Daniel Minty: dysgu Cymraeg trwy'r sîn roc Gymraeg | Pennod 26
Description
Y mis yma fy ngwestai i ydy Daniel Minty, sy'n dod o Abertyleri yng nghymoedd y de-ddwyrain.
Trwy'r sîn gerddorol a darlledu wnaeth e ddechrau dysgu'r iaith. Sefydlodd e Minty's Gig Guide, mae e wedi bod yn rhan o Wyl Sŵn yng Nghaerdydd ac wedi gweithio gyda BBC Cymru a Gorwelion/Horizons.
Pan recordion ni ein sgwrs ym mis Hydref 2024, roedd Daniel yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg mewn swydd gyda Menter Casnewydd. Ers i ni recordio mae e wedi newid swydd, a nawr (Medi 2025) mae e'n gweithio gyda Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy.
***
Diolch i'r Sefydliad Dysgu a Gwaith am awgrymu cyfweld â Daniel. Ennillodd e wobr 'Dechrau Arni: Dysgwr Cymraeg' yn y Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion.
Rwy'n cyhoeddi'r podlediad yma yn ystod Wythnos Addysg Oedolion (15-21 Medi 2025). Mae’r ymgyrch yn cael ei gydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.
Os hoffech chi ddysgu sgil newydd ym mis Medi mae eu gwefan nhw yn cynnig adnoddau am ddim ar addysg yn cynnwys cyrsiau, sesiynau tiwtorial a digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb.
***
Cyflwynydd: Richard Nosworthy
Beth dych chi'n meddwl o'r pennod yma? Gadewch sgôr (rating), anfonwch ebost: helo@richardnosworthy.cymru neu dilynwch Podlediad Hefyd ar Mastodon a rhannwch eich barn yno.
Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts
Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.