DiscoverPodlediad Barddas
Podlediad Barddas
Claim Ownership

Podlediad Barddas

Author: Y Pod Cyf.

Subscribed: 4Played: 50
Share

Description

Croeso i bodlediad Barddas, y lle i glywed sgyrsiau rhwng beirdd gorau Cymru. Dilynwch Barddas ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y ddiweddaraf am ein cyhoeddiadau, cylchgrawn a digwyddiadau byw. Os hoffech chi danysgrifio i’n cylchgrawn ewch draw i barddas.cymru
10 Episodes
Reverse
Sgwrs ddiddorol rhwng Mari Lovgreen, Twm Morys, Bethan Gwanas ac Alaw Griffiths am Barddas a llyfrau newydd. Mwynhewch.
Cerddi T. Gwynn Jones

Cerddi T. Gwynn Jones

2022-10-1301:03:37

Yn y bennod hon mae Cydlynydd Barddas, Alaw Griffiths, yn holi Prifardd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 Llŷr Gwyn Lewis a Dr Elen Ifan am eu perthynas â T. Gwynn Jones i ddathlu cyhoeddi llyfr newydd sbon gan Gyhoeddiadau Barddas, sef ‘Cerddi T. Gwynn Jones’ a olygwyd gan Llŷr. Hefyd mae’r Prifardd Twm Morys yma i drafod rhifyn diweddaraf cylchgrawn ‘Barddas’ (Hydref 2022) gan gynnwys datgelu enwau pedwar bardd arall oedd yn deilwng yng nghystadleuaeth y gadair eleni.
Recordiad byw o bodlediad Barddas gyda Eurig Salisbury, Idris Reynolds ac Elinor Gwynn yn trafod beirdd a barddoniaeth leol.
Beth yw Barddas?

Beth yw Barddas?

2022-07-2940:08

Beth yw Barddas?! Gwrandewch ar bennod diweddaraf Podlediad Barddas i ddarganfod yr ateb! Gyda Twm Morys, Tudur Dylan Jones, Alaw Griffiths ac Alaw Mai Edwards.
Y Prifardd Aneirin Karadog sy'n sgwrsio am berthynas barddoniaeth a’r iaith Gymraeg â natur, gyda’r Prifardd Twm Morys, Bethan Wyn Jones, Rhys Dafis (golygydd cyfrol o gerddi am natur, Inc yr Awen a’r Cread) a Sara Louise Wheeler.
Pennod Y Merched

Pennod Y Merched

2022-03-0847:54

Casi Wyn, Menna Elfyn, Sian Northey ac Elinor Wyn Reynolds yn trafod barddoniaeth, llenyddiaeth, 'sgwennu, bod yn greadigol, a chanu mewn band. Cyhoeddwyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched 2022.Rhybudd: Mae 'na thema anaddas i blant ar ddiwedd y bennod wrth i’r gerdd olaf trafod trais.
Cerdd a llun

Cerdd a llun

2022-02-1653:38

Beth yw perthynas cerdd a llun? Pam fod rhai beirdd prin yn cyhoeddi eu cerddi? Pa erthyglau diddorol sydd yn rhifyn y Gaeaf 2022 o gylchgrawn Barddas? Anni Llŷn, Alaw Mai Edwards, a’r Prifeirdd Twm Morys, Idris Reynolds ac Alan Llwyd sy’n trafod, yng nghwmni Alaw Griffiths, Cydlynydd Barddas.
Gwledd y Nadolig

Gwledd y Nadolig

2021-12-1542:30

Mae Nadolig ar y gweill ac mae genom ni wledd ar eich cyfer chi yn y podlediad hwn.Sgyrsiau difyr am gylchgrawn a’n llyfrau diweddaraf, syniadau ar gyfer anrhegion Nadolig a llawer mwy.Yn ymuno efo Alaw Mai Edwards mae’r Prifardd Elwyn Edwards, Y Prifardd Twm Morys, ac Alaw Griffiths, cydlynydd Barddas.
Gŵyl Gerallt 2021

Gŵyl Gerallt 2021

2021-10-2131:14

Yn yr ail bennod o bodlediad Barddas yr ydyn yn mwynhau cwmni Laura Karadog, Twm Morys, Grug Muse a Gruffudd Antur.Podlediad a recordiwyd fel rhan o ŵyl Gerallt a chynhaliwd yn Nhŷ Newydd Llanystumdwy ar ddydd Sadwrn yr 2il o Hydref 2021.
Y Prifardd Mererid Hopwood sydd yn sgwrsio efo’r Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan am ei lyfr DNA. Mae Geraint Roberts yn trafod ein llyfr o’r archif, Siarad Trwy'i Het gan Karen Owen a chlywn sgwrs efo’r Prifardd Twm Morys, golygydd cylchgrawn Barddas, cyn i Gwyneth Glyn darllen un o gerddi Arwyn Evans.
Comments 
loading
Download from Google Play
Download from App Store