DiscoverTu ôl i’r Wên
Tu ôl i’r Wên

Tu ôl i’r Wên

Author: meddwl.org ac Academi Berfformio Caerdydd

Subscribed: 3Played: 38
Share

Description

Podlediad newydd gan meddwl.org ac Academi Berfformio Caerdydd sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc drafod eu profiadau personol o salwch meddwl a phrofiadau anodd eraill.

Mae chwe phennod yn y gyfres, pob un yn canolbwyntio ar elfen wahanol; o alar i anhwylderau bwyta, o orbryder i iselder, rhywioldeb a rhywedd, bwlio a mwy.
7 Episodes
Reverse
Ym mhennod olaf y gyfres hon, mae Elin Llwyd yn sgwrsio gyda Iestyn Wyn, Elinor Lowri a Leo Drayton am eu profiadau o fod yn rhan o’r gymuned LHDTC+. Rhybudd cynnwys: profiadau o homoffobia Pethau perthnasol: ‘Problemau iechyd meddwl yn y gymuned LHDTC+ : Ai cyd-ddigwyddiad yw hyn?’ - Elinor Lowri (meddwl.org) Robyn - Iestyn Tyne a Leo Drayton (y Lolfa, 2021) Cyfres ‘Ymbarél’ (Stwnsh | S4C) ‘OMG - Dwi mor OCD’ - Iestyn Wyn (meddwl.org) Podlediad ‘Esgusodwch fi?’ Stonewall Cymru LHDT+ : meddwl.org Am gymorth arbenigol, ewch i: http://meddwl.org/cymorth/ Cerddoriaeth: Iestyn Gwyn Jones Dyluniad: Heledd Owen
Yr wythnos hon, mae Elin Llwyd yn sgwrsio gyda Lauren Morais a Meg am fwlio, hunanhyder, hunan-werth, y cyfryngau cymdeithasol, a dysgu sut i garu ein hunain. Rhybudd cynnwys: profiadau o fwlio. Pethau perthnasol: ‘Effaith bwlio’ - Meg (meddwl.org) ‘Cyfryngau Cymdeithasol’ - Lauren (Hansh) ‘Gwybodaeth my love’ - Lauren (lysh.cymru) Lauren ar bodlediad ‘Gwrachod Heddiw’ Bwlio : meddwl.org Hunan a hunan-barch : meddwl.org Am gymorth arbenigol, ewch i: http://meddwl.org/cymorth/ Cerddoriaeth: Iestyn Gwyn Jones Dyluniad: Heledd Owen
Yn y bennod hon mae Elin Llwyd yn sgwrsio gyda Iestyn Jones a Gruff Jones am iselder, awtistiaeth, cerddoriaeth, a’r pwysau i gydymffurfio.  Rhybudd cynnwys: iaith gref Pethau perthnasol: Cân ‘Tu ôl i’r wên’ - Iestyn Gwyn Jones Cerdd ‘Heno’ - Iestyn Gwyn Jones Gruff Jones ar bodlediad ‘Digon’ Gruff Jones yn cymryd rhan yn y drafodaeth ‘Perfformio, ydi o’n dda i ni?’ Iselder : meddwl.org Am gymorth arbenigol, ewch i: http://meddwl.org/cymorth/  Cerddoriaeth: Iestyn Gwyn Jones Dyluniad: Heledd Owen
Gorbryder sy’n cael ein sylw yr wythnos hon, ac mae Elin Llwyd yn sgwrsio gyda Nia Morais a Siôn Jenkins am eu profiadau a’r hyn sy’n eu helpu i ymdopi. Pethau perthnasol: ‘Dim cywilydd mewn derbyn bod gen ti broblem iechyd meddwl’ - Siôn Jenkins ‘Annwyl Nain’ - Nia Morais Nia ar bodlediad 'Gwrachod Heddiw' Gorbryder : meddwl.org Am gymorth arbenigol, ewch i: http://meddwl.org/cymorth Cerddoriaeth: Iestyn Gwyn Jones Dyluniad: Heledd Owen
Yn ail bennod y podlediad, mae Elin Llwyd yn sgwrsio gyda Lewis Owen a Holly Rhys-Ellis am eu profiadau o anhwylder bwyta, a’r hyn sy’n eu helpu i ymdopi. Rhybudd cynnwys: anorecsia Pethau perthnasol: Cerdd Lewis, ‘Gwagle’ Elusen Beat Anhwylderau Bwyta : meddwl.org Sianeli YouTube: Abbey Sharp Megsy Recovery Rebecca Jane Llyfrau: A Monk’s Guide to Happiness - Gelong Thubten (Hodder & Stoughton, 2020) Body Positive Power - Megan Crabbe (Ebury Publishing, 2017) Overcoming Binge Eating - Dr Christopher Fairburn (Guilford Press, 1995) Beating your Eating Disorder - Glenn Waller (Cambridge University Press, 2010) Cyfrifon Instagram: tcnutrition megsyrecovery tallyrye victorianiamh lottiedrynan Am gymorth arbenigol, ewch i: http://meddwl.org/cymorth/ Cerddoriaeth: Iestyn Gwyn Jones Dyluniad: Heledd Owen
Yn y bennod hon mae Elin Llwyd yn sgwrsio gyda Sara Maredudd Jones a Rhys Bidder am eu profiadau o alar ar ôl colli rhiant yn ifanc, a’r hyn sy’n eu helpu i ymdopi. Rhybudd cynnwys: marwolaeth, galar Pethau perthnasol: Galar a Fi (y Lolfa, 2017) Reasons to Stay Alive - Matt Haig (Canongate Books, 2015). Gweler hefyd: Rhesymau Dros Aros yn Fyw (y Lolfa, 2020) The 4 Pillar Plan - Dr Rangan Chatterjee (Penguin Life, 2018) Sianel YouTube Yoga with Adrienne Podlediad How do you Cope? Profedigaeth a Galar : meddwl.org Am gymorth arbenigol, ewch i: http://meddwl.org/cymorth Cerddoriaeth: Iestyn Gwyn Jones Dyluniad: Heledd Owen
Podlediad newydd gan meddwl.org ac Academi Berfformio Caerdydd sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc drafod eu profiadau personol o salwch meddwl a phrofiadau anodd eraill.  Mae chwe phennod yn y gyfres, pob un yn canolbwyntio ar elfen wahanol; o alar i anhwylderau bwyta, o orbryder i iselder, rhywioldeb a rhywedd, bwlio a mwy.
Comments 
Download from Google Play
Download from App Store