!
Y Ligo Wêls

Y Ligo Wêls

2020-09-1039:141

Ifan, Rhodri, Rhys a Telor sy’n edrych nôl dros ffenest ryngwladol llwyddianus i Gymru, ac edrych mlan at dymor newydd y Cymru Premier
Ifan, Rhodri, Rhys a Telor sy’n trafod diwedd un tymor yn Ewrop, a dechrau tymor newydd. Ma hefyd digon o amser i drafod crys oddi-cartre newydd Nefyn United!
Pei Dei y Play-offs

Pei Dei y Play-offs

2020-08-0537:04

Wrth i dymor 2019/20 ddod i ben o’r diwedd, Ifan, Rhodri, Rhys a Telor sy’n edrych nôl ar sawl rownd terfynol ac yn edrych mlan i gystadlaethau UEFA barhau. Ma’r sgwrs am byramid pêl-droed Cymru yn parhau hefyd, gyda newid hwyr i haen 3 ar ôl i STM Sports dynnu mas o’r gynghrair!
loading
Comments 
Download from Google Play
Download from App Store